CIPOLWG

Codi baneri i anrhydeddu’r Lluoedd Arfog

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn nodi Diwrnod y Milwyr wrth Gefn a Diwrnod y Lluoedd Arfog yr wythnos hon.

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog, sy’n digwydd ar 28 Mehefin, yn gyfle i gefnogi'r dynion a'r merched sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog, o filwyr sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd i deuluoedd y Lluoedd Arfog, cyn filwyr a chadetiaid.

Mae Diwrnod y Milwyr Wrth Gefn yn dathlu eu cyfraniad i'r Lluoedd Arfog ac fe'i cynhaliwyd ar 25 Mehefin.

I goffáu'r wythnos, bydd baner arbennig y lluoedd arfog yn chwifio y tu allan i Neuadd y Sir i gofio'r achlysur.

Parciau Ailgylchu a Gwastraf

Mae Parciau Ailgylchu a Gwastraff ar gael i drigolion Sir Ddinbych eu defnyddio i gael gwared â gwastraff eu cartref. I gael gwybod sut i ganfod a defnyddio’r cyfleuster agosaf atoch chi, dilynwch y ddolen hon.

Ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog â datblygiad gwres carbon isel mewn ysgol

Yn ddiweddar bu i Ddirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies AoS, weld effaith prosiect gwres carbon isel mewn ysgol uwchradd.

DFM Visit to Ysgol BrynhyfrydBu i Mr Irranca- Davies, sydd hefyd yn Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ymweld ag Ysgol Brynhyfryd i glywed am fuddion gwaith gan dîm Ynni’r Cyngor ar y safle addysg i ddisgyblion a staff.

Rhoddodd Martyn Smith, Rheolwr Ynni a Charbon Eiddo, gefndir y prosiect i’r Dirprwy Brif Weinidog. Gosodwyd dau o bympiau gwres yr awyr newydd ar y safle yn lle boeleri nwy diwedd oes ac o ganlyniad eu hallyriadau uniongyrchol rhag llosgi’r nwy.

Mae’r dechnoleg yn troi un uned o ynni yn dair uned o wres carbon isel drwy ddefnyddio tymheredd amgylchynol yr amgylchedd ac mae’n nhw’n gallu defnyddio ychydig o allbwn y paneli solar i wneud hyn, gan leihau cost ac allyriadau.

Cafwyd 90 y cant o’r arian ar gyfer y prosiect gan Lywodraeth Cymru trwy ei grant gwres carbon isel a chefnogwyd y gwaith gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Roedd gwaith arall ar y safle’n cynnwys dau o baneli ffotofoltäig solar ychwanegol, a ariannwyd gan y Cyngor, gan roi cyfanswm o dri phanel yn cynhyrchu cyfanswm o bron i 100kW.

Yn ystod ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog, roedd yr awyr glir a haul yr haf o gymorth i’r paneli ffotofoltäig gynhyrchu digon o drydan i’r ysgol beidio â bod angen cefnogaeth y grid lleol.

Yn ogystal â chefnogi defnydd ynni isel a lleihau costau hirdymor, gosodwyd goleuadau LED hefyd sy’n gallu achosi gostyngiad o 50 y cant o leiaf yn y trydan a ddefnyddir.

Cafodd y Dirprwy Brif Weinidog daith o amgylch yr ysgol i weld ochr ffisegol y gwaith a gwblhawyd yn Ebrill 2024 ac amcangyfrifir y bydd yn arbed dros £25,000 bob blwyddyn ochr yn ochr ag arbedion carbon o bron i 36,000 tunnell yn flynyddol.

Mae tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych wedi rheoli nifer o brosiectau ar draws adeiladau’r Cyngor, gan gynnwys safleoedd ysgol i wella effeithlonrwydd ynni, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o leihau allyriadau carbon a chostau ynni yn yr hirdymor.

Mae’r gwaith parhaus hwn yn rhan o ymgyrch y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gafodd ei ddatgan yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon ei hun.

Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Ymunwch â’r Panel Dinasyddion Heddiw

Estynnir gwahoddiad i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr â Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i chwarae rhan hollbwysig mewn llunio dyfodol un o dirweddau harddaf a mwyaf nodedig y DU yng Ngogledd Cymru.

I ddechrau, gall aelodau’r cyhoedd ychwanegu eu llais at yr hyn y maent yn ei feddwl sy’n gwneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arbennig. Bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio i benderfynu pa rannau o’r dirwedd genedlaethol gydnabyddedig honno a fydd yn cael sylw a gofal arbennig ychwanegol.

Yn ogystal â hynny, bydd nifer gyfyngedig o bobl yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn Panel Dinasyddion - sy’n cynnwys pobl gyffredin sy’n byw ac yn gweithio yn y dirwedd ac yn ymweld â hi - i roi ffocws i dîm a phartneriaid y Dirwedd Genedlaethol am y pum mlynedd nesaf.

Bydd y Panel yn trafod y tair prif thema ganlynol:

  • Natur a Defnydd Tir - gan gynnwys adfer natur, newid yn yr hinsawdd a rheoli tir.
  • Cymunedau a Gwydn - edrych ar wasanaethau, tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth.
  • Mwynhad a Lles - gan gynnwys twristiaeth, hamdden a pha fath o economi ymwelwyr sydd orau i’r ardal.

Dwedodd David Shiel, Rheolwr Ardal Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy:

“Mae hwn yn brosiect mor gyffrous. Rydym am gael pobl i gymryd rhan er mwyn helpu i lunio sut y gofelir am y dirwedd werthfawr hon a’i gwella ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Pwrpas Tirwedd Genedlaethol yw gwarchod a gwella harddwch naturiol y dirwedd. Ond nid dyna’r cyfan. Rhaid iddi hefyd gefnogi cymunedau ffyniannus, natur wydn a thwristiaeth gynaliadwy. I wneud hynny’n dda, mae angen i ni glywed yn uniongyrchol gan y bobl sy’n adnabod ac yn mwynhau’r ardal orau.

 “P’un a ydych chi’n byw yn yr ardal, yn gweithio yma, neu’n ymwelydd, mae eich llais yn bwysig”.

I gofrestru cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://forms.office.com/e/ai86gmyJKv

Y dyddiad cau i gofrestru yw 31 Gorffennaf 2025. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â David Shiel ar david.shiel@denbighshire.gov.uk neu galwch 07774 841939.

Y Dirprwy Brif Weinidog yn agor cynllun amddiffyn arfordir Prestatyn

Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies AS, â Phrestatyn heddiw (19 Mehefin) i agor y cynllun amddiffyn yr arfordir yn swyddogol.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae wedi bod yn wych gallu croesawu’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS i agor y cynllun amddiffyn arfordir ar gyfer Prestatyn heddiw. Bydd yn cynllun hwn yn amddiffyn miloedd o gartrefi a busnesau yn y dref.

“Hoffwn ddiolch i Balfour Beatty. Mae’r prosiect wedi ei gwblhau yn gynnar ac o dan y gyllideb, sy’n gamp enfawr gyda phrosiect seilwaith enfawr fel hwn.

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a’u swyddogion am weithio’n galed gyda’n tîm yma yn Sir Ddinbych i gyflawni cynllun a fydd yn trawsnewid bywydau pobl. Bydd gan bobl sy’n byw ar yr arfordir dawelwch meddwl nawr ynghylch risgiau llifogydd a gallant hefyd fforddio cael yswiriant ar gyfer eu cartrefi - mae’n gynllun rhagorol sydd o fudd mawr i’r bobl leol.”

 Huw Irranca-Davies     Group photo with the plaque

Plaque    Group on promenade

Prestatyn coastal defence 1   Prestatyn coastal defence 2

Prestatyn coastal defence 3  Prestatyn coastal defence 4

Helpwch i siapio dyfodol Y Rhyl

Mae newidiadau mawr ar y gweill yn y Rhyl, gyda £20 miliwn o gyllid adfywio i’w fuddsoddi dros y 10 mlynedd nesaf.

Ein Rhyl - LogoMae Bwrdd Cymdogaeth Y Rhyl wedi cael ei sefydlu er mwyn arwain y gwaith cyffrous, gan ddod â thrigolion lleol, busnesau, ymwelwyr, grwpiau gwirfoddol a lleisiau’r gymuned ynghyd er mwyn siapio gweledigaeth newydd feiddgar ar gyfer y dref.

Mae nhw eisiau clywed eich barn CHI!.

Cliciwch ar y ddolen i gwblhau arolwg byr er mwyn cael mynegi barn >>> https://www.surveymonkey.com/r/EinRhyl

Gallwch ddarllen mwy am waith y Bwrdd a gweld y newyddion ddiweddaraf ar wefan y Cyngor.

Newidiadau i bolisi rheoli'r Tafod Glas yng Nghymru

Mae feirws y tafod glas (BTV) yn glefyd feirysol sy'n heintus, ond nad yw'n gallu cael ei drosglwyddo rhwng pobl, a gludir gan fectorau sy'n effeithio ar anifeiliaid gwyllt a domestig sy'n cnoi cil fel defaid, geifr, gwartheg, ceirw a chamelidau. Nid yw'n heintio pobl ac nid oes risg i iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd.

Mae'r eithriadau i'r gofyn i gynnal profion cyn symud wedi'u hestyn o 12 Mehefin tan 19 Mehefin. Diben hyn yw rhoi digon o amser i geidwaid da byw baratoi ar gyfer y newidiadau sydd ar ddod i'n Polisi Rheoli Tafod Glas yng Nghymru. 

O 20 Mehefin 2025 ymlaen, bydd angen trwydded symud benodol ar unrhyw anifeiliaid sy'n gallu dal y clefyd (anifeiliaid cnoi cil gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, ceirw, lamas ac alpacas) sy'n symud o Barth dan Gyfyngiadau oherwydd y Tafod Glas i Gymru (ar gov.uk) a phrawf cyn symud y telir amdano gan y ceidwad. Os yw anifail yn dangos arwyddion clinigol ar ddiwrnod y cludo, ni chaiff symud i Gymru. 

Bydd y mesurau canlynol a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod fector isel yn parhau yn eu lle tan 1 Gorffennaf 2025: 

  • Nid oes angen mesurau rheoli fectorau fel defnyddio pryfleiddiaid mewn marchnadoedd cymeradwy neu mewn cerbydau a lladd-dai tan 1 Gorffennaf.
  • Mae'r gofyniad i ddynodi lladd-dai i dderbyn anifeiliaid o'r parth dan gyfyngiadau yn dal wedi ei atal tan 1 Gorffennaf.

O 1 Gorffennaf 2025 bydd y Parth dan Gyfyngiadau oherwydd y Tafod Glas yn ehangu i gwmpasu Lloegr gyfan. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi cyhoeddi Datganiad Ysgrifenedig yn esbonio ei benderfyniad ynghylch ein polisi o'r dyddiad hwn. 

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

Cylchlythyr Balchder Bro a'r Amgylchedd Naturiol

Rydym yn falch o fod wedi cadarnhau £19.97 miliwn o Rownd 3 o gyn Raglen Ariannu Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i gefnogi datblygiad 7 prosiect gyda’r bwriad o wella balchder bro a gwella’r amgylchedd. Mae’r arian a sicrhawyd wedi’i ddyrannu ar gyfer y 7 prosiect llwyddiannus hyn yn unig ac nid oes modd eu trosglwyddo i brosiectau neu wasanaethau eraill.

Mae tair prif elfen i’r rhaglen hon a ariennir gan Lywodraeth y DU. Bydd y cyntaf yn canolbwyntio ar wella canol tref Y Rhyl drwy wneud gwelliannau i’r parth cyhoeddus a chynyddu’r ymdeimlad o le a diogelwch. Mae’r ail elfen yn canolbwyntio ar baratoi safle hen Ysbyty Gogledd Cymru ar gyfer camau’r prosiect datblygu yn y dyfodol. I gloi, bydd y drydedd elfen yn gwella’r parth cyhoeddus yng nghanol tref Prestatyn ac mae’n cynnwys rhoi pwrpas newydd i’r daith natur.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau ac i gofrestru ar gyfer y cylchlythyr ewch i'n gwefan.

Hysbysiad o Etholiad

Cynhelir etholiadau ar gyfer un cynghorydd sir ac un cynghorydd tref ar gyfer Ward Canol Prestatyn ar ddydd Iau, 17 Gorffennaf.

Ballot box

Rhaid cyflwyno papurau enwebu i’r Swyddog Canlyniadau erbyn 4pm dydd Gwener, 20 Mehefin 2025.

Mae gwybodaeth lawn ar wefan y Cyngor.

Dyfrgwn wedi’u gweld mewn afon yn Llanelwy

Mae anifail dŵr wedi cael ei olrhain yn un o afonydd Sir Ddinbych.

Llun gan Joel Walley
Llun gan Joel Walley

Mae ein tîm Bioamrywiaeth wedi lansio cyfres o arolygon i ganfod sut mae Dyfrgwn yn ffynnu ledled y sir.

Mae dyfrgwn yn rhywogaeth a ddiogelir yn y DU ac mae angen rhoi blaenoriaeth i’w cefnogi yn Sir Ddinbych. Gwyddom eu bod yn hoff o systemau dŵr fel afonydd, ffosydd, nentydd, pyllau a hyd yn oed aberoedd ac ardaloedd arfordirol.

Gwyddom eu bod yn hela am fwyd dan ddŵr ac mai pysgod yw eu prif ymborth.

Wrth gynnal arolygon o’r Afon Elwy ger Llanelwy, ar dir sy’n eiddo i’r ffermwr Samantha Kendrick,mae’r Tîm Bioamrywiaeth wedi dod o hyd i arwyddion o Ddyfrgwn yn byw ar hyd glannau’r afon.

Eglurodd Liam Blazey, Uwch Swyddog Bioamrywiaeth: “Daethom o hyd i arwyddion baw ac olion traed bod dyfrgwn yn defnyddio’r rhan hon o’r Afon Elwy sy’n galonogol iawn.

“Bydd y data a’r canfyddiadau a gasglwn fel tîm yn cael eu hychwanegu at yr Arolwg Dyfrgwn cenedlaethol a byddwn yn dal ymlaen â’r gwaith hwn i ddod o hyd i’r anifail ar draws nifer o safleoedd eraill yn y sir er mwyn cael darlun o sut mae’r anifail yn ffynnu yn Sir Ddinbych.“

Yn y misoedd nesaf, bydd y Tîm Bioamrywiaeth yn cydweithio â'u cyfatebwyr yng Nghyngor Sir y Fflint i gynnal mwy o arolygon dyfrgwn gyda'i gilydd er mwyn cael syniad o sut mae poblogaethau anifeiliaid yn defnyddio dyfrffyrdd ar draws y ddwy sir.

 

 

Darganfod Sir Ddinbych...

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Eisiau darganfod mwy o Sir Ddinbych?

Beth am gael ysbrydoliaeth o'n mapiau cerdded a beicio am syniadau newydd o leoedd i ymweld â nhw.

Am fwy o ysbrydoliaeth ar weithgareddau yn Sir Ddinbych a'r cyffiniau ewch i - https://www.northeastwales.wales/cy/ 

Mis Ymwybyddiaeth Sgamiau 2025

Mae adran Safonau Masnach Sir Ddinbych wedi gosod blychau ‘sgamnesti’ mewn Siopau Un Alwad

Mae adran Safonau Masnach Sir Ddinbych wedi gosod blychau ‘sgamnesti’ mewn Siopau Un Alwad ledled y Sir lle gellir cael gwared ar bost sgam/niwsans yn ddiogel.

Bydd swyddogion a'r Tîm Sgamiau Cenedlaethol yn archwilio pob llythyr a gyflwynir i helpu i atal eraill rhag dioddef o sgamiau post, sydd fel arfer yn cael eu hanfon o gyfeiriadau rhyngwladol.

Mae'r ymgyrch yn rhan o Fis Ymwybyddiaeth Sgamiau i helpu pobl i osgoi dioddef sgamiau, yn enwedig yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed. Bydd y blychau ar gael tan 1 Gorffennaf.

Awydd dysgu rhywbeth newydd?

Mae’r cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Ddinbych, yn gwrs hyfforddiant ar-lein am ddim i wella eich gwybodaeth am y sector twristiaeth yn Sir Ddinbych.

Mae 14 modiwl i ddewis ohonynt ar amrywiaeth o themâu gan gynnwys cerdded, becio. bwyd, celfyddydau, arfordir, hanes a thwristiaeth gynaliadwy.

Gwyliwch ein ffilm fer sy’n sôn am y cwrs.

Ewch i www.llysgennad.cymru a chychwyn arni heddiw.

 

Cylchlythyr Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych

Cymerwch olwg ar yr hyn sydd i ddod ym mis Mehefin, gan gynnwys ein chynnig arbennig mynediad am ddim i dadau ar draws ein safleoedd treftadaeth yn ystod penwythnos Sul y Tadau!

NEWDDLEN | Mehefin (cliciwch i ddarllen)

Gerddi Nantclwyd y Dre

Cylchlythyr Datblygiad Economaidd a Busnes

Wyddoch chi bod Bwletin Busnses misol gan y Cyngor?

Mae’n cynnig y newyddion busnes diweddaraf o Sir Ddinbych a rhoi gwybodaeth i ddarllenwyr i’w helpu i ddatblygu eu busnes.

Ymysg y wybodaeth yn rhifyn mis Mehefin mae:

  • Cyllid grant sydd ar gael i fusnesau yn Sir Ddinbych
  • Cyrsiau MicroDdysgu drwy Busnes@LlandrilloMenai
  • Darganfod mwy am y Ddeddf Caffael 2023 yn y Sioeau Teithiol i Brynwyr
  • Gwybodaeth am y Cynllun Grant Toiledau Cymunedol

Gallwch danysgrifio ar wefan y Cyngor.

Digwyddiad bioamrywiaeth yn meithrin diddordeb mewn natur

Ymunoedd dros 150 o bobl mewn digwyddiadau i ddathlu Wythnos Blodau Gwyllt 2025 yn ddiweddar pan fu cyfle i ddysgu am sut mae ein Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn helpu i atal dirywiad cynefinoedd ac yn darparu mwy o gefnogaeth i rywogaethau blodau lleol, pryfed a mamaliaid sydd eu hangen ar gyfer bwyd.
Diolch i'r holl drigolion a ddaeth i'r digwyddiadau a gobeithio eich bod hefyd wedi dysgu sut mae'r dolydd hyn yn eich helpu chi, trwy oeri'r ddaear, darparu amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd a chefnogi'r peillwyr sy'n helpu i ddod â bwyd i fyrddau pawb.

Newid i ffonau yn effeithio larymau teleofal

Telecare bilingual poster

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw