Wythnos Gwaith Ieuenctid yn dathlu effaith gadarnhaol gwaith ieuenctid ledled Sir Ddinbych

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych yn ymuno â sefydliadau ledled Cymru i ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid 2026, sy'n cael ei chynnal rhwng 23 a 30 Mehefin.

Mae'r ymgyrch flynyddol yn tynnu sylw at y rôl hanfodol y mae gwaith ieuenctid yn ei chwarae wrth gefnogi pobl ifanc i ddatblygu hyder, gwydnwch a sgiliau ar gyfer bywyd. Mae'n gyfle i gydnabod yr effaith gadarnhaol y mae gweithwyr ieuenctid yn ei chael o fewn cymunedau ac i arddangos yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc drwy wasanaethau ieuenctid ledled Cymru.

I nodi Wythnos Gwaith Ieuenctid, mae Cath Taylor, Prif Swyddog Ieuenctid y Cyngor, wedi myfyrio ar lwyddiannau'r gwasanaeth ac ymroddiad y staff, gwirfoddolwyr, partneriaid a'r bobl ifanc sy'n helpu i wneud gwahaniaeth bob dydd.

Meddai Cath: "Wrth i ni ddathlu Wythnos Gwaith Ieuenctid, hoffwn gymryd eiliad i gydnabod a dathlu gwaith eithriadol ein tîm yng Ngwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych a phawb sy'n cyfrannu at eu llwyddiant.

“Ledled ein sir, mae ein gweithwyr ieuenctid, gwirfoddolwyr, partneriaid, a'r bobl ifanc eu hunain yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol bob dydd. Mae ein hymrwymiad cyson i gefnogi pobl ifanc i ffynnu yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

Mae ein gwaith yn aml yn digwydd y tu ôl i'r llenni, ond rydym yn gwybod bod effaith gwaith ieuenctid yn amhrisiadwy ac yn para am flynyddoedd. Gan fod pob £1 a fuddsoddir mewn gwaith ieuenctid yn cynhyrchu rhwng £3.20 a £6.40 o enillion cymdeithasol ar fuddsoddiad, mae'r gwasanaeth yn darparu gwerth rhagorol.

Rydym yn hynod falch o'r mannau diogel rydym yn eu darparu i bobl ifanc ddarganfod pwy ydynt, i deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu parchu a'u grymuso.

Yn Sir Ddinbych, mae ein darpariaeth ieuenctid amrywiol yn agor drysau i gyfleoedd bob dydd i’nbobl ifanc. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cefnogi miloedd o bobl ifanc i wella eu hyder a'u gwydnwch, gweithio tuag at wireddu eu potensial a llunio eu dyfodol mewn ffordd gadarnhaol, gan sicrhau hefyd bod eu lleisiau'n cael eu clywed ar faterion sy'n bwysig iddynt yn eu bywydau.

Nid yw ein tîm ieuenctid byth yn methu â'n syfrdanu gyda'u dulliau creadigol a'u gallu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi pobl ifanc a'u cyfarfod lle maent yn eu bywydau.

Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi ymateb yn dda i anghenion newidiol pobl ifanc a chymunedau. Boed hynny drwy ddarparu sesiynau mynediad agored, cymorth wedi'i dargedu, gwaith allgymorth neu raglenni partneriaeth, mae ein gwaith yn hanfodol ac mae'r dystiolaeth i'w gweld yn y nifer fawr o straeon cadarnhaol rydym wedi gallu eu rhannu yn ystod y cyfnod hwn.

Nid dathliad yn unig yw Wythnos Gwaith Ieuenctid, ond hefyd yn gyfle i hyrwyddo gwerth gwaith ieuenctid. Mae'n gyfle i bwysleisio bod gwaith ieuenctid yn hanfodol – nid rhywbeth ychwanegol, ond yn gonglfaen i lesiant cymunedol ac atal, ac yn ganolog i gefnogi pobl ifanc ar eu taith i fod yn ddinasyddion gweithgar fel oedolion.

Hoffwn estyn fy niolchiadau enfawr yn arbennig i'n gweithwyr ieuenctid. Mae ein hangerdd ar y cyd, ein proffesiynoldeb ac ein hymrwymiad diwyro yn gwneud gwahaniaeth na ellir ei fesur bob amser, ond sydd bob amser yn cael ei deimlo gan y rhai sy'n elwa ohono.

Ac i'n pobl ifanc: diolch am ymddiried ynom, am ymgysylltu â ni ac am helpu i lunio'r gwasanaeth. Chi sydd wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud.

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfnod i fyfyrio ac i ymfalchïo yn ein llwyddiannau, gan gynnwys y ffordd rydym wedi datblygu partneriaethau ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, gweithio ar y cyd, a hyrwyddo pwysigrwydd gwaith ieuenctid ledled Sir Ddinbych.

Wythnos Gwaith Ieuenctid Hapus i chi gyd."

Ychwanegodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd:

"Mae gwaith ieuenctid yn darparu cymorth amhrisiadwy i bobl ifanc ar bob cam o'u taith, gan eu helpu i adeiladu hyder, datblygu sgiliau newydd, gwneud dewisiadau cadarnhaol a chyflawni eu potensial llawn.

“Hoffwn ddiolch i'n holl weithwyr ieuenctid ymroddedig, gwirfoddolwyr a phartneriaid sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi pobl ifanc ledled Sir Ddinbych. Mae eu hymrwymiad, eu creadigrwydd a'u hangerdd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc ac i gryfder ein cymunedau.

“Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle i ddathlu'r llwyddiannau hyn ac i gydnabod y rôl bwysig y mae gwaith ieuenctid yn ei chwarae wrth helpu pobl ifanc i deimlo'n gysylltiedig, i gael eu clywed ac i gael eu grymuso i lunio eu dyfodol."

I gael gwybod mwy am Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych, ewch i'n gwefan neu eu tudalen Facebook ar y cyfryngau cymdeithasol.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw