Lansiad llwyddiannus i Hwb Teuluoedd Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf newydd yng Nghorwen
Cynhaliwyd agoriad Hwb Teuluoedd Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf yng Nghorwen wythnos dwethaf, sy’n ddarpariaeth newydd a chyffrous i deuluoedd yn yr ardal.
Agorwyd y Hwb, yn Llety Gwarchod Llygadog, gyda digwyddiad anffurfiol i deuluoedd alw heibio i gwrdd â’r tîm.

Cafodd teuluoedd wybod mwy am y gefnogaeth, gwasanaethau, grwpiau a gweithgareddau a fydd ar gael yn y Hwb.
Yn ogystal â rhannu gwybodaeth, trefnwyd amryw weithgareddau i blant ar y diwrnod a darparwyd te, coffi a chacennau.
Cynhelir digwyddiadau ymgysylltu bob wythnos yn y Hwb gydol yr haf.
Meddai llefarydd ar ran y tîm Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf:
“Rydyn ni’n llawn cyffro wrth agor Hwb Teuluoedd newydd Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg yng Nghorwen.
Mae’n lle cynnes a chroesawgar i deuluoedd a gofalwyr.
Os ydych chi’n byw’n lleol ac yn chwilio am gefnogaeth, dewch draw i ddweud helo wrth y tîm, sy’n fwy na pharod i roi help llaw.”
Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Mae'r agoriad newydd yma yn hwb mawr i ddarparu gwasanaethau gofal plant yn yr ardal.
Mae’n un o lawer i deuluoedd ledled y sir, ac fe agorodd un arall yn Ninbych yn ddiweddar.
Hoffwn ddiolch i’r tîm am eu hymdrechion i agor y Hwb newydd hon, ac mae’n gyffrous iawn bod rwan ar agor i deuluoedd yng Nghorwen a’r cyffiniau.”