Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Waith Cynnal a Chadw Cylchol ar Ffyrdd

Bydd gwaith cynnal a chadw cylchol yn cael ei gynnal ger Llanelwy a Rhuddlan ddechrau mis Mehefin. 

Bydd gwaith torri gwair, strimio, casglu sbwriel ac ysgubo yn cael ei gwblhau ar Ffordd Ddeuol yr A525 rhwng Cylchfan Talardy a chylchfan Bryn Cwybyr ac ar yr A547 Ffordd Abergele.

Cwblheir y gwaith rhwng 7pm a 6am dros gyfnod o 3 noson.

I sicrhau y cyflawnir y gwaith yn ddiogel, bydd yr A525 a’r A547 ar gau i gerbydau a cherddwyr ar y dyddiadau isod:

 

  • Dydd Llun a dydd Mawrth, 2 a 3 Mehefin - Ffordd ar gau - A525 Talardy - KFC 
  • Dydd Mercher a dydd Iau, 4 a 5 Mehefin - A525 Ffordd Osgoi Rhuddlan 
  • Dydd Llun, 9 Mehefin - A547 - Ffordd Abergele - Cylchfan Borth i Ffin yr Ardal 

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Bydd ein timau priffyrdd a gwasanaethau stryd yn gweithio’n galed dros y cyfnod hwn i wella’r llwybrau hyn, a hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd a byddem yn ddiolchgar o’ch cydweithrediad a’ch amynedd dros y cyfnod hwn.

Bydd arwyddion ar gyfer y llwybr gwyro amgen i bob rhan o’r ffyrdd fydd ar gau.

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw