NEWYDDION

Hwb i drafnidiaeth i'r Gwasanaeth Ieuenctid

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych wedi derbyn ychwanegiad trafnidiaeth newydd i helpu i gefnogi gweithgareddau awyr agored yn well.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych wedi derbyn ychwanegiad trafnidiaeth newydd i helpu i gefnogi gweithgareddau awyr agored yn well.

Ar agor i bawb rhwng 11 a 25 oed, mae'r gwasanaeth ieuenctid yn cynnig gweithgareddau cymdeithasol a chyfleoedd dan do ac yn yr awyr agored i ddatblygu diddordebau yn ogystal â chymorth a chefnogaeth i unrhyw un sydd ei angen.

Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor wedi caffael minibws newydd i helpu'r gwasanaeth i gynnal ei raglen o ddigwyddiadau i bobl ifanc ledled Sir Ddinbych.

Gan ddisodli cerbyd plât 2011 sydd wedi dod i ben, mae'r minibws Ford Transit newydd gyda lle i hyd at 18 o deithwyr wedi'i ddewis i helpu i wasanaethu rhwng clybiau'r Gwasanaeth Ieuenctid ledled y sir.

Dewiswyd y cerbyd diesel yn briodol hefyd oherwydd y llwyth gwaith y bydd yn mynd i'r afael ag ef ledled y sir.

Helpodd swyddog dylunio a lifrai mewnol y Gwasanaeth Fflyd i gynhyrchu'r edrychiad ar gyfer yr ychwanegiad newydd i gyd-fynd â brandio bywiog Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd: “Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn darparu cyfleoedd amhrisiadwy i bobl ifanc ledled Sir Ddinbych ddysgu sgiliau newydd, meithrin hyder a gwneud cysylltiadau cadarnhaol. Bydd y bws mini newydd hwn yn helpu i sicrhau y gall hyd yn oed mwy o bobl ifanc gael mynediad at weithgareddau, digwyddiadau a chefnogaeth, waeth ble maen nhw’n byw yn y sir. Mae’n fuddsoddiad gwych yn ein pobl ifanc a dyfodol y gwasanaeth.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cael trafnidiaeth i helpu ein pobl ifanc gyrraedd gweithgareddau ledled y sir. Rydym yn ddiolchgar i’n swyddogion fflyd am drefnu’r cludiant newydd hwn sy’n tynnu sylw at fywiogrwydd Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych.”

Prosiectau Gwella Tai yn cael eu harddangos yn ystod teithiau o’r sir

Ymunodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Helen White, a’r Pennaeth Tai a Chymunedau, Heidi McDougall, dimau Tai ac Eiddo Cymunedol yn ddiweddar, ynghyd â’r Aelod Arweiniol ar gyfer Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas, ar gyfres o deithiau ar draws y sir i weld drostyn eu hunain yr ystod eang o welliannau i dai, datblygiadau newydd a phrosiectau cymunedol sy’n cael eu darparu i breswylwyr.

Roedd yr ymweliadau’n rhoi cyfle i arddangos buddsoddiad yng nghartrefi presennol y Cyngor, cynnydd ar ddatblygiadau tai newydd, ac effaith gadarnhaol gwytnwch cymunedol a mentrau amgylcheddol.

Cynhaliwyd y daith gyntaf, yng ngogledd y sir ym mis Ebrill, ac roedd hi’n cynnwys ymweliad i Gwynfryn Avenue, y Rhyl, lle gwnaed gwelliannau sylweddol ar dai i deuluoedd yn yr ardal. Mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ynni, a chynyddu cynhyrchiad ynni adnewyddadwy, gan helpu preswylwyr i leihau costau ynni, a chreu cartrefi mwy cynaliadwy. Cafodd y grŵp gyfle i weld eiddo gwag hefyd, er mwyn gweld safon uchel y gwaith ailwampio sy’n cael ei gwblhau cyn ei drosglwyddo i’n tenantiaid newydd.

Aeth y daith ymlaen i Barc Bruton, y Rhyl, lle cafodd cyfleusterau cymunedol sy’n cael eu datblygu mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Gwytnwch Cymunedol a Chefn Gwlad eu hamlygu, cyn symud i Thornley Avenue i weld y gwaith parhaus o roi to newydd ar y cynllun yn ogystal â gosod paneli ffotofoltäig.

Arddangosodd ymweliad i Lys Llen, Prestatyn, gartrefi cyngor a adeiladwyd o’r newydd am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd, gydag ymweliadau pellach i Orllewin y Rhyl yn arddangos y dulliau o weithio er mwyn darparu tai, gan gynnwys trawsnewid gofod swyddfa i gartrefi o safon uchel, a’r gwaith o ailwampio eiddo Fictoraidd mawr i lety modern i deuluoedd.

Cynhaliwyd yr ail daith ym mis Mai, a oedd yn canolbwyntio ar dde’r sir. Dechreuodd yr ymweliad yng Nghanolfan Gymunedol Pengwern, lle rhannodd staff o Bartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych gwybodaeth am yr ystod eang o weithgareddau a gwasanaethau cefnogi sydd ar gael i breswylwyr lleol.

Yna, teithiodd y grŵp i Glawdd Poncen, Corwen, i ymweld â Llygadog, cynllun tai i bobl hŷn, lle arddangoswyd gwelliannau diweddar i’r adeilad, y gerddi, a chyfleusterau cymunedol, ynghyd â’r gweithgareddau sy’n helpu preswylwyr i gynnal eu lles corfforol a’u cyswllt.

Daeth y daith i ben yn Ninbych, gydag ymweliad i’r cartrefi newydd yn Llwyn Eirin, cyn ymweliad olaf yn Lloyd Avenue i weld eiddo a ailwampiwyd yn ddiweddar, a’r cyfleuster trac pwmpio poblogaidd, sy’n darparu gofod hamdden gwerthfawr i blant a phobl ifanc leol.

Meddai Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas:  “Roedd yr ymweliadau hyn yn gyfle gwych i weld y gwahaniaeth cadarnhaol mae ein buddsoddiad yn ei wneud i gymunedau ledled Sir Ddinbych drosom ein hunain. O wella’r ansawdd ac effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol y cyngor i ddarparu tai fforddiadwy newydd a chefnogi mentrau a arweinir gan y gymuned, rydym wedi ymrwymo i greu lleoedd lle gall pobl ffynnu.

“Roedd hi’n arbennig o galonogol cwrdd â staff a phartneriaid sy’n helpu i gyflawni’r prosiectau hyn, ac i weld y manteision maent yn cynnig i breswylwyr. Mae’r ystod o waith sy’n cael ei gynnal ledled y sir yn arddangos ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi o safon uchel, mynd i’r afael â heriau’r hinsawdd, ac adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn ar gyfer y dyfodol.”

Amlygodd yr ymweliadau hyd a lled y buddsoddiad sy’n cael ei gynnal ledled Sir Ddinbych, o wella cartrefi presennol, ac adeiladu tai newydd i gefnogi cymunedau cryfach, mwy gwydn.

Mae’r gwaith yn cefnogi blaenoriaeth yn ein Cynllun Corfforaethol hefyd, o ran sicrhau bod gan Sir Ddinbych ddigon o dai o safon sy’n diwallu anghenion pobl.

 

Dau brosiect yn Sir Ddinbych wedi’u cydnabod gyda enwebiad ar gyfer Gwobr Arfer Da TPAS Cymru

The TPAS Cymru National Good Practice Awards 2026

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dathlu ar ôl i ddau brosiect gyrraedd rhestr fer Gwobrau Arfer Da TPAS Cymru 2026, sy’n cydnabod cyfraniad arbennig tenantiaid, thrigolion a gwasanaethau cymorth i helpu siapio gwasanaethau cymorth a helpu i lunio gwasanaethau tai a gwella bywydau ar draws y sir.

Mae’r enwebiadau yn amlygu effaith gadarnhaol o weithio mewn partneriaeth, o gynnwys tenantiaid, o ddylanwadu ar sut caiff gwasanaethau tai eu darparu i ddarparu cymorth wedi’i deilwra sy’n helpu trigolion i oresgyn rhwystrau a chyflawni eu nodau.

Mae'r enwebiad cyntaf, yn y categori ‘Ymgysylltu Tenantiaid mewn Mentrau/Prosiectau Amgylcheddol’, yn dathlu llwyddiant arbennig Prosiect Tyfu Rhodfa Miltwn yn Ninbych Uchaf.

Diolch i ymroddiad gwirfoddolwyr a phreswylwyr lleol, mae’r hen lain wair yng nghanol y stad wedi’i thrawsnewid yn ardd gymunedol liwgar. Mae’r prosiect bellach yn darparu cyfleoedd i bobl o bob oed ddysgu sgiliau newydd, tyfu bwyd, gwella eu lles ac adeiladu cysylltiadau cryfach â’u cymdogion.

Mae’r prosiect tyfu wedi dod yn le croesawgar a chynhwysol, gan gefnogi teuluoedd, annog rhyngweithio cymdeithasol a helpu i leihau unigrwydd yn y gymuned. Mae hefyd wedi creu cyfleoedd i drigolion lleol feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd a dod yn wirfoddolwyr gweithgar.

Mae’r ail enwebiad, yn y categori ‘Rhaglen Cymorth/Cyngor i Drigolion’, yn cydnabod llwyddiant Rhaglen Cymorth Lles ac Cyflogadwyedd Sir Ddinbych yn Gweithio, sy’n gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Tai a Chymunedau i gefnogi trigolion sy’n byw mewn tai cyngor ac mewn tai cymdeithasol eraill ar draws y sir.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r rhaglen wedi darparu cymorth wedi’i deilwra i fwy na 260 o drigolion sy’n wynebu amrywiaeth o heriau personol, cymdeithasol a lles. Trwy fentora un-i-un, ymyriadau lles, cymorth cyflogadwyedd a mynediad at wasanaethau arbenigol, mae cyfranogwyr wedi cael eu cefnogi i wella eu hyder, eu gwydnwch a’u lles cyffredinol.

Mae’r rhaglen yn mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan helpu pobl i oresgyn rhwystrau sy’n ymwneud â chyflogaeth, iechyd, hyder, allgáu digidol ac anawsterau ariannol. O ganlyniad i’r cymorth a ddarparwyd, mae mwy na 23 o drigolion tai cymdeithasol wedi symud i waith yn llwyddiannus, tra bo llawer eraill wedi datblygu sgiliau newydd, gwella eu lles ac ymgysylltu’n well â’u cymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau:

“Mae’r enwebiadau hyn yn gyflawniad gwych ac yn adlewyrchu’r ymrwymiad a ddangosir gan ein tenantiaid, trigolion, staff a’n partneriaid ar draws Sir Ddinbych. Mae’r ddwy enwebiad yn dangos yr effaith gadarnhaol y gellir ei chyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gefnogi pobl a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Boed hynny drwy helpu i lunio’r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn darparu gwasanaethau drwy gynnwys tenantiaid, neu drwy ddarparu cymorth ymarferol sy’n grymuso trigolion i wella eu lles a’u rhagolygon cyflogaeth, mae’r prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Hoffwn longyfarch pawb sy’n rhan o’r ddwy enwebiad a diolch iddynt am eu hymrwymiad parhaus i gefnogi cymunedau cryfach, mwy gwydn ar draws Sir Ddinbych.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd a Thaclo Amddifadedd:

“Rwy’n falch iawn o weld Rhaglen Cymorth Lles ac Cyflogadwyedd Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei chydnabod drwy’r enwebiadau hyn. Bob dydd, mae’r tîm yn gweithio gyda thrigolion sy’n wynebu ystod eang o heriau, gan ddarparu cymorth wedi’i deilwra sy’n helpu pobl i feithrin hyder, gwella eu lles a symud yn nes at gyflawni eu nodau. Yr hyn sy’n gwneud y rhaglen hon mor llwyddiannus yw ei dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r tîm yn cymryd yr amser i ddeall amgylchiadau pob unigolyn ac yn gweithio ochr yn ochr â nhw i oresgyn rhwystrau, boed hynny’n ymwneud â dod o hyd i waith, gwella lles meddwl, cael mynediad at gyfleoedd hyfforddi neu gysylltu â gwasanaethau cymorth. Mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain, gyda channoedd o drigolion yn elwa ar y rhaglen a llawer yn mynd ymlaen i sicrhau gwaith, datblygu sgiliau newydd a gwella ansawdd eu bywyd. Hoffwn longyfarch pawb sy’n rhan o’r gwaith a diolch i’r tîm am y gwahaniaeth cadarnhaol y maent yn parhau i’w wneud yn ein cymunedau ar draws Sir Ddinbych.”

Mae Gwobrau Arfer Da TPAS Cymru yn dathlu rhagoriaeth mewn ymgysylltu â thenantiaid, cyfranogiad cymunedol a gwasanaethau tai ledled Cymru, gan arddangos prosiectau sy’n darparu buddion ystyrlon i denantiaid a chymunedau.

Yn ogystal â chydnabod llwyddiant y prosiectau unigol mae’r enwebiadau hefyd yn cydnabod ymrwymiad parhaus Tai Sir Ddinbych i weithio ochr yn ochr â thenantiaid i lunio gwasanaethau a chefnogi cymunedau llewyrchus ar draws y sir.

Bydd y seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal ar 17 Mehefin yn Hotel Marriott, Caerdydd, lle bydd sefydliadau tai o bob cwr o Gymru yn dod ynghyd i ddathlu arloesedd, gwaith partneriaeth ac arfer da yn y sector tai.

Denbighshire Housing - Denbighshire Housing

Image result for working denbighshire

Helpwch i wella lles ein Sir

Gwahoddir preswylwyr Sir Ddinbych i helpu i lywio dyfodol eu cymunedau trwy gymryd rhan mewn arolwg cyhoeddus i’r sir gyfan sy’n asesu lles ein Sir.

Arolwg llesFe fydd adborth gan breswylwyr yn helpu i ni lunio’r Asesiad Lles ar gyfer Sir Ddinbych a Chonwy sy’n cynnal arolwg tebyg. Bydd y farn a gesglir o’r ddwy Sir yn helpu i lywio’r blaenoriaethau y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn canolbwyntio arnynt dros y blynyddoedd i ddod, yn cynnwys Llywodraeth Leol, Iechyd, Tân ac Achub a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’n gyfle i bobl leol ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau o ddydd i ddydd, o les y gymuned i gynllunio hirdymor.

Mae’n ofynnol bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cynllunio ar gyfer yr hirdymor ac ystyried anghenion cenedlaethau'r dyfodol gan wneud hynny ar y cyd o dan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Caiff Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Sir Ddinbych ei rannu gyda Sir Conwy. I wneud hynny’n effeithiol, maent angen deall yr hyn sy’n gweithio’n dda rŵan, pa heriau y mae cymunedau yn eu hwynebu, a sut fywyd yn y Sir y mae pobl ei eisiau yn y dyfodol.

Bydd pob ymateb a dderbynnir yn helpu i greu darlun cliriach o flaenoriaethau, pryderon a chyfleoedd a rennir yn Sir Ddinbych a Sir Conwy.

Meddai’r Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cydraddoldeb, Polisi a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Mae’r ymarfer yma’n cael ei gynnal bob 5 mlynedd tra’n llunio prif strategaethau’r Cyngor. Rydym eisiau clywed gan breswylwyr o bob oedran gan fod hwn yn gyfle i chi helpu lles pawb yn y Sir yn y dyfodol. Mae eich llais yn bwysig.

“Po fwyaf o bobl a fydd yn cymryd rhan, y cliriach fydd y darlun a fydd gennym o’r hyn sy’n bwysig ar draws y Sir, felly treuliwch ychydig funudau yn rhannu eich barn.”

Mae angen tua 10 munud i lenwi’r arolwg ac mae’n cau dydd Gwener, 31 Gorffennaf 2026. Mae ar gael mewn fformatau eraill drwy gysylltu â’r Tîm Cynllunio Strategol drwy e-bostio timcynlluniostrategol@sirddinbych.gov.uk

I lenwi’r arolwg ar-lein defnyddiwch y ddolen hon https://www.sirddinbych.gov.uk/sgwrs-y-sir

 

Nodiadau i olygyddion:

Mae'r arolwg yn ymwneud â swyddogaeth statudol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://conwyanddenbighshirelsb.org.uk

Y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect parc poced y Rhyl

Mae'r cyngor yn symud ymlaen i gam nesaf y prosiect.

(Argraff arlunydd o Barc Poced Porth y Rhyl)

Ar ôl cael caniatâd cynllunio yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ddinbych yn symud ymlaen i gam nesaf y prosiect.

Roedd y Cyngor wedi gweithio gyda datblygwyr lleol yn y gorffennol i archwilio atebion posibl ar gyfer y safle. Fodd bynnag, heb unrhyw ddewis hyfyw a dirywiad parhaus yr adeiladau, prynodd y Cyngor yr adeiladau yn 2022 cyn eu dymchwel yn rhannol â chefnogaeth gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Yn 2025, cafodd Cyngor Sir Ddinbych bron i £20 miliwn o gyllid grant gan Lywodraeth y DU ar gyfer saith prosiect cyfalaf i wella balchder bro a’r amgylchedd naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.

Yn rhan o'r gwaith gwella ehangach i bromenâd a pharth cyhoeddus y Rhyl, cynigiodd y Cyngor y syniad o gyflwyno parc poced ac ymgynghorodd â thrigolion y llynedd.

Cafodd y cynigion ar gyfer y safle eu llunio gan waith ehangach ‘Gweledigaeth y Rhyl’, a oedd yn tynnu sylw at bwysigrwydd amgylchedd o ansawdd uchel i’r dref, a’r Rhyl yw un o’r mannau â’r lefelau isaf o orchudd canopi coed yng Nghymru.

Rhoddwyd ystyriaeth ychwanegol i sut y bydd y gofod yn cael ei ddefnyddio a’i ofalu amdano yn yr hirdymor. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i sicrhau bod dyluniad y parc poced yn amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb.

Yn rhan o baratoi'r cam nesaf, bydd tu mewn yr adeiladau'n cael ei glirio'n ddiogel cyn i unrhyw waith dymchwel ddechrau. Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ddydd Mercher 17 Mehefin.

Bydd y cam nesaf yn cynnwys penodi contractwr dymchwel, ac mae'r broses hon bellach yn cael ei pharatoi. Cynlluniwyd i’r gwaith dymchwel a'r prif waith adeiladu ddechrau ar ôl cyfnod yr haf, er mwyn lleihau unrhyw darfu ar fusnesau lleol, ymwelwyr a thraffig dros fisoedd yr haf.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r prosiect hwn yn rhan o’r gwaith ehangach i gefnogi gwaith adfywio parhaus yn y Rhyl. Mae'r lleoliad yn borth allweddol i'r Rhyl, ac mae symud a disodli hen adeilad adfeiliedig â man gwyrdd deniadol a hygyrch yn rhan o’r cynlluniau.

“Bydd y Cyngor yn parhau i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf wrth i’r prosiect fynd rhagddo ac mae’n annog trigolion a busnesau i ddilyn sianeli swyddogol i gael y wybodaeth ddiweddaraf”.

(Parc Poced Porth y Rhyl yn y nos)

Pobl ifanc yn cael eu cefnogi drwy raglen SKITTLES

Mae prosiect partneriaeth unigryw yn helpu pobl ifanc ledled Sir Ddinbych i feithrin hyder, ennill cymwysterau a datblygu sgiliau bywyd cadarnhaol drwy raglen ddatblygu bersonol arloesol chwe wythnos.

Mae prosiect SKITTLES, sy’n cael ei arwain gan Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych, yn cefnogi pobl ifanc 16 - 18 oed o bob rhan o’r sir sy’n profi digartrefedd, sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, yn ymddieithrio oddi wrth addysg, neu sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r system cyfiawnder troseddol.

Caiff y rhaglen ei darparu mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan a Sir Ddinbych yn Gweithio. Mae’n rhoi cyfle i hyd at 12 o bobl ifanc ennill cymwysterau gwerthfawr, profiad ymarferol a mwy o hyder ynddynt eu hunain.

Dros gyfnod o chwe wythnos, mae’r cyfranogwyr yn gweithio gyda’i gilydd fel tîm wrth gwblhau amrywiaeth o gyrsiau a gweithgareddau achrededig. Mae’r rhain yn cynnwys cymhwyster Hylendid Bwyd Lefel 2 a ddarperir drwy Sir Ddinbych yn Gweithio, cymhwyster Cymorth Cyntaf Sylfaenol Lefel 3 a ddarperir gan Gymdeithas Ambiwlans Sant Ioan, a chymhwyster Agored Lefel 1 sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau tân ac egwyddorion diogelwch tân drwy raglen Phoenix Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys sesiynau ar berthnasoedd iach, gweithgareddau adeiladu tîm a phrosiectau cymunedol, gan helpu pobl ifanc i ddeall yn well effaith a chanlyniadau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae dau Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu wedi’u hymgorffori yn y rhaglen i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol drwyddi draw.

Fel rhan o’r rhaglen ddiweddaraf, cwblhaodd y grŵp brosiect cymunedol yng ngorsaf VIBE newydd gyda Sir Ddinbych yn Gweithio, gan helpu i adael cyfraniad cadarnhaol a pharhaol er budd eraill yn y dyfodol.

Daeth y rhaglen i ben gyda digwyddiad dathlu arbennig yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, lle derbyniodd y cyfranogwyr dystysgrifau o flaen aelodau eu teuluoedd, gofalwyr, cynghorwyr a chynrychiolwyr yr Awdurdod Tân.

Dywedodd Jo-anne Seddon, Gweithiwr Ymyrraeth wedi’i Thargedu ar gyfer Digartrefedd yng Nghyngor Sir Ddinbych: “Mae prosiect SKITTLES yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc na fyddent efallai byth yn eu cael fel arall. Mae’n ymwneud â llawer mwy na chymwysterau yn unig – mae’n eu helpu i ddatblygu hyder, gwydnwch, gweithio mewn tîm ac ymddiriedaeth, gan roi’r gefnogaeth a’r anogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud dewisiadau cadarnhaol ar gyfer eu dyfodol.

“Mae’r gwaith partneriaeth sy’n rhan o’r rhaglen hon yn wych ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau’n dod ynghyd i gefnogi pobl ifanc yn ein cymunedau.”

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Addysg, Plant a Theuluoedd: “Mae hon yn rhaglen ysbrydoledig sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc ledled Sir Ddinbych.

“Mae prosiect SKITTLES yn rhoi sgiliau ymarferol, cymwysterau cydnabyddedig a phrofiadau bywyd gwerthfawr i’r cyfranogwyr, tra hefyd yn eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu cynnwys a’u gwerthfawrogi. Hoffwn ddiolch i’r holl bartneriaid sy’n rhan o’r gwaith am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial.”

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am brosiect SKITTLES, cysylltwch â Jo-anne Seddon drwy e-bost: Jo-anne.seddon@sirddinbych.gov.uk.

Pwyntiau Siarad Sir Ddinbych i gynnwys sesiynau galw heibio i ofalwyr di-dâl fel rhan o Wythnos Gofalwyr

Bydd Pwyntiau Siarad o amgylch Sir Ddinbych yn cynnwys sesiynau galw heibio i ofalwyr di-dâl Sir Ddinbych drwy gydol Wythnos Gofalwyr yr wythnos hon, gydag aseswyr gofalwyr yn mynychu sesiynau Pwyntiau Siarad yn ystod yr wythnos ymwybyddiaeth.

Mae'r gefnogaeth a gynigir gan wasanaeth Pwyntiau Siarad drwy Lywiwyr Cymunedol y Groes Goch Brydeinig yn eang ei chyrhaeddiad, ac mae paru hyn â chymorth a chyngor gan aseswyr gofalwyr yn caniatáu i ofalwyr di-dâl gael cefnogaeth ar ystod eang o bynciau.

Dyma leoliadau ac amseroedd y Pwyntiau Siarad:

Bob dydd Llun (ac eithrio gwyliau banc) - Llyfrgell Llanelwy, 10:00am – 12.30pm

Bob dydd Mawrth - Llyfrgell y Rhyl a Llyfrgell Rhuthun, 10:00am – 12.30pm

Bob dydd Mercher - Llyfrgell Dinbych a Llyfrgell Corwen, 10:00am – 12.30pm

Bob dydd Iau - Llyfrgell Llangollen, 10:00am – 12.30pm

Bob dydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc) - Llyfrgell Prestatyn a Llyfrgell Rhuddlan, 10:00am – 12.30pm

Bydd y sesiynau hyn yn caniatáu i ofalwyr di-dâl ddysgu am y gefnogaeth sydd ar gael yn eu hardaloedd lleol, heb orfod teithio ar draws y sir i gael mynediad at gefnogaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Nid yw gofalu am anwylyd bob amser yn hawdd, a dyna pam ei bod hi’n bwysig bod gofalwyr yn gwybod at ble y gallant droi am gefnogaeth.

Yn ystod Wythnos Gofalwyr, byddwn yn annog unrhyw un sy’n gofalu am aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog i alw heibio i un o’r sesiynau hyn a darganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael ledled Sir Ddinbych.”

Cartref Gofal Dolwen yn dathlu 60 mlynedd

Ddydd Llun (1 Mehefin), dathlodd cartref gofal Dolwen yn Ninbych 60 mlynedd ers ei sefydlu ac yr oedd digwyddiad i ddathlu i staff presennol a chyn-aelodau staff, preswylwyr a'u teuluoedd, ac ymwelwyr.

Agorodd y cartref gofal 32 ystafell wely sy’n cael ei redeg gan y Cyngor ei ddrysau am y tro cyntaf ar 1 Mehefin 1966.

I goffáu’r garreg filltir, gosodwyd nodwedd ddŵr yn yr ardal awyr agored ger mynedfa'r cartref. Roedd baneri a pharasolau yn addurno'r ardal awyr agored, ac yr oedd balŵns, posteri a baneri yn addurno y tu mewn i'r cartref.

Mae'r nodwedd ddŵr goffa sydd newydd ei gosod gyferbyn â chloc haul, a osodwyd i ddathlu hanner can mlwyddiant y cartref.

Ymwelodd disgyblion o'r ysgol leol Twm o'r Nant â’r cartref a gafodd gyfle i weld perfformiadau cerddorol drwy gydol y prynhawn.

Dywedodd Pamela Pack, Rheolwr Cartref Gofal Dolwen:

“Mae’r cartref gofal hwn yn golygu llawer i’r staff sy’n gweithio yma a’r preswylwyr sy’n byw yma. Roedd gallu dathlu 60 mlynedd o gartref gofal Dolwen yng nghwmni preswylwyr, eu teuluoedd a staff presennol a chyn-aelodau staff yn wych.

Mae gennym ni aelod o staff sydd wedi bod yma ers tua 40 o flynyddoedd, ac un arall sydd wedi bod yn gweithio yma ers 23 o flynyddoedd. Mae gennym ni breswylydd sydd wedi byw yn Nolwen ers bron i 15 mlynedd hefyd. Mae gallu dathlu’r garreg filltir hon gyda nhw yn golygu llawer iawn.

Hoffwn ddiolch i bawb a ddaeth draw am helpu i wneud y diwrnod yn un arbennig.”

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Agorodd Dolwen yn 1966 ac mae wedi bod yn rhan annatod o’r gymuned yn Ninbych a’r cyffiniau ers degawdau, ac mae wedi dod yn gartref i’r unigolion sy’n byw yno.

Rwy'n falch iawn o'r staff gweithgar sy'n gweithio yn Nolwen, maen nhw'n helpu i sicrhau amgylchedd cynnes a chartrefol i'r preswylwyr.”

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae dathlu 60 mlynedd o gartref gofal Dolwen yn gyflawniad enfawr. Hoffwn longyfarch y staff a’r preswylwyr ar y garreg filltir hon.

Mae gan y cartref awyrgylch hyfryd a gofalgar, ac mae hynny oherwydd degawdau o waith caled ac ymroddiad.”

Tîm priffyrdd yn cael cefnogaeth cerbyd mwy gwyrdd

Mae Adran Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi gweithio i gaffael cerbyd Priffyrdd newydd i helpu i gefnogi gwaith mawr gan staff yn yr adran yn well mewn modd mwy effeithlon a hirdymor i arbed costau.

Mae cerbyd newydd yn helpu i gyflawni gwaith priffyrdd mawr ar draws Sir Ddinbych a siroedd cyfagos.

Mae Adran Fflyd Cyngor Sir Ddinbych wedi gweithio i gaffael cerbyd Priffyrdd newydd i helpu i gefnogi gwaith mawr gan staff yn yr adran yn well mewn modd mwy effeithlon a hirdymor i arbed costau.

Mae gan yr adran bellach fynediad at Citroën Ë-C5 Aircross sy'n darparu dros 400 o filltiroedd, sy’n cynnig arbedion hirdymor ar gostau rhedeg ac ôl troed carbon is o ganlyniad i’r ffaith nad oes allyriadau yn dod o’r bibell mwg.  Mae hwn wedi dod yn lle cerbyd Priffyrdd sy'n cael ei bweru gan danwydd ffosil sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes.

Yr Adran Briffyrdd sy’n gyfrifol am gynnal a chadw ac atgyweirio 1,400 cilomedr o ffyrdd yn Sir Ddinbych. Mae staff yn cynnal rhaglen wedi ei chynllunio o waith i gynnal a gwella ffyrdd y sir, sy’n amrywio o atgyweirio tyllau i gynlluniau mawr i roi wyneb newydd ar ffyrdd.

Bydd y cerbyd hwn yn cael ei ddefnyddio gan dîm prosiectau mawr yr adran Briffyrdd i fynd i gyfarfodydd, ymweld â safleoedd ar gyfer arolygon ac archwiliadau, a goruchwylio gwaith adeiladu.

Bu i Gyngor Sir Ddinbych ddatgan argyfwng hinsawdd ac argyfwng ecolegol yn 2019 ac ers hynny mae wedi symud i ddefnyddio cerbydau di-allyriadau yn ei fflyd. Ar hyn o bryd, mae dros 20% o’r cerbydau yn ei fflyd yn gerbydau di-allyriadau.

Wrth i’r cerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil gyrraedd diwedd eu hoes, mae Adran Fflyd y Cyngor wedi bod yn cyflwyno rhai trydan, gyda chefnogaeth sylweddol gan adrannau Llywodraethau Cymru a’r DU, er mwyn helpu i gwtogi ar yr allyriadau a gynhyrchir a lleihau costau hirdymor o ran milltiroedd a chynnal a chadw ar draws yr holl wasanaethau y mae ein fflyd yn eu cyflenwi ac i leihau’r ddibyniaeth ar gerbydau gydag injan diesel neu betrol.

Mae staff y Cyngor sy’n defnyddio cerbydau trydan hefyd yn cymryd rhan mewn pecyn hyfforddi gan yr Adran Fflyd, sy’n cynnwys sut i ddefnyddio isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn ddiogel ac yn effeithlon, gwneud defnydd o systemau brecio atgynhyrchiol, a phryd i ddewis ‘dull gyrru’ yn seiliedig ar yr amodau neu lwythi.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Bydd yr ychwanegiad hwn at y tîm prosiectau mawr yn eu helpu nhw i gyflawni eu gwaith a sicrhau costau hirdymor is ar gyfer milltiroedd a gwaith cynnal a chadw rheolaidd.”

 

 

 

Glanhau sbwriel morol o draeth y Rhyl

Llenwyd naw bag o sbwriel morol yn ystod sesiwn gasglu sbwriel mewn ardal boblogaidd o draeth y Rhyl

Llenwyd naw bag o sbwriel morol yn ystod sesiwn gasglu sbwriel mewn ardal boblogaidd o draeth y Rhyl.

Ar ôl ymdrin â’r traethau ger maes parcio Dwyrain Nova a thraeth Barkby ym Mhrestatyn, trefnodd Dîm Perygl Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych ddigwyddiad ar gyfer ardaloedd arfordirol o gwmpas Pafiliwn y Rhyl.

Gall sbwriel morol greu rhwystrau mewn dyfrffyrdd a draeniau, gan atal llif y dŵr, gan arwain at fwy o berygl o lifogydd yn lleol yn bellach i fyny’r afon.

Mae casglu sbwriel morol o’r traethau yn cefnogi amddiffynfeydd naturiol gan y gall traethliniau, twyni a dolydd morwellt gynnal eu swyddogaeth naturiol fel amddiffynfeydd yn erbyn y môr.

Bu tîm o 10, oedd yn cynnwys gwirfoddolwyr, Cadwch Gymru'n Daclus a’r tîm risg llifogydd, yn gweithio i lenwi naw bag o sbwriel. Roedd nifer yn cynnwys caniau diodydd ac fe wnaethant hyd yn oed glirio tarpolin oddi ar y traeth. 

Cafodd y digwyddiad yn y Rhyl ei gefnogi hefyd gan Cadwch Gymru’n Daclus a bu iddynt ddarparu rhywfaint o’r offer casglu sbwriel.

Meddai Claudia Smith, Swyddog Erydu Arfordirol a Pherygl Llifogydd: “Rydym wedi cael ymateb mor arbennig eto gan wirfoddolwyr sydd wedi ymroi i wneud gwahaniaeth i draethau’r ardal yma.  Drwy ymdrechion pawb, bydd llai o berygl o lifogydd lleol a difrod i'r amgylchedd a bywyd gwyllt morol hefyd ar ôl casglu’r sbwriel.

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd:  “Mae’r grŵp ymroddedig yma wedi gwneud gwahaniaeth mawr i leihau sbwriel morol ym Mhrestatyn ac mae’n wych eu gweld nhw’n mynd i’r afael ag ardal y traeth ger Pafiliwn y Rhyl.  Mae angen i ni barhau i reoli’r perygl o lifogydd lleol oherwydd sbwriel morol yn golchi i fyny ar ein traethau sy’n gwanhau’r amddiffyniad rhag llifogydd.”

Tynnu sylw at system atal llifogydd arfordirol

Mae arwyddion newydd yn mynd i gael eu gosod er mwyn tynnu sylw’n well at system giatiau llifogydd arfordirol y Cyngor.

Mae arwyddion newydd yn mynd i gael eu gosod er mwyn tynnu sylw’n well at system giatiau llifogydd arfordirol y Cyngor.

Mae tîm Atal Risg Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych yn gosod arwyddion newydd ar giatiau llifogydd o’r Rhyl i Brestatyn er mwyn helpu’r cyhoedd i ddeall swyddogaeth y system.

Mae’r giatiau llifogydd arfordirol ar hyd cynllun amddiffynfeydd Prestatyn a’r Rhyl yn cael eu defnyddio i selio ardaloedd o amddiffynfeydd y môr sydd yn is er mwyn galluogi mynediad cyhoeddus i’n traethau. 

Mae’r giatiau yn gweithredu fel gorchuddion dros dro y gellir eu symud sydd wedi’u dylunio i atal llif dŵr o ymchwyddiadau stormydd, llanw uchel a llifogydd rhag effeithio ar gartrefi, busnesau a seilwaith arfordirol diamddiffyn sydd y tu ôl i’r amddiffynfeydd llifogydd ehangach. 

Mae rhai o giatiau llifogydd arfordirol Sir Ddinbych yn cael eu cau dros fisoedd y gaeaf oherwydd risg uwch o dywydd gwael. Serch hynny, dim ond pan fydd stormydd yn y rhagolygon tywydd a allai effeithio ar gymunedau ger y môr yn y Rhyl a Phrestatyn y mae giatiau llifogydd eraill yn cael eu cau.

Mae’r Cyngor hefyd yn gweithredu giatiau llifogydd sydd ar gau’n barhaol yn Arena Digwyddiadau y Rhyl, ac fe ellir eu hagor i gael mynediad ar frys i’r prom.

Mae’r tîm risg llifogydd wedi creu arwyddion newydd a fydd yn cael eu gosod fis nesaf i helpu preswylwyr lleol ac ymwelwyr i ddeall swyddogaeth y giatiau’n well i gefnogi pobl sydd yn defnyddio’r promenâd.  

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Roeddem eisiau ei gwneud hi’n glir i breswylwyr sy’n byw ger yr arfordir ac ymwelwyr â’r Rhyl a Phrestatyn sut mae’r system giatiau llifogydd yn gweithredu gan ein bod yn gwybod bod rhai wedi bod yn holi pam fod rhai giatiau ar gau ers nifer o fisoedd. 

“Ar ôl iddynt gael eu gosod, gobeithio y bydd yr arwyddion newydd yn helpu’r rhai sy’n byw ger yr arfordir neu breswylwyr ac ymwelwyr sy’n dod i ddefnyddio’r prom rhwng y Rhyl a Phrestatyn i ddeall swyddogaeth y giatiau’n well, a’u helpu i flaengynllunio tra’u bod yn cerdded ar hyd yr arfordir.”

Bydd rhagor o wybodaeth am y system giatiau llifogydd yn cael ei chyhoeddi dros yr haf ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.  I gael mwy o wybodaeth am risg llifogydd, ewch yma.

 

 

 

 

Hyfforddiant teithio ar fws am ddim yn helpu disgyblion i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl ysgol

Mae gwasanaeth lles Sir Ddinbych yn Gweithio, Prosiect Barod, yn gweithio mewn partneriaeth gyda Bysiau Arriva Cymru i gyflwyno hyfforddiant teithio ar fws am ddim i ddisgyblion Blwyddyn 11 ar draws Sir Ddinbych, gan helpu pobl ifanc i fagu hyder ac annibyniaeth wrth iddynt baratoi i symud ymlaen i goleg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

 Mae’r rhaglen yn ffurfio rhan o gefnogaeth ehangach Sir Ddinbych yn Gweithio i bobl ifanc, gan eu helpu i ddatblygu’r sgiliau, hyder ac annibyniaeth sydd ei angen i gymryd eu camau nesaf.

Mae’r fenter yn cefnogi disgyblion sydd wedi cael eu hatgyfeirio ar gyfer cefnogaeth lles a gwytnwch gan eu hysgolion. Mae’n dod â phobl ifanc o sawl ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych ynghyd i gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol i fagu hyder sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio cludiant cyhoeddus yn ddiogel ac yn annibynnol.  Cynhelir dwy sesiwn ym mis Ebrill, ac mae sesiynau pellach wedi’u trefnu yn nes ymlaen yn y flwyddyn. 

Nod y rhaglen, gyda chynllun Ymyrraeth Gynnar Prosiect Barod, yw lleihau pryder mewn cysylltiad â theithio a chael gwared ar rwystrau y gallai pobl ifanc fod yn eu hwynebu ar ôl gadael ysgol. Mae gallu teithio’n annibynnol yn gam hollbwysig tuag at allu manteisio ar gyfleoedd addysg bellach, hyfforddiant a  gwaith. Trwy’r ymagwedd yma, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn helpu i fynd i’r afael â rhwystrau ymarferol ac emosiynol i ddatblygu, gan gefnogi pobl ifanc i symud ymlaen gyda mwy o hyder.

Mae Bysiau Arriva Cymru yn cyflwyno’r sesiynau yn rhad ac am ddim yn rhan o’i ymrwymiad i werth cymdeithasol, gan ddangos ei ymrwymiad i gefnogi pobl ifanc a chymunedau ar hyd a lled Sir Ddinbych.

Mae pob sesiwn yn cynnwys gweithdy byr i grŵp sy’n cael ei gyflwyno yn y gymuned. Mae pobl ifanc yn dysgu beth i’w ddisgwyl tra’n teithio ar fws, sut i gynllunio siwrneiau, darllen amserlenni, deall llwybrau a phrynu tocynnau. Mae’r sesiynau hefyd yn ymdrin â diogelwch bysiau, ymddygiad priodol, beth i’w wneud os aiff rhywbeth o’i le, ac o ble i gael cymorth os ydynt yn teimlo’n ansicr.

Mae staff Arriva hefyd yn cefnogi cyfranogwyr i osod ap teithio ar fysiau Llywodraeth Cymru ar eu ffôn sy’n darparu mynediad i deithio ar fysiau ar draws Cymru am £1.

Yna mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd i ymgyfarwyddo â bod ar fws, gan roi cyfle iddynt fynd ar fws, cyfarfod a siarad â’r gyrrwr, a dod yn gyfforddus â chynllun a’r amgylchedd cyn teithio'n annibynnol.

Mae’r cydweithio yma’n helpu i sicrhau bod sgiliau teithio ymarferol yn cael eu datblygu ochr yn ochr â chefnogaeth emosiynol a lles, gan roi’r hyder sydd ei angen ar bobl ifanc i gymryd eu camau nesaf.

Meddai Jen Dutton, Arweinydd Lles a Gwytnwch yn Sir Ddinbych yn Gweithio:

“I nifer o bobl ifanc, mae symud o’r ysgol i’r cam nesaf yn gallu teimlo’n llethol, yn enwedig os ydi arferion bob dydd megis teithio’n annibynnol yn achosi gorbryder.  Yn Barod, rydym ni’n canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i deimlo’n barod yn emosiynol ar gyfer y newid hwnnw.  Mae gweithio gydag Arriva yn galluogi i ni gyfuno cefnogaeth lles gyda sgiliau ymarferol, gan roi’r hyder sydd ei angen ar bobl ifanc i symud ymlaen.”

Meddai Neil Atherton, Cydlynydd Gwerthoedd Cymdeithasol gyda Bysiau Arriva Cymru:

“Gall mynd ar fws deimlo fel rhywbeth bach, ond i rai pobl ifanc gall deimlo fel cam enfawr. Mae’r sesiynau yma’n ymwneud â thorri hynny i lawr, gan ddangos iddynt beth i’w ddisgwyl a rhoi’r hyder iddynt roi cynnig arni. Unwaith y byddant wedi cael eu cefnogi i wneud hyn, fe allwch chi wir weld y gwahaniaeth. Mae’r bobl ifanc yn mynd o deimlo wedi’u gorlethu ac ar goll, i weld eu bod nhw’n gallu gwneud hyn a sylweddoli sut mae hynny’n agor cymaint o gyfleoedd iddyn nhw. Yn Arriva, rydym ni yma i sicrhau bod pobl yn gallu gwneud mwy na mynd o A i B. Rydym ni eisiau i bobl ifanc deimlo’n hyderus yn defnyddio’r bws am oes, boed hynny er mwyn cyrraedd y coleg, mynd i’r gwaith neu weld ffrindiau. Y mwyaf o bobl sy’n dewis y bws, y gorau ydyw i’n cymunedau ac i’r amgylchedd, felly mae helpu pobl ifanc i fagu yr hyder yna’n bwysig iawn."

Fe bwysleisiodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r bartneriaeth hon yn dangos gwerth cydweithio ar draws Sir Ddinbych.  Trwy Sir Ddinbych yn Gweithio ac Arriva, rydym ni’n cefnogi pobl ifanc i fagu hyder, annibyniaeth a’r sgiliau sydd ei angen arnynt i symud ymlaen."

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen, neu i drefnu atgyfeiriad, cysylltwch â thîm Sir Ddinbych yn Gweithio ar 01745 331438 neu sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk. Mae manylion sesiynau sydd ar ddod a gwybodaeth archebu hefyd ar gael drwy Eventbrite.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU a sawl rhaglen arall, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru-DU, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a Chysylltu â Gwaith.

£45m i'r rhanbarth drwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i gefnogi trigolion bregus

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BPRhGC) wedi helpu i sicrhau buddsoddiad cyfalaf gwerth mwy na £45 miliwn i wella gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a thai ar draws y rhanbarth, gan gefnogi rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yng Ngogledd Cymru.

Gan weithio gyda phartneriaid ledled Gogledd Cymru, mae'r rhaglen hon wedi cyflawni prosiectau sy'n helpu pobl i fyw bywyd iachach a mwy annibynnol, a chryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer grwpiau agored i niwed fel pobl hŷn, plant ag anghenion cymhleth, pobl ag anableddau dysgu a'r rhai sy'n byw gyda dementia. Rhan allweddol o'r gwaith hwn yw datblygu canolfannau cymunedol lle mae gwasanaethau iechyd, gofal a chymorth yn cael eu darparu mewn un lle, gan ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at gymorth a lleihau'r pwysau ar ysbytai a gwasanaethau eraill.

Mae Canolfan Glanhwfa yn Llangefni, Ynys Môn wedi'i thrawsnewid yn ganolfan gymunedol fywiog sy'n cynnig cefnogaeth i bobl hŷn, gwasanaethau dementia, a gweithgareddau i deuluoedd a phobl ifanc. Mae'r datblygiad yn dod â nifer o wasanaethau o dan yr un to ac yn cynnig lle croesawgar yng nghanol y gymuned, gan ddangos yr effaith y mae'r cyllid hwn wedi'i chael.

Mae prosiectau mawr eraill yng Ngogledd Cymru yn cynnwys:

  • Canolfan Asesu Plant Bwthyn y Ddôl, sy'n cynnig cefnogaeth arbenigol i blant ag anghenion cymhleth (llun o agoriad swyddogol fis Chwefror isod)
  • Tŷ Croes Atti, cyfleuster gofal preswyl 56 gwely a ddarperir gan awdurdodau lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac sy'n cynnig llety o ansawdd uchel a chymorth arbenigol ar gyfer dementia
  • Coed y Ddraig yn Sir y Fflint, canolfan gymunedol bwrpasol sy'n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu, awtistiaeth ac anghenion iechyd meddwl

Bwthyn y Ddôl

Mae cyllid hefyd wedi cynorthwyo canolfannau teulu, cartrefi plant, gwasanaethau seibiant a chynlluniau byw â chymorth ledled Gogledd Cymru.

Mae'r prosiectau'n cael eu hariannu drwy gyfuniad o raglenni cyfalaf Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso (IRCF) a'r Gronfa Iechyd a Gofal (HCF), ochr yn ochr â buddsoddiad gan awdurdodau lleol a phartneriaethau.

Dywedodd Dilwyn Morgan, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru:

“Mae cyllid buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru drwy raglenni cyfalaf IRCF a HCF wedi ein galluogi i weithio gyda phartneriaid ledled y rhanbarth i ddatblygu cyfleusterau sy'n wir adlewyrchu angen lleol. O ganolfannau cymunedol integredig i ddarpariaeth arbenigol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a dementia, mae'r buddsoddiad cyfalaf hwn yn cryfhau gwasanaethau ac yn helpu rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol.”

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn dwyn ynghyd y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), a phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol i wella lles a sicrhau bod gwasanaethau'n bodloni anghenion lleol. Drwy ei raglen gyfalaf, mae'r Bwrdd wedi gweithio gyda phartneriaid ledled y rhanbarth i ddarparu cyfleusterau modern, sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sy'n helpu pobl i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gogledd Cymru:

Digwyddiad galw heibio am ddim i ofalwyr yn Ninbych i arddangos y cymorth sydd ar gael

Gwahoddir gofalwyr ledled Sir Ddinbych i fynychu digwyddiad galw heibio am ddim ‘Coffi, Cacen a Sgwrs i Ofalwyr’ yn HWB Dinbych ddydd Llun, 8 Mehefin, rhwng 1pm a 3pm, gan gynnig cyfle gwerthfawr i gysylltu, sgwrsio a darganfod yr ystod eang o wasanaethau cymorth sydd ar gael yn lleol.

Mae'r digwyddiad ar agor i unrhyw un mewn rôl ofalu, gan gynnwys gwirfoddolwyr, y rhai sy'n cefnogi aelodau'r teulu neu ffrindiau, a phobl sy'n gweithio yn y sector gofal.  P'un a yw rhywun yn newydd i ofalu neu â blynyddoedd o brofiad, nod y sesiwn yw darparu gwybodaeth, canllawiau a chymorth defnyddiol mewn lleoliad hamddenol.

Bydd cyfle gan y rhai sy'n mynychu i gysylltu â nifer o sefydliadau sy'n cynnig cyngor a gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys NEWCIS, Cymru Gynnes, gwasanaethau cymorth lles, Fy Nghartref Sir Ddinbych, a sefydliadau lleol eraill.

Wedi'i gynllunio fel sesiwn galw heibio anffurfiol, gall pobl ddod draw ar amser sy'n addas iddynt, cael sgwrs gyda gweithwyr proffesiynol, a dysgu am y cymorth ymarferol sydd ar gael, o gyngor ariannol a chymorth rheoli amser i adnoddau lles a chanllawiau tai.

Gall cefnogaeth fel hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Daeth Courtney, 25, i Sir Ddinbych yn Gweithio wrth gydbwyso chwilio am swydd â gofalu am ei mab, sydd ag awtistiaeth. Gyda'r gefnogaeth gywir, fe wnaeth hi feithrin ei hyder, cwblhau hyfforddiant, a sicrhau lleoliad gwaith mewn ysgol leol, gan ddangos sut y gall mynediad at y cymorth cywir agor cyfleoedd newydd.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

"Rydym yn gwybod nad yw llawer o ofalwyr bob amser yn gweld eu hunain fel gofalwyr, ac o ganlyniad efallai nad ydynt yn sylweddoli pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt.  Mae'r digwyddiad hwn yn ymwneud â chreu lle cyfeillgar, anffurfiol lle gall pobl ddod draw, cael sgwrs, a darganfod pa gymorth sydd ar gael.  Gall hyd yn oed y mymryn leiaf o gefnogaeth wneud gwahaniaeth mawr."

Ychwanegodd Zienna-Lynn Teece-Lockley, Mentor Cyflogaeth Cymunedol:
"Mae gofalwyr yn hanfodol yn ein cymunedau, gan roi eraill yn gyntaf yn aml.   Fel mentor sy'n arbenigo mewn cefnogi gofalwyr, rwy'n teimlo bod y digwyddiad hwn yn gyfle gwych iddynt gymryd peth amser iddynt eu hunain, darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael, a gwneud cysylltiadau â sefydliadau a all helpu i wneud eu rôl ychydig yn haws."

Nid oes angen archebu gan y gall trigolion alw heibio i HWB Dinbych rhwng 1pm a 3pm ar 8 Mehefin.

Mae cefnogaeth Sir Ddinbych yn Gweithio am ddim, ac ar gael i unrhyw un 16+ oed sy’n byw yn Sir Ddinbych sy’n dymuno cymorth i symud ymlaen.

Gall preswylwyr ddysgu mwy ar: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/swyddi-a-gweithwyr/sir-ddinbych-yn-gweithio/sir-ddinbych-yn-gweithio.aspxe

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU a sawl rhaglen arall, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru-DU sy’n targedu anweithgarwch economaidd, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a Chysylltu â Gwaith.

Lansio llwyddiannus Gorsaf VIBE yn nodi dechrau cynnig cymorth newydd yn Y Rhyl

Mae gwaith lansio Gorsaf VIBE gan Sir Ddinbych yn Gweithio wedi dod â phreswylwyr, partneriaid a gwasanaethau at ei gilydd ar gyfer diwrnod a oedd yn canolbwyntio ar les, cymorth a chyfleoedd.

Wedi’i gynnal ar 29 Mai yn Y Rhyl, fe groesawodd y digwyddiad dros 120 o fynychwyr, gan gynnwys cynghorwyr lleol, sefydliadau partner a gwasanaethau cymunedol, i gyd yn dod at ei gilydd i brofi’r lle newydd a’r hyn sydd i’w gynnig.

Mae Gorsaf VIBE wedi’i datblygu fel lle gall pobl gael mynediad at gymorth ar unrhyw gam o’u taith, gan ganolbwyntio ar les, hyder a chynnydd tuag at gyflogaeth. Roedd y lansiad yn nodi dechrau’r dull newydd hwn, gan ddangos sut y bydd yr orsaf yn dod â gwasanaethau ynghyd mewn un lleoliad hygyrch a chroesawgar.

Drwy gydol y diwrnod, cafodd ymwelwyr gyfle i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau, gan gynnwys y cyfle i helpu i greu fersiwn LEGO o bont enwog Claude Monet, Bridge over a Pond of Water Lilies, a fydd yn cael ei harddangos yng Ngorsaf VIBE, yn ogystal â sesiynau peintio “Parod, Cyson, Crefft” a chornel gofnodi yn cyflwyno ffyrdd syml y gall cadw dyddiadur gefnogi lles a hunan-fyfyrdod.

Gwnaeth y digwyddiad hefyd dynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth, gan annog sefydliadau i archwilio cyfleoedd i ddarparu gwasanaethau, gweithgareddau a chymorth o’r lle hwn fel rhan o’i rôl fel Sylfaen Integredig Weledol ar gyfer Cyflogaeth.

Dywedodd Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol:
“Mae’r ymateb i Orsaf VIBE wedi bod yn eithriadol, gyda nifer gwych o bobl yn bresennol ac adborth cadarnhaol dros ben o’r diwrnod cyntaf. Mae’r lansiad wedi bod yn gam cyntaf hanfodol wrth gyflwyno lle sy’n canolbwyntio ar les fel rhan o’r daith tuag at gyflogaeth. Mae’n amlwg bod diddordeb cryf gan breswylwyr a phartneriaid, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu’r cynnig a chefnogi pobl i symud ymlaen ar eu cyflymder eu hunain.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae lansio Gorsaf VIBE yn garreg filltir bwysig i’r Rhyl ac i Sir Ddinbych. Mae’n dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn pobl a chreu cymorth hygyrch yn y gymuned. Dim ond y dechrau yw hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y lle hwn yn ei chael wrth iddo ddatblygu.”

Bydd Gorsaf VIBE bellach yn dechrau ar ei rhaglen weithgareddau parhaus, gan gynnig mynediad i breswylwyr at gymorth lles, cyfleoedd hyfforddi ac arweiniad un-i-un.

Anogir partneriaid a sefydliadau i barhau i ymgysylltu â Sir Ddinbych yn Gweithio i archwilio sut y gallant fod yn rhan o Orsaf VIBE a chyfrannu at ddull mwy unedig o ddarparu cymorth ar draws y gymuned.

Mae cefnogaeth un i un Sir Ddinbych yn Gweithio am ddim, ac ar gael i unrhyw un 16+ oed sy’n byw yn Sir Ddinbych sy’n dymuno cymorth i symud ymlaen.

Gall preswylwyr ddysgu mwy ar ein gwefan.  

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU a sawl rhaglen arall, gan gynnwys Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, menter Trailblazer Cymru-DU sy’n targedu anweithgarwch economaidd, Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU (UKSPF), a Chysylltu â Gwaith.

Cartref Gofal Dolwen yn cael sgoriau 'da' yn adroddiad arolygu AGC

Mae adroddiad arolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar Gartref Gofal preswyl Dolwen yn Ninbych wedi cael sgoriau ‘da’ ym mhob un o’r pedwar maen prawf.

Cafodd y cartref gofal, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Dinbych, ei arolygiad mwyaf diweddar ym mis Rhagfyr.

Nododd crynodeb yr arolwg fod staff yn “darparu gofal a chymorth o ansawdd da, gan annog y bobl i gynnal cymaint o annibyniaeth â phosibl” ac yr oedd yn cydnabod bod pobl “yn byw mewn gwasanaeth sy’n gartrefol ac yn gyfforddus ac yn darparu mynediad da at gyfarpar arbenigol sy’n diwallu eu hanghenion.” Roedd crynodeb yr arolwg hefyd yn nodi: “Mae'r rheolwr a'r unigolyn cyfrifol yn hawdd mynd atynt ac yn gyfeillgar, ac maent yn sicrhau eu bod yn gwrando ar y bobl ac yn eu trin ag urddas a pharch.”

O ran lles, sy'n un o'r pedwar maen prawf, cafodd y cartref gofal sgôr 'da', ac yr oedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod preswylwyr "yn cael cynnig dewisiadau cyson o ran gweithgareddau dyddiol ac maent yn cael cyfleoedd i gyrraedd eu potensial drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon" a bod y cartref "yn cynnig rhaglen amrywiol o weithgareddau".

Cafodd amgylchedd diogelu’r cartref ei ganmol hefyd, ac yr oedd yr adroddiad yn nodi bod preswylwyr “yn teimlo'n ddiogel o wybod na all unrhyw un gael mynediad i'r adeilad heb i'r staff gofal wybod pwy ydynt” a’u bod nhw hefyd “yn teimlo'n hyderus ac yn gyfforddus i godi unrhyw broblemau neu bryderon gyda'r staff gofal”.

Roedd yr adran hon yn yr adroddiad hefyd yn canmol natur agos-atoch y staff, a nododd yr arolygwyr bod “y rheolwr yn hawdd mynd ato, a nododd un person nad oes byth angen iddo siarad â'r rheolwr gan fod y staff gofal yn ymdrin yn effeithiol ag unrhyw broblemau sydd ganddo.”

Ar nodyn tebyg, nododd yr adroddiad fod ymwelwyr fel teulu neu ffrindiau preswylwyr wedi cael “croeso” a bod preswylwyr yn cael eu “hannog i ddatblygu ac i gynnal cydberthnasau sy'n bodoli eisoes â theulu, ffrindiau a phobl sy'n bwysig yn eu bywydau gymaint â phosib.”

Aeth yn ei flaen i nodi “dywedodd y perthnasau y gwnaethom siarad â nhw eu bod yn fodlon ar y gwasanaeth gan ddweud eu bod yn cael gwybodaeth reolaidd.”

Cafodd y gwasanaeth ei ganmol hefyd am gyflawni Cynnig Gweithredol Cymru, a disgrifiwyd bod y gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymraeg wedi’i “integreiddio'n llawn i'r gwasanaeth.”

O ran gofal a chymorth, cafodd y cartref gofal sgôr 'da'.

Nododd yr adroddiad fod “cynlluniau personol y bobl yn seiliedig ar gryfderau ac yn amlinellu sut y dylai'r staff eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau llesiant” sy’n cynnwys proffiliau "un dudalen manwl ar waith sy'n cofnodi eu hoff bethau, eu cas bethau, a gwybodaeth werthfawr i'r staff gofal wybod amdanynt yn glir.” Roedd yr adroddiad yn canmol y ffordd yr oedd y cartrefi gofal yn trin ac yn rhoi meddyginiaeth, a nododd bod “cofnod clir i olrhain effeithiolrwydd y feddyginiaeth hon ac unrhyw sgîl-effeithiau.”

Wrth asesu'r amgylchedd yn y cartref gofal, a gafodd sgôr 'da' hefyd, nododd yr adroddiad fod preswylwyr yn “byw mewn gwasanaeth cartrefol a chyfforddus ac mae amrywiaeth o ardaloedd gwahanol ar gael iddynt dreulio amser ar eu pen eu hunain, cymdeithasu neu ddiddanu ymwelwyr."

Gwnaeth yr adroddiad hefyd ganmol hygyrchedd yn yr ardal hon, a’r “amrywiaeth o gyfarpar arbenigol ar gael i'r bobl.” Aeth ymlaen i gynnwys canllawiau drwy’r cartref, yn ogystal â diogelwch yr adeilad ei hun.

Cafodd arweinyddiaeth a rheolaeth yn y cartref gofal sgôr ‘da’, ac mae’r adroddiad yn canmol y “prosesau archwilio effeithiol” o ran ansawdd y gofal. Tynnodd yr adroddiad sylw at y ffaith bod prosesau "dethol a fetio llym wrth gyflogi staff er mwyn sicrhau bod pob aelod o'r staff yn gymwysedig ac yn ddibynadwy.”

Aeth ymlaen i nodi bod staff wedi dweud eu bod nhw’n “teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda yn eu rolau a bod aelodau'r tîm rheoli yn hawdd mynd atynt ac yn rhagweithiol a bod ganddynt hyder ynddynt.”

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd:

“Mae staff cartref gofal Dolwen yn gweithio mor galed, ac rwy’n falch o weld hyn yn cael ei gydnabod yn yr adroddiad arolygu diweddaraf hwn gan AGC.”

Mae’n amlwg o'r adroddiad hwn pa mor gartrefol mae'r staff yn gwneud y cartref gofal hwn, a pha mor dda yw'r berthynas rhwng y staff a'r preswylwyr. Hoffwn ddiolch i’r staff sy’n gweithio’n ddiflino bob dydd am eu hymdrechion, sydd wedi’u cydnabod yn yr adroddiad hwn.”

Agor caban cymunedol newydd yn Ysgol Cefn Meiriadog

Mae’r gwaith o adeiladu eco-gaban cymunedol yn Ysgol Cefn Meiriadog wedi’i gwblhau bellach, ac mae’r adeilad yn gwbl weithredol ac yn cael ei ddefnyddio.

Wedi'i ariannu drwy’r fenter ysgolion bro gan Lywodraeth Cymru, fe ddechreuodd y gwaith o adeiladu’r caban yn gynharach eleni, ac mae’n cynnwys ardal gegin, toiled hygyrch a phrif ofod eang y gall yr ysgol a'r gymuned leol ei ddefnyddio.

Y Caban newydd wedi’i gwblhau

Mae gan y caban ôl troed 60 metr sgwâr ac mae’n ofod sy’n cefnogi ymgysylltu â theuluoedd, cydweithio gyda gwasanaethau eraill ac anghenion cymuned yr ysgol.  

Yn ogystal â’r caban, bydd paneli solar yn cael eu gosod ar do prif adeilad yr ysgol gan leihau effaith carbon y prosiect hwn. 

Meddai Laura Martin, Pennaeth Ysgol Cefn Meiriadog:

"Rydym yn hynod falch bod y caban cymunedol ar agor ac yn fwrlwm o weithgarwch. Mae’n adnodd hanfodol sy’n pontio'r bwlch rhwng ein hysgol a'r gymuned ehangach ac rydym wrth ein bodd gyda'r canlyniad. 

Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru a Sir Ddinbych am ddyrannu cyllid. Mae gennym bellach ofod pwrpasol a chynaliadwy, lle mae modd i deuluoedd gysylltu, i wasanaethau gydweithio ac i’n disgyblion ddefnyddio am flynyddoedd i ddod.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

"Rwy'n falch o weld bod y prosiect newydd hwn wedi’i gwblhau erbyn hyn. Bydd yn ased gwych i’r ysgol a’r gymuned.

Yn ogystal â bod o fudd i’r ysgol a’r disgyblion, bydd y gymuned hefyd yn elwa o’r caban newydd hwn yn Ysgol Cefn Meiriadog, sy’n darparu gofod newydd a chyffrous i’w ddefnyddio. 

Gan ddisodli adeilad hŷn, hen ffasiwn, mae'r prosiect caban newydd hwn yn cynnig ased newydd eang a modern i'r ysgol.”

Y wybodaeth ddiweddaraf am waith cynnal a chadw cylchol ar ffyrdd

Bydd gwaith cynnal a chadw cylchol yn cael ei gynnal ger Llanelwy a Rhuddlan ddechrau mis Mehefin

Bydd gwaith cynnal a chadw cylchol yn cael ei gynnal ger Llanelwy a Rhuddlan ddechrau mis Mehefin.

Bydd gwaith torri gwair, strimio, casglu sbwriel ac ysgubo yn cael ei gwblhau ar Ffordd Ddeuol yr A525 rhwng Cylchfan Talardy a chylchfan Bryn Cwybyr ac ar yr A547 Ffordd Abergele, ar y dyddiadau sydd wedi’u nodi isod.

  • A525 Talardy i KFC - Ffordd ar Gau - Dydd Llun, 1 Mehefin a Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2026
  • A525 Ffordd Osgoi Rhuddlan - Ffordd ar Gau - Dydd Mawrth, 3 Mehefin
  • A525 Cylchfannau Bryn Cwybr a Ffordd Derwen - Cau Lôn - Dydd Iau, 4 Mehefin
  • A547 Ffordd Abergele i Gylchfan Borth i Ffin y Sir - Dydd Llun, 8 Mehefin

Bydd y gwaith yn cael ei wneud rhwng 7pm a 6am ac yn cymryd 3 noson i’w wneud.  I sicrhau y cyflawnir y gwaith yn ddiogel, bydd yr A525 a’r A547 ar gau i gerbydau a cherddwyr ar y dyddiadau a’r amseroedd a nodir.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Bydd ein timau priffyrdd a gwasanaethau stryd yn gweithio’n galed dros y cyfnod hwn i wella’r llwybrau hyn, a hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd a byddem yn ddiolchgar o’ch cydweithrediad a’ch amynedd dros y cyfnod hwn.

Bydd arwyddion ar gyfer y llwybr gwyro amgen i bob rhan o’r ffyrdd fydd ar gau.

Cabinet yn cefnogi prosiect gwres carbon isel Neuadd y Sir

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cefnogi camau cychwynnol y gwaith i wella effeithlonrwydd ynni yn Neuadd y Sir Rhuthun

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cefnogi camau cychwynnol y gwaith i wella effeithlonrwydd ynni yn Neuadd y Sir Rhuthun, yn ddibynnol ar lwyddiant y cais cyllid i Lywodraeth Cymru.

Cefnogodd Aelodau’r Cabinet y broses i sicrhau cyllid grant o Grant Gwres Carbon Isel Llywodraeth Cymru i gychwyn prosiect gwres carbon isel Neuadd y Sir.

Mae’r gwaith hwn yn rhan o waith parhaus Tîm Ynni Cyngor Sir Ddinbych i leihau defnydd ynni a chostau mewn adeiladau a gaiff eu rhedeg gan yr awdurdod lleol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gafodd ei ddatgan yn 2019 a pharhau â’r gwaith i leihau ei ôl-troed carbon ei hun.

Mae'r tîm wedi gofalu am brosiectau ar draws adeiladau’r Cyngor yn cynnwys ysgolion, er mwyn helpu i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau, lleihau allyriadau carbon a chostau defnyddio dros y tymor hwy hefyd.

Adeiladwyd Neuadd y Sir dros 20 mlynedd yn ôl ac mae’n cyfrannu allyriadau carbon sy’n uwch nag sy’n angenrheidiol bob blwyddyn gan fod asedau allweddol yn yr adeilad bellach yn dynesu at ddiwedd eu hoes.

Bwriad y prosiect arfaethedig yw disodli’r boeleri nwy sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes ar y safle gyda phympiau gwres yr awyr, disodli’r Unedau Trin Aer, uwchraddio’r rheiddiaduron, pympiau gwres a’r system rheoli adeiladau.

Hefyd, fel rhan o’r gwaith arfaethedig, bydd ffenestri yn cael eu newid yn ffenestri modern sy'n effeithlon o ran ynni (yn arwain at tua hanner y golled gwres), stribedi drafft ac ardaloedd o inswleiddio nenfwd.

Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd y prosiect yn golygu bod llai o ynni’n cael ei ddefnyddio, yn gwella’r amgylchedd gwaith, lleihau gwariant yn y dyfodol ar osod asedau newydd yn lle’r hen rai a lleihau allyriadau carbon tua 48.7 tunnell y flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cydraddoldeb, Polisi a Strategaeth Gorfforaethol ac Asedau Strategol: “Dyma ddarn cyffrous iawn o waith sy’n cefnogi ymdrechion parhaus Cyngor Sir Ddinbych i leihau defnydd ynni a chostau, a gostwng olion troed carbon ar draws ein hystâd adeiladau. Bydd 90% o gost y prosiect yn cael ei ariannu gan gyllid grant allanol os byddwn yn llwyddiannus, sy'n fuddsoddiad mewnol gwych i'r Sir i gefnogi'r gadwyn gyflenwi. Bydd y cynigion yn y prosiect hwn yn darparu amgylchedd gweithio gwell i’r staff hefyd a helpu i ddiogelu Neuadd y Sir ar gyfer y dyfodol.”

Sesiwn galw heibio gwirfoddolwyr Archifau yng Ngharchar Rhuthun

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn eich archifau lleol? Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl newydd a helpu i ddiogelu hanes lleol pwysig?

Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn gwahodd aelodau o’r gymuned i sesiwn galw heibio ar gyfer gwirfoddoli yn yr archifau yng Ngharchar Rhuthun ddydd Gwener 5 Mehefin, lle gallwch chi alw heibio unrhyw bryd rhwng 10am a 12pm i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli cyffrous.

Bydd cyfle i ymwelwyr gwrdd â’r tîm Archifau, dysgu am brosiectau gwirfoddoli cyfredol, a dysgu sut y gallan nhw fod â rhan ymarferol yn y gwaith o ofalu am gasgliadau hanesyddol arbennig y rhanbarth a'u diogelu.

Mae'r gwasanaeth yn chwilio am unigolion brwdfrydig sydd â llygad graff am fanylder, sydd â medrusrwydd corfforol da, ac sy'n awyddus i gyfrannu at wasanaeth treftadaeth pwysig.

Pa un a ydych chi'n frwd ynglŷn â hanes lleol, yn awyddus i gael profiadau newydd, neu eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'ch cymuned, gallai’r cyfle hwn fod yn berffaith ar eich cyfer chi.

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae gwirfoddolwyr yn bwysig iawn i’n helpu ni i gadw a rhannu hanes cyfoethog ein cymunedau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnig cyfle difyr i bobl gymryd rhan, dysgu sgiliau newydd a gweithio’n agos gyda’r casgliadau hanesyddol unigryw.  Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn treftadaeth neu hanes lleol neu ddim ond eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’w cymuned, i ddod draw i’r sesiwn galw heibio i gael gwybod mwy.”

📅Dydd Gwener 5 Mehefin 2026
⏰Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 10am - 12pm
📍Carchar Rhuthun, LL15 1HP

I gael rhagor o wybodaeth neu os ydych chi’n dymuno cysylltu â ni, ewch i’n gwefan yn https://www.newa.wales/ neu anfonwch e-bost at archives@newa.wales.

Y Cabinet yn cymeradwyo contract dylunio ac adeiladu ar gyfer prosiect ailwampio Ysgol Uwchradd Dinbych

Heddiw (26 Mai), mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cymeradwyo dyfarnu’r contract dylunio, ac yn dilyn hynny, y gwaith adeiladu sydd ynghlwm â phrosiect ailwampio Ysgol Uwchradd Dinbych i Wynne Construction.

Ddiwedd 2025, rhoddodd y Cabinet eu cymeradwyaeth i gychwyn y broses gaffael ar gyfer y contract Dylunio ac Adeiladu ar gyfer ailwampio Ysgol Uwchradd Dinbych.

Fe wnaethant hefyd gymeradwyo cyflwyno'r Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru, ac o ganlyniad, cafodd hynny ei gymeradwyo ym mis Mawrth eleni. 

Mae’r prosiect hwn yn rhan o gynllun amlinellol y Cyngor ar gyfer y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Ysgol Uwchradd Dinbych

Bydd y camau nesaf yn cynnwys ymgysylltu â chymuned yr ysgol a bydd y disgyblion yn chwarae eu rhan gan helpu i ddatblygu’r dyluniad. 

Cyfanswm y swm a gytunwyd i gael ei ddyrannu i’r prosiect ar hyn o bryd ar gyfer prosiect Ysgol Uwchradd Dinbych yw £19.8 miliwn. 

Mae'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn ariannu 65% o'r prosiect hwn, gyda'r 35% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y Cyngor. Yn ogystal, mae cyllid pellach yn cael ei ddarparu  gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau carbon sero-net.

Dywedodd Glen Williams, Pennaeth Ysgol Uwchradd Dinbych:

“Mae hwn yn newyddion ardderchog ac yn gyfnod mor gyffrous i Ysgol Uwchradd Dinbych a’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

Rwy’n edrych ymlaen i weithio gyda’r awdurdod lleol, dylunwyr a chontractwyr i wneud yn siŵr bod moderneiddio’r ysgol yn helpu i ddarparu amgylchedd i ddysgwyr a fydd yn cefnogi eu cynnydd a’u hopsiynau ymhellach yn y dyfodol.”

Meddai’r Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Rwy’n falch o weld bod y prosiect hwn wedi symud ymlaen i’r cam priodol nesaf. Gyda chontract dylunio ac adeiladu bellach ar waith, rydym gam yn nes at ddechrau gwaith ar y datblygiad cyffrous hwn.  

Bydd moderneiddio a gwella cyfleusterau ar y safle hwn yn gwella capasiti yn yr ysgol, yn ogystal â helpu i ddarparu addysg o’r ansawdd uchaf i ddisgyblion yn ardal Dinbych ar gyfer cenedlaethau i ddod.”

