Galw am Gymorth i Fynd i’r Afael â Fandaliaeth mewn Gardd Gymunedol
Mae tîm Natur Er Budd Iechyd y cyngor yn galw am gymorth pobl leol.
            Mae tîm Natur Er Budd Iechyd y cyngor yn galw am gymorth pobl leol wrth fynd i’r afael â fandaliaeth yng ngardd gymunedol Corwen.
Mewn wythnosau diweddar, mae swyddogion Natur Er Budd Iechyd wedi sylwi ar fwy o fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardd gymunedol yng Nghorwen.
Mae’r ardd yn annwyl iawn i bobl leol ac mae criw o wirfoddolwyr yn gweithio’n galed i’w chynnal a’i chadw, ond achosodd rhywun ddifrod sylweddol yno’n ddiweddar.
Bu’r fandaliaid yn codi llysiau a blodau a blannwyd gan wirfoddolwyr o’u gwreiddiau, torri gwydr a gwasgaru’r darnau mân dros y gwelyau planhigion a pherlysiau a difrodi’r isadeiledd, sydd wedi creu peryglon i bobl eraill sy’n ymweld â’r ardd.
Meddai Chloe Webster, Ceidwad Cefn Gwlad gyda’r rhaglen Natur Er Budd Iechyd:
“Mae’r ardd yn fwy na lle i dyfu bwyd – mae’n rhywle y gall pobl fynd i gysylltu, dysgu a gofalu am eu lles.
“Mae’n dorcalonnus gweld y fandaliaeth sydd wedi digwydd, ond gwyddom fod y lle yma’n annwyl iawn i’r gymuned. Rydyn ni’n gofyn i bawb ein helpu i’w warchod.”
Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’n drist clywed am y fandaliaeth a ddigwyddodd yn ddiweddar yn yr ardd gymunedol yng Nghorwen. Mae’r man cymunedol yma’n rhywle i bobl fynd i deimlo’n ddiogel a mwynhau naws y fro.
“Nid yn unig bod yr ymddygiad a welwyd yn ddiweddar yn dangos diffyg parch at waith caled pobl yn y gymuned, ond mae hefyd yn creu perygl mawr i deuluoedd, plant a phobl eraill sy’n defnyddio’r ardd.
“Mae eich cefnogaeth chi’n hanfodol i’n helpu i warchod yr ardd a sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb. Rydym yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod am unrhyw ymddygiad amheus neu ddinistriol.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, neu os hoffech chi gymryd rhan mewn gofalu am yr ardd, mae croeso ichi gysylltu â ni ar naturerbuddiechyd@sirddinbych.gov.uk neu 01824 712757.
