Clwb Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn cefnogi preswylwyr

Gyda nifer o bobl yn teimlo’n ansicr am yr hyn allai ddod dros fisoedd yr haf, boed hynny’n orffen gweithio’n rhan-amser, bod yn ddi-waith, neu’n ystyried eu camau nesaf, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnal clybiau swyddi i gynnig cefnogaeth, arweiniad a chymorth gydag agweddau o gyflogaeth.

Mae’r clybiau swyddi, sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd ar hyd a lles Sir Ddinbych, yn darparu cefnogaeth ymarferol, un-i-un i bobl sy’n chwilio am waith, sy’n newid gyrfaoedd neu sydd eisiau datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymgeisio am swyddi ar-lein.

Dros fisoedd yr haf, gall y rhai sy’n dod i’r clybiau gael cymorth i chwilio am swyddi ar-lein, llenwi ceisiadau swyddi, cofrestru ar gyfer a mynd i gyrsiau hyfforddi a magu hyder gyda thasgau bob dydd a chyflogaeth.

Mae llawer o recriwtio’n digwydd ar-lein y dyddiau hyn, ac mae clybiau swyddi’n canolbwyntio ar helpu pobl i deimlo’n hyderus yn defnyddio gwefannau, llenwi ceisiadau, llwytho dogfennau a dysgu o bell.  Caiff cefnogaeth ei deilwra i anghenion unigol, boed rhywun yn cychwyn arni neu’n ymgeisio am swyddi.

Mae’r clybiau swyddi yn cael eu cefnogi gan brosiect Hyder Digidol Sir Ddinbych gan Cwmpas, sydd wedi cadarnhau y bydd yn parhau i’w ddarparu tan fis Medi 2026. Mae’r estyniad yma’n adlewyrchu’r effaith cadarnhaol y mae’r prosiect wedi’i gael ac mae’n cydnabod yr angen parhaus am gefnogaeth sgiliau digidol ar hyd a lled cymunedau lleol.

Trwy Cwmpas, gall preswylwyr gael cymorth ychwanegol i fagu hyder ar-lein, cael mynediad at wasanaethau hanfodol, cymryd rhan mewn hyfforddiant digidol a lleihau allgau digidol, fe all y cyfan chwarae rôl bwysig yn gwella cyfleoedd cyflogaeth.

Meddai Rasha Azzam, Swyddog Cefnogi:

“Mae ein Clybiau Swyddi yn cynnig mwy na chwilio am swyddi - maent yn rhoi hyder i bobl, a chefnogaeth ymarferol sydd ei angen arnynt i ddatblygu. Rydym yn gweithio’n agos gyda chyfranogwyr i ennyn eu hymddiriedaeth a chynnig cymorth wedi’i deilwra, boed hynny gyda cheisiadau, archwilio cyfleoedd, neu eu cysylltu â chefnogaeth ehangach megis tîm lles Barod, colegau lleol a gwirfoddoli. Mae gweld pobl yn cael cyfweliadau, cael swyddi a dod yn ôl i rannu eu llwyddiant wir yn dangos y gwahaniaeth y gall y gefnogaeth yma ei chael yn ein cymuned.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd ac Ymdrin a Amddifadaeth:

“Mae clybiau swyddi yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi trigolion ledled Sir Ddinbych, yn enwedig i’r rhai a allai fod yn ansicr o’u camau nesaf. Drwy ddarparu mynediad at hyfforddiant ar-lein, cefnogaeth chwilio am swydd a chymorth gyda cheisiadau, mae’r sesiynau hyn yn rhoi’r offer a’r hyder sydd eu hangen ar bobl i symud ymlaen. Mae’n wych gweld y gefnogaeth hon yn parhau yn ein cymunedau.”

Nid oes angen i breswylwyr fod yn brofiadol na’n hyderus iawn gyda thechnoleg i fynychu, mae’r gefnogaeth yn gyfeillgar, yn ymarferol ac yn cael ei gyflwyno ar gyflymder sy’n addas i bob unigolyn.

I unrhyw un sy’n teimlo eu bod angen cymorth ychwanegol dros fisoedd yr haf gyda cheisiadau, dysgu ar-lein neu sgiliau digidol, mae clybiau swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig man cychwyn gwerthfawr a chefnogol.

Mae Clybiau Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael eu cynnal mewn sawl lleoliad cymunedol hygyrch ar hyd a lles y Sir:

  • Llyfrgell Corwen – Dydd Llun 1af bob mis, 2pm–4pm (Hyfforddwr Lles ar gael)
  • Llyfrgell y Rhyl – Bob dydd Mawrth 2pm–4pm (Hyfforddwr Lles ar gael)
  • Llyfrgell Llangollen – 2il a 4ydd dydd Mercher bob mis, 2pm–4pm
  • Llyfrgell y Rhyl – Bob dydd Iau, 10am–12pm
  • HWB Dinbych – Bob yn ail ddydd Iau, 10am–12pm (Hyfforddwr Lles ar gael)
  • Llyfrgell Rhuthun – Bob yn ail ddydd Iau, 1pm–3pm
  • Llyfrgell Prestatyn – Bob dydd Gwener, 10am–12pm

Mae croeso i unrhyw un sydd dros 16 oed, sy’n byw yn Sir Ddinbych ac sydd yn ddi-waith ar hyn o bryd fynychu.  Mae sesiynau yn rhad ac am ddim, yn gyfeillgar gyda mynediad agored, a gall pobl fynychu cymaint o sesiynau ag sydd ei angen.

Gwybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio:

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

I gael gwybod mwy neu i gysylltu â Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/ 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw