BE SY' MLAEN
             Dywedwch Eich Dweud ar Ddyluniad Stryd Teithio Lesol Ffordd Llys Nant
            Rydym yn gweithio gyda Sustrans Cymru i ddod o hyd i ffyrdd o wneud cerdded, teithio ar olwynion a beicio ar gyfer teithiau bob dydd ar hyd Ffordd Llys Hall rhwng y Stryd Fawr a Ffordd Gronant yn haws ac yn fwy diogel.
Bydd y gwaith, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy ei Chronfa Teithio Lesol, yn gwneud cerdded a beicio ar gyfer teithiau pellter byr bob dydd, fel teithiau i'r ysgol a'r gwaith, yn fwy hygyrch.
Fel y bobl sy'n byw, gweithio a theithio yn yr ardal, hoffem glywed eich barn a'ch sylwadau ar y cynllun drafft rydym wedi'i ddatblygu.
Mae cyfres o weithdai wedi'u trefnu, ac rydym yn eich gwahodd i ddod draw a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn.
Dyma fanylion y gweithdai:
- Gweithdy wyneb yn wyneb 1: Y tu allan i Ysgol Gymunedol Bodnant o 3pm tan 4pm ddydd Mercher 25 Mehefin.
 
- Gweithdy wyneb yn wyneb 2: Y tu mewn i Ysgol Gymunedol Bodnant o 6pm tan 8pm ddydd Mercher 25 Mehefin.
 
Os na allwch fynychu ein gweithdai wyneb yn wyneb, gallwch hefyd gwblhau'r arolwg ar-lein:
https://storymaps.arcgis.com/stories/fd984c7d592a4cf79d970704a4718871
Bydd copïau papur o'r arolwg ar gael yn y gweithdai hefyd. Y dyddiad cau i gwblhau'r arolwg yw 13 Gorffennaf.

        Digwyddiad Prentisiaethau a Gwaith dan Hyfforddiant SkillX 
            Gwahoddir pobl sydd â diddordeb mewn prentisiaethau, gwaith dan hyfforddiant ac interniaethau i’r Digwyddiad Prentisiaethau a Gwaith dan Hyfforddiant SkillX ar ddydd Mawrth 8 Gorffennaf yn 1891 yn y Rhyl, o 10am i 1pm.
Wedi ei drefnu gan Sir Ddinbych yn Gweithio, mae’r digwyddiad am ddim yn cynnig sgyrsiau gan gyflogwyr, darparwyr a phrentisiaid presennol, ynghyd â chyfleoedd i siarad yn uniongyrchol gyda sefydliadau ynglŷn â swyddi sydd ar gael. Mae ar agor i bawb, os ydych wedi gadael yr ysgol, yn chwilio am swydd, eisiau newid gyrfa neu ddim ond yn chwilfrydig.
Bydd sefydliadau yn gobeithio llenwi amrywiaeth o brentisiaeth o Lefel 1 hyd at Lefel 7 a swyddi dan hyfforddiant, gan gynnig cyfleoedd i bob lefel profiad.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion weld yr ystod eang o brentisiaethau a swyddi dan hyfforddiant sydd ar gael yn lleol. Trwy gysylltu pobl yn uniongyrchol â chyflogwyr a darparwyr hyfforddiant, gobeithiwn agor drysau i yrfaoedd llwyddiannus a chefnogi twf economaidd ein cymunedau.
Meddai Ruth Hanson, Prif Reolwr yn Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Ar ôl gweld buddion prentisiaethau gyda fy mhlant fy hun, rwy’n gwybod pa mor werthfawr y gall y cyfleoedd hyn fod. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sy’n ystyried eu camau nesaf, i ofyn cwestiynau, a gweld beth sydd ar gael, os ydych ar fin dechrau neu’n ystyried newid gyrfa.
Bydd pawb sy’n bresennol yn gallu:
- Dysgu am lwybrau gyrfa gyda gwybodaeth am ddiwydiannau a swyddi gwahanol
 
- Cysylltu â chyflogwyr sy’n recriwtio prentisiaid a hyfforddeion
 
- Dysgu am raglenni prentisiaeth, gan gynnwys cymwysterau a llwybrau dilyniant
 
- Gofyn cwestiynau yn uniongyrchol i gyflogwyr, darparwyr, a phrentisiaid presennol
 
Mae amserlen y digwyddiad yn cynnwys sgyrsiau am fuddion prentisiaethau, profiadau prentisiaid, disgwyliadau cyflogwyr, panel cwestiwn ac ateb, ac amser i gwrdd â chyflogwyr yn un i un.
Mae cyflogwyr a darparwyr a gadarnhawyd yn cynnwys Airbus, Ifor Williams Trailers, Wynne Construction, y Weinyddiaeth Amddiffyn (RAF, y Llynges Frenhinol, y Fyddin Brydeinig), y GIG, y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf, Adran Gwaith a Phensiynau, Gwasanaeth Sifil, RWE, Gwasanaeth Tân, ProArb, CYD Innovation, COPA, Anheddau Cyf., Seren Gobaith, ac eraill.
Mae darparwyr hyfforddiant a chymorth yn cynnwys Prifysgol Wrecsam, GLLM, Gyrfa Cymru, Busnes Cymru, Achieve More Training Ltd, Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru a Screen Alliance Wales.
Amserlen y digwyddiad: 
- 10:15am – Beth yw prentisiaeth/gwaith dan hyfforddiant? (Sir Ddinbych yn Gweithio)
 
- 10:35am – Sut brofiad yw bod yn weithiwr dan hyfforddiant neu’n brentis? (Prentisiaid lleol)
 
- 10:50am – Trosolwg o ddarpariaeth hyfforddiant (Coleg)
 
- 11:10am – Beth yw prentisiaeth? (Sesiwn Gymraeg) (Sir Ddinbych yn Gweithio)
 
- 11:30am – Safbwynt cyflogwr (Cyflogwr lleol)
 
- 11:45am – Panel Cwestiwn ac Ateb Prentisiaid (Prentisiaid lleol)
 
- 12:00pm – Prentisiaethau lefel uwch (Prifysgol)
 
- 12:15pm – Cwrdd â chyflogwyr a darparwyr
 
Mae’r digwyddiad am ddim a gellir galw heibio unrhyw bryd, er bod ymwelwyr yn cael eu hannog i aros am y bore cyfan i elwa o’r amserlen lawn.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.
        Profiwch Safleoedd Treftadaeth Sir Ddinbych dros Benwythnos Sul y Tadau
Mae Safleoedd Treftadaeth Sir Ddinbych yn cynnig cyfle i dadau brofi'r atyniadau am ddim.
            

Mae Safleoedd Treftadaeth Sir Ddinbych yn cynnig cyfle i dadau brofi'r atyniadau am ddim i ddathlu penwythnos Sul y Tadau.
Penwythnos yma, mae tri o leoliadau treftadaeth werthfawr Sir Ddinbych, Carchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre, a Phlas Newydd (Llangollen) yn rhoi cyfle i dadau brofi’r atyniadau hanesyddol unigryw yma, am ddim!
Gydag un mynediad am ddim i bob safle (gydag ymwelydd sy’n talu), mae’r cynnig yn gyfle perffaith i deuluoedd ddatgloi’r profiad carchar Fictoraidd unigryw, darganfod mwy na 500 mlynedd o hanes o dan un to, a mwynhau cartref Merched Llangollen, gyda’i gilydd.
Gyda theithiau sain hunan arweiniol, arddangosfeydd rhyngweithiol a gweithgareddau i’r teulu i gyd wedi’u cynnwys ym mhris mynediad i’r tri atyniad, mae penwythnos Sul y Tadau yn addo bod yn ddiwrnod o hwyl i bawb.
Dywedodd Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae ein safleoedd treftadaeth yn cynnig profiad gwych i bawb ei fwynhau a chyda’r amrywiaeth eang o weithgareddau sydd ar gael, mae’r atyniadau’n lle perffaith ar gyfer diwrnod allan i’r teulu”.
Nid oes rhaid archebu, ond gall aelodau o’r cyhoedd a hoffai drefnu ymweliad gael rhagor o wybodaeth, yn cynnwys oriau agor a phrisiau mynediad ar-lein yn www.sirddinbych.gov.uk/treftadaeth
I gael mwy o fanylion, e-bostiwch y tîm Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych treftadaeth@sirddinbych.gov.uk 
        Gwiriad pwysau carafanau am ddim a chyngor ar ddiogelwch
Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych a Chonwy yn cynnig sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau a faniau gwersylla.
            
Mae Safonau Masnach Sir Ddinbych a Chonwy yn cynnig sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau a faniau gwersylla.
Gall preswylwyr sy’n mynd ar wyliau mewn carafán neu fan wersylla wneud yn siŵr nad ydynt yn gorlwytho eu carafán a rhoi eu hunain mewn perygl.
Mae’r sesiynau pwyso a chyngor am ddim ar gyfer carafanau ar gael i drigolion Sir Ddinbych a Chonwy, ac i’r rheini mewn ardaloedd awdurdodau lleol eraill os gallant deithio i’r lleoliad.
Sesiwn gyngor yw hwn, ac ni chymerir unrhyw gamau os canfyddir gorlwytho neu faterion eraill, ond byddwn yn gweithio gyda chi i leihau'r llwyth.
Bydd y gwiriadau pwysau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:
- Dydd Gwener 18/07 9am-1pm
 
- Dydd Gwener 01/08 10am-2pm
 
- Dydd Iau 21/08 10am-3pm
 
Nid oes angen apwyntiad ar gyfer y sesiynau yma ac mae croeso i breswylwyr fynychu unrhyw un o’r sesiynau a restrir a darganfod a ydynt o fewn y pwysau cyfreithlon ar gyfer eu cerbydau.
Gellir dod o hyd i'r bont bwyso ar ffordd yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, tua thri chwarter milltir o Ruddlan, a leolir yn y gilfan, bydd arwyddion yn nodi bod y bont bwyso ar waith.
Dywedodd Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Rydym yn annog perchnogion carafanau a faniau gwersylla i gymryd mantais o’r sesiynau pwyso a rhoi cyngor am ddim a gynhelir gan dîm Safonau Masnach Sir Ddinbych ar y cyd â chydweithwyr o Gonwy.
“Mae’n bwysig gwneud yn siŵr nad ydych yn gorlwytho eich cerbyd neu garafán, ac felly yn eich amddiffyn eich hun ac eraill.”
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr uchod, cysylltwch ag adran Safonau Masnach Sir Ddinbych ar tradingstandards@sirddinbych.gov.uk ewch i'w tudalen Facebook, yn yr un modd cysylltwch â Safonau Masnach Conwy ar trading.standards@conwy.gov.uk
        Anturiaethau yn disgwyl archwilwyr ifanc ym Mharc Gwledig Loggerheads
            Gwahoddir pobl ifanc sy'n dwlu ar natur i ymuno â chyfres gyffrous o sesiynau awyr agored am ddim ym Mharc Gwledig Loggerheads drwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf. Mae rhaglen Anturiaethau Mini Loggerheads yn cynnig gweithgareddau natur hwyliog, â thema, i blant 4 i 7 oed, dan arweiniad ceidwaid cyfeillgar y parc gwledig.
Mae'r sesiynau ymarferol, diddorol yma yn digwydd bob dydd Mawrth o 3.45pm i 5pm, gan ddarparu'r antur berffaith ar ôl ysgol. Anogir rhieni i aros a chwarae ochr yn ochr â'u plant wrth iddynt ddarganfod rhyfeddodau bywyd gwyllt.

         Carchar Rhuthun i ymddangos mewn rhaglen o ‘Stwnsh Sadwrn’ ar S4C
Mae carchar Rhuthun am ymddangos fel lleoliad terfynol cyffrous mewn pennod o ‘Stwnsh Sadwrn’ ar S4C.
            Mae cyn-garchar Fictoraidd ac atyniad poblogaidd i ymwelwyr, Carchar Rhuthun, am ymddangos fel lleoliad terfynol cyffrous mewn pennod o ‘Stwnsh Sadwrn’ ar S4C.
Yn y bennod bydd cystadleuwyr ifanc yn rasio yn erbyn y cloc i ddatrys posau a chwblhau heriau, gan gyrraedd uchafbwynt yng ngosodiad dramatig Carchar Rhuthun.
Bydd y bennod yn cael ei darlledu ar S4C ddydd Iau 12 Mehefin rhwng 08:00 a 10:00 ar S4C a bydd ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer am 30 diwrnod ar ôl y darllediad.

Carchar Rhuthun