Gwaith sylweddol i gynnal a chadw priffyrdd i ddechrau eleni
            Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn dechrau rhaglen sylweddol eleni i gynnal a chadw priffyrdd, gydag arian gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y rhaglen waith yn rhedeg dros ddwy flynedd ar draws y sir a chaiff ei ariannu gan Fenter Benthyca Llywodraeth Leol (MBLL) Llywodraeth Cymru er mwyn galluogi’r gwaith i ddechrau.
Mae cyfanswm o £4,780,699 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen waith dwy flynedd, ac mae’r Cyngor wedi nodi cynlluniau ar gyfer 2025/26 a 2026/27.
Bydd y penderfyniad i dderbyn y cyllid MBLL yn caniatáu i Adran Priffyrdd Sir Ddinbych ddechrau ar y gwaith ar unwaith, fydd o gymorth mawr wrth baratoi’r rhaglen waith helaeth hon gan sicrhau bod modd ei darparu o fewn yr amser gorau posibl ar gyfer gwaith wynebu ffordd.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn sicrhau y caiff yr arian yma ei dargedu at wella cyflwr wyneb ffyrdd ar adrannau penodol o’r rhwydwaith yn ystod y cyfnod dwy flynedd rhwng 2025 a 2027.
Mae rhaglen o waith eisoes wedi ei datblygu i wella wyneb priffyrdd ar nifer o ffyrdd yn y sir gyda buddsoddiad sylweddol wedi ei gynllunio ar gyfer A525 Nant y Garth, Ffordd Abergele A547 ger Rhuddlan, a Ffordd Tŷ Newydd yn y Rhyl.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:
“Rydym yn gwybod bod gwelliannau i rwydwaith ffyrdd y sir yn bwnc sy’n codi’n rheolaidd gan ein trigolion ac rydym yn ddiolchgar i gael y cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru i ategu ein cyllid ein hunain er mwyn helpu i wella ein ffyrdd.
“Mae ein swyddogion wedi gweithio’n galed i gynhyrchu rhaglen gynhwysfawr o ail-wynebu priffyrdd gyda’r cyllid hwn.
“Caiff y gwaith ei gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf a bydd yn wirioneddol helpu i wella’r rhwydwaith a’r profiad gyrru i drigolion ac ymwelwyr Sir Ddinbych fel ei gilydd.”
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am bryd a ble y bydd rhwydweithiau ffyrdd y cyngor yn elwa o’r rhaglen hon drwy ein sianeli cyfryngau.