Cadarnhau Merlin Cinemas fel gweithredwr newydd i sinema’r Rhyl
            Mae Merlin Cinemas, sef un o gwmnïau sinema cenedlaethol annibynnol blaenllaw, wedi cyhoeddi y bydd yn cymryd yr awenau dros y sinema 5 sgrin yng nghanol tref y Rhyl, yn amodol ar gwblhau trefniadau prydles gyda Chyngor Sir Dinbych.
Mae’r gweithredwr annibynnol o Gernyw eisoes yn berchen ar 21 o sinemâu eraill ledled y DU, gan gynnwys y Scala ym Mhrestatyn.
Mae gan y cwmni enw da am redeg sinemâu hanesyddol, yn ogystal â rhedeg sinemâu mewn adeiladau modern neu rhai sydd wedi’u hail-bwrpasu. Ac maen nhw hefyd yn adnabyddus am weithredu mewn cymunedau sy’n aml yn cael eu hanwybyddu neu nad ydynt yn derbyn gwasanaeth gan gwmnïau sinema mwy. Yn gynharach eleni, dyfarnwyd MBE i Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Merlin, Geoff Greaves, am ei gyfraniad rhagorol i'r diwydiant sinema - cydnabyddiaeth o 35 mlynedd mae wedi ei dreulio yn hyrwyddo'r sgrin fawr mewn trefi bach.
Wedi i’r sinema gau ddiwedd mis Ionawr, mae Cyngor Sir Dinbych wedi bod yn gweithio'n galed i ddenu gweithredwr i'r cyfleuster poblogaidd ar bromenâd y Rhyl.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Dinbych ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin ag Amddifadaeth, “Rydym wrth ein bodd bod Merlin wedi ymrwymo i’r Rhyl fydd yn sicrhau y gall trigolion ac ymwelwyr fwynhau diwrnod penigamp yn y dref. Unwaith bydd y brydles wedi’i llofnodi a bod Merlin wedi cymryd yr awenau, bydd y sinema’n chwarae rhan ganolog yn yr ymdrechion ehangach i adfywio canol tref y Rhyl.”
Mae Merlin wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r Cyngor i gwblhau a llofnodi’r brydles a chyda chyflenwyr i asesu’r gwaith sydd ei angen y tu ôl i’r llen cyn ailagor. Mae ymrwymiad i ddiwygio’r sinema a gwella’r profiad sgrîn fawr i’r gymuned leol, fydd yn golygu y gallai fod y sinema’n ailagor fesul cam. Bydd enw newydd i’r sinema hefyd, ond mae hwn yn parhau i fod yn gyfrinachol.
Dywedodd Geoff Greaves: “Rydym wrth ein bodd cael llwyddiant yn ein cais i weithredu’r sinema hon. Fel cwmni, rydym eisoes yn gyfarwydd gyda’r lleoliad gan fod gennym sinema 4 milltir i ffwrdd ar hyd yr arfordir ym Mhrestatyn, ond pan gododd hwn, roedd rhaid bachu ar y cyfle. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i  agor y drysau fel bod gan y dref sinema eto. Rydym yn credu’n gryf bod gweld ffilm ar y sgrin fawr gyda theulu neu ffrindiau yn brofiad gwahanol iawn i’w gwylio gartref; mae’n fwy cofiadwy, yn fwy cymdeithasol ac yn creu achlysur. Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl i’ch sinema yn fuan iawn.”
Aeth y Cynghorydd McLellan ymlaen i ddweud, “Mae’r sinema ei hun mewn lleoliad gwych gyferbyn â Neuadd Fwyd  a Digwyddiadau Marchnad y Frenhines, fydd yn agor ar 10 Gorffennaf, felly mae’n gyfle gwych i fod yn rhan o gyfnod cyffrous i’r Rhyl. Fel Cyngor, rydym wrth ein bodd dod o hyd i weithredwr i gymryd yr awenau ar y safle mor gyflym, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Merlin i sicrhau llwyddiant y sinema.
“Pan fydd yn agor, rwy’n annog trigolion i gefnogi’r sinema yn ogystal â chyfleusterau hamdden eraill y dref – mae angen i bawb gefnogi ein busnesau i sicrhau eu llwyddiant parhaus.”