Gwahodd trigolion i ddweud eu dweud ar brosiect Stryd Fawr Prestatyn

Bydd y sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal ar 3 Mehefin.

Mae'r Cyngor yn annog unrhyw un sy'n byw, sy’n gweithio neu sy’n ymweld â Phrestatyn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyluniad manwl y cynllun gwella’r parth cyhoeddus a fydd yn cael ei gynnal rhwng 3 Mehefin a 5 Gorffennaf 2026.

Yn 2025, cadarnhaodd Llywodraeth y DU eu bwriad i ddarparu bron i £20 miliwn o gyllid grant ar gyfer saith prosiect cyfalaf i wella balchder bro a’r amgylchedd naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.

Cafodd y cyllid hwn, sef y Gronfa Adfywio Leol, ei ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth arall.

Yn rhan o'r prosiect i wella balchder bro a'r amgylchedd naturiol ym Mhrestatyn, dyfarnwyd cyllid i Gyngor Sir Ddinbych i wella parth cyhoeddus (man gweladwy) y stryd fawr.

Mae sesiwn galw heibio hefyd wedi'i threfnu gan y Cyngor ac mae trigolion yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar y gwelliannau arfaethedig i'r stryd fawr.

Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar 3 Mehefin, yn Sinema Scala ym Mhrestatyn rhwng 1pm a 7pm. 

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Hoffem ni ddiolch i drigolion, ymwelwyr a busnesau am eu cydweithrediad ac ymgysylltiad trwy gydol y prosiect hyd yn hyn.

“Ein nod yw cyflawni cynllun sy’n gwella parth cyhoeddus y stryd fawr ac sy’n cefnogi adfywio’r dref yn yr hirdymor.

“Hoffem ni annog cymaint o drigolion â phosibl i ddweud eu dweud drwy naill ai fynd i’r digwyddiad galw heibio neu drwy gwblhau’r ymgynghoriad ar-lein.”

Gall trigolion sy'n methu â dod i’r digwyddiad galw heibio wyneb yn wyneb rannu eu barn drwy gwblhau'r ymgynghoriad ar-lein ar wefan y Cyngor.

Mae fersiynau papur o'r arolwg adborth hefyd ar gael a gellir cael gafael arnyn nhw yn Llyfrgell Prestatyn a’r Siop Un Alwad.  Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw 5 Gorffennaf 2026.

Newidiadau i'r prawf traffig parhaus ym Mhrestatyn

Bydd y Cyngor yn cyflwyno rhagor o newidiadau i wella llif y traffig yn yr ardal.

Bydd y Cyngor yn cyflwyno rhagor o newidiadau i wella llif y traffig yn yr ardal.

Ar 13 Ebrill, dechreuodd Cyngor Sir Ddinbych brawf i gael system ddwyffordd ar Ffordd y Bont ym Mhrestatyn i leihau tagfeydd yn yr ardal yn rhan o brosiect ehangach i wella ac adfywio'r dref.

Gofynnwyd am y prawf yn dilyn adborth a gafodd y Cyngor mewn ymgynghoriadau â’r cyhoedd, yn rhan o brosiect gwella’r parth cyhoeddus ar Stryd Fawr Prestatyn. 

Yn 2025, cadarnhaodd Llywodraeth y DU eu bwriad i ddarparu bron i £20 miliwn o gyllid grant ar gyfer saith prosiect cyfalaf i wella balchder bro a’r amgylchedd naturiol yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych.

Mae’r cyllid, sef y Gronfa Adfywio Leol, wedi’i ddyfarnu'n arbennig ar gyfer y prosiectau llwyddiannus sydd wedi’u cynnwys yn Nyffryn Clwyd ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau eraill.

Cynhelir y prawf am gyfnod o dri mis, o leiaf, a gallai bara hyd at 18 mis dan y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro sydd ar waith gan y Cyngor. 

O 26 Mehefin 2026 ymlaen, bydd llif y traffig ar waelod y Stryd Fawr yn mynd i’r cyfeiriad arall.  Mae hyn yn golygu y bydd cerbydau sy'n gadael Parc Prestatyn bellach yn gadael drwy'r Stryd Fawr.

Bydd y newid hwn hefyd yn golygu y bydd y parc manwerthu bellach yn elwa o dair allanfa (y Stryd Fawr, Ffordd y Bont a Ffordd Llys Nant).

Ni fydd cerbydau bellach yn gallu troi i'r chwith i lawr y Stryd Fawr o Ffordd Penisardre tuag at y gylchfan fach a'r parc manwerthu. Yn lle hynny dylai gyrwyr ddefnyddio Ffordd Llys Nant i gyrraedd y parc manwerthu o'r ochr honno o'r dref.

Mae'r prawf ychwanegol hwn yn cael ei gyflwyno i weld a ellir lleihau’r tagfeydd traffig ar waelod y Stryd Fawr ymhellach, ynghyd â’r system ddwyffordd ar Heol y Bont.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Rydym ni’n gwerthfawrogi cydweithrediad ac amynedd trigolion wrth i ni fonitro effaith y newidiadau hyn ac wrth i ni weithio i wella llif traffig ym Mhrestatyn.

“Mae’r Cyngor yn ymwybodol bod llawer o bryderon wedi’u codi yn y gorffennol ynghylch tagfeydd cerbydau ar y ffordd hon cyn i’r newidiadau hyn gael eu rhoi ar waith, a bydd swyddogion yn gofyn am adborth gan fodurwyr a cherddwyr wrth i’r prawf fynd rhagddo.”

Mae cyfle o hyd i rannu eich barn drwy gwblhau'r ymgynghoriad ar-lein ar ein gwefan.

Cynlluniau ar gyfer canolfan archif newydd yn symud ymlaen ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru

Mae cynlluniau ar gyfer canolfan archif newydd o’r radd flaenaf ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru yn dal i ddatblygu. Mae preswylwyr wedi cael eu gwahodd i fynychu cyfres o sesiynau galw heibio i’r cyhoedd er mwyn cael mwy o wybodaeth am y prosiect uchelgeisiol.

Ym mis Ebrill 2024, cymeradwyodd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol gyllid cam datblygu i gefnogi cynlluniau ar gyfer canolfan archif bwrpasol newydd ger Theatr Clwyd.

Bydd y ganolfan newydd arfaethedig yn dod â staff a chasgliadau gwasanaethau archif Sir y Fflint a Sir Ddinbych at ei gilydd i greu cartref modern a hygyrch ar gyfer casgliadau hanesyddol cyfoethog y rhanbarth, wrth gefnogi rhaglen gweithgarwch cymunedol tair blynedd eang.

Yn dilyn proses dendro lwyddiannus drwy Fframwaith Adeiladu Gogledd Cymru, penodwyd Wynne Construction yn Gontractwr Dylunio ac Adeiladu ar gyfer y prosiect.

Bydd proses ymgynghori cyn y cam cynllunio ar gyfer y caniatâd cynllunio yn rhedeg o 21 Mai i 18 Mehefin. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweld y dogfennau hyn, maen nhw ar gael yn:

  • Archif Gogledd Ddwyrain Cymru (Penarlâg), yr Hen Reithordy, Rectory Lane, Penarlâg CH5 3NR; ar agor dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau (9.30am – 4.30pm); ac
  • Archif Gogledd Ddwyrain Cymru (Rhuthun), yr Hen Garchar, 46 Stryd Clwyd, Rhuthun LL15 1HP; ar agor o ddydd Mercher i ddydd Gwener (9.30am – 4.30pm)

Fel rhan o’r cam nesaf hwn, mae preswylwyr yn cael eu hannog i fynychu dau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus. Bydd y sesiynau yn cynnig cyfle i bobl ddysgu mwy am y cynigion, gofyn cwestiynau a rhannu eu barn.

Bydd y ddau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus cyn y cam cynllunio yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

  • Yr Hen Lys Rhuthun: Dydd Iau, 4 Mehefin (3pm – 7pm) (Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun LL15 1AA)
  • Llyfrgell yr Wyddgrug: Dydd Mercher, 10 Mehefin (12 hanner dydd – 5pm) (14 Canolfan Siopa Daniel Owen, yr Wyddgrug, CH7 1AP)

Ynghyd â datblygiad y cynlluniau adeiladu, mae rhaglen eang o weithgareddau yn cael ei datblygu hefyd er mwyn cyflwyno archifau i gynulleidfa fwy eang ac amrywiol ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru. Nod y gweithgareddau yw annog mwy o bobl i archwilio ac ymgysylltu â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a straeon Gogledd Ddwyrain Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych:

“Dyma gyfle cyffrous i greu canolfan archif fodern a fydd yn helpu i gadw a dathlu’r hanes a rennir rhwng ein cymunedau am genedlaethau i ddod.

“Mae’r prosiect yn fwy o lawer nag adeilad – mae’n golygu creu cyfleoedd i fwy o bobl gysylltu â straeon, casgliadau a threftadaeth rhyfeddol Gogledd Ddwyrain Cymru. Byddem yn annog preswylwyr i ddod i’r sesiynau galw heibio a dysgu mwy.”

Meddai’r Cynghorydd Mared Eastwood, Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden, Cyngor Sir y Fflint:

“Mae’r prosiect hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn nhreftadaeth ddiwylliannol y rhanbarth a bydd yn helpu i sicrhau bod ein casgliadau archif pwysig yn cael eu diogelu, eu bod yn hygyrch a’u bod yn cael eu mwynhau gan gynulleidfa fwy eang o lawer.

“Mae wedi bod yn wych gweld cynifer o bobl eisoes yn rhan o helpu i ffurfio’r rhaglen weithgareddau, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r ymgysylltiad hwnnw wrth i’r prosiect ddatblygu.”

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol:

“Rydym yn falch o fod yn cefnogi cyfnod datblygu parhaus y prosiect cyffrous hwn ac yn edrych ymlaen at ei weld yn datblygu dros y misoedd nesaf. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, nod y prosiect yw dod â chymunedau ynghyd i helpu i ddylunio lle croesawgar, hygyrch sy'n amddiffyn ac yn rhannu treftadaeth gyfoethog y rhanbarth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

 

Os hoffech ddysgu mwy am y gwasanaeth y mae AGDdC yn ei gynnig, neu gael y newyddion diweddaraf am y prosiect Archifau Creadigol, ewch i’n gwefan – https://www.agddc.cymru/

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw