Dathliad y Nadolig

Cynhelir gwasanaeth carolau blynyddol ‘Dathliad y Nadolig’ a gynhelir gan Gyngor Sir Dinbych yn y Rhyl.

Bydd y gwasanaeth yn digwydd nos Fercher 3 Rhagfyr am 7pm yn Eglwys Sant Thomas, Y Rhyl.

Yn ystod y gwasanaeth, gwneir casgliad tuag at Hosbis Sant Cyndeyrn, Llanelwy ac Urdd Gobaith Cymru, sef elusennau dewisol y Cadeirydd eleni.

Yn cymryd rhan eleni mae:

  • Ysgol Brynhyfryd
  • Band Cyfuniad y Pedair Sir
  • Côr NantClwyd

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn o wahodd pawb i ymuno â ni ar gyfer Cyngerdd Carolau eleni.

“Mae bob amser yn achlysur arbennig sy’n dod â’n cymuned ynghyd, ac mae’n hyfryd gweld plant ysgol lleol yn rhannu eu doniau a’u hysbryd Nadoligaidd.

“Rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn dod draw i fwynhau noson o gerddoriaeth a dathlu.”

Hoffem ddiolch i Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych, sydd unwaith eto eleni yn goruchwylio'r trefniadau/cyfarwyddiad cerddorol ar gyfer y noson.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw