ERTHYGLAU
            Athrawon ar daith elusennol i Affrica
            Yn ddiweddar, fe wnaeth tair athrawes adael Sir Ddinbych i fynd draw i dde cyfandir Affrica wrth iddynt gychwyn ar daith i gefnogi plant ag anghenion ychwanegol mewn pentref pellennig yn y mynyddoedd.
Mae Rachel Costeloe, Tina Hughes, a Kathryn Packer yn athrawon cymwysedig sy’n gweithio i dîm cynhwysiant Cyngor Sir Ddinbych ac fe aethant ar daith 8,000 o filltiroedd o Sir Ddinbych i Lesotho, gwlad a’i ffiniau yn gyfan gwbl o fewn gwlad De Affrica, yn gynharach eleni.
 Rachel Costeloe, Tina Hughes, a Kathryn Packer
Fe aeth y tair athrawes ar y daith yn eu hamser sbâr ar gyfer yr elusen ‘One Day’.
Yn rhan o griw o wirfoddolwyr yn gweithio ar gyfer yr elusen, bu’r tair athrawes yn helpu plant amddifad, a rhai ag anghenion dysgu ychwanegol sydd angen lefel o ofal sy’n anodd ei darparu yn lleol heb gymorth. Yn ystod eu pythefnos yno, bu Rachel, Tina a Kathryn yn darparu hyfforddiant i ysgol leol a dwy ysgol arbennig. Fe wnaethant hefyd gynnal rhaglen gefnogaeth i’r gymuned, yn darparu cymorth i rai oedd yn agored i niwed a rhai oedd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Wrth ymweld ag un o’r ysgolion arbennig, fe wnaethant weithio mewn partneriaeth â’r 'Lesotho Sport and Recreation Commission’ a darparu gweithgareddau chwarae a chwaraeon, yn cynnwys chwarae synhwyraidd. 
Gan fod Lesotho wedi’i gefeillio â Chymru, fe wnaeth y tîm gynnal diwrnod diwylliannol, lle bu’r tair yn cynnal Eisteddfod fechan oedd yn cynnwys dawnsio gwerin a dawnsio i gerddoriaeth gyfoes gan y band Candelas. 
Dywedodd Rachel Costeloe, Athrawes Ymgynghorol Anghenion Dysgu Ychwanegol:
“Rydw i’n teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi cael bod yn rhan o’r tîm. Fe wnes i ddarparu hyfforddiant trawma i’r athrawon yn yr ysgolion pan aethom ni yno, ac i rieni cartref y plant amddifad. 
Alla’ i ddim diolch digon i fy nheulu a fy ffrindiau am eu holl gefnogaeth.
Mae’r holl brofiad wedi newid fy mywyd i ac rydw i’n cynllunio fy nhaith nesaf i Lesotho yn barod, a’r tro yma, fe fyddaf yn mynd â fy merch gyda mi.”
Dywedodd Tina Hughes, Athrawes Ymgynghorol Anghenion Dysgu Ychwanegol:
“Roedden ni’n ffodus iawn o gael ymweld â dwy ysgol arbennig tra oeddem ni yno – un yn Butha-Buthe a’r llall yn Leribe.
Fe fuom ni’n gweithio gydag academi chwaraeon Lesotho a rhai o’r chwaraewyr rygbi rhyngwladol i hyrwyddo sesiynau chwaraeon anabledd.
Fe fuom ni hefyd yn gweithio gyda staff addysgu, yn darparu hyfforddiant ac yn rhannu technegau ar ddatblygu cyfathrebu gan ddefnyddio byrddau craidd.”
Dywedodd Kathryn Packer, Athrawes Allgymorth Cefnogi Ymddygiad:
“Fe wnes i fynd â’r wybodaeth a’r adnoddau sydd gen i i Lesotho i ddarparu hyfforddiant 6 bricsen i’r athrawon, y plant a rhieni’r cartref.
Mae’r gemau a’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar y cof, sgiliau motor, datrys problemau, creadigrwydd a hyblygrwydd gwybyddol.
Roedd yn brofiad anhygoel, yn fraint ac yn bleser.”
Ers dychwelyd adref, mae’r cydweithwyr wedi parhau i gefnogi’r achos o bell, ond mae ganddynt eu tair gynlluniau i ddychwelyd i Lesotho yn y dyfodol, i barhau i gefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud yno.
        Cariad at natur yn arwain at yrfa yn y sector cefn gwlad 
Mae cariad diddiwedd un dyn at natur...
            Mae cariad diddiwedd un dyn at natur wedi ei helpu i ddiogelu a meithrin coed a phlanhigion lleol Sir Ddinbych. 
Cafodd Llais y Sir sgwrs gyda’n Cynorthwyydd Planhigfa Goed, Sam Brown i ddysgu sut mae ei arferion diogelu natur dros y blynyddoedd wedi arwain at yrfa yn y sector awyr agored.

Ganed Sam yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac fe’i magwyd yn Acrefair, pentref bychan hanner ffordd rhwng Llangollen a Wrecsam.
Mae’n cofio ei fam a’i dad yn ei helpu i ddysgu am bwysigrwydd yr awyr agored yn fachgen ifanc. 
Meddai: “Mae fy rhieni wedi fy magu i garu natur, arferwn fynd i leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gwarchodfeydd yr RSPB, Erddig (sydd ar garreg drws i ni), Castell y Waun, a Pharc Gwledig Tŷ Mawr.  Roeddwn wrth fy modd yn crwydro a cherdded yn fy esgidiau glaw ar benwythnosau ac ar ôl ysgol… datblygodd fy nghariad at natur yn gynnar iawn yn fy mywyd.
“Roeddwn yn geidwad iau ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr gyda Chyngor Wrecsam, roeddent yn ei gynnal fel clwb mewn ffordd, dechreuais pan oeddwn i’n 8 oed a daliais i fynd nes yr oeddwn i’n 15 oed.  Roeddwn yn gwneud hyn ar ôl ysgol, felly byddwn yn newid o’m gwisg ysgol, yn mynd i lawr yno yn fy esgidiau glaw erbyn 4 o’r gloch, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda nhw.”
Datblygodd Sam ei sgiliau cefn gwlad fel ceidwad iau drwy garthu’r anifeiliaid, rhwydo mewn pyllau ac arolygu gloÿnnod byw yn y parc.
“Roeddwn wrth fy modd yn gwneud hyn, a datblygais rai gwerthoedd proffesiynol, fel sut i ofalu am yr anifeiliaid, bod yn gyfeillgar a sgwrsio â phobl, a dilyn hyfforddiant hefyd, megis cwrs diogelwch afonydd.
Yn yr ysgol, derbyniodd Sam ddiagnosis o Ddyspracsia wrth astudio, ond fe wnaeth ei gariad tuag at natur ei helpu drwy hyn. 
Eglurodd: “Roeddwn i’n mwynhau’r ysgol, ond doeddwn i ddim yn academaidd iawn, roeddwn yn aml yn edrych drwy’r ffenest yn gwylio’r adar a’r colomennod tu allan.  Roedd gennyf lawer mwy o ddiddordeb yn hynny na’r gwersi. 
“Ond roedd rhai o’r athrawon, gan gynnwys Miss Mills, fy athrawes wyddoniaeth, wedi sylwi ar hyn rywbryd.  Pan oedd pawb arall yn gwneud tasgau gwyddonol ymarferol, gofynnodd i mi a’m ffrindiau fynd allan i gynnal arolwg adar ar gaeau’r ysgol.  Cynhaliodd glwb garddio ar ôl ysgol hefyd, lle cawsom wneud pob mathau o bethau.”
Roedd Sam yn ystyried ei opsiynau ar ôl gorffen yr ysgol gan gynnwys gyrfa mewn Mecaneg neu Fioleg Môr, a oedd wedi bod ar ei feddwl ers yr oedd yn fachgen ifanc, ond roedd ei gariad at natur a’r cefn gwlad yn parhau i fod yn sbardun enfawr yn y cefndir.  
“Roeddwn hefyd wrth fy modd â pheirianneg a cheir, ond nid oedd gennyf sgiliau mathemateg da, felly roeddwn i’n teimlo efallai y byddai hynny wedi bod yn anodd i mi.”
Fodd bynnag, roedd ei gariad at natur yn parhau, a chyfaddefodd Sam ei fod wedi cymryd y camau cyntaf tuag at yr yrfa mae’n ei fwynhau heddiw’n sydyn iawn. 
Eglurodd: “Roeddem yn pori drwy’r cyrsiau yng Ngholeg Cambria, a dois o hyd i gwrs yng Ngholeg Llysfasi, sef Rheoli Cefn Gwlad, ac roedd Coedwigaeth a Chadwraeth yn opsiwn arall i mi hefyd.”
Cymerodd Sam ran mewn diwrnod agored yn y coleg yn gwneud rhywfaint o waith, ac roedd wrth ei fodd.  Ymunodd â cham Lefel 2 o’r cwrs a threuliodd dair blynedd yn y coleg yn gweithio i gyflawni Lefel 3.
“Cwrddais â phobl wych, ac rwy’n dal i gysylltu â nhw o bryd i’w gilydd.  Hyd heddiw, rwy’n dal i weithio gyda rhai ohonyn nhw hefyd.  Mi wnes i wirioneddol fwynhau fy amser yn y coleg.  Teimlaf fod y tiwtoriaid wedi fy ysbrydoli, ac roeddent bob amser yn barod i helpu. 
Roedd un o’i diwtoriaid yn fotanegydd, ac fe helpodd Sam i ddatblygu ei wybodaeth am blanhigion, a dysgodd sgiliau gweithio mewn cefn gwlad gan diwtor arall. 
“Pan orffennais i yn y Coleg, roeddwn rhwng dau feddwl i fynd i’r Brifysgol neu beidio, roeddwn i’n teimlo’n rhy ifanc, er bod y mwyafrif o bobl yr un oed â mi’n mynd… doeddwn i ddim yn teimlo’n barod i symud i ffwrdd o’m cartref.”
Cyfaddefodd Sam ei fod wedi chwarae â’r syniad o fynd i Brifysgol Aberystwyth neu John Moores yn Lerpwl i astudio Bioleg Môr, ond drwy ei ddiddordeb parhaus mewn natur a chefn gwlad, cafodd gyfle gwych, ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny.  
“Mynychais gyfweliad am swydd fel ceidwad cefn gwlad yn nhîm Dyffryn Dyfrdwy, ni lwyddais i gael y swydd hon, ond cefais fy rhoi ar y rhestr o geidwaid wrth gefn.  Byddwn yn gweithio diwrnod gyda nhw yma ac acw yn ystod cyfnodau prysur yn plannu coed a phethau felly, felly cefais brofiad da gyda nhw.
“Roeddwn i’n gwybod fy mod yn caru’r tir, a’r bobl a’r pethau ar y tir.  Sylwais fy mod yn caru coed; mae Dyspracsia yn achosi i bobl i ddatblygu obsesiwn dros bethau.  Roeddwn i’n gallu cofio’r rhywogaethau coed brodorol yn syth, a dois i adnabod y blodau gwyllt yn dda iawn hefyd.  O oedran ifanc, roeddwn yn gwybod yng nghefn fy meddwl mai dyma’r oeddwn i wirioneddol eisiau ei wneud.”
Mae Sam yn Gristion, ac mae ei ffydd bob amser wedi bod yn bwysig iddo, ac mae natur, ynghyd â’i gredoau, yn sbardun enfawr ar gyfer ei ymrwymiad a’i waith. 
“Rwy’n angerddol iawn am natur… Rwy’n Gristion, rwy’n credu mai Duw sydd wedi creu natur a’i fod yn haeddu parch, yr anifeiliaid, a’r planhigion.  Mae’n adnodd gwych ar gyfer ein hiechyd ysbrydol, a’n iechyd cyffredinol, ac mae angen i ni gydnabod hynny a deall fod y Ddaear yn adnodd gwerthfawr, ac rwy’n awyddus i edrych ar ei hôl.”
Datblygodd Sam i fod yn arddwr angerddol pan adawodd y coleg gan dyfu planhigion gartref, ac mae’n cyfaddef mai yn ei ardd y mae hapusaf.
Treuliodd Sam gyfnod fel warden yn gofalu am aderyn prin yn nythfa’r Môr-wenoliaid Bach yng Ngronant hefyd.
“Cefais amser da iawn â’r Môr-wenoliaid Bach.  “Roeddwn wrth fy modd yn gofalu amdanynt, roeddent yn anifeiliaid hyfryd.”
 
Gan ddilyn ei ddyletswyddau fel warden, derbyniodd Sam ei swydd bresennol fel Cynorthwyydd Planhigfa Goed ym mis Medi 2023, ac mae wedi bod yn brysur yn defnyddio ei sgiliau i hybu planhigion lleol a phoblogaeth goed y sir ers hynny. 
“Rwyf wedi cael modd i fyw. Mae’n hyfryd cael cyfle i ddefnyddio fy sgiliau a mwynhau gwneud gwahaniaeth i rywbeth sydd mor agos at fy nghalon.”
Dyma ei gyngor i unrhyw un sy’n awyddus i ddilyn yn ei olion traed: 
“Byddwn yn argymell i bawb achub ar bob cyfle i wirfoddoli.  Ble bynnag yr ydych chi’n byw yn y sir, bydd gennych Ymddiriedolaeth Natur neu leoliad Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn lleol, yn ogystal â gwasanaeth cefn gwlad y Cyngor lleol a allai fod yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli.
“Hefyd, fel gwirfoddolwr, rydych yn dangos parodrwydd i wirfoddoli.  Rwyf wedi dysgu gymaint drwy wirfoddoli.  Teimlaf fy mod wedi dysgu mwy drwy wirfoddoli nag y gwnes i mewn unrhyw ran arall o’m haddysg.  Felly mae gwirfoddoli’n bwysig, ac wrth gwrs… yr ymrwymiad a’r penderfyniad i ddal ati.”  
        Dynodiad bryniau yn siapio atgofion gyrfa ar gyfer cefnogwr awyr agored
Ar noswyl pen-blwydd AHNE Bryniau Clwyd yn 40...
            Yn haf 1895, derbyniodd dirlun trawiadol oedd yn sefyll yn dalog uwchben Dyffryn Clwyd ddynodiad arbennig iawn.
Dynodwyd Bryniau Clwyd fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (a enwir erbyn hyn yn Tirweddau Cenedlaethol) gan helpu i gadw ei dirwedd amrywiol gyda Thŵr y Jiwbilî enwog yn goron ar ben Moel Famau.
Wedi’i arwain i ddechrau gan dîm bychan ym Mharc Gwledig Loggerheads, mae’r tîm wedi tyfu i addasu i reoli Dyffryn Dyfrdwy hefyd yn 2011 yn y dynodiad.

Ar noswyl pen-blwydd AHNE Bryniau Clwyd yn 40, rydym yn siarad â Swyddog Arweiniol Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Howard Sutcliffe a oedd yn rhan o’r tîm gwreiddiol oedd â’r dasg o symud y dynodiad pwysig ymlaen.
Wedi’i eni a’i fagu yn Blackpool, dechreuodd siwrnai Howard tuag at ddarparu help llaw i gefn gwlad, diolch i ddewisiadau bywyd ei chwaer.
Eglurodd: “Roedd gan fy mam a fy nhad siopau ar lan y môr yn Blackpool, yn gwerthu popeth o hetiau Kiss Me Quick i gardiau post. Roedd fy nhad hefyd yn werthwr llyfrau cyfanwerthol ac roedd gennym siop bapur ar Bier y Gogledd.
“Y peth mwyaf a ddigwyddodd i ni oedd fy chwaer yn priodi ffarmwr yn Swydd Gaerloyw, ac roeddwn yn treulio mwyafrif o fy ngwyliau haf a’r Pasg yno. Ysgogodd fy niddordeb mewn cefn gwlad, dyna lle ddechreuais ddysgu.
Bu bron i Howard fynd i goleg amaethyddol yn dilyn ei amser ar y fferm, ond penderfynodd funud olaf i ddewis Gradd mewn Daearyddiaeth a Hanes.
“O fewn hynny roedd cwrs Bioamrywiaeth a oedd yn ddiddorol ar y pryd. Fe gyflawnom lawer o astudiaethau yn y Gogledd Orllewin, rwyf bob amser wedi mwynhau Ardal y Llynnoedd, Forest of Bowland ac Arnside a Silverdale yw’r ardaloedd y buaswn yn crwydro gyda Mam a Dad.”
Ar ôl cwblhau swyddi tymhorol gyda Pharc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd, cyfnod fel archwilydd prif bibellau nwy, dechreuodd Howard dynnu tuag at Fryniau Clwyd ar ôl gweithio gyda Chyngor Swydd Gaer yng Nghoedwig Delemere.
Eglurodd: Fe ddois ar draws (i Loggerheads) i fod yn Warden AHNE ar y pryd, rydym yn eu galw yn geidwaid erbyn hyn, roedd hynny’n ôl ym 1986.
“Bryd hynny roedd yn golygu chwilio am brosiectau ac roedd bob amser yn cael ei gefnogi gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Roedd gennym Loggerheads a Moel Famau a oedd yn safle eang o 2,500 erw, ond y prif brosiectau yn y dyddiau cynnar hynny oedd cymunedau a hefyd gosod arwyddion Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.

“O hynny, fe edrychom ar hawliau tramwy o Loggerheads a Moel Famau, gan geisio gweithio ar hamdden a mynediad gan mai dyna oedd canolbwynt y Llywodraethau ar y pryd er mwyn cael pobl i fynd allan.
Fel twf cyson byd natur, fe dyfodd rôl y warden hefyd wrth i’r dynodiad agor mwy o gyfleoedd iddo ddatblygu ei yrfa.
Dywedodd Howard: “Yn y dyddiau cynnar roeddwn yn berson ymarferol, yn mynd allan i weithio gyda’r gwirfoddolwyr a’r perchnogion tir. Roeddent bob amser yn dda. Rwyf yn dal i weld rhai o’r ffermwyr a’r gwirfoddolwyr yr oeddwn yn gweithio â nhw yn y dyddiau cynnar hynny, ac mae perthynas yn parhau, sydd yn wych.

“I ddechrau, nid oeddwn eisiau gweithio fy hun i fyny, roeddwn yn mwynhau’r pethau ymarferol a mynd allan, roeddwn yn gwerthfawrogi fy Land Rover, offer a threlars a gwneud pethau felly drwy’r dydd.
“Ond gyda’r byd yn newid roedd contractwyr yn dod i mewn, rydym wedi bod yn lwcus iawn yn y gwasanaethau cefn gwlad, rydym bob amser yn gwybod bod grantiau yn dod i mewn, felly mae incwm ychwanegol wedi bod yn dod i mewn o gyrff allanol amrywiol er mwyn helpu gyda’r gwaith angenrheidiol, gan fy ngalluogi i gymryd cyfleoedd eraill a oedd yn codi yn y sefydliad.”
Mae cefnogi Cynghorau Cymuned gyda mannau gwyrdd, helpu i gaffael mwy o dir i dyfu natur leol, creu teithiau cerdded cylchol i enwi ond y rhai, wedi helpu Howard i gael amrywiaeth yn ei yrfa.
“Mae cael y portffolio tir yn rhoi’r gallu i chi weithredu, os ydych yn berchen ar y tir, mae’n newid popeth,” eglurodd.
“Rwy’n meddwl bod y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy, sydd wedi creu mynediad agored i amryw o leoliadau, gallwch bellach gerdded i fannau penodol gyda’r rhyddid yn gwybod nad ydych yn tresmasu.”
I’r bobl ifanc sydd yn hoff o gefn gwlad ac efallai’n ystyried dilyn llwybr y ceidwaid dros y blynyddoedd ar hyd Bryniau Clwyd, mae Howard yn cynnig y cyngor hwn.
“Mae’n gyngor syml iawn, arhoswch mewn addysg cyhyd â phosibl. Fe arhosais i nes i mi gael fy ngradd, ac fe wnaeth y radd fy helpu i chwilio am bethau eraill. Rydw i’n meddwl fod addysg yn allweddol i bopeth, gallwch gael angerdd a diddordebau tu allan a gwylio adar neu gerdded, ond mae cael gradd yn rhywbeth cadarnhaol iawn.
“Mae nifer o bethau eraill amrywiol ar y cyd, gallwch fod yn aelod o Uned Cadetiaid y Fyddin, neu Sgowtiaid neu Archwiliwr.  Mae’r holl bethau hynny’n ychwanegu, ac yn ddefnyddiol iawn i ddangos eich bod yn unigolyn sydd eisiau cyflawni pethau, ac i ryw raddau, yn caru’r awyr agored hefyd.”

Gan gofio’r blynyddoedd gyda Bryniau Clwyd yn ei olwg, meddai Howard: “Mae uchafbwyntiau amrywiol, gallaf gofio ar ôl y cyfweliad a cherdded i lawr y llwybr yn Loggerheads. Rwy’n cofio cerdded i lawr ger yr afon a meddwl, waw pe bawn i’n gallu rheoli hwn, byddai hynny’n anhygoel.
“Yn y pen draw, mae’n dirwedd sy’n amrywiol iawn, ac rydych yn tyfu i’w garu a dweud y gwir.”
 
         I ble mae gwastraff bwyd yn mynd?
Gwnaeth trigolion ailgylchu 4,204 tunnell ar gyfer y cyfnod...
            Beth sydd gan ychydig dros 600 o eliffantod Affricanaidd gwrywaidd i’w wneud gydag ailgylchu bwyd yn y sir?
Wel, dyna gyfanswm pwysau’r bwyd a anfonwyd i gael ei ailgylchu diolch i ymdrechion preswylwyr rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025. 
I roi syniad arall i chi, mae’r swm a gafodd ei fagio a’i ailgylchu gan gymunedau Sir Ddinbych yn ystod y cyfnod hwn gyfystyr â saith awyren Airbus A380 llawn yn sefyll ochr yn ochr â thair awyren A320 oedd wedi cyrraedd eu capasiti pwysau. 

Fe ailgylchodd preswylwyr 4,204 tunnell ar gyfer y cyfnod, sef cynnydd o 588 tunnell o wastraff bwyd o 2024 i 2025.
Mae’r gwastraff yn cael ei gasglu o dros 47,000 eiddo ac yn cael ei gynnwys mewn tua 73,000 o gasgliadau yr wythnos ar draws pob ffrwd gwastraff yn y Sir.
Mae’r gwastraff a gasglwyd yn y bagiau bioddiraddadwy arbennig sy’n cael eu darparu gennym ni yn cynnwys eitemau o geginau a byrddau bwyd megis aelwydydd
- Bagiau te wedi’u defnyddio
 
- Gwaddodion coffi
 
- Plisgyn wyau
 
- Ffrwythau
 
- Croen llysiau
 
- Cig a physgod amrwd ac wedi’u coginio, gan gynnwys esgyrn
 
- Crafion platiau neu fwyd dros ben nad oes modd ei gadw’n ddiogel er mwyn ei fwyta yn nes ymlaen
 
- Bwyd nad yw’n ddiogel i’w fwyta mwyach
 
Ac yn sgil ymdrechion pawb, mae’r eitemau yma, drwy beidio â llenwi ein safleoedd tirlenwi gwerthfawr, yn cefnogi ein cymunedau. 
Wedi’i gasglu o’n Gorsaf Wastraff yn Ninbych, mae’r holl fagiau ailgylchu bwyd yn cael eu cludo i gyfleuster sy’n cael ei redeg gan Biogen ger Rhuallt. 

Mae’r bwyd yn mynd drwy broses o’r enw Treulio Anaerobig sydd yn helpu i leihau bio-nwy a bio-wrtaith. Mae hyn yn digwydd mewn tanc di-ocsigen sydd wedi’i selio o’r enw treuliwr anaerobig.
Caiff bio-nwy yn y ffatri ei ddal a’i ddefnyddio i bweru peiriannau nwy effeithlon gan gynhyrchu trydan adnewyddadwy i gefnogi’r grid. Mae hyn hefyd yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd gan fod nwy sy’n cael ei ryddhau gan y bwyd yn cael ei ddal mewn amgylchedd sydd wedi’i reoli yn hytrach na’i adael i gronni dros safleoedd tirlenwi agored. 
Mae’r bio-wrtaith sy’n weddill yn cael ei roi yn ôl yn y tir i dyfu mwy o gnydau i gynhyrchu mwy o fwyd ar gyfer byrddau bwyd teuluoedd. 
Gan ddiolch i breswylwyr am eu hymdrechion ailgylchu bwyd, meddai Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, Priffyrdd a Chludiant:  “Mae ein preswylwyr wedi bod yn wych erioed yn ailgylchu bwyd, ond dyma ymdrech aruthrol ganddyn nhw sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth cadarnhaol i’n hamgylchedd. Gall pawb sydd wedi crafu eu platiau mewn i’r cadis fod yn falch o’u hunain am helpu i roi rhywbeth cadarnhaol yn ôl i’n hamgylchedd drwy gefnogi’r broses ailgylchu y mae’n holl wastraff bwyd yn mynd drwyddo.”
I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu yn Sir Ddinbych, ewch i https://www.sirddinbych.gov.uk/cy/biniau-ac-ailgylchu/biniau-ailgylchu.aspx
 
        Darganfod trysorau natur Y Rhyl
A oeddech chi’n gwybod fod yna nifer o leoliadau natur ar hyd a lled Y Rhyl..
            A oeddech chi’n gwybod fod yna nifer o leoliadau natur ar hyd a lled Y Rhyl lle gallwch chi fynd ati i’w harchwilio?
O’r arfordir i’r dref mae yna ardaloedd sy’n llawn bywyd gwyllt yn blodeuo a golygfeydd i’w darganfod a all hefyd ddarparu lle gwych ar gyfer gweithgarwch corfforol.
Mae Llais y Sir yn mynd â chi ar wibdaith o amgylch yr ardaloedd natur yn Y Rhyl gan ddangos yr hyn sydd ganddynt i’w gynnig.
Yn nwyrain Y Rhyl mae gwarchodfa natur ifanc sydd o fewn cyrraedd i’r gymuned leol. Cafodd Gwarchodfa Natur Maes Gwilym ei chreu fel rhan o brosiect creu coetiroedd y Cyngor. Mae yna dros 2,500 o goed yn tyfu ar y safle a chafodd y coetir presennol ei hybu er mwyn gwella’r cynefin ar gyfer byd natur.
Cafodd llwybrau a fydd yn mynd â chi i’r warchodfa eu hadeiladu gan ddefnyddio deunydd wedi’i ailgylchu a’u gorffen gyda llwch calchfaen.
Elfen arbennig yng ngwarchodfa natur Maes Gwilym yw’r ardal o wlyptir sy’n cynnwys pwll bywyd gwyllt byrhoedlog, sydd wedi ei ddylunio i ddal lefel isel o ddŵr gan ddarparu cynefin gwych i nifer o rywogaethau.
Gallwch hefyd alw heibio’r guddfan adar ar y safle sy’n galluogi ymwelwyr i fwynhau’r bywyd gwyllt yn yr ardal, sy’n cynnwys nifer o rywogaethau adar ar y rhestr goch a’r rhestr oren.
Mae gwrychoedd sydd wedi eu plannu yn tyfu’n gryf ar y safle ochr yn ochr â dolydd blodau gwyllt lliwgar. Wrth gerdded o amgylch fe allwch fanteisio ar yr ardaloedd eistedd sydd wedi eu cyflwyno yn yr ardal.
Plannwyd gwrychoedd hefyd sy’n annog dolydd blodau gwyllt presennol a rhai newydd. Cyflwynwyd ardaloedd eistedd a gosodwyd ffensys a gatiau newydd yn lle’r rhai a oedd wedi’u difrodi.
I fyny’r ffordd mae Safle Natur Cymunedol newydd Llys Brenig, sy’n nythu yn Ystâd Park View. Cafodd ei greu yn 2024 a phlannwyd 1,885 o goed ar y safle yn ogystal â chreu pwll a gwlyptir er budd bywyd gwyllt lleol, gosodwyd ffensys newydd o amgylch y pwll a ffiniau’r safle a chrëwyd llwybrau a gosodwyd meinciau i alluogi preswylwyr lleol i gysylltu â byd natur ar garreg y drws.
Mae’n ardal fach wych i ymweld â hi ar ddiwrnod heulog, mae’n bosibl y gwelwch un neu ddau o gyfeillion pluog sydd wedi ymgartrefu yn y pyllau ar y safle.
Mae Gwarchodfa Natur Parc Bruton yn cynnig cyfle da i ymestyn eich coesau ar daith gylchol neu drwy archwilio’r llwybrau gan dorri drwy’r tiroedd tra’n mwynhau golygfeydd gwych o Fryniau Clwyd.
Fe welwch dirwedd amrywiol yn cynnwys coetir, gwrychoedd, dolydd blodau gwyllt a hyd yn oed coed ffrwythau wrth archwilio’r trysor hwn ac ochr yn ochr â’r planhigion a’r coed amrywiol cadwch lygad am y bywyd gwyllt lleol.
Gellir dod o hyd i daith gylchol wych arall i brofi natur wrth ymweld â Gwarchodfa Natur Pwll Brickfield.
Mae ceidwaid cefn gwlad a gwirfoddolwyr a gefnogwyd gan Natur er budd Iechyd wedi cyflawni gwaith sydd wedi arwain at agor perllan gymunedol a phwll gyda llwybr newydd a phont yn arwain at y safle hwn yng nghornel dawel y warchodfa.
Mae’r tîm wedi gwneud gwelliannau i’r llwybrau, wedi symud hen goed marw ac wedi tacluso’r golygfannau o amgylch y prif ddyfroedd.
Ac mae’n bosibl y gwelwch famal sy’n brin yn y DU wrth gerdded gan fod ardaloedd hefyd wedi eu gwella o amgylch y warchodfa natur i annog mwy o lygod pengrwn y dŵr i ymgartrefu ar y safle.
Yr haf hwn bydd mwy o liw i’w weld yn yr ardal ger y llwybr beicio yn arwain i’r warchodfa natur o ochr Ysgol Tir Morfa.
Yn ystod yr hydref a’r gaeaf cafodd gwaith ei wneud i glirio’r mieri. Fe symudwyd coed marw i alluogi mwy o olau i ddod i’r ardal i gefnogi’r natur sy’n goroesi, fe blannwyd coed pisgwydd a chymysgedd o’r gribell felen, gorudd a heuwyd cymysgedd o hadau blodau gwyllt y coetir i gefnogi peillwyr.
Yn well na dim i fwynhau’r golygfeydd o’r bywyd gwyllt ar y dyfroedd mae golygfannau newydd wedi eu hagor ar hyd y llwybr cylchol, gyda rhai yn cynnwys clwydi cyll sydd newydd eu creu fel ffensys, sy’n galluogi ymwelwyr i werthfawrogi bywyd ym Mhwll Brickfield.
        Ewch i weld atyniadau Sir Ddinbych yn eich cerbyd trydan
Ar gyfer perchnogion cerbydau trydan sy’n byw yn lleol a thu hwnt, mae Llais y Sir yn mynd â chi ar wibdaith o amgylch pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y Cyngor i’ch helpu i gynllunio eich taith o amgylch yr ardal i weld y golygfeydd.
            Mae’r gwanwyn yma a’r haf ar ddod, a mwy o olau dydd yn creu cyfle perffaith i grwydro a gweld y gorau sydd gan Sir Ddinbych i’w gynnig.
Wrth deithio mewn cerbyd yn yr oes fodern, gallech fod yn defnyddio injan hybrid neu fodur trydan i’ch helpu i gyrraedd llefydd gyda llai o effaith ar ein hinsawdd.
Ers i bwyntiau gwefru cyhoeddus cyntaf Cyngor Sir Ddinbych ar gyfer cerbydau trydan gael eu gosod yn haf 2022, mae dros 1.5 miliwn o filltiroedd o deithio wedi’u darparu drwy fwy na 22,000 o sesiynau gwefru.
Ar gyfer perchnogion cerbydau trydan sy’n byw yn lleol a thu hwnt, mae Llais y Sir yn mynd â chi ar wibdaith o amgylch pwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y Cyngor i’ch helpu i gynllunio eich taith o amgylch yr ardal i weld y golygfeydd.
Mae’r rhwydwaith cerbydau trydan yn cynnig cyfle ardderchog i deithio o amgylch Sir Ddinbych yn mwynhau’r holl atyniadau sydd gan y sir i’w cynnig wrth wefru eich cerbyd ar un o’r safleoedd.
Eisiau blas ar deithio hen ffasiwn ar Reilffordd Llangollen? Gallwch gychwyn y profiad ym maes parcio Lôn Las yng Nghorwen, wrth orsaf y dref, lle mae pum pwynt gwefru cerbydau trydan i chi eu defnyddio, cyn mwynhau taith i’r oes o’r blaen i fyny ac i lawr y lein a chrwydro trefi Corwen a Llangollen tra mae’r car yn gwefru.
Wrth ddod at y rheilffordd o Langollen, mae pwyntiau gwefru ar gael ym maes parcio Heol y Farchnad a hefyd ym maes parcio’r Pafiliwn. Bydd y lleoliadau cyfleus yma hefyd yn rhoi amser i chi weld atyniadau fel Glanfa Llangollen, llwybr at Gastell Dinas Brân neu fwynhau’r golygfeydd o Afon Dyfrdwy’n llifo trwy ganol y dref.
Wrth neidio i’r car a gyrru draw i Ruthun, fel ddewch o hyd i bwyntiau gwefru ym maes parcio Cae Ddôl, sy’n eich rhoi chi o fewn tafliad carreg i ddysgu am Garchar Rhuthun a’i holl hanes, a gyda rhyw bum munud o gerdded, gallwch gyrraedd tŷ hanesyddol Nantclwyd y Dre.
Os ydych chi’n un am gelf a chrefft, mae cyfleusterau gwefru hefyd ar gael i’r cyhoedd yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, er mwyn i chi allu pori drwy bopeth mae’r ganolfan yn ei gynnig wrth bweru’r car at y daith nesaf.
Draw yn Ninbych, mae pwyntiau gwefru ar Lôn y Post, sy’n rhoi cyfle perffaith i chi weld adfeilion Castell Dinbych sy’n dal i daflu ei gysgod dros y dref.
Heb fod ymhell, yn Llanelwy, mae maes parcio’r Lawnt Fowlio yn y ddinas, sy’n fan cychwyn gwych i fwynhau taith gerdded hardd ar hyd Afon Elwy neu i fynd i ryfeddu at bensaernïaeth hyfryd yr Eglwys Gadeiriol.
Gan deithio am yr arfordir, yn y Rhyl mae’r lle delfrydol i wefru eich cerbyd. Mae nifer o bwyntiau gwefru ym maes parcio Gorllewin Stryd Cinmel, gan gynnwys rhai cyflym. Oddi yma, gallwch gerdded trwy ganol y dref at y promenâd i fwynhau tywod euraidd y traeth, neu droi at ardal yr harbwr a’r Llyn Morol lle mae rheilffordd fechan hynaf y byd. Mae cyfleusterau gwefru hefyd ar gael ym maes parcio Ffordd Morley.
Ac yn olaf, wrth deithio i Brestatyn fel welwch chi bwyntiau gwefru (gan gynnwys rhai cyflym) ym meysydd parcio Rhodfa Rhedyn a Rhodfa’r Brenin, sy’n rhoi amser i chi fwynhau canol tref Prestatyn neu, os ydych chi’n teimlo’n ddewr, fynd am dro i lawr at lan y môr i fwynhau’r atyniadau sydd yno.
Mae’r rhwydwaith cyhoeddus gwefru cerbydau trydan yn rhan o gamau gweithredu cyffredinol y Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 drwy leihau ôl-troed carbon y sir.
I weld mwy o wybodaeth am y lleoliadau yma, ewch i'n gwefan. 
        Crwydro un o berlau Rhuddlan
            Mae’r dyddiau cynhesach yn peri i natur ledled y sir flodeuo, ac mae digonedd o leoedd gwych i fynd gyda’r teulu i gael gweld hyn drosoch eich hun.
Yn Rhuddlan mae yna ardal sy’n llawn bywyd a natur ar gyfer pobl o bob oedran, gyda golygfeydd godidog o Gastell Rhuddlan yn ogystal.
Mae Llais y Sir yn mynd â chi o gwmpas Gwarchodfa Natur Rhuddlan, darn o dir bywiog yn llawn bywyd gwyllt a rhyfeddol, diolch i bartneriaeth gymunedol wych.
Mae staff Cefn Gwlad wedi bod yn gweithio’n agos ers 2011 gyda Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan i ddiogelu a datblygu’r tir sydd wrth ymyl y brif ffordd o Ruddlan i Lanelwy.
Wrth gyrraedd y maes parcio bach gyferbyn â’r fynedfa i Aldi wrth y goleuadau traffig, gellwch gerdded i’r warchodfa natur mewn dim o dro. Mae prif lwybr, a rennir gyda beicwyr, yn mynd â chi drwy galon y warchodfa natur, ond mae yna lwybrau llai i’w mwynhau hefyd.
Mae’r gangen gyntaf ar ochr dde’r llwybr yn eich arwain i lawr ychydig risiau drwy ardal goediog at ddyfroedd y warchodfa, lle, os ydych chi’n lwcus, gellwch wylio elyrch, hwyaid neu grehyrod, hyd yn oed, yn mwynhau’r ardal o blatfform pren yn edrych dros y dŵr.
Wrth grwydro’n ôl i lawr y prif lwybr gellwch ganfod y mentrau mae’r bartneriaeth wedi eu datblygu dros y blynyddoedd ar gyfer cymuned Rhuddlan ac ymwelwyr.
Mae llwybrau bach yn rhoi’r cyfle i chi gael cerdded drwy ddwy ddôl blodau gwylltion, sy’n llawn blodau amrywiol ac yn ferw o liwiau, a’r cyfan yn helpu i gynnal bywyd gwyllt lleol y warchodfa.
Mae tri phwll bywyd gwyllt i gyd ar y safle sy’n llawn bywyd, a mwy na 300 metr o wrychoedd yn darparu cynefin pwysig i lawer o anifeiliaid.
Wrth gerdded drwy’r warchodfa mae’n bosibl y byddwch hefyd yn sylwi ar fwy na 6,000 o goed yn siglo yn yr awel – y cyfan wedi eu plannu gan y bartneriaeth – ynghyd â pherllan o rywogaethau treftadaeth.
Dewiswch ddiwrnod heulog i ymweld ac mae gennych ddwy ardal bicnic yn y warchodfa natur i ymlacio a chael cip ar y bywyd gwyllt yn mwynhau’r ardal yn ogystal.
Os dewiswch yr amser cywir yn ystod yr haf i fynd yno, mae yna hefyd ardal berffaith ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb ym mywydau pryfed. Mae gan y warchodfa ei phwll trochi ei hun, lle gellwch gael cip ar fywyd prysur gwas y neidr.
Un nodwedd unigryw i’r warchodfa natur yw’r Ardd Synhwyraidd; bu’r Grŵp Dementia lleol a grŵp y warchodfa natur yn gweithio gyda staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad wrth ddatblygu’r ardal hon. Gyda’i gilydd maent wedi creu llecyn sy’n addas ar gyfer pobl â dementia, gyda nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwylltion a nodweddion tirwedd hanesyddol megis waliau sychion a gwrychoedd wedi eu plygu, ynghyd â seddi coed derw Cymreig traddodiadol i bobl gael eistedd a mwynhau’r ardal.
Mae’r warchodfa natur wedi ennill nifer o wobrau Cymru yn ei Blodau, ac mae’n hollol hygyrch i bawb.
Mae’r ffordd y mae bywyd gwyllt lleol wedi mabwysiadu’r warchodfa hon – sydd wedi ei chynllunio’n arbennig – wedi mynd y tu hwnt i’r holl ddisgwyliadau, ac mae hynny’n cynnwys rhywogaethau eiconig megis dyfrgwn a llygod pengrwn y dŵr, sy’n digwydd bod yn rhai o’r mamaliaid sy’n prinhau gyflymaf yn y DU.
        Y Cynghorydd Julie Matthews yn croesawu Llais y Sir ar ei newydd wedd
            Wrth i ni lansio'r e-gylchlythyr newydd i drigolion, cafodd Llais y Sir sgwrs gyda'r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi, Cydraddoldeb ac Asedau Strategol
Beth yw eich cyfrifoldebau fel Aelod Arweiniol y Cabinet?
Mae fy rôl yn ymwneud â pherfformiad a’r broses o redeg y Cyngor. Mae'n debyg mai’r ochr anweledig gorfforaethol yw hyn, er enghraifft adnoddau dynol, iechyd a diogelwch, gwasanaethau cyfreithiol a democrataidd, caffael, TGCh, cyfathrebu a rheoli asedau. Ond heb yr holl wasanaethau hyn, mewn gwirionedd, ni fyddai'r Cyngor yn gallu gweithredu.
Yn ogystal â'r gwasanaethau mewnol yma, rwy’n gyfrifol am y ddeddf lles a chenedlaethau'r dyfodol, cydraddoldeb ac amrywiaeth, hyfforddiant a datblygu ar gyfer aelodau'r Cyngor ac rwy'n Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog.
Un o'r pethau rwy'n fwyaf angerddol amdano yw cydraddoldeb ac amrywiaeth gan mai dyma fy nghefndir proffesiynol. Roeddwn i'n arfer gweithio i elusen cydraddoldeb rhywedd cyn i mi ddod yn Gynghorydd, felly mae hyn yn arbennig o bwysig i mi. Roedd yr elusen yn ymwneud â chyfleoedd datblygu i ferched i’w galluogi i fynd mewn i rolau arweinyddiaeth a rhoi’r hyder iddynt lwyddo.
Cyn hynny, roeddwn yn gweithio yn yr asiantaeth budd-daliadau yn y Rhyl ac yno fe ddes yn gynrychiolydd Undeb. Fel rhan o'r rôl honno, roeddwn i'n arfer hyfforddi staff a gwnaeth hyn fy arwain wedyn i faes addysg i oedolion. Yn y diwedd, roeddwn yn rheolwr rhaglen mewn coleg yn Solihull yn gofalu am astudiaethau rheoli, proffesiynol ac undebau llafur.
Beth oedd eich cymhelliad i ddod yn Gynghorydd?
Fel llawer o bobl, yn ystod Covid cawsom gyfnod eithaf anodd. Fe wnes i ddod yn ofalwr i fy mam ar ôl i ni golli fy mrawd iau oedd wedi bod yn byw efo hi. O ganlyniad, roedden ni angen lot o gefnogaeth ychwanegol, ond roedd o mewn cyfnod pan oedd hi’n heriol iawn cael gafael ar y cymorth yna.
Ar ôl cael cael profiad uniongyrchol o wasanaethau'r cyngor, fe wnaeth o arwain i mi feddwl am bwysigrwydd ein gwasanaethau cyhoeddus a pha mor bwysig ydy sicrhau eu bod o ansawdd uchel ond hefyd eu bod nhw’n hygyrch ac yn gwasanaethu anghenion y gymuned.
Wrth edrych yn ôl, roedd yn gyfnod rhwystredig iawn ac o'n profiad ni, gallai fod wedi bod yn well. O leiaf roedd gan mam ein cefnogaeth ni, ond fe wnaeth i mi feddwl am beth sy'n digwydd i bobl sydd heb y lefel honno o gefnogaeth.
A dyna pam penderfynais ddod yn Gynghorydd. Gallwn fod wedi eistedd yn ôl, ond roedd yn bwysig i mi i fod yn weithredol a gwneud rhywbeth i geisio gwneud gwahaniaeth a rhoi cyfle i bawb fyw'r bywyd gorau y gallant.
Mae'n rôl anodd, ac mae’n hawdd mynd braidd yn amddiffynnol wrth weld pethau negyddol yn y wasg,achos da ni’n dod i'r rôl i wneud gwahaniaeth ac i geisio helpu cymaint o bobl â phosibl.
Rwy'n credu y byddai'n brofiad gwych i unrhyw un. Fel cynghorydd, yn amlwg, rydym ni'n gyfrifol am ddwyn pobl i gyfrif, ond be da ni hefyd yn ei weld ydy’r gwaith mae’r staff yn ei wneud a pa mor ymroddedig ydyn nhw - mae'n agoriad llygad.
Beth ydych chi'n ei garu am Sir Ddinbych?
Weithiau ‘da chi’n anghofio faint rydych chi'n hoffi lle nes i chi symud. A dyna ddigwyddodd i mi pan es i i Solihull. Yn ffodus, gyda swydd addysgu, gallwn ddod yn ôl yn aml i aros gyda mam ac fe wnes gadw cyswllt efo’m holl ffrindiau.
Rwy'n credu bod pobl Sir Ddinbych yn wych, ac fel lleoliad mae gymaint tawelach a mwy hamddennol na'r ddinas. Rydym mor ffodus - mae gennym draethau gwych ond gallwn hefyd fod yng nghanol cefn gwlad o fewn hanner awr. Mae gennym olygfeydd anhygoel ar ein stepen drws - sy'n rhywbeth y gallwn ei gymryd yn ganiataol weithiau.
Pan ges i fy niswyddo yn Solihull, gallwn fod wedi dod o hyd i swydd arall yno, ond wnes i ddim meddwl dwywaith - roeddwn i eisiau dod adref.
Beth sy’n eich cyffroi am y gwaith sydd ar y gweill gan y Cyngor?
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at agor Marchnad y Frenhines yn y Rhyl - mae wedi bod yn amser hir, ond rwy'n sicr y bydd werth yr holl aros. Cawsom ymweliad yno’n ddiweddar ac mae'n edrych yn wych. Gobeithio y bydd hyn yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad pellach yn y Rhyl - sydd bob amser wedi bod yn sbardun i'r gwaith adfywio y mae'r Cyngor wedi bod yn ei wneud.
Mewn mannau eraill yn y Sir mae nifer o brosiectau llwyddiannus eraill wedi eu cwblhau. Roedd yn wych mynychu digwyddiad y llynedd yng Nghorwen i ddathlu cwblhad amrywiaeth o brosiectau adfywio. Hefyd yng Nghorwen, agorwyd trac pwmp Clawdd Poncen ac mae wedi profi'n hynod boblogaidd gyda phobl ifanc yr ardal tra bod gwelliannau eraill yn cynnwys lle tyfu cymunedol, llwybr o amgylch y cae, meinciau a physt gôl newydd sy'n ei gwneud hi'n haws i drigolion fwynhau'r lle.

Yn y cyfamser yn Llangollen, cwblhawyd prosiect y Pedair Priffordd Fawr y llynedd gydag amrywiaeth o waith i wella profiad trigolion ac ymwelwyr ac annog pobl i dreulio mwy o amser yno.
Yn Rhuthun, agorwyd maes chwarae hygyrch cynhwysol cyntaf o'i fath yng Ngogledd Cymru yng Nghae Ddol gydag offer sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd wedi'i gynllunio gyda phlant o bob gallu mewn golwg. Yn ogystal, roedd y prosiect hefyd yn cynnwys gosod ardal chwarae ychwanegol i blant iau wrth ymyl y parc sglefrio. Hefyd yn Rhuthun, cwblhawyd y gwaith adfer ar Dŵr y Cloc ym mis Rhagfyr.
Er y gall y Cyngor wneud llawer, ni all wneud popeth a buddsoddiad mewnol yw'r hyn sydd ei angen - mae angen i ni gael busnesau ledled y sir i gefnogi mentrau fel Trawsnewid Trefi - mae arian yno i'w helpu i ddatblygu a gwella canol ein trefi.
Felly beth am y rhifyn newydd hwn o Llais y Sir?
Dosbarthwyd rhifyn cyntaf  Llais y Sir fel copi caled dros 20 mlynedd yn ôl yn haf 2002 ac mae wedi bod yn gylchlythyr i drigolion ers hynny. Lansiwyd y fersiwn ddigidol yn 2015 felly mae'n ymddangos yn briodol ein bod ni'n cael adnewyddiad 10 mlynedd yn ddiweddarach.
Nod y cylchlythyr electronig newydd yw darparu newyddion dyddiol cyfoes gan y Cyngor. Gallwch danysgrifio i dderbyn cylchlythyr misol ond gallwch hefyd ymweld â’r safle bob dydd i weld y newyddion diweddaraf. Yn ogystal â gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd, bydd gennym erthyglau sy’n taflu goleuni ar wahanol feysydd gwaith yn ogystal â chlipiau fideo a chyfweliadau â staff ac Aelodau.
Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed adborth pobl ac rydym yn gobeithio y bydd yn ddefnyddol. Cofiwch - os ydych chi eisiau'r wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf dibynadwy am yr hyn sy'n digwydd yn y Cyngor, tanysgrifiwch drwy'r wefan.
        Rhyfeddodau naturiolwr yn helpu i warchod natur y sir
Mae Llais y Sir yn eistedd i lawr gyda’r Uwch Swyddog Bioamrywiaeth, Liam Blazey...
            Mae gwaith ar y gweill ar draws y sir i wrthdroi effaith newid hinsawdd a gwaith dyn ar ein natur a’n hamgylchedd.  Ac mae syrffiwr brwd a anwyd yn Ne Affrica a chyfaill angerddol y byd naturiol yn arwain y gad i roi gobaith i fywyd gwyllt Sir Ddinbych unwaith eto.
Mae Llais y Sir yn eistedd i lawr gyda’r Uwch Swyddog Bioamrywiaeth, Liam Blazey, i ganfod beth sy’n tanio’r angerdd i durio’n ddwfn i gefnogi’r natur sydd gennym ar draws y sir. 
Wedi’i eni a’i fagu ar arfordir dwyreiniol De Affrica, mae Liam yn cyfaddef bod ei dad, a oedd yn naturiaethwr angerddol ei hun, wedi dylanwadu ar ei brofiadau cynnar gyda’r byd naturiol.  
Eglurodd: “Cafodd ef argraff fawr arnaf, pan oeddwn yn ifanc a’r holl gerdded a gwersylla yr oeddem yn arfer ei wneud yn yr awyr agored.  Yna, yn fy arddegau cynnar, dechreuais syrffio a threuliais lawer o amser allan ar y dŵr yn syrffio, roeddwn yn ffodus iawn i fyw yn un o’r ardaloedd mwyaf bioamrywiol ar y blaned, wedi’i amgylchynu gan fywyd gwyllt anhygoel.”  
Fe wnaeth digwyddiad unigryw, lle y bu iddo gyfarfod anifail llai, wirioneddol helpu Liam i ddangos pa mor amrywiol a rhyfeddol y gall y byd naturiol fod.
“Dysgais i werthfawrogi anifeiliaid mewn ffordd wahanol ar ôl cyfarfod rhywfaint o grancod ymfudol.  Roeddem yn byw ar foryd a oedd yn ffinio â’r cefnfor ac weithiau roeddem yn gweld y crancod yn brwydro yn erbyn ei gilydd am eu cregyn.
“Ar ôl ychydig roeddech yn sylwi nad y rhai mawr oedd bob amser yn ennill, roedd y rhai llai yn fwy ymosodol.  Unwaith iddynt gael cragen eu gwrthwynebwr byddant yn dringo i mewn iddi i weld a oedd hi’n ffitio. Os nad oedd yn ffitio, byddant yn ei llenwi gyda thywod i’w gwneud yn llai ar y tu mewn. Os byddai’n rhy fach, byddant yn tywallt rhywfaint o’r tywod allan ohoni.  Roedd hyn i gyd yn cael ei wneud drwy gylchdroi’r gragen unai’n glocwedd neu’r wrthglocwedd. Roeddent yn fanwl gywir iawn yn eu gweithredoedd, roedd yn rhyfeddol!
Ychwanegodd: “Wrth eu gwylio, sylweddolais fod lefel llawer dyfnach i’r hyn yr ydym yn ei weld.  Fe wnaeth i mi sylweddoli o oedran ifanc bod gan bopeth sy’n byw ar y blaned hon fywyd bach diddorol ei hun a’r mwyaf yr ydych yn edrych arno, y mwyaf rhyfeddol y mae’n mynd.  Mae hyn yn wir am bob rhywogaeth.
Bu i ryfeddodau’r byd naturiol aros gyda Liam o’i arddegau cynnar, trwy swyddi yn cynnwys gweithio fel gof arian a gwerthu eitemau electronig tan iddo gael ei dynnu tuag at hyfforddi mewn Bioamrywiaeth yn ystod ei 30au cynnar, ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. 
Yn dilyn hyn, galwodd llanw’r DU am y syrffiwr brwd a oedd hefyd yn fedrus iawn mewn siapio byrddau. 
Eglurodd Liam:  “Yn ôl adref, roeddwn i’n arfer ail-siapio hen fyrddau syrffio wedi torri ac roeddwn yn bwriadu mynd i Japan i geisio sefydlu busnes yn creu byrddau syrffio, ond nid oeddwn yn gallu siarad Japaneg felly penderfynais nad oedd fy Saesneg yn rhy ddrwg…  Penderfynais symud i Dorset ac roeddwn wrth fy modd â phobl y sir, dyna lle wnes i gyfarfod fy ngwraig.
Gan raddio fel Meddyg, roedd lleoliad cyntaf gwraig Liam yng Ngogledd Cymru a bu i’r cwpwl groesawu byd naturiol Eryri cyn i Liam symud i gefnogi natur ar draws Sir Ddinbych. 
Yn siarad am symud i’w swydd bresennol, dywedodd Liam:   “Hon yw’r swydd orau i mi ei chael erioed.  Mae wedi bod yn rhywbeth yr wyf wedi bod eisiau ei wneud drwy gydol fy mywyd ac mae’n braf gallu gwella’r natur mewn ardal lle bydd fy mhlant yn tyfu fyny, rwy’n ddiolchgar o gael y cyfle i’w wneud.” 
Mae gwarchod ein natur rhag effeithiau newid hinsawdd byd-eang wedi dod yn fwy pwysig yn y byd modern gyda llawer o bobl yn camu fyny i geisio gwneud gwahaniaeth, yn union fel y mae Liam wedi’i wneud. 
Gan edrych yn ôl ar ei yrfa hyd yma, dywedodd Liam:  “Ewch amdani, does dim gwahaniaeth os ydych yn eich 30au, 40au neu hyd yn oed yn eich 50au, gallwch newid eich llwybr gyrfa.  Ni allaf ei argymell ddigon, hwn yw’r peth gorau i mi ei wneud erioed.  Mae’r boddhad swydd yn uchel iawn.
Ychwanegodd: “Efallai fy mod yn arogli fel madarch ac yn dod adref gyda phryfed rhyfedd yn cropian arnaf ond mae’n werth hynny.  Mae gennyf ddau o blant yr wyf yn mynd â nhw allan gyda mi ac rwy’n gweld y mwynhad yn eu llygaid pan fyddaf yn mynd â nhw i ddôl yr ydym wedi’i chreu ein hunain.  Mae’n arbennig iawn, felly fy nghyngor i yw ewch amdani!”