Prosiect adnewyddu neuadd Ysgol Dewi Sant bron â chael ei gwblhau

Mae’r gwaith o foderneiddio a thrawsnewid adain y Neuadd yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn y Rhyl bron â chael ei gwblhau.

Gwaith mewnol yn neuadd Ysgol Dewi Sant

Adeiladwyd adain y Neuadd yng nghanol y 1960au ac mae llawer o waith adnewyddu a gwella allweddol wedi cael ei gwblhau ers i’r gwaith gychwyn ar ddechrau’r flwyddyn. Mae to’r Neuadd wedi cael ei ailadeiladu a deunydd insiwleiddio wedi cael ei ychwanegu.

Mae’r ffenestri mawr wedi cael eu newid a’u moderneiddio. Mae’r ffenestri bellach yn rhai gwydr dwbl perfformiad uchel, gan ychwanegu effeithlonrwydd ynni a gwelliannau esthetig i’r Neuadd.

Gwaith allanol yn neuadd Ysgol Dewi Sant

Fel rhan o’r gwaith adnewyddu, mae deunydd insiwleiddio modern wedi cael ei osod yn waliau’r neuadd, gan wella effeithlonrwydd ynni o’i gymharu â'r hen ddyluniad. Bydd y gwaith, sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd, yn sicrhau ei haddasrwydd a’i digonolrwydd parhaus at ddibenion addysgol, a’i defnydd gan y gymuned ehangach. Mae gwaith hefyd wedi cael ei wneud i foderneiddio’r cyntedd a mynedfa’r Neuadd, gyda lifft yn cael ei hychwanegu i wella mynediad i bobl ag anableddau.

Y tu allan i adain y Neuadd, mae tir yr ysgol hefyd yn cael ei uwchraddio i wella mynediad i ddefnyddwyr ag anableddau. Yn ogystal, bydd technoleg newydd ac wedi’i huwchraddio yn cael ei hintegreiddio â’r gofodau dysgu o fewn yr adain, gan roi mynediad i fyfyrwyr at yr adnoddau digidol diweddaraf sy’n meithrin profiadau dysgu arloesol a rhyngweithiol.

Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau ar y Neuadd yn yr haf.

Mae’r gwaith wedi cael ei ariannu yn defnyddio cyllid gan Gyngor Sir Ddinbych a grantiau cyfalaf Atgyweiriadau a Chynnal a Chadw Llywodraeth Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’n wych gweld y gwaith hwn yn dirwyn i ben.

Bydd y gwaith yn helpu i leihau ôl troed carbon yr ysgol, yn ogystal â darparu cyfleusterau ac amwynderau modern ar gyfer Neuadd Ysgol Gynradd fwyaf Sir Ddinbych.

Mae’r datblygiad hwn yn cefnogi lles y myfyrwyr yn ogystal â helpu i ddarparu gofod newydd bywiog i gynnal gweithgareddau ar gyfer y gymuned ehangach.”

Dywedodd y Pennaeth, Mair Evans:

“Rydym wrth ein bodd gyda neuadd newydd ein hysgol, sy’n cynnwys cyfleusterau modern rhagorol sy’n bodloni’r safonau uchaf ar gyfer iechyd a diogelwch, hygyrchedd a diogelu. Mae’r prosiect yn cael ei gwblhau i safon uchel iawn.

Bydd y gofod newydd hwn yn gwella ein hamgylchedd dysgu yn fawr ac yn elwa cymuned gyfan yr ysgol.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw