Helpwch i wella lles ein Sir
Gwahoddir preswylwyr Sir Ddinbych i helpu i lywio dyfodol eu cymunedau trwy gymryd rhan mewn arolwg cyhoeddus i’r sir gyfan sy’n asesu lles ein Sir.
Fe fydd adborth gan breswylwyr yn helpu i ni lunio’r Asesiad Lles ar gyfer Sir Ddinbych a Chonwy sy’n cynnal arolwg tebyg. Bydd y farn a gesglir o’r ddwy Sir yn helpu i lywio’r blaenoriaethau y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn canolbwyntio arnynt dros y blynyddoedd i ddod, yn cynnwys Llywodraeth Leol, Iechyd, Tân ac Achub a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’n gyfle i bobl leol ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau o ddydd i ddydd, o les y gymuned i gynllunio hirdymor.
Mae’n ofynnol bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cynllunio ar gyfer yr hirdymor ac ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol gan wneud hynny ar y cyd o dan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Caiff Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Sir Ddinbych ei rannu gyda Sir Conwy. I wneud hynny’n effeithiol, maent angen deall yr hyn sy’n gweithio’n dda rŵan, pa heriau y mae cymunedau yn eu hwynebu, a sut fywyd yn y Sir y mae pobl ei eisiau yn y dyfodol.
Bydd pob ymateb a dderbynnir yn helpu i greu darlun cliriach o flaenoriaethau, pryderon a chyfleoedd a rennir yn Sir Ddinbych a Sir Conwy.
Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cydraddoldeb, Polisi a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Mae’r ymarfer yma’n cael ei gynnal bob 5 mlynedd tra’n llunio prif strategaethau’r Cyngor. Rydym eisiau clywed gan breswylwyr o bob oedran gan fod hwn yn gyfle i chi helpu lles pawb yn y Sir yn y dyfodol. Mae eich llais yn bwysig.
“Po fwyaf o bobl a fydd yn cymryd rhan, y cliriach fydd y darlun a fydd gennym o’r hyn sy’n bwysig ar draws y Sir, felly treuliwch ychydig funudau yn rhannu eich barn.”
Mae angen tua 10 munud i lenwi’r arolwg ac mae’n cau dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2026. Mae ar gael mewn fformatau eraill drwy gysylltu â’r Tîm Cynllunio Strategol drwy e-bostio timcynlluniostrategol@sirddinbych.gov.uk
I lenwi’r arolwg ar-lein defnyddiwch y ddolen hon https://www.sirddinbych.gov.uk/sgwrs-y-sir
Nodiadau i olygyddion:
Mae'r arolwg yn ymwneud â swyddogaeth statudol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://conwyanddenbighshirelsb.org.uk