Cartref Gofal Dolwen yn dathlu 60 mlynedd

Ddydd Llun (1 Mehefin), dathlodd cartref gofal Dolwen yn Ninbych 60 mlynedd ers ei sefydlu ac yr oedd digwyddiad i ddathlu i staff presennol a chyn-aelodau staff, preswylwyr a'u teuluoedd, ac ymwelwyr.

Agorodd y cartref gofal 32 ystafell wely sy’n cael ei redeg gan y Cyngor ei ddrysau am y tro cyntaf ar 1 Mehefin 1966.

I goffáu’r garreg filltir, gosodwyd nodwedd ddŵr yn yr ardal awyr agored ger mynedfa'r cartref. Roedd baneri a pharasolau yn addurno'r ardal awyr agored, ac yr oedd balŵns, posteri a baneri yn addurno y tu mewn i'r cartref.

Mae'r nodwedd ddŵr goffa sydd newydd ei gosod gyferbyn â chloc haul, a osodwyd i ddathlu hanner can mlwyddiant y cartref.

Ymwelodd disgyblion o'r ysgol leol Twm o'r Nant â’r cartref a gafodd gyfle i weld perfformiadau cerddorol drwy gydol y prynhawn.

Dywedodd Pamela Pack, Rheolwr Cartref Gofal Dolwen:

“Mae’r cartref gofal hwn yn golygu llawer i’r staff sy’n gweithio yma a’r preswylwyr sy’n byw yma. Roedd gallu dathlu 60 mlynedd o gartref gofal Dolwen yng nghwmni preswylwyr, eu teuluoedd a staff presennol a chyn-aelodau staff yn wych.

Mae gennym ni aelod o staff sydd wedi bod yma ers tua 40 o flynyddoedd, ac un arall sydd wedi bod yn gweithio yma ers 23 o flynyddoedd. Mae gennym ni breswylydd sydd wedi byw yn Nolwen ers bron i 15 mlynedd hefyd. Mae gallu dathlu’r garreg filltir hon gyda nhw yn golygu llawer iawn.

Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth draw am helpu i wneud y diwrnod yn un arbennig.”

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Agorodd Dolwen yn 1966 ac mae wedi bod yn rhan annatod o’r gymuned yn Ninbych a’r cyffiniau ers degawdau, ac mae wedi dod yn gartref i’r unigolion sy’n byw yno.

Rwy'n falch iawn o'r staff gweithgar sy'n gweithio yn Nolwen, maen nhw'n helpu i sicrhau amgylchedd cynnes a chartrefol i'r preswylwyr.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae dathlu 60 mlynedd o gartref gofal Dolwen yn gyflawniad enfawr. Hoffwn longyfarch y staff a’r preswylwyr ar y garreg filltir hon.

Mae gan y cartref awyrgylch hyfryd a gofalgar, ac mae hynny oherwydd degawdau o waith caled ac ymroddiad.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw