Hyfforddiant teithio ar fws am ddim yn helpu disgyblion i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl ysgol
Mae gwasanaeth lles Sir Ddinbych yn Gweithio, Prosiect Barod, yn gweithio mewn partneriaeth gyda Bysiau Arriva Cymru i gyflwyno hyfforddiant teithio ar fws am ddim i ddisgyblion Blwyddyn 11 ar draws Sir Ddinbych, gan helpu pobl ifanc i fagu hyder ac annibyniaeth wrth iddynt baratoi i symud ymlaen i goleg, hyfforddiant neu gyflogaeth.
Mae’r rhaglen yn ffurfio rhan o gefnogaeth ehangach Sir Ddinbych yn Gweithio i bobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu’r sgiliau, hyder ac annibyniaeth sydd ei angen i gymryd eu camau nesaf.
Mae’r fenter yn cefnogi disgyblion sydd wedi cael eu hatgyfeirio ar gyfer cefnogaeth lles a gwytnwch gan eu hysgolion. Mae’n dod â phobl ifanc o sawl ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych ynghyd i gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol i fagu hyder sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn ddiogel ac yn annibynnol. Cynhelir dwy sesiwn ym mis Ebrill, ac mae sesiynau pellach wedi’u trefnu yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Nod y rhaglen, gyda chynllun Ymyrraeth Gynnar Prosiect Barod, yw lleihau pryder mewn cysylltiad â theithio a chael gwared ar rwystrau y gallai pobl ifanc fod yn eu hwynebu ar ôl gadael ysgol. Mae gallu teithio’n annibynnol yn gam hollbwysig tuag at allu manteisio ar gyfleoedd addysg bellach, hyfforddiant a gwaith. Trwy’r ymagwedd yma, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn helpu i fynd i’r afael â rhwystrau ymarferol ac emosiynol i ddatblygu, gan gefnogi pobl ifanc i symud ymlaen gyda mwy o hyder.
Mae Bysiau Arriva Cymru yn cyflwyno’r sesiynau yn rhad ac am ddim yn rhan o’i ymrwymiad i werth cymdeithasol, gan ddangos ei ymrwymiad i gefnogi pobl ifanc a chymunedau ar hyd a lled Sir Ddinbych.
Mae pob sesiwn yn cynnwys gweithdy byr i grŵp sy’n cael ei gyflwyno yn y gymuned. Mae pobl ifanc yn dysgu beth i’w ddisgwyl tra’n teithio ar fws, sut i gynllunio siwrneiau, darllen amserlenni, deall llwybrau a phrynu tocynnau. Mae’r sesiynau hefyd yn ymdrin â diogelwch bysiau, ymddygiad priodol, beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le, ac o ble i gael cymorth os ydynt yn teimlo’n ansicr.
Mae staff Arriva hefyd yn cefnogi cyfranogwyr i osod ap teithio ar fysiau Llywodraeth Cymru ar eu ffôn sy’n darparu mynediad i deithio ar fysiau ar draws Cymru am £1.

Yna mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd i ymgyfarwyddo â bod ar fws, gan roi cyfle iddynt fynd ar fws, cyfarfod a siarad â’r gyrrwr, a dod yn gyfforddus â chynllun a’r amgylchedd cyn teithio'n annibynnol.
Mae’r cydweithio yma’n helpu i sicrhau bod sgiliau teithio ymarferol yn cael eu datblygu ochr yn ochr â chefnogaeth emosiynol a lles, gan roi’r hyder sydd ei angen ar bobl ifanc i gymryd eu camau nesaf.
Meddai Jen Dutton, Arweinydd Lles a Gwytnwch yn Sir Ddinbych yn Gweithio:
“I nifer o bobl ifanc, mae symud o’r ysgol i’r cam nesaf yn gallu teimlo’n llethol, yn enwedig os ydi arferion bob dydd megis teithio’n annibynnol yn achosi gorbryder. Yn Barod, rydym ni’n canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i deimlo’n barod yn emosiynol ar gyfer y newid hwnnw. Mae gweithio gydag Arriva yn galluogi i ni gyfuno cefnogaeth lles gyda sgiliau ymarferol, gan roi’r hyder sydd ei angen ar bobl ifanc i symud ymlaen.”
Meddai Neil Atherton, Cydlynydd Gwerthoedd Cymdeithasol gyda Bysiau Arriva Cymru:
“Gall mynd ar fws deimlo fel rhywbeth bach, ond i rai pobl ifanc gall deimlo fel cam enfawr. Mae’r sesiynau yma’n ymwneud â thorri hynny i lawr, gan ddangos iddynt beth i’w ddisgwyl a rhoi’r hyder iddynt roi cynnig arni. Unwaith y byddant wedi cael eu cefnogi i wneud hyn, fe allwch chi wir weld y gwahaniaeth. Mae’r bobl ifanc yn mynd o deimlo wedi’u gorlethu ac ar goll, i weld eu bod nhw’n gallu gwneud hyn a sylweddoli sut mae hynny’n agor cymaint o gyfleoedd iddyn nhw. Yn Arriva, rydym ni yma i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud mwy na mynd o A i B. Rydym ni eisiau i bobl ifanc deimlo’n hyderus yn defnyddio’r bws am oes, boed hynny er mwyn cyrraedd y coleg, mynd i’r gwaith neu weld ffrindiau. Y mwyaf o bobl sy’n dewis y bws, y gorau ydyw i’n cymunedau ac i’r amgylchedd, felly mae helpu pobl ifanc i fagu yr hyder yna’n bwysig iawn."
Fe bwysleisiodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’r bartneriaeth hon yn dangos gwerth cydweithio ar draws Sir Ddinbych. Trwy Sir Ddinbych yn Gweithio ac Arriva, rydym ni’n cefnogi pobl ifanc i fagu hyder, annibyniaeth a’r sgiliau sydd ei angen arnynt i symud ymlaen."
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen, neu i drefnu atgyfeiriad, cysylltwch â thîm Sir Ddinbych yn Gweithio ar 01745 331438 neu sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk. Mae manylion sesiynau sydd ar ddod a gwybodaeth archebu hefyd ar gael drwy Eventbrite.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU a sawl rhaglen arall, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru-DU, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a Chysylltu â Gwaith.