Tynnu sylw at system atal llifogydd arfordirol

Mae arwyddion newydd yn mynd i gael eu gosod er mwyn tynnu sylw’n well at system giatiau llifogydd arfordirol y Cyngor.

Mae arwyddion newydd yn mynd i gael eu gosod er mwyn tynnu sylw’n well at system giatiau llifogydd arfordirol y Cyngor.

Mae tîm Atal Risg Llifogydd Cyngor Sir Ddinbych yn gosod arwyddion newydd ar giatiau llifogydd o’r Rhyl i Brestatyn er mwyn helpu’r cyhoedd i ddeall swyddogaeth y system.

Mae’r giatiau llifogydd arfordirol ar hyd cynllun amddiffynfeydd Prestatyn a’r Rhyl yn cael eu defnyddio i selio ardaloedd o amddiffynfeydd y môr sydd yn is er mwyn galluogi mynediad cyhoeddus i’n traethau. 

Mae’r giatiau yn gweithredu fel gorchuddion dros dro y gellir eu symud sydd wedi’u dylunio i atal llif dŵr o ymchwyddiadau stormydd, llanw uchel a llifogydd rhag effeithio ar gartrefi, busnesau a seilwaith arfordirol diamddiffyn sydd y tu ôl i’r amddiffynfeydd llifogydd ehangach. 

Mae rhai o giatiau llifogydd arfordirol Sir Ddinbych yn cael eu cau dros fisoedd y gaeaf oherwydd risg uwch o dywydd gwael. Serch hynny, dim ond pan fydd stormydd yn y rhagolygon tywydd a allai effeithio ar gymunedau ger y môr yn y Rhyl a Phrestatyn y mae giatiau llifogydd eraill yn cael eu cau.

Mae’r Cyngor hefyd yn gweithredu giatiau llifogydd sydd ar gau’n barhaol yn Arena Digwyddiadau y Rhyl, ac fe ellir eu hagor i gael mynediad ar frys i’r prom.

Mae’r tîm risg llifogydd wedi creu arwyddion newydd a fydd yn cael eu gosod fis nesaf i helpu preswylwyr lleol ac ymwelwyr i ddeall swyddogaeth y giatiau’n well i gefnogi pobl sydd yn defnyddio’r promenâd.  

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Roeddem eisiau ei gwneud hi’n glir i breswylwyr sy’n byw ger yr arfordir ac ymwelwyr â’r Rhyl a Phrestatyn sut mae’r system giatiau llifogydd yn gweithredu gan ein bod yn gwybod bod rhai wedi bod yn holi pam fod rhai giatiau ar gau ers nifer o fisoedd. 

“Ar ôl iddynt gael eu gosod, gobeithio y bydd yr arwyddion newydd yn helpu’r rhai sy’n byw ger yr arfordir neu breswylwyr ac ymwelwyr sy’n dod i ddefnyddio’r prom rhwng y Rhyl a Phrestatyn i ddeall swyddogaeth y giatiau’n well, a’u helpu i flaengynllunio tra’u bod yn cerdded ar hyd yr arfordir.”

Bydd rhagor o wybodaeth am y system giatiau llifogydd yn cael ei chyhoeddi dros yr haf ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.  I gael mwy o wybodaeth am risg llifogydd, ewch yma.

 

 

 

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw