Gwelliannau i Garchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre

Mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych wedi cwblhau cyfres o welliannau hygyrchedd yn ddiweddar mewn dau o'i atyniadau hanesyddol.

Mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych wedi cwblhau cyfres o welliannau hygyrchedd yn ddiweddar mewn dau o'i atyniadau hanesyddol.

Mae'r gwaith yng Ngharchar Rhuthun a Nantclwyd yn cynnwys gwella mynediad i ymwelwyr a hyrwyddo cynhwysiant yn atyniadau treftadaeth y Sir, ac ariannwyd y gwelliannau yma gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.

Gwella Mynediad yng Ngharchar Rhuthun

Gan gynnig profiad carchar Fictoraidd unigryw, mae Carchar Rhuthun yn prysur ddod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru. Mae’n croesawu nifer cynyddol o ymwelwyr o bell ac agos ac enillodd wobr TripAdvisor Traveller’s Choice yn 2024.

Er mwyn gwella hygyrchedd o fewn y safle hanesyddol hwn, mae gwelliannau diweddar wedi canolbwyntio ar sicrhau bod yr ymweliad yn fwy diogel ac yn fwy cyfforddus i bob ymwelydd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Seddi newydd wedi'u gosod yn yr islawr, gan gynnig man gorffwys croesawgar i ymwelwyr sy'n archwilio'r safle.  
  • Dodrefn stryd diangen wedi'u tynnu i greu llwybrau cerdded cliriach.  
  • Canllawiau newydd ac ychwanegol, yn enwedig lle'r oedd grisiau peryglus gynt.
  • Stribedi wedi'u peintio'n llachar ar risiau i wella gwelededd a lleihau peryglon baglu.  
  • Storfa feiciau a chyfleusterau newid babanod newydd, gan wneud y safle'n fwy cyfeillgar i deuluoedd a hygyrch i feicwyr.  

Gwelliannau yn Nantclwyd y Dre

Yn dyddio'n ôl i 1435, mae Nantclwyd y Dre yn un o'r tai tref ffrâm bren hynaf yng Nghymru sy'n dal ar agor i'r cyhoedd. Mae'n cynnwys gerddi cudd hardd, lle gall ymwelwyr brofi hanes yn ymarferol drwy lwybrau rhyngweithiol a’r gweithgareddau sydd yn ystafelloedd y tŷ, o'r cyfnod canoloesol i'r cyfnod modern.

Rhoddwyd blaenoriaeth i waith gwella hygyrchedd i'r llawr gwaelod, gan gynnwys y gornel goffi, y Parlwr ar arddull y 1940au, y neuadd ar thema'r Ail Ryfel Byd, y gegin Fictoraidd, y siop, yr ardal 'Camera Ystlumod', a'r gerddi helaeth, ac maent bellach wedi'u cwblhau diolch i’r canlynol:

  • Rampiau newydd wedi'u gosod yn y tŷ a'r ardd, gan wneud pob ardal yn haws i'w cyrraedd.  
  • Goleuadau gwell, yn enwedig mewn ystafelloedd lle'r oedd diffyg goleuni yn her i rai ymwelwyr yn flaenorol.  

Meddai Carly Davies, Rheolwr Gwasanaeth Treftadaeth Dros Dro:

“Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad ar draws ein hatyniadau hanesyddol gan barchu eu cymeriad unigryw. Mae'r gwelliannau hyn yn gam pwysig wrth wneud Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre yn fwy cynhwysol, a gobeithiwn y gall mwy o ymwelwyr fwynhau diwrnod allan gyda ni o ganlyniad.”  

Ychwanegodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’r newidiadau diweddar yn welliannau i’w croesawu ar gyfer y ddau safle ac yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â rhai o’r canfyddiadau allweddol o archwiliadau hygyrchedd diweddar. Rwy'n gobeithio y gall mwy o ymwelwyr fwynhau'r safleoedd gwych hyn rŵan diolch i'r gwelliannau hyn, sy'n tanlinellu ymrwymiad Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych i sicrhau bod ein safleoedd treftadaeth yn hygyrch i bawb”.

Am fwy o wybodaeth am ymweld â Charchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre, gan gynnwys manylion hygyrchedd, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â thîm Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy heritage@denbighshire.gov.uk

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw