Trigolion yn helpu i sbarduno ailgylchu plastigion meddal yn Sir Ddinbych
Mae trigolion sy'n cymryd rhan mewn treial ailgylchu yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn Sir Ddinbych.
Yn dilyn wythnos gyntaf treial casglu plastigion meddal y Gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu, mae staff yng Ngorsaf Wastraff a Throsglwyddo Dinbych yn gweld cynnydd sylweddol yn nifer y deunyddiau hyn sy'n cael eu casglu. Bu staff y Gwasanaeth yn casglu ac yn didoli 2,700 o fagiau o blastigion meddal yn Ninbych.
Mae’r treial o gasglu plastigion meddal yn para 12 wythnos a’r bwriad yw canfod y ffordd orau o gasglu ac ailgylchu bagiau plastig a deunydd lapio. Mae hyn yn rhan o'r paratoadau ar gyfer newidiadau Llywodraeth Cymru i'r gofynion ailgylchu, a fydd yn effeithio pob awdurdod lleol yng Nghymru.
Gwahoddwyd tua 4,500 o gartrefi i gymryd rhan yn y treial, gan gynnwys cymysgedd o fathau o dai ac ardaloedd er mwyn galluogi'r gwasanaeth i gael dealltwriaeth dda a theg o sut y bydd gwahanol aelwydydd yn defnyddio'r gwasanaeth.
Mae'r ardaloedd yn cynnwys cartrefi yn Ninbych, Prestatyn, y Rhyl, Rhuddlan, Corwen, Llangollen ac Effenechtyd.
Caiff plastigion meddal eu casglu naill ai mewn bag a roddwyd i hanner y trigolion sy'n cymryd rhan, neu mae hanner arall y trigolion yn dewis bag addas eu hunain. Caiff y rhain eu cludo i Orsaf Wastraff a Throsglwyddo Dinbych a'u didoli gan staff er mwyn sicrhau bod y plastigion meddal yn cael eu gwahanu, gan fod y ffordd y cânt eu hailgylchu yn wahanol i blastigion caled.
Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i asesu effaith y treial ar bwysau’r gwastraff na ellir ei ailgylchu sy'n cael ei gasglu, pwysau'r plastigion meddal sy'n cael eu casglu, yr eitemau na ellir eu hailgylchu drwy'r casgliad treial, a'r dull mwyaf priodol o'u casglu yn y dyfodol pan fydd newidiadau newydd Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno.
Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: "Mae ymateb y preswylwyr sy'n cymryd rhan yn y treial hwn yn ystod yr wythnos gyntaf wedi bod yn wych. Maent wedi croesawu'r cyfle i gasglu eitemau a fyddai fel arfer yn mynd i'r bin gwastraff cyffredinol, sydd wedi dod yn amlwg gan faint o blastigion meddal a ddychwelyd gyda'r deunyddiau ailgylchadwy eraill.
"Bydd camau i ailgylchu plastigion meddal yn fuddiol i breswylwyr drwy greu mwy o le yn eu biniau gwastraff cyffredinol a helpu'r amgylchedd drwy leihau effaith gwastraff cyffredinol ar ein hamgylchedd.
"Rydym yn ddiolchgar i'r preswylwyr sy'n cymryd rhan yn y treial hwn, gan y bydd eu hymdrechion a'u hadborth yn ein helpu i lunio'r ffordd rydym yn casglu deunyddiau plastig meddal yn y dyfodol er mwyn cefnogi ailgylchu yn Sir Ddinbych yn well.
"Hoffwn hefyd ddiolch i'n staff sydd wedi helpu i wneud camau cyntaf y treial plastigion meddal hwn yn llwyddiant drwy eu gwaith caled ar ein strydoedd ac yn yr Orsaf Wastraff a Throsglwyddo yn Ninbych."
Bydd opsiynau ar sut i gasglu plastigion meddal yn y dyfodol dan ystyriaeth ar ôl adolygu'r treial, a bydd unrhyw newidiadau’n cael eu cyfathrebu i breswylwyr ar yr adeg briodol.
Os ydych yn cymryd rhan yn y treial, mae mwy o wybodaeth ar ein tudalen we treial casglu plastigion meddal, sy'n eich helpu i ddeall beth y gallwch ac na allwch ei roi allan i'w gasglu.
Y casgliad olaf yn y treial hwn fydd ddydd Gwener, 4 Rhagfyr 2026.