FIDEOS

Natur Cymunedol Glan Elwy

Ydych chi wedi stopio i edrych ar safle Natur Cymunedol Glan Elwy yr haf hwn?  Y llynedd bu i dimau ieuenctid clwb pêl-droed Llanelwy a Grŵp Gofal Elwy helpu’r ceidwaid cefn gwlad i blannu bron i 2000 o goed ar y safle i helpu natur lleol.

Safle Natur Cymunedol Henllan

Ydych chi wedi cerdded o amgylch Safle Natur Cymunedol Henllan yr haf hwn? Y llynedd bu disgyblion Ysgol Henllan yn brysur yn helpu’r ceidwaid i blannu dros 2,000 o goed ar y safle. Ar ben hynny, crëwyd llwybrau troed newydd, llyn bach, dolydd blodau gwyllt, man hamdden ac ardal bicnic, lloches i drychfilod (hynny yw, “banc gwenyn”) ac ystafell ddosbarth awyr agored.

Safle Natur Cymunedol Llys Brenig

Ydych chi wedi ymweld â safle Natur Cymunedol Llys Brenig yr haf hwn?  Y llynedd, bu disgyblion Ysgol Bryn Hedydd a gwirfoddolwyr o’r gymuned yn cynorthwyo Ceidwaid Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych i blannu 1,885 o goed ar y safle, yn gymysgedd o goed llydanddail cynhenid o fathau sy’n addas i’r ardal. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys creu pwll a gwlyptir er budd bywyd gwyllt, gosod ffensys newydd o amgylch y pwll a ffiniau’r safle a chreu llwybrau a gosod meinciau i alluogi pobl leol i fwynhau byd natur ar garreg y drws.

Coetir cymunedol yn Stryd Llanrhydd, Rhuthun

Dair blynedd ar ôl i'r plannu ddechrau, mae'r coetir cymunedol yn Stryd Llanrhydd, Rhuthun, wedi tyfu i fod yn gynefin cryf i natur leol yn ogystal â lle gwych i drigolion ddod i fwynhau tirwedd sy'n newid yn barhaus.

Plannwyd 800 o goed yn 2022, ochr yn ochr â chreu dolydd blodau gwyllt, pwll bywyd gwyllt newydd ac adeiladu ystafell ddosbarth awyr agored.

Cymerwch olwg ar y wefan isod 👇

Cronfa Allweddol 2025 CGGSDd

Mae Clare Ashworth, Rheolwr Cronfa Allweddol CGGSDd, yn egluro ychydig am beth yw'r Gronfa Allweddol a phwy all wneud cais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ddydd Sul 15 Mehefin. Rhaid gwario grantiau, a rhaid cwblhau'r holl waith erbyn 31 Rhagfyr 2025.

Mae croeso i chi rannu gydag unrhyw un o'r sefydliadau/partneriaid rydych chi'n gweithio gyda nhw.

Mae mwy o wybodaeth ar eu gwefan https://www.dvsc.co.uk/cy/grant/key_fund/

Gwaith Gorfodaeth Cynllunio yn Llandegla

Yn ddiweddar ymgymerodd Cyngor Sir Ddinbych â gwaith mewn cysylltiad â hysbysiad gorfodi cynllunio yn y Sir.

I gael rhagor o wybodaeth am weithdrefnau cynllunio’r Cyngor ewch i’n gwefan

Ffensys cynaliadwy o ffyn cyll ym Mhwll Brickfield

Ydych chi wedi gweld y ffensys bangorwaith newydd o bren collen ym Mhwll Brickfield yn y Rhyl sy’n gwarchod y golygfannau gwych dros y dŵr? Dyma rywfaint o gefndir a hanes y grefft hon o ffensio a pha mor dda ydyn nhw i natur yn yr ardal.

Ymgyrch Cŵn ar Dennyn

Rydym yn gofyn i berchnogion cŵn fod yn ofalus o gadw eu cŵn ar dennyn wrth gerdded trwy gefn gwlad. Gwyliwch y fideo isod i glywed gan ffermwr lleol am y gwaith mae'n nhw wedi bod yn ei wneud i gadw eu da byw yn ddiogel.

Dewch i adnabod ein Tîm Bioamrywiaeth

Mae ein tîm bioamrywiaeth yn gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn ar draws y sir i gefnogi a gwella cynefinoedd ar gyfer natur leol. Gwyliwch i ddysgu mwy am eu rôl bwysig.

 

Blodyn y gog

Mae Wythnos Blodau Gwyllt wedi dechrau a dyma ein Swyddog Bioamrywiaeth Ellie i esbonio popeth am ba mor bwysig yw un blodyn bach i'r glöyn byw blaen oren, gwyliwch y clip hwn.

Laswellt ydi troed y ceiliog

Mae hi’n Wythnos Blodau Gwyllt felly dyma glip o Ellie ein Swyddog Bioamrywiaeth yn egluro pam bod glaswellt yr un mor bwysig â blodau gwyllt i bryfaid – mwynhewch! 

Dôl Flodau Gwyllt Plas Lorna

Mae dôl flodau gwyllt Plas Lorna ymhlith ein safleoedd mwyaf sefydledig, gan ddarparu cynefin hanfodol i natur leol oroesi a ffynnu – crwydrwch drwy’r ddôl hon yn Rhuddlan drwy wylio’r clip hwn yn ystod ein Wythnos Flodau Gwyllt.

Pys y ceirw

Yn ystod ein Hwythnos Blodau Gwyllt chwiliwch am ‘facwn a wyau’ yn ein dolydd gan helpu gloÿnnod byw lleol - gwyliwch y clip hwn am fwy o wybodaeth!

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw