NEWYDDION
Sesiynau Pwyntiau Siarad yn cefnogi dros 1,100 o drigolion mewn blwyddyn
Mae Pwyntiau Siarad ym mhob un o Lyfrgelloedd Sir Ddinbych ac maent yn ffordd hawdd a chyfleus i drigolion Sir Ddinbych ddarganfod pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael iddynt yn eu hardal. Darperir y gwasanaeth Llyw-wyr Cymunedol gan y Groes Goch Brydeinig mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych ac yn ochr yn ochr â phartneriaid allweddol.
Jeff, Llyw-wyr Cymunedol
Mae ystadegau diweddar yn dangos bod y sesiynau wedi darparu cyngor ac arweiniad i dros 1,130 o drigolion Sir Ddinbych rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025.
Fe wnaeth y 391 o sesiynau Pwyntiau Siarad a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod hwn hefyd gael 100% o adborth cadarnhaol gan y rhai a lenwodd ffurflen ar ôl sesiwn, ac roedd yr adborth yn dweud eu bod yn fodlon iawn â’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth roeddent yn ei gael.
Mae’r cymorth mae’r gwasanaeth Pwyntiau Siarad yn ei gynnig drwy’r Llyw-wyr Cymunedol yn eang, a gall amrywio o ddarparu cyngor yn unig, i atgyfeirio i gael rhagor o gymorth perthnasol a chefnogaeth a chymorth â thai.
Yn ystod y cyfnod hwn, fe wnaeth Llyw-wyr Cymunedol hefyd ddarparu 140 o sesiynau gyda sefydliadau mewnol ac allanol i drigolion Sir Ddinbych.
Dyma leoliadau ac amseroedd Pwyntiau Siarad ar hyn o bryd:
Bob dydd Llun (heblaw gwyliau banc) – Llyfrgell Llanelwy, 10:00am–12.30pm
Bob dydd Mawrth – Llyfrgell y Rhyl a Llyfrgell Rhuthun, 10:00am–12.30pm
Bob dydd Mercher – Llyfrgell Dinbych a Llyfrgell Corwen, 10:00am–12.30pm
Bob dydd Iau – Llyfrgell Llangollen, 10:00am–12.30pm
Bob dydd Gwener (heblaw gwyliau banc) – Llyfrgell Prestatyn a Llyfrgell Rhuddlan, 10:00am–12.30pm
Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:
“Rydyn ni’n falch o’r effaith mae Pwyntiau Siarad yn ei chael i sicrhau bod cymunedau’n datblygu’n gynaliadwy yn seiliedig ar eu cryfderau a’u potensial. Mae Pwyntiau Siarad yn rhoi cyfle i unigolion sydd naill ai’n cael anawsterau eu hunain, neu'n gofalu neu’n pryderu am rywun arall, i gael sgwrs wyneb yn wyneb sy’n canolbwyntio ar beth sy’n bwysig iddyn nhw i wella eu hiechyd a’u lles.
Mae Pwyntiau Siarad hefyd yn rhoi cyfle i staff rwydweithio a dysgu am y pethau sydd ar gael o fewn eu hardal leol er mwyn helpu i gefnogi dinasyddion Sir Ddinbych. Rydym ni eisiau gweld Pwyntiau Siarad yn parhau i ddatblygu, gan ganiatáu i’n cymunedau weithio gyda ni i ddarparu gofal cymdeithasol, gyda phobl leol yn helpu’r naill a’r llall."
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae Pwyntiau Siarad yn sesiynau defnyddiol a chyfeillgar am ddim sy’n cael eu cynnal bob diwrnod o’r wythnos ar gyfer ein trigolion sy’n teimlo eu bod angen help llaw. Nid oes angen archebu, dim ond dod i’r sesiwn.
Mae’r Llyw-wyr Cymunedol bob tro’n barod i sgwrsio a chefnogi ac maent yn gallu helpu gydag amrywiaeth eang o bethau.”
Prif Weithredwr y Cyngor, Graham Boase, yn cyhoeddi ei ymddeoliad
Wedi bron i 40 mlynedd yn gweithio mewn llywodraeth leol, mae Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych yn ymddeol.
Bydd Graham Boase, sydd wedi bod yn Brif Weithredwr ar y Cyngor dros y pedair blynedd diwethaf ond sydd wedi gweithio i'r Sir ers ei sefydlu ym 1996, yn camu i lawr fel Prif Weithredwr ddiwedd mis Ionawr 2026.

Wedi cymhwyso fel Cynlluniwr Tref, bu Mr Boase yn Gyfarwyddwr Economi a'r Parth Cyhoeddus ac yn Bennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd yn Sir Ddinbych. Cyn hynny, bu'n gweithio i ddwy Fwrdeistref yn Llundain.
Wrth gyhoeddi ei ymddeoliad, dywedodd Mr Boase, “Mae wedi bod yn bleser ac yn fraint bod yn Brif Weithredwr ar Gyngor a sir mor wych ac er fy mod yn dal i fwynhau'r rôl yn enfawr, yn dilyn cyfnod o fyfyrio, rwyf wedi dod i'r penderfyniad mai nawr yw'r amser i mi baratoi ar gyfer dyfodol gwahanol i ffwrdd o'r gwaith.
“Rwy’n parhau yn gwbl ymroddedig a byddaf yn canolbwyntio ar fy nyletswyddau am weddill fy amser gyda'r Cyngor a bydd y saith mis nesaf yn rhoi cyfle i recriwtio olynydd ac i sicrhau cyfnod trosglwyddo byr. Bydd hefyd yn rhoi amser i'r Prif Weithredwr newydd ymsefydlu cyn yr etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yn 2027.
“Hoffwn ddiolch i gydweithwyr a Chynghorwyr fel ei gilydd, o’r gorffennol i’r rhai presennol, am y cymorth, y gefnogaeth a'r cyfeillgarwch drwy gydol fy amser yn Sir Ddinbych – mae’n golygu cymaint i mi. Er fod tristwch wrth adael fy rôl, rwy'n hynod falch o fod wedi gweithio yma am y 30 mlynedd diwethaf a byddaf bob amser yn cadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd yn Sir Ddinbych.”
Yn ymateb i gyhoeddiad Mr Boase, dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, “Hoffwn ddiolch i Graham am ei holl waith caled a’i ymroddiad mewn nifer o swyddi dros y blynyddoedd gyda Chyngor Sir Ddinbych, ac wrth gwrs, yn fwyaf diweddar yn ei rôl fel Prif Weithredwr.
“Yn y swydd hon mae wedi arwain yr awdurdod yn fedrus trwy gyfnod hynod heriol. Mae Graham wedi rhoi cefnogaeth cyson i mi ac rydym wedi gweithio’n dda gyda’n gilydd – byddaf yn colli’r berthynas waith honno. Er ei bod yn drist clywed ei fod yn gadael y Cyngor, rwy’n deall ei fod yn benderfyniad personol a hoffwn ddymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.
“Edrychaf ymlaen at weithio gydag ef dros y misoedd nesaf wrth i ni ddechrau ar y broses o benodi Prif Weithredwr newydd i arwain yr awdurdod i’r dyfodol.”
Diweddariad Gorffennaf – Gwaith cynnal a chadw ffyrdd
Mae ein tîm Priffyrdd wrthi’n cwblhau gwaith cynnal a chadw ar draws y sir.
Rydym yn gyfrifol am gynnal a chadw 1,400 cilomedr o ffyrdd yn Sir Ddinbych. Mae ein timoedd yn cwblhau rhaglen waith rheolaidd i gynnal a gwella ein ffyrdd, sy’n amrywio o drwsio tyllau yn y ffyrdd i brosiectau ail wynebu ffyrdd.
Mae’n bosibl y bydd angen cau ffyrdd er mwyn cwblhau gwaith trwsio, draenio a gwaith cefnogol arall.
Mae rhestr isod o waith Priffyrdd mis Gorffennaf:
|
Lleoliad
|
Math o waith
|
Rheolaeth traffig dros dro neu gau’r ffordd
|
Dyddiad dechrau*
|
Dyddiad gorffen*
|
|
Pentrecelyn – trac o’r B5429 gyferbyn Faenol hyd at cyffordd yr A525
|
Gwaith clytio
|
Ffordd ar gau
|
30.06.2025
|
04.07.2025
|
|
Prestatyn – Ffordd Victoria Gorllewin (tu allan rhif 45) ac yn ymyl cyffordd Rhodfa Roy
|
Ail gosod gwaith haearn
|
Rheolaeth traffig dros dro
|
02.07.2025
|
02.07.2025
|
|
Rhyl – Ffordd Dyserth
|
Gwaith gyli
|
Rheolaeth traffig dros dro
|
04.07.2025
|
04.07.2025
|
|
Llanelwy – Ffordd Dinbych Uchaf: Tweedmill i goleuadau Trefnant
|
Glanhau gylïau
|
Stop / Mynd
|
07.07.2025
|
09.07.2025
|
|
Llanelwy – A525 Ffordd Dinbych Uchaf yn ymyl Gwesty Oriel
|
Gwaith clytio
|
Hebrwng
|
19.07.2025
|
20.07.2025
|
|
Rhuthun – cyffordd Kingsmead i gyffordd Ty’n y Groesffordd
|
Gwaith clytio
|
Ffordd ar gau
|
21.07.2025
|
25.07.2025
|
|
Nantglyn - B4501 Groes Maen Llwyd i’r grid gwartheg
|
Gwaith clytio
|
Hebrwng
|
25.07.2025
|
I’w gadarnhau
|
|
Rhuallt – Ffordd Hiraddug
|
Gwaith clytio
|
Ffordd ar gau
|
28.07.2025
|
01.08.2025
|
|
Nantglyn - B4501 Croesffordd Brynglas i’r grid gwartheg
|
Gwaith clytio
|
Ffordd ar gau
|
28.07.2025
|
05.08.2025
|
|
Cwm – Y Bwlch
|
Gwaith ail wynebu
|
Ffordd ar gau
|
28.07.2025
|
06.08.2025
|
|
Bryneglwys – cyffordd Ffynnon Tudur i Bryn Orsedd
|
Gwaith clytio
|
Ffordd ar gau
|
29.07.2025
|
31.07.2025
|
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, “Mae ein timoedd Priffyrdd yn gweithio gydol y flwyddyn i gynnal a chadw’r ffyrdd ar draws y sir. Hoffwn ddiolch i drigolion am eu hamynedd y mis hwn wrth i ni gwblhau’r gwaith pwysig yma.”
Gall dyddiadau gwaith newid oherwydd y tywydd neu ffactorau allanol eraill.
Am yr holl wybodaeth am waith ar draws ffyrdd Sir Ddinbych, gan gynnwys gwasanaethau eraill y Cyngor a chwmnïau cyfleustodau, ewch i'r ddolen hon am ragor o wybodaeth.
Galw am Gymorth i Fynd i’r Afael â Fandaliaeth mewn Gardd Gymunedol
Mae tîm Natur Er Budd Iechyd y cyngor yn galw am gymorth pobl leol.
Mae tîm Natur Er Budd Iechyd y cyngor yn galw am gymorth pobl leol wrth fynd i’r afael â fandaliaeth yng ngardd gymunedol Corwen.
Mewn wythnosau diweddar, mae swyddogion Natur Er Budd Iechyd wedi sylwi ar fwy o fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardd gymunedol yng Nghorwen.
Mae’r ardd yn annwyl iawn i bobl leol ac mae criw o wirfoddolwyr yn gweithio’n galed i’w chynnal a’i chadw, ond achosodd rhywun ddifrod sylweddol yno’n ddiweddar.
Bu’r fandaliaid yn codi llysiau a blodau a blannwyd gan wirfoddolwyr o’u gwreiddiau, torri gwydr a gwasgaru’r darnau mân dros y gwelyau planhigion a pherlysiau a difrodi’r isadeiledd, sydd wedi creu peryglon i bobl eraill sy’n ymweld â’r ardd.
Meddai Chloe Webster, Ceidwad Cefn Gwlad gyda’r rhaglen Natur Er Budd Iechyd:
“Mae’r ardd yn fwy na lle i dyfu bwyd – mae’n rhywle y gall pobl fynd i gysylltu, dysgu a gofalu am eu lles.
“Mae’n dorcalonnus gweld y fandaliaeth sydd wedi digwydd, ond gwyddom fod y lle yma’n annwyl iawn i’r gymuned. Rydyn ni’n gofyn i bawb ein helpu i’w warchod.”
Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’n drist clywed am y fandaliaeth a ddigwyddodd yn ddiweddar yn yr ardd gymunedol yng Nghorwen. Mae’r man cymunedol yma’n rhywle i bobl fynd i deimlo’n ddiogel a mwynhau naws y fro.
“Nid yn unig bod yr ymddygiad a welwyd yn ddiweddar yn dangos diffyg parch at waith caled pobl yn y gymuned, ond mae hefyd yn creu perygl mawr i deuluoedd, plant a phobl eraill sy’n defnyddio’r ardd.
“Mae eich cefnogaeth chi’n hanfodol i’n helpu i warchod yr ardd a sicrhau ei bod yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb. Rydym yn annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus a rhoi gwybod am unrhyw ymddygiad amheus neu ddinistriol.”
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, neu os hoffech chi gymryd rhan mewn gofalu am yr ardd, mae croeso ichi gysylltu â ni ar naturerbuddiechyd@sirddinbych.gov.uk neu 01824 712757.

Anrhydeddu Gwirfoddolwyr Natur Er Budd Iechyd yng Ngwobrau Gwirfoddolwyr
Cynhaliodd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych y seremoni wobrwyo.

Cynhaliodd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych seremoni wobrwyo arbennig i gydnabod cyfraniadau ardderchog gwirfoddolwyr ledled y sir.
Mae’r tîm Natur Er Budd Iechyd yn falch o gyhoeddi fod pedwar o’i wirfoddolwyr diwyd ymysg yr enillwyr ac wedi ennill gwobrau mewn tri o’r wyth o gategorïau: Arweinydd Tîm, Gwirfoddolwr Ifanc a Hyrwyddo Diwylliant a Threftadaeth Cymru.
Yr enillwyr oedd:
- Vera Arrowsmith – Arweinydd Tîm
- Zen Hoppe – Arweinydd Tîm
- Cai Scott – Gwirfoddolwr Ifanc
- Myfanwy Lloyd Evans – Hyrwyddo Diwylliant a Threftadaeth Cymru
Cynllun cydweithredol yw Natur Er Budd Iechyd, sy’n cysylltu pobl a chymunedau â byd natur er mwyn hybu eu hiechyd a’u lles. Gwirfoddolwyr sydd wrth wraidd y rhaglen ac maent yn chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau bod y prosiect yn dod â chymaint o fudd â phosib i’n cymunedau yn Sir Ddinbych.
Yn ne’r sir, mae Myfanwy a Cai wedi cael effaith aruthrol. Mae Myfanwy’n wybodus iawn am arddwriaeth ac yn frwd dros y Gymraeg a bu hynny’n gaffaeliad yng Ngardd Gymunedol Conwy, lle mae ei natur dwymgalon a’i balchder mewn diwylliant yn hwb mawr i’r man cymunedol prysur hwn. Gwirfoddolwr ifanc ac uchelgeisiol yw Cai, ac mae wedi datblygu o gyfranogwr i arweinydd – gan gychwyn ei fusnes gwaith coed ei hun a bellach yn cynnal sesiynau naddu pren ar gyfer y rhaglen.
Vera a Zen sy’n arwain y grŵp Cerdded Nordig poblogaidd sy’n mynd am dro bob dydd Iau yn Loggerheads. Maent wedi cydweithio â Natur Er Budd Iechyd ers tro bellach, ac wedi cymhwyso fel hyfforddwyr Cerdded Nordig drwy’r rhaglen. Mae eu harweinyddiaeth a’u hymroddiad yn sicrhau bod y grŵp yn cadw’n weithgar a chroesawgar, gan alluogi’r cyfranogwyr i elwa ar fuddion ymarfer corff yn yr awyr agored i’w hiechyd corfforol a meddyliol.
Meddai Charlotte o’r tîm Natur Er Budd Iechyd:
“Rydyn ni’n eithriadol o falch o Vera, Zen, Cai a Myfanwy. Mae eu hymrwymiad, eu creadigrwydd a’u hysbryd cymunedol yn ymgorffori popeth y bwriadwn ei wneud drwy’r rhaglen. Maen nhw’n llawn haeddu’r gwobrau hyn am eu gwaith caled a’r effaith gadarnhaol maent yn ei chael ar fywydau pobl eraill.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:
“Mae’r gwirfoddolwyr oll yn esiampl wych o’r ffordd y gall gweithredu’n lleol greu newid parhaol. Nid yn unig bod eu gwaith â Natur Er Budd Iechyd yn hybu lles pobl ond mae hefyd yn atgyfnerthu ein cymunedau a’n cysylltiad â byd natur. Rydyn ni’n falch o glodfori eu llwyddiant a’r gwahaniaeth maent yn ei wneud ledled Sir Ddinbych.”
I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â Natur Er Budd Iechyd, cliciwch yma.
Planhigfa’n meithrin gloÿnnod byw
Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Pryfetach, ac mae ein Planhigfa Goed yn Llanelwy yn gwneud ei rhan tu mewn a thu allan i helpu preswylwyr bach natur.
Mae’r blanhigfa goed yn tyfu miloedd o flodau gwyllt bob blwyddyn ynghyd â miloedd o goed. Mae ein blodau gwyllt yn helpu i ddychwelyd cynefinoedd dolydd i beillwyr megis gwenyn, sydd eu hangen i oroesi.
Ond tu allan, ar diroedd y blanhigfa, yr ardaloedd sy’n cael eu goruchwylio gan Dîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych, mae poblogaeth y gloÿnnod byw yn ffynnu.
Mae poblogaeth o lindys glöyn byw peunog yn mwynhau’r danadl poethion, gan nythu yn y dail o amgylch y safle.
Bydd Glöyn Byw Peunog benywaidd yn dodwy ei hwyau mewn clystyrau ar ddail Danadl Cyffredin, sef bwyd eu lindys.
Bydd y lindys yn deor rhwng mis Mai a Mehefin, ac wrth iddynt dyfu, maent yn symud ymlaen i blanhigion eraill. Ar ôl iddynt dyfu maent yn troi’n ddu gyda smotiau gwyn. Pan maent yn barod i chwilera, bydd pob lindys yn canfod ardal addas i ffurfio crysalis.
Bydd Gloÿnnod Byw Peunog oren-goch gyda smotiau du a glas yn ymddangos rhwng mis Mehefin ac Awst.
Meddai Liam Blazey, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth: “Mae’n wych gweld, yn ogystal â’r gwaith rydym yn ei wneud yn y blanhigfa, mae’r cynefinoedd rydym yn cadw llygad arnynt o amgylch y safle wir yn helpu’r byd natur sydd gennym yma yn Sir Ddinbych."

Ychwanegodd: “Yn ogystal â’r Gloÿnnod Byw Peunog, mae gennym nifer o rywogaethau o was y neidr yn ffynnu yn y pyllau dŵr a greon ni ger twneli’r blanhigfa, ac mae’n wych gweld y safle yn ystod Wythnos Genedlaethol Pryfetach yn symud ymlaen i warchod preswylwyr lleiaf byd natur.”
Cyhoeddi enwau’r gwerthwyr ar gyfer gofod newydd Marchnad y Frenhines
Mae'r lleoedd gwag yn llenwi’n gyflym ar safle newydd Marchnad y Frenhines wrth i’r dyddiad agor ar 10 Gorffennaf nesáu. Mae 12 o werthwyr wedi cofrestru i weithredu yno o’r diwrnod lansio ar hyn o bryd, gyda’r stondinau bwyd poeth i gyd wedi’u llenwi, ac ychydig iawn o leoedd ar ôl yn y stondinau bwyd oer/manwerthu.
Mynediad West Parade
Bydd y gwerthwyr unigol, a fydd yn gweithio o gyfleuster newydd Marchnad y Frenhines, yn rhan hanfodol o lansio’r lleoliad pan fydd yn agor.
Mae’r rhestr o werthwyr bwyd poeth yn cynnwys cymysgedd o fwydydd a blasau o ansawdd, gan ddod â blas unigryw i ganol y Rhyl o’r diwrnod lansio. O bitsas wedi’u pobi ar garreg i brydau Caribïaidd, bydd y Farchnad yn cynnig dewis eang o fwydydd poeth ar gyfer ymwelwyr.
Y gwerthwyr bwyd poeth yw:
- Bad Burgers and Dirty Dogs, a fydd yn cynnig amrywiaeth o fyrgers ‘smash’ a chŵn poeth gourmet gydag amrywiaeth o lenwadau ynghyd â sglodion llwythog ac amrywiaeth o ddiodydd meddal.
- Bydd Go Greek yn cynhyrchu bwyd Groegaidd fel gyros, souvlaki, sglodion, halloumi, pwdinau Groegaidd gan gynnwys y gacen oren nefolaidd. Bydd ystod lawn o fwyd Groegaidd traddodiadol ar gael.
- Bydd bar nwdls Kumo Ramen yn cynnig prydau nwdls hyfryd gan gynnwys cawliau a nwdls traddodiadol.
- Bydd Kinn Kinn yn cynnig blas o Wlad Thai gydag ystod eang o fwydydd Thai ar gael gan gynnwys y cyris coch a gwyrdd enwog a phad Thai.
- Bydd Little Italy Pizza Rhyl yn cynnig pitsas wedi’u hymestyn â llaw a’u pobi ar garreg, gyda nifer o lenwadau a blasau i’w dewis a’r cyfan wedi’i baratoi’n ffres ar y safle.
- Mae Wrapped and Loaded yn cynnig bara tortillas artisan wedi’u llenwi â llenwadau sy’n uchel mewn protein.
- Bydd Street Pot yn coginio bwyd Caribïaidd gan gynnwys prydau fel cyw iâr jerk, cyri jerk, reis a phys a plantain wedi’u ffrio.
Tuag at fynedfa’r Farchnad ar Rodfa’r Gorllewin bydd ymwelwyr yn cael eu cyfarch dan ddwy uned ffenestr lle bydd:
- Spill The Beans Rhyl yn gweini coffi mâl ffres a dewis o de artisan a diodydd poeth moethus eraill yn ogystal â cacennau a theisennau crwst.
- Pudz ice cream rolls yn gweini rholiau hufen iâ, wafflau a chrempogau ffres gyda llenwadau traddodiadol fel ffrwythau ffres, siocled, hufen a ysgytlaethau ffres poblogaidd.
Yn ogystal â bwyd poeth blasus bydd Marchnad y Frenhines yn cynnig bwyd a diod oer o safon uchel. Y darparwyr sydd wedi cofrestru hyd yma yw:
- Donat DWT, a fydd yn cynnig ystod lawn o doesenni gydag eising a llenwadau moethus.
- Distyllfa Jin Spirit of Rhyl, lle gall ymwelwyr greu jin o wahanol flasau ar y safle.
- Bydd y bar yn cynnig gwasanaeth llawn i’r ardal ddigwyddiadau a’r farchnad a’r enw arno fydd The Spirit of Rhyl, a bydd yn cael ei redeg gan Ddistyllfa Spirit of Wales.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Rydym yn falch o gyhoeddi enwau’r busnesau a fydd yn dod i safle newydd Marchnad y Frenhines.
Bydd y farchnad yn cynnig ystod eang o ddewisiadau o safon uchel i ymwelwyr, a fydd yn gallu blasu’r rhain o’r diwrnod agored ar 10 Gorffennaf.
Rydym yn gyffrous iawn i wahodd y cyhoedd draw ar y diwrnod agored fel y gallan nhw weld beth sydd gan y cyfleuster gwych hwn i’w gynnig.”
Meddai Andrew Burnett, Cyfarwyddwr o Midlands Events (Rhyl) Limited:
“Rydym yn falch iawn o’r hyn sydd gan y lleoliad newydd i’w gynnig. Mae gennym ystod ardderchog o fanwerthwyr ac rydym yn gyffrous iawn am y rhaglen adloniant yr ydym yn ei rhoi at ei gilydd.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at agor rŵan a chael croesawu ein holl gwsmeriaid ar y penwythnos agored. Bydd y cyfleuster hwn yn ased go iawn i’r dref yn y dyfodol a bydd yn cynyddu niferoedd ymwelwyr y dref gyfan”.
Mae prosiect Marchnad y Frenhines wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn bennaf trwy ei Raglen Trawsnewid Trefi.
Mae’r prosiect wedi cael cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae hefyd wedi cael cyllid gan Lywodraeth y DU trwy’r Rhaglen Balchder Bro a’r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Ariennir y prosiect hefyd gan Gyngor Sir Ddinbych.
Cludiant mwy gwyrdd ar gyfer ysgol yn y Rhyl
Yn fuan bydd myfyrwyr mewn ysgol yn y Rhyl yn cael defnyddio cludiant mwy gwyrdd.
Bydd math o gludiant sy’n fwy ystyriol o’r amgylchedd yn cael ei ddefnyddio i helpu myfyrwyr Ysgol Tir Morfa i gyrraedd eu hysgol.
Mae Gwasanaethau Fflyd Cyngor Sir Ddinbych, gyda chymorth cyllid Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, wedi cael dau gerbyd cludo pobl trydan Toyota Proace Verso, yn lle cerbydau tebyg oedd yn defnyddio tanwydd ffosil oedd yn dod i ddiwedd eu hoes.
Mae gan y ddau gerbyd ystod o hyd at 214 milltir a bydd yn gostwng costau cynnal a chadw a chostau teithio.
Bydd y bysiau mini hefyd yn haws i’w cynnal na cherbydau petrol neu ddisel tebyg oherwydd bod llai o rannau sy’n symud.
Mae symud i gerbydau sy’n fwy ystyriol o garbon yn parhau i fod yn ymrwymiad i’r Gwasanaeth Fflyd ers i Gyngor Sir Ddinbych ddatgan Argyfwng Hinsawdd a Natur yn 2019.
Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor un o’r ffigyrau uchaf yng Nghymru ar gyfer y gyfran o gerbydau heb allyriadau (ZEVs) fel canran o’u fflyd, ar dros 20 y cant.
Bydd y cerbyd cludo pobl yn cael ei ddefnyddio i gefnogi Ysgol Tir Morfa ar deithiau cludiant ysgol, gan gyd-fynd ag ymdrechion yr ysgol i fynd i’r afael â newid hinsawdd sydd eisoes wedi gweld gwaith ynni carbon isel yn digwydd ar y safle ynghyd â phlannu coed gan ddisgyblion gyda thîm Bioamrywiaeth y Cyngor ar y tiroedd.
A bydd yr ail gerbyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cludiant gofal cymdeithasol i oedolion sy’n gweithio yng Nghynnyrch Coed Meifod ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych fel rhan o gynllun cyfleoedd gwaith Sir Ddinbych.
Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn gweithio’n galed iawn i leihau ôl troed carbon ein fflyd drwy gael cerbydau mwy gwyrdd yn lle ein cerbydau tanwydd ffosil diwedd oes pan fo hynny’n briodol ar gyfer anghenion y gwasanaeth.
“Mae’r cerbydau hyn yn ein helpu i ostwng costau rhedeg dros yr hirdymor trwy gynnal a chadw a milltiroedd a bydd yn parhau i ostwng ein hallyriadau i’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gyhoeddwyd yn 2019.

“Mae’n wych y bydd Ysgol Tir Morfa yn cael defnyddio un o’r cerbydau hyn gan fod y myfyrwyr mor gefnogol o wneud popeth a allant i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chefnogi eu natur leol yn yr ysgol a’r gymuned gyfagos. Gobeithiaf y bydd cael un yn cefnogi Meifod hefyd yn ysbrydoli’r oedolion gwych sy’n gweithio ar y safle i wneud eu rhan i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Plannu cnwd o flodau gwyllt prin

Mae blodyn gwyllt prin yn ffynnu unwaith eto ac yn rhoi hwb i gynefinoedd byd natur yn Sir Ddinbych.
Bu tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych wrthi’n meithrin cnwd newydd o Ffacbys Rhuddlas ar gyfer y tymor hwn.
Dechreuodd y tîm ei waith i ddiogelu’r planhigyn prin hwn yn 2022, ac ôl bod yn casglu hadau flwyddyn cyn hynny o’r unig ddôl yn Sir Ddinbych lle’r oedd yn tyfu.
Wedi i’r Cyngor ddatgan argyfwng yr hinsawdd ac ecolegol yn 2019, mae’r prosiect dolydd blodau gwyllt wedi bod yn rhan o’i ymrwymiad parhaus i wella bioamrywiaeth ar draws y sir.
Mae ffacbys rhuddlas yn brin yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ac wedi tyfu’n raddol ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy, ac erbyn eleni mae staff a gwirfoddolwyr wedi tyfu cnwd o fwy na 100 o blanhigion.
Planhigyn blodeuog ydyw yn nheulu’r pys, Fabaceae, ac yn y pen draw fe gaiff ei blannu yn nolydd y sir er mwyn diogelu’r planhigyn i’r dyfodol a rhoi hwb i’r pryfed peillio pwysig sy’n gwneud eu cynefin ynddynt.
Meddai Sam Brown, Cynorthwyydd y Blanhigfa Goed: “Bernir bod y planhigyn dan fygythiad yng Nghymru a’r Deyrnas Gyfunol ac felly mae’n wych gallu rhoi hwb iddo yn y blanhigfa. Hyderwn y bydd ymdrechion y staff a’r gwirfoddolwyr yn creu gwell dyfodol i ffacbys rhuddlas yn y sir.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dyma enghraifft fendigedig o waith ein Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt, nid yn unig wrth adfer cynefinoedd pwysig yma ond hefyd drwy roi hwb i blanhigion prin.
“Mae’n wych gweld y ffacbys rhuddlas yn ffynnu yn y Blanhigfa eleni ac rwy’n hyderu y bydd y planhigion hyn yn dod â mwy o hadau inni fedru diogelu’r rhywogaeth brin yma am flynyddoedd i ddod.”
Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu’r prosiect drwy gynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru.
Gwaith i ddechrau ar Ardal Chwarae Parc Drifft yn y Rhyl
Fe fydd y gwaith adeiladu ar Ardal Chwarae Parc Drifft sydd wedi’i leoli ar y Prom yn y Rhyl yn dechrau ar 23 Mehefin.
Yn unol â diwedd y gwaith ar yr Amddiffynfeydd Môr gerllaw, mae’r Parc yn cael ei ail-greu gyda’r dyluniad newydd a ddewiswyd gan y gymuned, sy’n cynnwys thema forol o ystyried ei leoliad ger glan y môr.

Dyluniad newydd Parc Drifft
Dewiswyd y thema ar ôl sesiynau ymgynghori cyhoeddus a chroesawyd dros hanner cant o gyfranogwr lleol, a helpodd, ynghyd â dros 200 o ymatebion ac adborth drwy fforymau ar-lein, i ddylanwadu ar ddyluniad Ardal Chwarae y Parc Drifft newydd.
Cynhaliwyd sesiynau ymgysylltu pellach mewn ysgolion lleol, sef Ysgol Tir Morfa ac Ysgol Christchurch, lle rhoddodd disgyblion adborth gan helpu gyda dyluniad yr offer, a rhannu barn ac awgrymiadau.
Ar ôl ystyried yr adborth, fe ychwanegwyd mwy o siglenni i’r dyluniad, gan gynnwys siglen ddwbl. Gofynnwyd yn yr adborth hefyd am fwy o fyrddau synhwyraidd, yn ogystal â seddi (bydd y rhain yn cynnwys 2 fainc picnic a 2 fainc safonol yn yr ardal chwarae, a phedair mainc ychwanegol tu allan i’r ardal chwarae).
Bydd ‘Cone Twister’ a gwifren wib yn cael eu hychwanegu yn sgil adborth hefyd.
Disgwylir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn mis Medi 2025.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Wrth i’r gwaith Amddiffynfeydd Môr dynnu at ei derfyn yn yr hydref, fe fyddwn ni’n ail-greu’r Ardal Chwarae yma, gydag elfennau dylunio newydd a gwell sydd wedi’u dewis gan y gymuned.
Mae llawer o’r gwaith wedi cael ei wneud gyda’r gymuned leol ac ysgolion lleol i greu dyluniad terfynol yr Ardal Chwarae yma.
Dwi’n edrych ymlaen at weld y parc ar agor unwaith eto, gydag offer a mannau chwarae newydd a gwell.”
Diogelu miloedd o gartrefi Prestatyn gydag amddiffynfeydd arfordirol gwerth £26m
Bydd miloedd o drigolion Prestatyn yn elwa ar amddiffyniad gwell rhag llifogydd arfordirol.
Bydd miloedd o drigolion Prestatyn yn elwa ar amddiffyniad gwell rhag llifogydd arfordirol diolch i brosiect amddiffyn arfordirol mawr gwerth £26 miliwn sydd wedi'i gwblhau naw mis yn gynt na'r disgwyl.
Bydd cartrefi a busnesau yn yr ardal nawr yn elwa ar lai o risg o lifogydd arfordirol diolch i'r cynllun amddiffyn rhag llifogydd arloesol sy'n cynnwys arglawdd newydd i storio dŵr o ymchwyddiadau stormydd a lleihau'r risg y byddant yn cyrraedd canol tref Prestatyn
Bydd yr amddiffynfeydd arfordirol newydd, a ddarperir gan Balfour Beatty ar ran Cyngor Sir Ddinbych, yn diogelu 2,297 o gartrefi ac 86 o fusnesau rhag y bygythiad cynyddol o ymchwyddiadau stormydd a chynnydd yn lefel y môr.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, a agorodd y cynllun yn swyddogol heddiw: "Bydd y gwaith hwn yn cadw pobl yn ddiogel a bydd o fudd i'r gymuned am flynyddoedd i ddod. Dyma enghraifft wych o'r awdurdod lleol yn ymateb yn gyflym ac yn gweithredu cynllun sy'n lleihau'r risg o lifogydd yn y dyfodol.
“Rwy'n ymwybodol iawn o effaith ddinistriol posibl llifogydd ar gartrefi, bywoliaeth a bywydau pobl.
"Mae diogelu ein cymunedau rhag canlyniadau trychinebus llifogydd ac erydu arfordirol o'r pwys mwyaf i mi yn y swydd hon, ac i'r Llywodraeth.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ar lawr gwlad, a fydd yn amddiffyn ein cymunedau rhag bygythiadau newid hinsawdd."
Mae'r prosiect yn cynnwys arglawdd llifogydd newydd wedi'i osod yn ôl o'r amddiffyniad glan môr bresennol, o amgylch Cwrs Golff y Rhyl ac sy'n rhedeg ger Heol Arfordir y Rhyl.
Bydd y lleoliad strategol hwn yn dal unrhyw ddŵr sy'n gorlifo dros y prif amddiffynfeydd yn ystod tywydd eithafol, gan ei atal rhag llifo tuag at ganol Prestatyn. Mae mesurau diogelu ychwanegol yn cynnwys amddiffynfeydd craig newydd ym mhen gorllewinol y cynllun, gan ddarparu amddiffyniad rhag erydiad o amgylch y llithrfa, ynghyd â gwelliannau i'r cwlferi presennol ac adeiladu dau strwythur gollwng dŵr newydd.
Mae newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr wedi cynyddu'r risgiau o lifogydd ar hyd y darn hwn o'r arfordir, gyda llifogydd wedi effeithio ar bron i 500 o eiddo gerllaw yn nwyrain y Rhyl yn ystod stormydd.
Darparodd Llywodraeth Cymru 85% (£22.2 miliwn) o'r cyllid adeiladu drwy ei Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol (CRMP), gyda Chyngor Sir Ddinbych yn cyfrannu'r 15% sy'n weddill. Ariannodd Llywodraeth Cymru y cam datblygu gwerth £1.75 miliwn yn llawn.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: "Ar ôl gweld effeithiau dinistriol y llifogydd arfordirol a darodd y Rhyl ar 5 Rhagfyr 2013, mae'r gwaith hwn yn arbennig o agos at fy nghalon.
"Agorodd y Cyngor Ganolfan Hamdden y Rhyl ar y pryd fel canolfan wacáu mewn argyfwng oherwydd y llifogydd difrifol, a bydd y darlun o weld fy mhreswylwyr yn dod i mewn yn wlyb yn glynu wrth eu hanifeiliaid annwyl yn byw yn fy nghof am byth.
"Mae trigolion yn dal i ddod ataf hyd heddiw yn dweud pa mor ddiolchgar ydyn nhw gan eu bod bellach yn gallu cysgu'r nos heb orfod poeni am lifogydd yn eu cartrefi, felly rydw i mor falch o weld y rhan hon o'r prosiect yn cael ei chwblhau a fydd nawr yn rhoi tawelwch meddwl i bobl Prestatyn."
Yn ogystal â diogelu'r ardal rhag llifogydd, helpodd y cynllun gyflogaeth yn y rhanbarth yn ystod y cyfnod adeiladu gan fod 85% o'r swyddi lleol wedi’u rhoi i weithwyr o fewn 40 milltir i'r safle gwaith ac roedd 99% o wariant isgontractwyr lleol o fewn y 40 milltir hynny. Creodd y gwaith 8 swydd newydd a darparwyd dros 190 diwrnod o brofiad gwaith i bobl leol. Roedd dros 110 o fyfyrwyr wedi ymwneud â'r cynllun drwy weithgareddau'r cwricwlwm. Gwelodd y cynllun fanteision amgylcheddol hefyd, gydag 80% o'r deunyddiau a ddefnyddiwyd ar gyfer y wal gynnal yn dod o ffynonellau lleol a 99% o'r gwastraff a grëwyd yn cael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi.
Mae cynllun Prestatyn yn rhan o fuddsoddiad CRMP ehangach Llywodraeth Cymru sy’n werth £291 miliwn, a fydd yn ariannu cyfanswm o 15 o brosiectau amddiffyn arfordirol ledled Cymru ar ôl iddynt gael eu cwblhau, gan ddiogelu oddeutu 14,000 o eiddo ledled y wlad.
Cywion Cyntaf y Gylfinir y Tymor hwn wedi Deor yn Sir Ddinbych
Mae tîm Cysylltu Gylfinir Cymru yn dathlu cyrhaeddiad cywion cyntaf y Gylfinir Ewrasia y tymor.
Mae tîm Cysylltu Gylfinir Cymru yn dathlu cyrhaeddiad cywion cyntaf y Gylfinir Ewrasia yn nhymor 2025 yn Ne Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae hyn yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer un o rywogaethau adar sydd fwyaf mewn perygl yn y DU, y mae’r niferoedd yng Nghymru wedi gostwng dros 80% ers y 1990au.
Fe’i hadnabyddir yn gyffredin fel aderyn hirgoes mwyaf Ewrop, mae’n hawdd adnabod y Gylfinir gan ei big hir, crwm a’i alwad unigryw. Ar un adeg roedd i’w weld yn aml ar draws ucheldiroedd a glaswelltiroedd gwlyb Cymru, mae poblogaeth y Gylfinir wedi gostwng yn sylweddol gan eu bod ond yn gallu magu un cyw bob pedair blynedd, sy’n llawer rhy isel i gynnal eu poblogaeth.
Gan weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr lleol, mae’r tîm Cysylltu Gylfinir Cymru wedi bod yn gweithio’n galed i amddiffyn yr adar prin hyn sy’n nythu ar y ddaear trwy fonitro safleoedd nythu ar y rhostiroedd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
I roi’r cyfle gorau o lwyddiant i’r nythod, defnyddiwyd dulliau megis ffensys trydan dros dro i gadw ysglyfaethwyr ac anifeiliaid fferm i ffwrdd o wyau bregus.
Mae’r mesur syml ond effeithiol hwn eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr, gyda 12 nyth yn cael eu hamddiffyn gan y ffensys eleni, sy’n gynnydd sylweddol o 4 nyth y llynedd.
Dywedodd Jillian Howe, Swyddog Cymunedol ac Ymgysylltu yn Cysylltu Gylfinir Cymru:
“Mae cyrhaeddiad y cywion cyntaf hyn yn galonogol iawn, gan ei fod yn dangos, gyda chefnogaeth y gymuned a thargedu amddiffyn, y gallwn roi gwell cyfle i gywion y gylfinir oroesi a helpu i ddadwneud eu dirywiad.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth:
“Mae clywed bod cywion y Gylfinir wedi deor yn Sir Ddinbych yn brawf o’r gwaith pwysig mae ein swyddogion a’n partneriaid ymroddgar yn ei wneud i sicrhau bod y rhywogaethau sydd ar y rhestr goch yn cael eu hamddiffyn. Heb weithredu brys, mae’r posibilrwydd y gallai’r Gylfinir ddiflannu o Gymru yn llwyr erbyn 2033 yn realiti creulon. Fodd bynnag, mae’r cywion hyn sydd wedi deor yn gynnar yn arwydd cadarnhaol ar gyfer yr aderyn eiconig hwn ac yn gam gobeithiol ymlaen ar gyfer cadwraeth y Gylfinir yng Nghymru.”
Os ydych yn gweld neu’n clywed y gylfinir yn yr ardal prosiect, cysylltwch â’n Swyddog Cysylltu Gylfinir Cymru ar: samantha.kenyon@denbighshire.gov.uk neu i gael mwy o wybodaeth ewch i: www.gwct.wales/curlew-connections/
Ymunwch â Sialens Ddarllen Yr Haf ‘Gardd o Straeon’ 2025
Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn gwahodd teuluoedd ar draws Sir Ddinbych i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf 2025 Yr Asiantaeth Ddarllen, gan annog plant i archwilio’r cysylltiad hudolus rhwng adrodd hanes a’r byd naturiol, gan mai thema eleni ydi: Gardd o Straeon - Anturiaethau mewn Natur a’r Awyr Agored.
Yn lansio ar 5 Gorffennaf, mae Sialens Ddarllen yr Haf yn gwahodd plant 4-11 mlwydd oed i fynd i’w llyfrgell leol, darganfod llyfrau newydd, mwynhau haf yn llawn hwyl, dychymyg ac ysbrydoliaeth yn yr awyr agored.
Yn cynnwys darluniadau hardd gan yr artist sydd wedi ennill gwobrau, Dapo Adeola, mae Gardd o Straeon yn cynnig byd o straeon, creaduriaid ac anturiaethau sy’n seiliedig ar natur i ddarllenwyr ifanc. Gall plant gasglu pecynnau gweithgareddau am ddim, cymryd rhan mewn digwyddiadau ar thema natur, a benthyg llyfrau penodol - y cyfan wedi eu dylunio i’w cadw’n chwilfrydig, yn weithgar, ac pharhau i ddarllen dros wyliau’r haf.
Meddai Deborah Owen, Prif Lyfrgellydd Cyngor Sir Ddinbych:
“Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu plant a theuluoedd yn ôl ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf eleni. Mae’n ffordd wych o sbarduno cariad at ddarllen tra’n annog meddyliau ifanc i archwilio natur a chreadigrwydd. Allwn ni ddim aros i weld ein llyfrgell yn cael ei drawsnewid i Ardd o Straeon yr haf hwn!”
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych:
“Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o ysbrydoli plant i ddarllen er mwynhad, tra’n dathlu harddwch y byd naturiol. Mae ein llyfrgelloedd yn chwarae rhan hollbwysig yn cefnogi llythrennedd a chreadigrwydd, ac mae thema eleni, Gardd o Straeon, yn dod â’r cyfan ynghyd mewn ffordd gyffrous a chreadigol. Buaswn yn annog teuluoedd ar draws Sir Ddinbych i ymuno a manteisio ar bopeth sydd gan eu llyfrgell leol i’w gynnig yr haf hwn.
Bellach yn ei 26ain flwyddyn, mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth gyda llyfrgelloedd cyhoeddus, ac mae’n rhad ac am ddim i ymuno. Yn 2024, fe gyrhaeddodd y Sialens bron i 600,000 o blant, gan ysbrydoli dros 100,000 aelod newydd i ymuno â llyfrgell ar draws y DU.
I ddysgu sut i ymuno yn yr hwyl, ewch i’ch llyfrgell leol neu ewch i www.summerreadingchallenge.org.uk.
@readingagency
#SialensDdarllenYrHaf #GarddOStraeon
Rhowch help llaw i aderyn sydd dan fygythiad

Mae preswylwyr yn cael eu hannog i gadw llygad ar yr awyr i helpu aderyn sy’n ymweld â’r sir dros yr haf.
Wrth i’r haf gyrraedd ei anterth, mae Tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn annog preswylwyr i helpu i gadw llygad ar y wennol ddu sy’n ymweld dros yr haf.
Mae’r wennol ddu yn hedfan tua 3,400 o filltiroedd ar ôl treulio’r gaeaf yn Affrica i fridio yn y DU dros yr haf. Maen nhw’n paru am oes gan ddychwelyd i’r un safle bob tro.
Mae’n well gan yr adar nythu mewn tai ac eglwysi gan fynd i mewn i fylchau bach yn y to. Fodd bynnag, wrth i adeiladau hŷn gael eu hailwampio mae’r bylchau mewn toeau wedi lleihau ac mae adeiladau newydd sbon yn cael eu dylunio’n wahanol ac yn cynnig llai o le sydd wedi cael effaith ar niferoedd gwenoliaid duon.
O ganlyniad i golli cynefinoedd, fel ardaloedd blodau gwyllt a dŵr croyw, mae’r pryfaid y mae’r gwenoliaid duon yn dibynnu arnynt i fwydo eu cywion ac i gael egni ar gyfer mudo wedi gostwng hefyd.
Mae ein Tîm Bioamrywiaeth yn gweithio i adfer y colledion drwy reoli’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt sydd hyd yma wedi creu bron i 70 acer o gynefinoedd addas, gan gefnogi adferiad y boblogaeth pryfed ac adar.
Mae’r tîm hefyd wedi cyflwyno nifer o flychau adar mewn ardaloedd yn y sir i annog y wennol ddu i nythu.
Fodd bynnag, er gwaethaf gwaith i’w diogelu yn lleol ac yn ehangach, mae’r wennol ddu ar y Rhestr Goch ers 2021, sef y lefel uchaf o flaenoriaeth o safbwynt cadwraeth yn y DU.
Gall preswylwyr helpu poblogaethau’r wennol ddu sy’n cyrraedd Sir Ddinbych i oroesi a ffynnu trwy gynnal arolwg syml rhwng mis Mai a mis Gorffennaf.
Dewiswch ardal ger eich cartref lle gallwch gerdded ryw filltir yn ddiogel. Dechreuwch trwy edrych i fyny i’r awyr yn hwyrach ymlaen gyda’r nos, rhyw awr cyn y cyfnos, i gatalogio niferoedd gwenoliaid duon a’u gweithgarwch (hedfan yn uchel, cylchu neu hedfan yn gyflym ar uchder toeau a gwneud synau uchel, sgrechian mewn parti).
Os oes angen help arnoch i wybod am beth ydych chi’n chwilio, gallwch naill ai ymuno ag un o deithiau cerdded Gwenoliaid Duon Sir Ddinbych neu wirio’r canllaw defnyddio hwn
Gall teuluoedd neu unigolion gymryd rhan ond cofiwch gadw’n ddiogel wrth wneud hyn wrth iddi hi dywyllu.
Gallwch gofnodi eich holl ganfyddiadau trwy arolwg Gwenoliaid Duon Sir Ddinbych . Bydd ein holl gofnodion yn cyfrannu at y prosiect Adfer Gwenoliaid Duon a ddechreuwyd gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru / COFNOD.
Eglurodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Evie Challinor: “Mae mor bwysig ein bod yn gwneud popeth y gallwn i helpu’r aderyn hwn sydd dan fygythiad i oroesi. Bydd darganfod sut mae eu poblogaethau yn ffynnu yn y sir a ble maen nhw’n byw fwyaf gyda help ein trigolion yn ein helpu i ddeall yn well ble i gyfeirio help ar gyfer gwenoliaid duon sydd ei angen fwyaf.
“Os gallwch chi sbario amser i helpu’r adar anhygoel yma, byddai eich cymorth yn helpu i sefydlogi poblogaethau gwenoliaid duon lleol.”
Gwaith sylweddol i gynnal a chadw priffyrdd i ddechrau eleni
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn dechrau rhaglen sylweddol eleni i gynnal a chadw priffyrdd, gydag arian gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y rhaglen waith yn rhedeg dros ddwy flynedd ar draws y sir a chaiff ei ariannu gan Fenter Benthyca Llywodraeth Leol (MBLL) Llywodraeth Cymru er mwyn galluogi’r gwaith i ddechrau.
Mae cyfanswm o £4,780,699 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen waith dwy flynedd, ac mae’r Cyngor wedi nodi cynlluniau ar gyfer 2025/26 a 2026/27.
Bydd y penderfyniad i dderbyn y cyllid MBLL yn caniatáu i Adran Priffyrdd Sir Ddinbych ddechrau ar y gwaith ar unwaith, fydd o gymorth mawr wrth baratoi’r rhaglen waith helaeth hon gan sicrhau bod modd ei darparu o fewn yr amser gorau posibl ar gyfer gwaith wynebu ffordd.
Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn sicrhau y caiff yr arian yma ei dargedu at wella cyflwr wyneb ffyrdd ar adrannau penodol o’r rhwydwaith yn ystod y cyfnod dwy flynedd rhwng 2025 a 2027.
Mae rhaglen o waith eisoes wedi ei datblygu i wella wyneb priffyrdd ar nifer o ffyrdd yn y sir gyda buddsoddiad sylweddol wedi ei gynllunio ar gyfer A525 Nant y Garth, Ffordd Abergele A547 ger Rhuddlan, a Ffordd Tŷ Newydd yn y Rhyl.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:
“Rydym yn gwybod bod gwelliannau i rwydwaith ffyrdd y sir yn bwnc sy’n codi’n rheolaidd gan ein trigolion ac rydym yn ddiolchgar i gael y cyllid ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru i ategu ein cyllid ein hunain er mwyn helpu i wella ein ffyrdd.
“Mae ein swyddogion wedi gweithio’n galed i gynhyrchu rhaglen gynhwysfawr o ail-wynebu priffyrdd gyda’r cyllid hwn.
“Caiff y gwaith ei gyflawni dros y ddwy flynedd nesaf a bydd yn wirioneddol helpu i wella’r rhwydwaith a’r profiad gyrru i drigolion ac ymwelwyr Sir Ddinbych fel ei gilydd.”
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am bryd a ble y bydd rhwydweithiau ffyrdd y cyngor yn elwa o’r rhaglen hon drwy ein sianeli cyfryngau.
Dôl newydd yn ehangu gwarchodfa natur
Mae ardal gynefin newydd yn cael ei chreu yr haf hwn mewn gwarchodfa natur.
Mae cefnogaeth yn cynyddu ar gyfer pryfed peillio o gwmpas Gwarchodfa Natur Rhuddlan eleni, ar ôl i ardal dôl blodau gwyllt newydd gael ei chwblhau.
Mae Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych wedi gweithio gyda Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan ers 2011 i reoli’r safle, er mwyn helpu natur i ffynnu a darparu lle gwych o ran lles cymunedol.
Mae Gwarchodfa Natur Rhuddlan wedi ehangu a datblygu dros y blynyddoedd ac wedi cyflwyno datblygiadau ar y safle sy’n cynnwys dwy ddôl o flodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 metr o wrychoedd, lleiniau blodau gwyllt, plannu 6,000 o goed, perllan rhywogaethau treftadaeth, dwy ardal bicnic a llwyfan rhwydo pyllau.
Gan weithio gyda’r Grŵp Dementia lleol, mae’r bartneriaeth hefyd wedi creu gofod sy’n gyfeillgar i Ddementia ar y safle, gyda nodweddion synhwyraidd, coed, blodau gwyllt a thirwedd hanesyddol megis waliau cerrig sych a gwrychoedd wedi plygu a seddi coed derw Cymreig traddodiadol.
Ochr yn ochr â’r lle hwn, mae ceidwaid cefn gwlad, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr, wedi creu dôl blodau gwyllt newydd er mwyn parhau â’r gefnogaeth ar gyfer natur ar y safle a darparu ardal newydd i ymwelwyr ei mwynhau.
Mae’r ardal newydd wedi’i datblygu gyda phridd a glaswellt blodau gwyllt a fydd yn darparu amrywiaeth o blanhigion i gefnogi pryfed peillio a’r bywyd gwyllt ehangach yn y warchodfa natur.
Ac er mwyn diogelu’r safle, bu’r gwirfoddolwyr hefyd yn helpu i adeiladu ffens bleth o amgylch ffin y ddôl.
Eglurodd y Ceidwad Cefn Gwlad, Vitor Evora: “Mae wedi bod yn wych darparu cynefin dôl blodau gwyllt ychwanegol ar y warchodfa natur oherwydd mae’r rhain yn gynefinoedd hanfodol sydd eu hangen er mwyn cefnogi ein pryfaid peillio a’r bywyd gwyllt sy’n bwydo ar y pryfaid yn y math hwn o ardal. Bydd y nodwedd yn llawn amrywiaeth a lliw i’r rhai sy’n ymweld â’r warchodfa eu mwynhau hefyd.”
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio ar Gabinet Sir Ddinbych: “Mae’r gwirfoddolwyr a’r ceidwaid wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i’r rhan hon o Warchodfa Natur Rhuddlan ac rydym yn ddiolchgar am eu gwaith ymroddedig i wella bioamrywiaeth yn yr ardal a’r profiad i ymwelwyr sy’n galw heibio’r warchodfa.”
Cyngor Sir Dinbych yn Cwblhau Adolygiad Terfyn Cyflymder Diofyn 20mya
Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Dinbych wedi cwblhau eu hadolygiad o'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn y Sir.
Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Dinbych wedi cwblhau eu hadolygiad o'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn y Sir.
Ym mis Medi 2023 cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth a newidiodd y terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd preswyl o 30mya i 20mya.
Yn dilyn hyn, lansiodd Llywodraeth Cymru adolygiad o'r terfyn cyflymder diofyn yn 2024 a daeth i'r casgliad bod y terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn briodol yn y mwyafrif helaeth o achosion.
Fodd bynnag, diweddarwyd y canllawiau i gynghorau lleol i asesu unrhyw geisiadau am 'eithriadau' i'r terfyn cyflymder diofyn.
Eithriadau yw darnau o ffyrdd lle byddai'r terfyn cyflymder yn dychwelyd i 30 mya, ond byddai angen eu caniatáu fesul achos a bodloni set lem iawn o feini prawf, cyn y gellid eu hystyried ar gyfer eithriad o'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya.
Derbyniodd y Cyngor dros 300 o gyflwyniadau ar gyfer eithriadau ar gyfer cyfanswm o 202 o ffyrdd yn Sir Ddinbych ac aseswyd yr holl eithriadau dan sylw drylwyr yn unol â chanllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gosod eithriadau.
Ar ôl asesu pob un o'r 202 ffordd yn unigol yn erbyn y meini prawf, penderfynwyd nad oedd yr un o'r ffyrdd yn bodloni digon er mwyn i'r Cyngor fedru ystyried cynyddu'r terfyn cyflymder yn ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:
"Yn dilyn y gwaith helaeth gan ein swyddogion i asesu dros 300 o gyflwyniadau, penderfynwyd nad oedd yr un o'r ffyrdd a awgrymwyd yn bodloni'r meini prawf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r terfyn cyflymder yn ddiogel i 30mya. Hoffwn ddiolch i'r swyddogion a oedd yn rhan o asesu'r cyflwyniadau a dderbyniwyd, a hoffwn hefyd ddiolch i'r trigolion a gymerodd yr amser i gysylltu â ni fel rhan o'r broses adolygu".
Cadarnhau Merlin Cinemas fel gweithredwr newydd i sinema’r Rhyl
Mae Merlin Cinemas, sef un o gwmnïau sinema cenedlaethol annibynnol blaenllaw, wedi cyhoeddi y bydd yn cymryd yr awenau dros y sinema 5 sgrin yng nghanol tref y Rhyl, yn amodol ar gwblhau trefniadau prydles gyda Chyngor Sir Dinbych.
Mae’r gweithredwr annibynnol o Gernyw eisoes yn berchen ar 21 o sinemâu eraill ledled y DU, gan gynnwys y Scala ym Mhrestatyn.
Mae gan y cwmni enw da am redeg sinemâu hanesyddol, yn ogystal â rhedeg sinemâu mewn adeiladau modern neu rhai sydd wedi’u hail-bwrpasu. Ac maen nhw hefyd yn adnabyddus am weithredu mewn cymunedau sy’n aml yn cael eu hanwybyddu neu nad ydynt yn derbyn gwasanaeth gan gwmnïau sinema mwy. Yn gynharach eleni, dyfarnwyd MBE i Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Merlin, Geoff Greaves, am ei gyfraniad rhagorol i'r diwydiant sinema - cydnabyddiaeth o 35 mlynedd mae wedi ei dreulio yn hyrwyddo'r sgrin fawr mewn trefi bach.
Wedi i’r sinema gau ddiwedd mis Ionawr, mae Cyngor Sir Dinbych wedi bod yn gweithio'n galed i ddenu gweithredwr i'r cyfleuster poblogaidd ar bromenâd y Rhyl.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Dinbych ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin ag Amddifadaeth, “Rydym wrth ein bodd bod Merlin wedi ymrwymo i’r Rhyl fydd yn sicrhau y gall trigolion ac ymwelwyr fwynhau diwrnod penigamp yn y dref. Unwaith bydd y brydles wedi’i llofnodi a bod Merlin wedi cymryd yr awenau, bydd y sinema’n chwarae rhan ganolog yn yr ymdrechion ehangach i adfywio canol tref y Rhyl.”
Mae Merlin wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r Cyngor i gwblhau a llofnodi’r brydles a chyda chyflenwyr i asesu’r gwaith sydd ei angen y tu ôl i’r llen cyn ailagor. Mae ymrwymiad i ddiwygio’r sinema a gwella’r profiad sgrîn fawr i’r gymuned leol, fydd yn golygu y gallai fod y sinema’n ailagor fesul cam. Bydd enw newydd i’r sinema hefyd, ond mae hwn yn parhau i fod yn gyfrinachol.
Dywedodd Geoff Greaves: “Rydym wrth ein bodd cael llwyddiant yn ein cais i weithredu’r sinema hon. Fel cwmni, rydym eisoes yn gyfarwydd gyda’r lleoliad gan fod gennym sinema 4 milltir i ffwrdd ar hyd yr arfordir ym Mhrestatyn, ond pan gododd hwn, roedd rhaid bachu ar y cyfle. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i agor y drysau fel bod gan y dref sinema eto. Rydym yn credu’n gryf bod gweld ffilm ar y sgrin fawr gyda theulu neu ffrindiau yn brofiad gwahanol iawn i’w gwylio gartref; mae’n fwy cofiadwy, yn fwy cymdeithasol ac yn creu achlysur. Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl i’ch sinema yn fuan iawn.”
Aeth y Cynghorydd McLellan ymlaen i ddweud, “Mae’r sinema ei hun mewn lleoliad gwych gyferbyn â Neuadd Fwyd a Digwyddiadau Marchnad y Frenhines, fydd yn agor ar 10 Gorffennaf, felly mae’n gyfle gwych i fod yn rhan o gyfnod cyffrous i’r Rhyl. Fel Cyngor, rydym wrth ein bodd dod o hyd i weithredwr i gymryd yr awenau ar y safle mor gyflym, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Merlin i sicrhau llwyddiant y sinema.
“Pan fydd yn agor, rwy’n annog trigolion i gefnogi’r sinema yn ogystal â chyfleusterau hamdden eraill y dref – mae angen i bawb gefnogi ein busnesau i sicrhau eu llwyddiant parhaus.”
Dyddiad agor Marchnad y Frenhines wedi'i gadarnhau ar gyfer mis Gorffennaf
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi y bydd Marchnad y Frenhines yn y Rhyl yn agor ei drysau'n swyddogol i'r cyhoedd ar y 10fed o Orffennaf.
Y Farchnad o'r awyr
Mae adeilad Marchnad y Frenhines wedi bod yn dirnod eiconig yng nghanol y Rhyl ers 1902 ac wedi ei ddefnyddio ar gyfer nifer o bethau yn y dref dros y blynyddoedd.
Mae'r datblygiad newydd yn cynnwys 16 o unedau bwyd a manwerthu unigol, bar dwy ochr a gofod digwyddiadau mawr, a bydd yn ofod cymunedol blaenllaw yng nghanol y Rhyl.
Tu mewn i'r Farchnad
I ddathlu, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau dros y penwythnos agoriadol bob dydd o ddydd Iau'r 10fed o Orffennaf, hyd at ddiwedd y penwythnos. Caiff y rhaglen digwyddiadau cyffrous ei gyhoeddi’n fuan iawn.
Mae'r gwaith mewnol yn y farchnad bellach yn cyrraedd y camau olaf, gyda’r paratoadau terfynol yn mynd rhagddynt cyn agor y lleoliad.
Arwydd Marchnad y Frenhines
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Amddifadedd:
“Rydym wrth ein bodd gallu cyhoeddi y bydd drysau Marchnad y Frenhines ar agor i’r cyhoedd o’r 10fed o Orffennaf, llai na mis i ffwrdd.
Mae amserlen lawn ac amrywiol o ddigwyddiadau wedi’i gosod o’r diwrnod agoriadol, a fydd yn rhedeg drwy gydol y penwythnos a chaiff ei chyhoeddi’n fuan.
Bydd y lleoliad hwn yn dod â chynigion ffres, modern a chyffrous i’r Rhyl a Sir Ddinbych gyfan, ac mae’n chwarae rhan bwysig yn ein hymdrechion i adfywio’r ardal trwy greu swyddi a chynyddu’r nifer y bobl sy’n ymweld â’r Rhyl.
Mae gan y Farchnad gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus wych ac mae o fewn pellter cerdded o’r stryd fawr a’r traeth.
Bydd Marchnad y Frenhines yn ganolfan i’r gymuned a bydd yn cynnwys dewisiadau bwyd, diod a manwerthu o ansawdd uchel, yn ogystal â gofod digwyddiadau modern o’r radd flaenaf, gaiff ei ddefnyddio i gynnal cyngherddau, marchnadoedd, digrifwyr, digwyddiadau a mwy.
Bydd yr adeilad ar agor ar gyfer yr haf, ac ychydig cyn dechrau gwyliau haf yr ysgolion, sef un o’r cyfnodau prysuraf o ran twrisiaeth ac ymwelwyr yn yr ardal.
Rydym yn gwahodd holl drigolion y Rhyl, a thu hwnt i ddod draw i'r penwythnos agoriadol a darganfod beth all y lleoliad newydd hwn ei gynnig iddynt.”
Dywedodd Andrew Burnett, Cyfarwyddwr Midlands Events (Rhyl) Limited:
“Mae Midlands Events (Rhyl) Ltd, ynghyd â Chyngor Sir Ddinbych, yn falch o gyhoeddi dyddiad agor Marchnad y Frenhines, sef dydd Iau 10 Gorffennaf.
Mae gennym gymysgedd gwych o fanwerthwyr bwyd o ansawdd uchel, bar thema ac rydym wedi cynllunio penwythnos llawn o adloniant gwych ar gyfer y penwythnos agoriadol.
Edrychwn ymlaen at groesawu pob cwsmer i ddod draw i ymlacio, bwyta bwyd da, cael diod a mwynhau'r adloniant am ddim rydym wedi'i gynllunio dros y penwythnos.
Rydym yn falch iawn o'r lleoliad rydym wedi'i greu ac yn edrych ymlaen at groesawu pawb i’r safle.”
Mae prosiect Marchnad y Frenhines wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, yn bennaf drwy ei Rhaglen Trawsnewid Trefi.
Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid o gyllid SPF Llywodraeth y DU.
Mae hefyd wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU drwy Raglen Balchder Lle a'r Amgylchedd Naturiol: Y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.
Mae'r prosiect hefyd yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych.
Sicrhau cyfweliadau ac ysbrydoli cymuned yn Ffair Swyddi Llangollen
Mae Ffair Swyddi diweddar Sir Ddinbych yn Gweithio yn Llangollen wedi cael ei ddathlu fel llwyddiant gan gyflogwyr a’r rhai a fynychodd, ac mae cyfweliadau eisoes yn cael eu trefnu a chyfleoedd newydd yn cael eu rhannu ar hyd a lled y gymuned. Wedi’i gynnal yng nghanol Llangollen, daeth y digwyddiad â phobl leol ynghyd gydag ystod eang o sefydliadau a busnesau, gan gynnig llwybr gwerthfawr i archwilio swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli.

Roedd yr arddangoswyr yn cynnwys y Fyddin, yr Awyrlu, Anheddau, Branas Isaf, Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, Busnes Cymru, a Clwyd Alyn, ymysg eraill. Er nad oedd gan bob cyflogwr oedd yn bresennol swyddi gwag ar hyn o bryd, fe ddefnyddiodd llawer y ffair fel cyfle i rannu cyfleoedd byw, cynnig cyngor gyrfaol a hyrwyddo swyddi a oedd i ddod. Yn galonogol, dywedodd yr holl gyflogwyr a fynychodd y byddent yn hapus i gymryd rhan mewn digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Cadarnhaodd Branas Isaf eu bod eisoes wedi trefnu cyfweliadau gyda rhai oedd yn bresennol, ac fe ddosbarthodd eraill dolenni ymgeisio a’u cyfeirio at lwybrau hyfforddiant a swyddi agored.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd: “Mae’r ffair swyddi yma’n tynnu sylw at gryfder ac ysbryd ein cymuned leol. Mae’n ysbrydoledig gweld cyflogwyr a cheiswyr swyddi yn dod ynghyd mewn ffordd mor bositif i greu llwybrau go iawn tuag at gyflogaeth a hyfforddiant.
“Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn falch o chwarae rôl allweddol yn cefnogi pobl ar eu siwrnai at waith ystyrlon a dyfodol mwy disglair.”
Meddai Ruth Hanson, Prif Reolwr yn Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Mae llwyddiant y digwyddiad yma’n adlewyrchu gwaith caled a chydweithio rhwng cyflogwyr, partneriaid a’n tîm. Rydym wedi ymrwymo i barhau â’r cyfleoedd yma a chefnogi ceiswyr swyddi bob cam o’r ffordd. Mae gweld cymaint o bobl yn ymgysylltu, yn cael eu hysgogi ac yn cymryd y camau cyntaf tuag at eu gyrfaoedd newydd yn rhoi llawer o foddhad.”

Tîm Sir Ddinbych yn Gweithio
Fe ddefnyddiodd gwasanaethau cefnogi yn cynnwys Adferiad a Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych y digwyddiad i gysylltu â phreswylwyr allai elwa o gefnogaeth lles, gwirfoddoli neu hunangyflogaeth.
Diwrnod llwyddiannus, gyda nifer o gyflogwyr yn symud ymgeiswyr i’r cam nesaf.
Mae’r Ffair Swyddi yn ffurfio rhan o ymrwymiad parhaus Sir Ddinbych yn Gweithio i gefnogi pobl leol i mewn i gyflogaeth, hyfforddiant, a menter. Mae’r tîm rŵan yn paratoi ar gyfer digwyddiadau sydd i ddod ac yn annog cyflogwyr a phreswylwyr i gymryd rhan.
I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod, neu gefnogaeth i mewn i waith, ewch i'n gwefan.
Gwaith arbed ynni i wella effeithlonrwydd ysgol
Cynhaliwyd gwaith i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau costau hirdymor mewn ysgol gynradd yn Sir Ddinbych yn ystod gwyliau’r hanner tymor.
Mae Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych yn arwain gwaith i leihau defnydd ynni a chostau yn ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd.
Mae'r tîm wedi rheoli a chydlynu prosiectau gyda gwasanaethau eraill ar draws adeiladau'r Cyngor, yn cynnwys ysgolion, i helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, lleihau allyriadau a lleihau costau defnyddio dros y tymor hwy.
Mae’r gwaith parhaus hwn yn rhan o ymgyrch y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gafodd ei ddatgan yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon ei hun.
Gwelodd Ysgol Llanbedr 10.68kW o ynni solar ffotofoltäig yn cael ei osod, a bydd pob Kilowatt a gynhyrchir ac a ddefnyddir gan yr ysgol yn arbed tua 22 ceiniog, ac nid yn unig y mae’r capasiti yma’n lleihau carbon yn sylweddol, ond mae hefyd yn lleihau’r straen ar yr isadeiledd grid yn lleol.
Yn dilyn gosod y panel solar, disgwylir y bydd yr ysgol yn defnyddio 78 y cant o’r trydan a gynhyrchir ar y safle, gan leihau costau hirdymor a’r ddibyniaeth ar gyflenwad y grid.
Roedd gwaith arall a wnaed yn Ysgol Llanbedr yn cynnwys insiwleiddiad waliau ceudod ac atig drwy gydol yr ysgol i leihau colled gwres a gostwng biliau gwres.
Gyda’i gilydd, mae’r gwaith yn disgwyl arbed tua £1,943.00 y flwyddyn, a dwy dunnell o allyriadau carbon yn flynyddol.
Meddai Martyn Smith, Rheolwr Ynni a Charbon Eiddo: “Rydym ni’n gwneud y gwaith yma yn Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd i helpu i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau biliau yn yr hirdymor.”
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Drwy’r gwaith hwn rydym ni wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon ein hadeiladau, lleihau ein defnydd o ynni a lleihau costau ysgolion yn y tymor hwy. Diolch i’r Tîm Ynni am eu gwaith rhagweithiol, ac am gefnogaeth Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd am ganiatáu i ni gynnal y gwaith yn ystod gwyliau’r hanner tymor.”
Prosiect Actif Sir Ddinbych ar y rhestr fer
Mae menter lles cymunedol arloesol dan arweiniad Actif Gogledd Cymru Sir Ddinbych wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori ‘Cynnwys Tenantiaid mewn Mentrau/Prosiectau Amgylcheddol’ yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru 2025.
Mae’r prosiect, Partneriaethau Ffyniannus, Trawsnewid Cymunedau, yn enghraifft wych o sut y gall cydweithio ar synnwyr o le wedi’i arwain gan y gymuned lywio newid ystyrlon. Drwy bartneriaethau ac ymgysylltu cryf â thenantiaid a’r gymuned yng Nghlawdd Poncen a Dinbych Uchaf, mae’r fenter wedi llwyddo i fynd i’r afael ag anweithgarwch corfforol, arwahanrwydd cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd.
Bu Actif Gogledd Cymru a Thîm Cadernid Cymunedol Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda’i gilydd i benodi’r ddau gydlynydd prosiect – un mewn partneriaeth ag HWB Dinbych Grŵp Cynefin a’r llall gyda Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor a Thîm Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Roedd hyn yn galluogi’r prosiect i weithio ar y cyd gyda phartneriaid presennol a rhai newydd o’r dechrau, wrth ychwanegu gwerth at weithdrefnau gwaith presennol yn y meysydd hyn.
Cafodd tîm Rhaglen Natur er Budd Iechyd a HWB Dinbych gyflenwi gwelliannau ar y tir sydd wedi cefnogi gwaith Actif yn y rhaglen hon o weithgareddau. Gan weithio'n agos gyda phobl leol a phartneriaid, adeiladwyd darlun clir o ba mor gryf oedd cryfderau'r gymuned ond hefyd y rhwystrau i les, gan arwain at weithredoedd cydweithredol.
Mae’r cyflawniadau allweddol yn cynnwys:
Yng Nghorwen:
- Trawsnewidiodd y tîm Natur er Budd Iechyd fannau gwyrdd nad oedd yn cael eu defnyddio yn ganolbwynt cymunedol, yn cynnwys trac pwmpio, gerddi cymunedol a chyfleusterau ymarfer.
- Gwella llwybrau teithio llesol a chynnal gwasanaethau allgymorth iechyd.
- Gweithio mewn partneriaeth gyda grwpiau lleol fel Mudiad Meithrin a chlybiau chwaraeon lleol i ddarparu gweithgareddau cynhwysol.
Yn Ninbych Uchaf:
- Darparu rhaglenni gwyliau o gwmpas Cae Hywel oedd yn cynnig bwyd a diod a chwarae egnïol i blant.
- Gweithio mewn partneriaeth gyda Denbigh Harriers i gynnal mentrau ffitrwydd hygyrch yn cynnwys ffeirio esgidiau a Soffa i 5k.
- Grymuso pobl ifanc lleol i arwain y prosiect beicio ‘Twmpathau a Neidiau’, ymgyrch llawr gwlad ar gyfer mannau beicio diogel.
Roedd y dull hwn yn seiliedig ar gryfderau - “dechrau gyda’r hyn sy’n gryf, nid yr hyn sy’n anghywir’ - yn ein galluogi i symud ymlaen heb lawer iawn o gyllid, ond yn hytrach defnyddio adnoddau ar y cyd a pherthnasoedd lleol cryfion.
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas:
“Mae llwyddiant prosiect Actif Sir Ddinbych yn seiliedig ar bartneriaeth, amlygir hyn gan y ffaith bod y ddau Gydlynydd Actif ym mhob ardal yn cael eu cyflogi gan sefydliadau gwahanol, sy’n adlewyrchu ymddiriedaeth a dealltwriaeth o gryfderau unigryw bob cymuned.
“Rydym wedi gwirioni ein bod ar y rhestr fer ac yn falch o ddangos grym trawsnewid dan arweiniad y gymuned.
“Mae’r enwebiad yn dathlu model arloesol y prosiect fel un y gellid ei ddyblygu mewn cymunedau eraill ar hyd a lled Cymru.”
Partneriaid y Prosiect:
- Cyngor Sir Ddinbych - Tai, Gwasanaethau Ieuenctid, Cadernid Cymunedol, Gwasanaethau Cefn Gwlad
- Actif Gogledd Cymru
- Hwb Dinbych Grŵp Cynefin
- Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy - Rhaglen Natur er Budd Iechyd
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) - Tîm Iechyd Cyhoeddus
- Hamdden Sir Ddinbych Cyf - Tîm Chwaraeon Cymunedol
Mae’r enwebiad yn dathlu model arloesol y prosiect fel un y gellid ei ddyblygu mewn cymunedau eraill ar hyd a lled Cymru.
Ariannwyd y prosiectau hyn gan Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU drwy Actif Gogledd Cymru a’r rhaglen Natur er Budd Iechyd.
Pigion y Fideos:
Gwaith arwyddion allanol Marchnad y Frenhines wedi'i gwblhau
Mae’r gwaith o osod yr arwyddion allanol bellach wedi'i gwblhau ym Marchnad y Frenhines yn y Rhyl.
Arwydd sy'n gwynebu'r prom - Llun gan: TCB Signage
Mae'r arwyddion newydd hyn bellach yn addurno'r ddwy brif fynedfa ac ochrau'r adeilad.
Mae'r gosodiadau newydd yn cynnwys arwydd sydd wrth fynedfa'r Gogledd-orllewin, yn gwynebu’r prom, arwydd sydd ar ben mynedfa Stryd Sussex, a'r arwyddion sy'n gwynebu Stryd y Frenhines, sydd wrth ochr yr adeilad. Mae hefyd arwydd wedi'u peintio â llythrennau ar ochr yr adeilad, sy'n wynebu Stryd Sussex.
Arwydd sy'n gwynebu Sryd Sussex - Llun gan: TCB Signage
Mae gwaith yn mynd rhagddo’n gyflym ar y gosodiadau mewnol, yn barod ar gyfer agor Marchnad y Frenhines yn yr haf.
Mae'r ddau arwydd prif fynedfa wedi'u gwneud o lythrennau dur di-staen a fydd yn cael eu goleuo, ac yn cynnwys logo newydd Marchnad y Frenhines.
Arwydd sy'n gwynebu Sryd y Frenhines - Llun gan: TCB Signage
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Arwydd Marchnad y Frenhines ydi’r peth cyntaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei weld pan fyddan nhw’n dod at yr adeilad o unrhyw gyfeiriad. Roedd arnom ni eisiau i’r arwydd fod yn rhywbeth hawdd i'w adnabod, a dwi’n teimlo bod y llythrennau, y lliw a’r logo, yn cyflawni hynny.
Mae pethau’n dechrau siapio yn y Farchnad ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld y cyhoedd yn mynd heibio o dan yr arwyddion a drwy’r drysau yn yr haf.”
Meddai Andrew Burnett, Cyfarwyddwr Midlands Events (Rhyl) Ltd:
“Rydym yn falch o fod rwan at y pwynt lle mae brand a hunaniaeth yr adeilad yn cael eu rhyddhau.
Rydym yn gweld hyn fel carreg filltir allweddol i baratoi'r adeilad i'w agor i'w ddefnyddio gan gymuned y Rhyl ac ymwelwyr y dref.”
Prosiect adnewyddu neuadd Ysgol Dewi Sant bron â chael ei gwblhau
Mae’r gwaith o foderneiddio a thrawsnewid adain y Neuadd yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn y Rhyl bron â chael ei gwblhau.
Gwaith mewnol yn neuadd Ysgol Dewi Sant
Adeiladwyd adain y Neuadd yng nghanol y 1960au ac mae llawer o waith adnewyddu a gwella allweddol wedi cael ei gwblhau ers i’r gwaith gychwyn ar ddechrau’r flwyddyn. Mae to’r Neuadd wedi cael ei ailadeiladu a deunydd insiwleiddio wedi cael ei ychwanegu.
Mae’r ffenestri mawr wedi cael eu newid a’u moderneiddio. Mae’r ffenestri bellach yn rhai gwydr dwbl perfformiad uchel, gan ychwanegu effeithlonrwydd ynni a gwelliannau esthetig i’r Neuadd.
Gwaith allanol yn neuadd Ysgol Dewi Sant
Fel rhan o’r gwaith adnewyddu, mae deunydd insiwleiddio modern wedi cael ei osod yn waliau’r neuadd, gan wella effeithlonrwydd ynni o’i gymharu â'r hen ddyluniad. Bydd y gwaith, sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd, yn sicrhau ei haddasrwydd a’i digonolrwydd parhaus at ddibenion addysgol, a’i defnydd gan y gymuned ehangach. Mae gwaith hefyd wedi cael ei wneud i foderneiddio’r cyntedd a mynedfa’r Neuadd, gyda lifft yn cael ei hychwanegu i wella mynediad i bobl ag anableddau.
Y tu allan i adain y Neuadd, mae tir yr ysgol hefyd yn cael ei uwchraddio i wella mynediad i ddefnyddwyr ag anableddau. Yn ogystal, bydd technoleg newydd ac wedi’i huwchraddio yn cael ei hintegreiddio â’r gofodau dysgu o fewn yr adain, gan roi mynediad i fyfyrwyr at yr adnoddau digidol diweddaraf sy’n meithrin profiadau dysgu arloesol a rhyngweithiol.
Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau ar y Neuadd yn yr haf.
Mae’r gwaith wedi cael ei ariannu yn defnyddio cyllid gan Gyngor Sir Ddinbych a grantiau cyfalaf Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw Llywodraeth Cymru.
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Mae’n wych gweld y gwaith hwn yn dirwyn i ben.
Bydd y gwaith yn helpu i leihau ôl troed carbon yr ysgol, yn ogystal â darparu cyfleusterau ac amwynderau modern ar gyfer Neuadd Ysgol Gynradd fwyaf Sir Ddinbych.
Mae’r datblygiad hwn yn cefnogi lles y myfyrwyr yn ogystal â helpu i ddarparu gofod newydd bywiog i gynnal gweithgareddau ar gyfer y gymuned ehangach.”
Dywedodd y Pennaeth, Mair Evans:
“Rydym wrth ein bodd gyda neuadd newydd ein hysgol, sy’n cynnwys cyfleusterau modern rhagorol sy’n bodloni’r safonau uchaf ar gyfer iechyd a diogelwch, hygyrchedd a diogelu. Mae’r prosiect yn cael ei gwblhau i safon uchel iawn.
Bydd y gofod newydd hwn yn gwella ein hamgylchedd dysgu yn fawr ac yn elwa cymuned gyfan yr ysgol.”
Gwaith teithio llesol i ailgychwyn yng Nghorwen
Mae’r gwaith i gyflwyno llwybr teithio llesol rhwng Corwen a Chynwyd i gychwyn eto.
Ar ôl i amgylchiadau annisgwyl atal y broses yn y gorffennol, mae’r gwaith i gyflwyno llwybr teithio llesol rhwng Corwen a Chynwyd i gychwyn eto.
Mae’r prosiect yn rhan o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU a sicrhawyd drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer cyn-etholaeth De Clwyd, a welodd £3.8 miliwn yn cael ei glustnodi i Sir Ddinbych ei fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llandysilio-yn-Iâl, Corwen a’r cyffiniau.
Cafwyd rhagor o gyllid trwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i chreu i leihau nifer y siwrneiau bob-dydd byrion sy’n cael eu gwneud mewn cerbydau modur a chynyddu faint o deithio llesol mae pobl yn ei wneud.
Mae’r prosiect yn cynnwys uwchraddio rhannau o’r hen reilffordd sy’n cydredeg â’r B4401 yn llwybr i gerddwyr a beicwyr ei rannu. Mae hefyd yn cynnwys gosod wyneb tarmac newydd a fydd yn sicrhau bod modd defnyddio’r llwybr drwy’r flwyddyn, a gosod croesfan heb ei rheoli i gerddwyr ar draws yr A5 ger ei chyffordd a’r B4401.
Bydd mynediad at yr hen reilffordd, er mwyn gwneud gwaith adeiladu, bellach ar hyd y briffordd sydd wedi’i mabwysiadu yng Nghynwyd, a bydd y llwybr cerdded ar hyd yr hen reilffordd ar gau tra mae’r gwaith adeiladu’n cael ei wneud, ac arwyddion a rheolaethau traffig priodol yn eu lle.
Bydd signalau dwy-ffordd yn cael eu gosod ar y ffordd gerbydau ger Pont Dyfrdwy ar gyfer dechrau’r gwaith a bydd hyn yn cael ei adolygu wrth i’r prosiect ddatblygu.
Ar ôl oedi oedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, bydd gwaith sy’n cael ei wneud gan G. H. James Cyf. bellach yn dechrau ym mis Mehefin ac yn para oddeutu 30 wythnos.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae croeso mawr i lwybr teithio llesol newydd yng Nghorwen a Chynwyd. Bydd y gwaith hwn yn gwneud y safle’n fwy hygyrch i ddefnyddwyr a hefyd yn gwarchod pwysigrwydd amgylcheddol ac ecolegol y llwybr. Roedd hyn yn hollbwysig yn ystod y broses ddylunio ac mae wedi arwain at ffafrio dulliau sy’n well i’r amgylchedd, fel defnyddio technegau adeiladu heb orfod tyrchu i gwblhau’r prosiect.
“Hoffwn ddiolch i’r Cynghorwyr Alan Hughes a Gwyneth Ellis am eu cefnogaeth i’n galluogi ni i weithio gyda’r gymuned, er mwyn cwblhau prosiect a fydd o fudd i bawb yn y dyfodol agos.
“Rydyn ni’n deall ei fod yn llwybr poblogaidd ac yn gwerthfawrogi amynedd ein preswylwyr yn ystod y cyfnod hwn.”
I ddysgu mwy am deithio llesol, gallwch fynd i’r dudalen ar Deithio Llesol ar ein gwefan, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect, anfonwch e-bost at Levellingup@denbighshire.gov.uk.
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Waith Cynnal a Chadw Cylchol ar Ffyrdd
Bydd gwaith cynnal a chadw cylchol yn cael ei gynnal ger Llanelwy a Rhuddlan ddechrau mis Mehefin. 
Bydd gwaith torri gwair, strimio, casglu sbwriel ac ysgubo yn cael ei gwblhau ar Ffordd Ddeuol yr A525 rhwng Cylchfan Talardy a chylchfan Bryn Cwybyr ac ar yr A547 Ffordd Abergele.
Cwblheir y gwaith rhwng 7pm a 6am dros gyfnod o 3 noson.
I sicrhau y cyflawnir y gwaith yn ddiogel, bydd yr A525 a’r A547 ar gau i gerbydau a cherddwyr ar y dyddiadau isod:
- Dydd Llun a dydd Mawrth, 2 a 3 Mehefin - Ffordd ar gau - A525 Talardy - KFC
- Dydd Mercher a dydd Iau, 4 a 5 Mehefin - A525 Ffordd Osgoi Rhuddlan
- Dydd Llun, 9 Mehefin - A547 - Ffordd Abergele - Cylchfan Borth i Ffin yr Ardal
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd ein timau priffyrdd a gwasanaethau stryd yn gweithio’n galed dros y cyfnod hwn i wella’r llwybrau hyn, a hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd a byddem yn ddiolchgar o’ch cydweithrediad a’ch amynedd dros y cyfnod hwn.
Bydd arwyddion ar gyfer y llwybr gwyro amgen i bob rhan o’r ffyrdd fydd ar gau.
Prif Weinidog Cymru yn teithio i weld prosiectau llwyddiannus yn Sir Ddinbych
Yn ddiweddar, daeth Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan i Sir Ddinbych
Yn ddiweddar, cyrhaeddodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan Sir Ddinbych i ymweld â sawl prosiect yn y Sir.
Yn ystod ei hymweliad, aeth y Prif Weinidog i ysgolion Stryd y Rhos a Phen Barras, y Farchnad Fenyn yn Ninbych a fferm Greengates yn Llanelwy.
Ysgolion Stryd y Rhos a Phen Barras, Rhuthun -
I ddechrau, aeth y Prif Weinidog i ysgolion Stryd y Rhos a Phen Barras, a agorodd ar eu safle newydd ym mis Ebrill 2018 diolch i fuddsoddiad gwerth £11.2 miliwn drwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru (£8.64m) a Chyngor Sir Ddinbych (£2.59m), roedd yr ysgolion yn rhannu safle cyn symud. Ond nid oedd y safle blaenorol wedi’i adeiladu’n bwrpasol nac wedi’i ddylunio ar gyfer y ddwy ysgol, a arweiniodd at nifer o gyfyngiadau.
Cwblhawyd y prosiect yn 2018 ac yn 2019, enillodd wobr genedlaethol am Brosiect y Flwyddyn Oddi ar y Safle gan Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru ac mae bellach yn darparu amgylchedd addysgu a dysgu modern i 525 o ddisgyblion.
Yn ystod yr ymweliad, aeth y Prif Weinidog o amgylch y safle sydd â chyfleusterau o’r radd flaenaf gyda phenaethiaid y ddwy ysgol, cyn sgwrsio ag athrawon a disgyblion oedd wedi cyffroi a mwynhau perfformiad gan gorau Stryd y Rhos a Phen Barras.
Y Farchnad Fenyn, Dinbych -
Ar ei hymweliad â’r Farchnad Fenyn yn Ninbych, dysgodd y Prif Weinidog am y gwaith diweddar i ailddatblygu’r adeilad hanesyddol yn ofod cymunedol sydd wir ei angen yn y dref.
Ariannwyd y gwaith ailwampio gan amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys y Gronfa Ffyniant Gyffredin, y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Fferm Wynt Brenig, Ymddiriedolaeth Freeman Evans, Bernard Sunley, Ymddiriedolaeth Garfield Weston a chyfraniadau gan sefydliadau lleol allweddol yn cynnwys Mind Dyffryn Clwyd, Grŵp Cynefin a Chyngor Tref Dinbych.

Mind Dyffryn Clwyd yw perchennog yr adeilad, a nhw sy’n ei redeg hefyd, ac maent wedi symud eu prif swyddfa i Ddinbych yn ddiweddar. Mae hyn yn caniatáu i’r sefydliad ehangu ei wasanaethau iechyd meddwl ar hyd a lled Sir Ddinbych, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol i’r gymuned.
Hefyd, yr adeilad yw cartref newydd Amgueddfa Dinbych, Archifau Cymunedol Dinbych, Menter Iaith Sir Ddinbych a Chaffi cymunedol. Ynghyd â Mind Dyffryn Clwyd, bydd y sefydliadau hyn yn cefnogi ystod eang o weithgareddau gwirfoddol, darparu gwasanaethau hanfodol i’r boblogaeth leol a meithrin cydweithio gwell ymhlith sefydliadau trydydd sector.
Fferm Greengates, Llanelwy –
Yn olaf, aeth y Prif Weinidog i Fferm Greengates yn Llanelwy i weld y Blanhigfa Goed sy’n ymdrechu i gefnogi a meithrin planhigion a choed naturiol Sir Ddinbych.
Mae’r safle 70 erw yn tyfu coed a phlanhigion fydd yn cael eu plannu’n ôl yng nghefn gwlad ac yn y gymuned yn y pen draw i roi hwb i fioamrywiaeth.
Ar daith o’r Blanhigfa Goed, dan arweiniad Joel Walley, Swyddog Arweiniol Ecoleg a Bioamrywiaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych, archwiliodd y Prif Weinidog y twneli polythen ble mae planhigion a choed ifanc bioamrywiaeth naturiol Sir Ddinbych yn cael eu tyfu, a chafodd rywfaint o hanes rhai o’r rhywogaethau brodorol prin megis yr Aethnen Ddu a’r Gerddinen.
Mae gwaith ailddatblygu’n digwydd ar y safle ar hyn o bryd, ble bydd gwarchodfa natur yn cael ei chreu, fydd yn cefnogi bioamrywiaeth leol ymhellach a helpu adferiad natur, yn ogystal â llwybrau caniataol i ymwelwyr fwynhau’r safle. Bydd ardal wylio uchel hefyd yn cael ei datblygu.
Mae’r gwaith hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, trwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW) Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Ariennir y gwaith gan Lywodraeth y DU hefyd.
Meddai Paul Moore, Prif Swyddog Gweithredol Mind Dyffryn Clwyd:
“Roedd yn gyfle gwych croesawu’r Prif Weinidog i’r Farchnad Fenyn i siarad am y gwaith ailddatblygu a’r gwasanaethau a gynllunnir at y dyfodol, a sut rydym i gyd yn bwriadu cydweithio i wneud gwahaniaeth i helpu pobl go iawn yn ein cymuned.”
Meddai’r Prif Weinidog, Eluned Morgan:
“Roedd yn wych ymweld â Sir Ddinbych a gweld rhaid i’r prosiectau rhagorol mae Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol a sefydliadau partner wedi eu cefnogi yn yr ardal - yn cynnwys ysgolion newydd gwych, canolbwynt cymunedol a phrosiect lleol i gefnogi natur. Da iawn bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o gyflawni’r prosiectau hyn, sydd mor bwysig i bobl leol, ac rwy’n edrych ymlaen at gael ymweld eto.”
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Roedd yn bleser croesawu’r Prif Weinidog i Sir Ddinbych ac i ddangos iddi sut mae pob un o’r prosiectau hyn yn rhagori diolch i waith cydweithio gwych.
“Mae llwyddiant y prosiectau hyn a’r gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dangos yr hyder sydd ganddynt yng Nghyngor Sir Ddinbych i barhau i gyflawni prosiectau fydd o fudd i Sir Ddinbych, boed hynny’n gwella safonau addysg, cefnogi’r gymuned neu wella bioamrywiaeth yn y Sir.”
Diwrnodau agored gwerthwyr wedi'u trefnu ym Marchnad y Frenhines
Gyda’r llefydd olaf ar ôl i'w llenwi yn Farchnad y Frenhines yn y Rhyl cyn iddo agor yr haf hwn, mae'r Cyngor, ar y cyd â Midlands Events (Rhyl) Ltd, yn gwahodd busnesau i'r Farchnad am ddau ddiwrnod agored sydd wedi'u trefnu ar gyfer Mehefin 3ydd, 10am-6pm, a Mehefin 4ydd, 10am-4pm.

Mae'r diwrnodau agored wedi'u hanelu at fusnesau sy'n edrych i fasnachu o'r lleoliad hanesyddol, a byddant yn cynnig taith gynhwysfawr o'r cyfleusterau modern gan y Cyfarwyddwyr o Midlands Events (Rhyl) Ltd a staff allweddol y Cyngor, yn ogystal â rhoi cipolwg ar sut y gall y lleoliad helpu i gefnogi twf busnesau lleol.
Gall busnesau sydd â diddordeb mewn masnachu o'r lleoliad gadarnhau presenoldeb drwy gysylltu â queensmarket@midlandsevents.co.uk neu drwy ffonio 07795 574602.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae'r diwrnodau agored hyn yn gyfle gwych i fusnesau sy'n edrych i fasnachu o'r cyfleuster newydd cyffrous hwn i feddiannu'r ychydig leoedd gwerthwyr olaf sydd ar gael cyn i’r Farchnad agor yr haf hwn.
Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am sut olwg fydd ar fasnachu o ddydd i ddydd a chwrdd â chyfarwyddwyr Midlands Events (Rhyl) Ltd, sy'n rheoli'r Farchnad ar ran y Cyngor. Mae'r prosiect hwn yn agos iawn at fod yn barod, ac rydym yn gyffrous iawn i'r lleoliad hwn agor yr haf hwn.”
Dywedodd Andrew Burnett, Cyfarwyddwr Midlands Events (Rhyl) Ltd:
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb sydd â diddordeb, hen a newydd, i ddod i weld yr amgylchedd masnachu gwych rydym wedi’i greu.
Mae lefel y manylder a’r deunyddiau a ddefnyddiwyd ar y prosiect hwn wedi creu lleoliad gwych i fusnesau ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb p’un a ydynt wedi ymweld â’r safle o’r blaen ai peidio.
Mae hwn yn lleoliad a grëwyd ar gyfer pobl a busnesau’r Rhyl, felly mae croeso i chi ddod draw i ymweld â ni ar y diwrnodau agored.”
Gwelliannau i Garchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre
Mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych wedi cwblhau cyfres o welliannau hygyrchedd yn ddiweddar mewn dau o'i atyniadau hanesyddol.
Mae Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych wedi cwblhau cyfres o welliannau hygyrchedd yn ddiweddar mewn dau o'i atyniadau hanesyddol.
Mae'r gwaith yng Ngharchar Rhuthun a Nantclwyd yn cynnwys gwella mynediad i ymwelwyr a hyrwyddo cynhwysiant yn atyniadau treftadaeth y Sir, ac ariannwyd y gwelliannau yma gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU.
Gwella Mynediad yng Ngharchar Rhuthun
Gan gynnig profiad carchar Fictoraidd unigryw, mae Carchar Rhuthun yn prysur ddod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Gogledd Cymru. Mae’n croesawu nifer cynyddol o ymwelwyr o bell ac agos ac enillodd wobr TripAdvisor Traveller’s Choice yn 2024.

Er mwyn gwella hygyrchedd o fewn y safle hanesyddol hwn, mae gwelliannau diweddar wedi canolbwyntio ar sicrhau bod yr ymweliad yn fwy diogel ac yn fwy cyfforddus i bob ymwelydd. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Seddi newydd wedi'u gosod yn yr islawr, gan gynnig man gorffwys croesawgar i ymwelwyr sy'n archwilio'r safle.
- Dodrefn stryd diangen wedi'u tynnu i greu llwybrau cerdded cliriach.
- Canllawiau newydd ac ychwanegol, yn enwedig lle'r oedd grisiau peryglus gynt.
- Stribedi wedi'u peintio'n llachar ar risiau i wella gwelededd a lleihau peryglon baglu.
- Storfa feiciau a chyfleusterau newid babanod newydd, gan wneud y safle'n fwy cyfeillgar i deuluoedd a hygyrch i feicwyr.
Gwelliannau yn Nantclwyd y Dre
Yn dyddio'n ôl i 1435, mae Nantclwyd y Dre yn un o'r tai tref ffrâm bren hynaf yng Nghymru sy'n dal ar agor i'r cyhoedd. Mae'n cynnwys gerddi cudd hardd, lle gall ymwelwyr brofi hanes yn ymarferol drwy lwybrau rhyngweithiol a’r gweithgareddau sydd yn ystafelloedd y tŷ, o'r cyfnod canoloesol i'r cyfnod modern.
Rhoddwyd blaenoriaeth i waith gwella hygyrchedd i'r llawr gwaelod, gan gynnwys y gornel goffi, y Parlwr ar arddull y 1940au, y neuadd ar thema'r Ail Ryfel Byd, y gegin Fictoraidd, y siop, yr ardal 'Camera Ystlumod', a'r gerddi helaeth, ac maent bellach wedi'u cwblhau diolch i’r canlynol:
- Rampiau newydd wedi'u gosod yn y tŷ a'r ardd, gan wneud pob ardal yn haws i'w cyrraedd.
- Goleuadau gwell, yn enwedig mewn ystafelloedd lle'r oedd diffyg goleuni yn her i rai ymwelwyr yn flaenorol.
Meddai Carly Davies, Rheolwr Gwasanaeth Treftadaeth Dros Dro:
“Rydym wedi ymrwymo i wella mynediad ar draws ein hatyniadau hanesyddol gan barchu eu cymeriad unigryw. Mae'r gwelliannau hyn yn gam pwysig wrth wneud Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre yn fwy cynhwysol, a gobeithiwn y gall mwy o ymwelwyr fwynhau diwrnod allan gyda ni o ganlyniad.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Mae’r newidiadau diweddar yn welliannau i’w croesawu ar gyfer y ddau safle ac yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â rhai o’r canfyddiadau allweddol o archwiliadau hygyrchedd diweddar. Rwy'n gobeithio y gall mwy o ymwelwyr fwynhau'r safleoedd gwych hyn rŵan diolch i'r gwelliannau hyn, sy'n tanlinellu ymrwymiad Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych i sicrhau bod ein safleoedd treftadaeth yn hygyrch i bawb”.
Am fwy o wybodaeth am ymweld â Charchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre, gan gynnwys manylion hygyrchedd, ewch i'n gwefan neu cysylltwch â thîm Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych drwy heritage@denbighshire.gov.uk