Prosiect adfer natur yn sbarduno cynnydd enfawr yn nifer tegeirianau

Mae rhywogaeth o degeirian yn ffynnu mewn tref diolch i gefnogaeth prosiect adfer natur

Mae rhywogaeth o degeirian yn ffynnu mewn tref diolch i gefnogaeth prosiect adfer natur.

Mae Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt Cyngor Sir Ddinbych yn hybu ac amddiffyn byd natur yn lleol ac yn cyfrannu at les ein cymunedau ledled y sir.  Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn cynnal arolygon rheolaidd o amgylch y 70 erw o ddolydd sy’n gysylltiedig â’r prosiect i olrhain datblygiad y safleoedd a’r rhywogaethau a geir ar y tir.

Y llynedd, cofnododd y tîm gynnydd amlwg yn nhwf tegeirianau ar draws sawl safle yn y sir, a oedd yn cynnwys rhywogaethau megis tegeirian bera, tegeirian dwysflodeuog a thegeirian gwenynog.

Erbyn hyn mae dôl yn Ninbych wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y tegeirianau gwenynog o gymharu â ffigyrau’r flwyddyn ddiwethaf.

Yn 2025, cofnodwyd 18 o degeirianau gwenynog, dwbl y nifer a nodwyd yn 2024. Yn 2026, mae’r nifer wedi cynyddu i bron i 200 o degeirianau gwenynog, sy’n dangos bod trefniadau rheoli’r ddôl yn gweithio i gynnal iechyd natur leol.

Meddai Liam Blazey, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth: “Mae hwn yn gynnydd enfawr o degeirianau gwenynog ar y safle hwn yn Ninbych, sy’n newyddion gwych oherwydd bod y planhigion hyn o fudd mawr i’r gloÿnnod byw a gwyfynod yn yr ardal.

“Mae hyn hefyd yn dangos, drwy ein rheolaeth a’n datblygiad parhaus o’r dolydd, eu bod yn awr yn gweithredu fel priffordd i blanhigion, pryfed, ac anifeiliaid allu symud rhwng y safleoedd hyn yn y sir, gan gynyddu bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.”

“Mae’r nifer o rywogaethau hefyd yn dangos fod cyflwr y pridd, ar ôl sawl blwyddyn yn rheoli’r safle hwn, yn ddelfrydol ar gyfer cynnal math arbennig o ffwng mycorhisol sy’n eu helpu i egino a blaguro’n gryf.

“Mae’n wych gweld y nifer yma o’r tegeirian arbennig hwn oherwydd ei fod yn dangos bod ein prosiect yn dwyn ffrwyth, gan gefnogi adferiad dolydd y sir a hybu gwytnwch ein natur leol ar gyfer y dyfodol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn yn brosiect pwysig ar gyfer ailddechrau cynefinoedd sydd wedi’u dinistrio ers y 1930au. Rydw i’n gwybod bod y tîm Bioamrywiaeth, ochr yn ochr â’n gweithwyr Gwasanaethau Stryd, wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd i reoli datblygiad ein dolydd ac mae’r cofnod hwn o degeirianau ar y safle yn Ninbych yn dangos gwerth yr holl amser y maent wedi’i roi i warchod ein natur.”

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw