Dau brosiect yn Sir Ddinbych wedi’u cydnabod gyda enwebiad ar gyfer Gwobr Arfer Da TPAS Cymru

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dathlu ar ôl i ddau brosiect gyrraedd rhestr fer Gwobrau Arfer Da TPAS Cymru 2026, sy’n cydnabod cyfraniad arbennig tenantiaid, thrigolion a gwasanaethau cymorth i helpu siapio gwasanaethau cymorth a helpu i lunio gwasanaethau tai a gwella bywydau ar draws y sir.
Mae’r enwebiadau yn amlygu effaith gadarnhaol o weithio mewn partneriaeth, o gynnwys tenantiaid, o ddylanwadu ar sut caiff gwasanaethau tai eu darparu i ddarparu cymorth wedi’i deilwra sy’n helpu trigolion i oresgyn rhwystrau a chyflawni eu nodau.
Mae'r enwebiad cyntaf, yn y categori ‘Ymgysylltu Tenantiaid mewn Mentrau/Prosiectau Amgylcheddol’, yn dathlu llwyddiant arbennig Prosiect Tyfu Rhodfa Miltwn yn Ninbych Uchaf.
Diolch i ymroddiad gwirfoddolwyr a phreswylwyr lleol, mae’r hen lain wair yng nghanol y stad wedi’i thrawsnewid yn ardd gymunedol liwgar. Mae’r prosiect bellach yn darparu cyfleoedd i bobl o bob oed ddysgu sgiliau newydd, tyfu bwyd, gwella eu lles ac adeiladu cysylltiadau cryfach â’u cymdogion.
Mae’r prosiect tyfu wedi dod yn le croesawgar a chynhwysol, gan gefnogi teuluoedd, annog rhyngweithio cymdeithasol a helpu i leihau unigrwydd yn y gymuned. Mae hefyd wedi creu cyfleoedd i drigolion lleol feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd a dod yn wirfoddolwyr gweithgar.
Mae’r ail enwebiad, yn y categori ‘Rhaglen Cymorth/Cyngor i Drigolion’, yn cydnabod llwyddiant Rhaglen Cymorth Lles ac Cyflogadwyedd Sir Ddinbych yn Gweithio, sy’n gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Tai a Chymunedau i gefnogi trigolion sy’n byw mewn tai cyngor ac mewn tai cymdeithasol eraill ar draws y sir.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r rhaglen wedi darparu cymorth wedi’i deilwra i fwy na 260 o drigolion sy’n wynebu amrywiaeth o heriau personol, cymdeithasol a lles. Trwy fentora un-i-un, ymyriadau lles, cymorth cyflogadwyedd a mynediad at wasanaethau arbenigol, mae cyfranogwyr wedi cael eu cefnogi i wella eu hyder, eu gwydnwch a’u lles cyffredinol.
Mae’r rhaglen yn mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan helpu pobl i oresgyn rhwystrau sy’n ymwneud â chyflogaeth, iechyd, hyder, allgáu digidol ac anawsterau ariannol. O ganlyniad i’r cymorth a ddarparwyd, mae mwy na 23 o drigolion tai cymdeithasol wedi symud i waith yn llwyddiannus, tra bo llawer eraill wedi datblygu sgiliau newydd, gwella eu lles ac ymgysylltu’n well â’u cymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau:
“Mae’r enwebiadau hyn yn gyflawniad gwych ac yn adlewyrchu’r ymrwymiad a ddangosir gan ein tenantiaid, trigolion, staff a’n partneriaid ar draws Sir Ddinbych. Mae’r ddwy enwebiad yn dangos yr effaith gadarnhaol y gellir ei chyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gefnogi pobl a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Boed hynny drwy helpu i lunio’r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn darparu gwasanaethau drwy gynnwys tenantiaid, neu drwy ddarparu cymorth ymarferol sy’n grymuso trigolion i wella eu lles a’u rhagolygon cyflogaeth, mae’r prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Hoffwn longyfarch pawb sy’n rhan o’r ddwy enwebiad a diolch iddynt am eu hymrwymiad parhaus i gefnogi cymunedau cryfach, mwy gwydn ar draws Sir Ddinbych.”
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd a Thaclo Amddifadedd:
“Rwy’n falch iawn o weld Rhaglen Cymorth Lles ac Cyflogadwyedd Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei chydnabod drwy’r enwebiadau hyn. Bob dydd, mae’r tîm yn gweithio gyda thrigolion sy’n wynebu ystod eang o heriau, gan ddarparu cymorth wedi’i deilwra sy’n helpu pobl i feithrin hyder, gwella eu lles a symud yn nes at gyflawni eu nodau. Yr hyn sy’n gwneud y rhaglen hon mor llwyddiannus yw ei dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r tîm yn cymryd yr amser i ddeall amgylchiadau pob unigolyn ac yn gweithio ochr yn ochr â nhw i oresgyn rhwystrau, boed hynny’n ymwneud â dod o hyd i waith, gwella lles meddwl, cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi neu gysylltu â gwasanaethau cymorth. Mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain, gyda channoedd o drigolion yn elwa ar y rhaglen a llawer yn mynd ymlaen i sicrhau gwaith, datblygu sgiliau newydd a gwella ansawdd eu bywyd. Hoffwn longyfarch pawb sy’n rhan o’r gwaith a diolch i’r tîm am y gwahaniaeth cadarnhaol y maent yn parhau i’w wneud yn ein cymunedau ar draws Sir Ddinbych.”
Mae Gwobrau Arfer Da TPAS Cymru yn dathlu rhagoriaeth mewn ymgysylltu â thenantiaid, cyfranogiad cymunedol a gwasanaethau tai ledled Cymru, gan arddangos prosiectau sy’n darparu buddion ystyrlon i denantiaid a chymunedau.
Yn ogystal â chydnabod llwyddiant y prosiectau unigol mae’r enwebiadau hefyd yn cydnabod ymrwymiad parhaus Tai Sir Ddinbych i weithio ochr yn ochr â thenantiaid i lunio gwasanaethau a chefnogi cymunedau llewyrchus ar draws y sir.
Bydd y seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal ar 17 Mehefin yn Hotel Marriott, Caerdydd, lle bydd sefydliadau tai o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i ddathlu arloesedd, gwaith partneriaeth ac arfer da yn y sector tai.

