Ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog â datblygiad gwres carbon isel mewn ysgol 
            Yn ddiweddar bu i Ddirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru, Huw Irranca-Davies AoS, weld effaith prosiect gwres carbon isel mewn ysgol uwchradd.
Bu i Mr Irranca- Davies, sydd hefyd yn Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ymweld ag Ysgol Brynhyfryd i glywed am fuddion gwaith gan dîm Ynni’r Cyngor ar y safle addysg i ddisgyblion a staff.
Rhoddodd Martyn Smith, Rheolwr Ynni a Charbon Eiddo, gefndir y prosiect i’r Dirprwy Brif Weinidog. Gosodwyd dau o bympiau gwres yr awyr newydd ar y safle yn lle boeleri nwy diwedd oes ac o ganlyniad eu hallyriadau uniongyrchol rhag llosgi’r nwy.
Mae’r dechnoleg yn troi un uned o ynni yn dair uned o wres carbon isel drwy ddefnyddio tymheredd amgylchynol yr amgylchedd ac mae’n nhw’n gallu defnyddio ychydig o allbwn y paneli solar i wneud hyn, gan leihau cost ac allyriadau.
Cafwyd 90 y cant o’r arian ar gyfer y prosiect gan Lywodraeth Cymru trwy ei grant gwres carbon isel a chefnogwyd y gwaith gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Roedd gwaith arall ar y safle’n cynnwys dau o baneli ffotofoltäig solar ychwanegol, a ariannwyd gan y Cyngor, gan roi cyfanswm o dri phanel yn cynhyrchu cyfanswm o bron i 100kW.
Yn ystod ymweliad y Dirprwy Brif Weinidog, roedd yr awyr glir a haul yr haf o gymorth i’r paneli ffotofoltäig gynhyrchu digon o drydan i’r ysgol beidio â bod angen cefnogaeth y grid lleol.
Yn ogystal â chefnogi defnydd ynni isel a lleihau costau hirdymor, gosodwyd goleuadau LED hefyd sy’n gallu achosi gostyngiad o 50 y cant o leiaf yn y trydan a ddefnyddir.
Cafodd y Dirprwy Brif Weinidog daith o amgylch yr ysgol i weld ochr ffisegol y gwaith a gwblhawyd yn Ebrill 2024 ac amcangyfrifir y bydd yn arbed dros £25,000 bob blwyddyn ochr yn ochr ag arbedion carbon o bron i 36,000 tunnell yn flynyddol.
Mae tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych wedi rheoli nifer o brosiectau ar draws adeiladau’r Cyngor, gan gynnwys safleoedd ysgol i wella effeithlonrwydd ynni, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o leihau allyriadau carbon a chostau ynni yn yr hirdymor.
Mae’r gwaith parhaus hwn yn rhan o ymgyrch y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gafodd ei ddatgan yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon ei hun.