Rhowch help llaw i aderyn sydd dan fygythiad

Mae preswylwyr yn cael eu hannog i gadw llygad ar yr awyr i helpu aderyn sy’n ymweld â’r sir dros yr haf.

Wrth i’r haf gyrraedd ei anterth, mae Tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn annog preswylwyr i helpu i gadw llygad ar y wennol ddu sy’n ymweld dros yr haf.

Mae’r wennol ddu yn hedfan tua 3,400 o filltiroedd ar ôl treulio’r gaeaf yn Affrica i fridio yn y DU dros yr haf. Maen nhw’n paru am oes gan ddychwelyd i’r un safle bob tro.

Mae’n well gan yr adar nythu mewn tai ac eglwysi gan fynd i mewn i fylchau bach yn y to. Fodd bynnag, wrth i adeiladau hŷn gael eu hailwampio mae’r bylchau mewn toeau wedi lleihau ac mae adeiladau newydd sbon yn cael eu dylunio’n wahanol ac yn cynnig llai o le sydd wedi cael effaith ar niferoedd gwenoliaid duon.

O ganlyniad i golli cynefinoedd, fel ardaloedd blodau gwyllt a dŵr croyw, mae’r pryfaid y mae’r gwenoliaid duon yn dibynnu arnynt i fwydo eu cywion ac i gael egni ar gyfer mudo wedi gostwng hefyd.

Mae ein Tîm Bioamrywiaeth yn gweithio i adfer y colledion drwy reoli’r Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt sydd hyd yma wedi creu bron i 70 acer o gynefinoedd addas, gan gefnogi adferiad y boblogaeth pryfed ac adar.

Mae’r tîm hefyd wedi cyflwyno nifer o flychau adar mewn ardaloedd yn y sir i annog y wennol ddu i nythu.

Fodd bynnag, er gwaethaf gwaith i’w diogelu yn lleol ac yn ehangach, mae’r wennol ddu ar y Rhestr Goch ers 2021, sef y lefel uchaf o flaenoriaeth o safbwynt cadwraeth yn y DU.

Gall preswylwyr helpu poblogaethau’r wennol ddu sy’n cyrraedd Sir Ddinbych i oroesi a ffynnu trwy gynnal arolwg syml rhwng mis Mai a mis Gorffennaf.

Dewiswch ardal ger eich cartref lle gallwch gerdded ryw filltir yn ddiogel. Dechreuwch trwy edrych i fyny i’r awyr yn hwyrach ymlaen gyda’r nos, rhyw awr cyn y cyfnos, i gatalogio niferoedd gwenoliaid duon a’u gweithgarwch (hedfan yn uchel, cylchu neu hedfan yn gyflym ar uchder toeau a gwneud synau uchel, sgrechian mewn parti).

Os oes angen help arnoch i wybod am beth ydych chi’n chwilio, gallwch naill ai ymuno ag un o deithiau cerdded Gwenoliaid Duon Sir Ddinbych neu wirio’r canllaw defnyddio hwn

Gall teuluoedd neu unigolion gymryd rhan ond cofiwch gadw’n ddiogel wrth wneud hyn wrth iddi hi dywyllu.

Gallwch gofnodi eich holl ganfyddiadau trwy arolwg Gwenoliaid Duon Sir Ddinbych . Bydd ein holl gofnodion yn cyfrannu at y prosiect Adfer Gwenoliaid Duon a ddechreuwyd gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru / COFNOD.

Eglurodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Evie Challinor: “Mae mor bwysig ein bod yn gwneud popeth y gallwn i helpu’r aderyn hwn sydd dan fygythiad i oroesi. Bydd darganfod sut mae eu poblogaethau yn ffynnu yn y sir a ble maen nhw’n byw fwyaf gyda help ein trigolion yn ein helpu i ddeall yn well ble i gyfeirio help ar gyfer gwenoliaid duon sydd ei angen fwyaf.

“Os gallwch chi sbario amser i helpu’r adar anhygoel yma, byddai eich cymorth yn helpu i sefydlogi poblogaethau gwenoliaid duon lleol.”

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw