Newidiadau i bolisi rheoli'r Tafod Glas yng Nghymru

Mae feirws y tafod glas (BTV) yn glefyd feirysol sy'n heintus, ond nad yw'n gallu cael ei drosglwyddo rhwng pobl, a gludir gan fectorau sy'n effeithio ar anifeiliaid gwyllt a domestig sy'n cnoi cil fel defaid, geifr, gwartheg, ceirw a chamelidau. Nid yw'n heintio pobl ac nid oes risg i iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd.

Mae'r eithriadau i'r gofyn i gynnal profion cyn symud wedi'u hestyn o 12 Mehefin tan 19 Mehefin. Diben hyn yw rhoi digon o amser i geidwaid da byw baratoi ar gyfer y newidiadau sydd ar ddod i'n Polisi Rheoli Tafod Glas yng Nghymru. 

O 20 Mehefin 2025 ymlaen, bydd angen trwydded symud benodol ar unrhyw anifeiliaid sy'n gallu dal y clefyd (anifeiliaid cnoi cil gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, ceirw, lamas ac alpacas) sy'n symud o Barth dan Gyfyngiadau oherwydd y Tafod Glas i Gymru (ar gov.uk) a phrawf cyn symud y telir amdano gan y ceidwad. Os yw anifail yn dangos arwyddion clinigol ar ddiwrnod y cludo, ni chaiff symud i Gymru. 

Bydd y mesurau canlynol a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod fector isel yn parhau yn eu lle tan 1 Gorffennaf 2025: 

  • Nid oes angen mesurau rheoli fectorau fel defnyddio pryfleiddiaid mewn marchnadoedd cymeradwy neu mewn cerbydau a lladd-dai tan 1 Gorffennaf.
  • Mae'r gofyniad i ddynodi lladd-dai i dderbyn anifeiliaid o'r parth dan gyfyngiadau yn dal wedi ei atal tan 1 Gorffennaf.

O 1 Gorffennaf 2025 bydd y Parth dan Gyfyngiadau oherwydd y Tafod Glas yn ehangu i gwmpasu Lloegr gyfan. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn esbonio ei benderfyniad ynghylch ein polisi o'r dyddiad hwn. 

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw