Cludiant mwy gwyrdd ar gyfer ysgol yn y Rhyl

Yn fuan bydd myfyrwyr mewn ysgol yn y Rhyl yn cael defnyddio cludiant mwy gwyrdd.

Bydd math o gludiant sy’n fwy ystyriol o’r amgylchedd yn cael ei ddefnyddio i helpu myfyrwyr Ysgol Tir Morfa i gyrraedd eu hysgol.

Mae Gwasanaethau Fflyd Cyngor Sir Ddinbych, gyda chymorth cyllid Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, wedi cael dau gerbyd cludo pobl trydan Toyota Proace Verso, yn lle cerbydau tebyg oedd yn defnyddio tanwydd ffosil oedd yn dod i ddiwedd eu hoes.

Mae gan y ddau gerbyd ystod o hyd at 214 milltir a bydd yn gostwng costau cynnal a chadw a chostau teithio.

Bydd y bysiau mini hefyd yn haws i’w cynnal na cherbydau petrol neu ddisel tebyg oherwydd bod llai o rannau sy’n symud.

Mae symud i gerbydau sy’n fwy ystyriol o garbon yn parhau i fod yn ymrwymiad i’r Gwasanaeth Fflyd ers i Gyngor Sir Ddinbych ddatgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn 2019.

Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor un o’r ffigyrau uchaf yng Nghymru ar gyfer y gyfran o gerbydau heb allyriadau (ZEVs) fel canran o’u fflyd, ar dros 20 y cant.

Bydd y cerbyd cludo pobl yn cael ei ddefnyddio i gefnogi Ysgol Tir Morfa ar deithiau cludiant ysgol, gan gyd-fynd ag ymdrechion yr ysgol i fynd i’r afael â newid hinsawdd sydd eisoes wedi gweld gwaith ynni carbon isel yn digwydd ar y safle ynghyd â phlannu coed gan ddisgyblion gyda thîm Bioamrywiaeth y Cyngor ar y tiroedd.

A bydd yr ail gerbyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cludiant gofal cymdeithasol i oedolion sy’n gweithio yng Nghynnyrch Coed Meifod ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych fel rhan o gynllun cyfleoedd gwaith Sir Ddinbych.

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydym yn gweithio’n galed iawn i leihau ôl troed carbon ein fflyd drwy gael cerbydau mwy gwyrdd yn lle ein cerbydau tanwydd ffosil diwedd oes pan fo hynny’n briodol ar gyfer anghenion y gwasanaeth.

“Mae’r cerbydau hyn yn ein helpu i ostwng costau rhedeg dros yr hirdymor trwy gynnal a chadw a milltiroedd a bydd yn parhau i ostwng ein hallyriadau i’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gyhoeddwyd yn 2019.

“Mae’n wych y bydd Ysgol Tir Morfa yn cael defnyddio un o’r cerbydau hyn gan fod y myfyrwyr mor gefnogol o wneud popeth a allant i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chefnogi eu natur leol yn yr ysgol a’r gymuned gyfagos.  Gobeithiaf y bydd cael un yn cefnogi Meifod hefyd yn ysbrydoli’r oedolion gwych sy’n gweithio ar y safle i wneud eu rhan i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

 

 

 

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw