ERTHYGLAU

Cyngor i breswylwyr - beth i’w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn atgoffa preswylwyr i fod yn wyliadwrus a chymryd camau ymarferol i amddiffyn eu hunain, eu cartrefi a’u cymunedau os bydd llifogydd yn ystod y gaeaf. 

Mae Llais y Sir wedi paratoi cyngor i gynorthwyo preswylwyr i fod ar y droed flaen yn erbyn effaith unrhyw lifogydd ar draws Sir Ddinbych. 

Llanrhaeadr Flooding

Wrth i fwy o stormydd daro’r sir, gall llifogydd ddigwydd yn gyflym a heb fawr o rybudd.  Mae bod yn barod cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i ddiogelwch ac adferiad ar ôl llifogydd. 

Er mwyn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o lifogydd gallwch: 

  • Wirio eich risg llifogydd: Edrychwch ar fapiau risg llifogydd hirdymor Cyfoeth Naturiol Cymru i weld os yw eich eiddo mewn ardal risg llifogydd.
  • Cofrestru i dderbyn rhybudd: Os ydych chi mewn perygl, cofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd awtomatig i dderbyn rhybudd cyn gynted â phosibl.
  • Adolygu eich yswiriant:  Sicrhewch fod eich yswiriant tŷ ac yswiriant cynnwys yn cynnwys yswiriant llifogydd.  Mae menter y Llywodraeth ac yswirwyr Flood Re yn gallu cynorthwyo i sicrhau bod yswiriant llifogydd yn fwy fforddiadwy.
  • Creu cynllun llifogydd personol:  Dylech gynnwys manylion cyswllt allweddol, gwybodaeth yswiriant, a rhestr wirio o gamau brys.  Dylid ei storio’n ddiogel mewn ffolder sy’n dal dŵr.
  • Paratoi pecyn llifogydd:  Dylech gynnwys dillad cynnes sy’n dal dŵr, meddyginiaeth, tortsh, dogfennau pwysig, a chyflenwadau hanfodol rhag ofn bod rhaid i chi adael.
  • Ystyried cynnyrch amddiffyn:  Prynu bagiau tywod neu fyrddau llifogydd i rwystro drysau a brics aer.

LlifogyddOs oes llifogydd yn dilyn tywydd garw a bod ffordd sydd wedi’i effeithio gan lifogydd neu ffos wedi’i rhwystro yn eich ardal, rhowch wybod i’r Cyngor a byddwn yn cymryd camau priodol i reoli’r broblem. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am faterion sy’n ymwneud ag arfordiroedd a phrif afonydd.  Mae Dŵr Cymru’n gyfrifol am garthffosydd.  Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gyfrifol am ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain.

Ar gyfer materion sy’n effeithio ar y prif afonydd, cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000. Gweler y ddolen hon i weld manylion y prif afonydd.

Ar gyfer llifogydd sy’n effeithio ar garthffosydd,  gan gynnwys carthffosydd dŵr budr a dŵr wyneb cyfunol, cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 085 3968 neu ar gyfer llifogydd mewn eiddo neu ar briffordd, cysylltwch â Chyngor Sir Ddinbych ar 01824 706000.

Mae modd cysylltu â Floodline ar 0345 988 1188 i rannu pryderon am lifogydd yn eich ardal. 

Os ydych yn byw mewn ardal â pherygl o lifogydd ac yn teimlo yr hoffech gadw ambell fag tywod yn eich cartref fel rhagofal i’w ddefnyddio os bydd llifogydd, gallwch brynu bagiau tywod o siopau nwyddau neu siopau DIY.  Mae systemau unigryw eraill ar gael i amddiffyn drysau a brics aer. Nid yw’r Cyngor yn darparu bagiau tywod i eiddo unigol pan fydd llifogydd.  Yn hytrach, rydym yn defnyddio bagiau tywod yn bennaf i amddiffyn grwpiau o breswylwyr, er enghraifft trwy ddargyfeirio llif y dŵr, a’i gyfeirio tuag at gwteri a thyllau archwilio.  Mae hyn yn ein galluogi i amddiffyn strydoedd cyfan, lle y byddai rhoi bagiau tywod i aelwydydd unigol ar stryd yn ddefnydd llai effeithiol o adnoddau.

Gall cymunedau gydweithio i gynorthwyo preswylwyr lleol i fod yn fwy gwydn i lifogydd. Sefydlwyd Grŵp Cymunedol ‘Dyserth Flood Support’ ar ôl llifogydd hanesyddol ar Ffordd y Rhaeadr.  Darparodd y Cyngor rwystrau llifogydd drwy gymorth grant Llywodraeth Cymru, gyda’r meini prawf yn nodi y gellir eu darparu i grŵp cymunedol yn unig.  Darparodd Cyngor Sir Ddinbych rwystrau ychwanegol yn 2025.

Mae cyngor ar gael i sefydlu grŵp gweithredu ar lifogydd cymunedol lleol gan Y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol neu mae modd cysylltu â Paul Owen ar 01824 706872 / paul.owen@denbighshire.gov.uk.

Pan fydd llifogydd peidiwch â cheisio gyrru na cherdded trwy’r dŵr.  Gall chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n gyflym eich taflu oddi ar eich traed, a bydd dwy droedfedd o ddŵr yn gwneud i’ch car arnofio. Mae nifer o bethau ymarferol y gallwch eu gwneud i helpu i rwystro difrod i'ch cartref, gan gynnwys:

  • Diffodd eich cyflenwadau nwy, trydan a dŵr
  • Plygio sinciau a rhoi pethau trwm arnynt i’w cadw i fewn; plygio pibelli dŵr gyda thywelion neu gadachau, a datgysylltu unrhyw offer sy’n defnyddio dŵr, fel eich peiriant golchi dillad.  Mi fydd y camau hyn yn helpu i rwystro dŵr rhag dod i fewn i’r eiddo.
  • Ceisiwch osgoi dod i gyswllt â’r llifogydd lle bo modd, gan ei bod yn bosib’ y bydd wedi'i halogi
  • Peidiwch â gadael eich cartref na mynd i mewn i’r dŵr oni bai bod aelod o’r gwasanaethau brys yn dweud wrthych am wneud hynny

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Priffyrdd a’r Amgylchedd:  “Byddwn yn gweithio’n agos iawn gyda’n hasiantaethau partner bob tro er mwyn gwneud popeth y gallwn i leihau effaith unrhyw ddigwyddiadau llifogydd sy’n digwydd ar draws y sir.  Rydym eisiau sicrhau bod ein preswylwyr yn aros yn ddiogel a byddwn yn gofyn iddynt ddilyn y cyngor pwysig hwn i baratoi ar gyfer llifogydd posibl, ac os bydd llifogydd yn eich ardal dilynwch unrhyw wybodaeth sy’n cael ei rhannu gennym ni, Cyfoeth Naturiol Cymru, neu’r gwasanaethau brys a gofynnwn i bobl gadw golwg ar y rhagolygon tywydd, y cyfryngau, a’r cyfryngau cymdeithasol i dderbyn y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf.”

Oak Lane flooding

Mae modd ein dilyn ar Facebook i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf pan fydd llifogydd. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen we cyngor llifogydd. 

Damwain yn newid llwybr gyrfa

Mae damwain a newidiodd fywyd dyn o Ruthun wedi’i arwain at lwybr gyrfa newydd

Matt Jones 

Mae damwain a newidiodd fywyd dyn o Ruthun wedi’i arwain at lwybr gyrfa newydd, gan ei helpu i ddysgu sut i wella defnydd ynni, lleihau costau a chefnogi’r amgylchedd.

Dechreuodd Matt Jones, Swyddog Prosiect Lleihau Carbon, ei yrfa fel saer tan i un diwrnod tyngedfennol ei wthio ar lwybr gwahanol sydd, erbyn hyn, yn dod â budd i breswylwyr Sir Ddinbych.

Mae Llais y Sir wedi bod yn siarad efo Matt i weld sut bu iddo ddringo’r ysgol yrfa at ei swydd bresennol.

Aeth Matt, beiciwr mynydd o fri, o Ysgol Brynhyfryd i Goleg Llandrillo yn y Rhyl ac yna i’r coleg yn Llandrillo-yn-Rhos i wneud cwrs sylfaen mewn crefft adeiladu, gan gyfuno sawl sgil ymarferol.

Eglurodd: “Oedden ni’n gwneud ychydig bach o blymio, gwaith trydanol, gwaith saer a phlastro. Yna, mi es i yn fy mlaen i ddewis gwaith saer a dechrau gweithio… ond yna mi dorrais fy mhigwrn. A dyna pryd newidiodd bopeth.

“Roeddwn i allan ar fy meic, yn mynd dros naid a daeth fy nhroed oddi ar y pedal, fe laniais droed yn gyntaf cyn y beic a thorri fy mhigwrn…

“Mi es yn ôl i orffen y cwrs, cael prentisiaeth a chael swydd efo’r un cwmni. Ond oherwydd y trafferthion ges i gyda fy mhigwrn mi ges i osteoarthritis a bu’n rhaid i mi gael llawdriniaethau, a gorfod gadael fy ngwaith saer a gwaith safle yn 2015. Fe newidiodd fy mywyd.

“Oherwydd fy mod i wedi torri fy mhigwrn hanner ffordd drwy’r flwyddyn, mi es i’n ôl a gorffen y flwyddyn a derbyn gwobr cyflawniad arbennig gan y coleg.”

Bu Matt yn gweithio ar brosiectau gwaith saer ar safleoedd treftadaeth, yn cynnwys Castell Conwy, Castell Biwmares a Chastell Dinbych.

“Roeddwn i’n gwneud llawer o bethau diddorol, ac yn mwynhau. Ond oherwydd bod y gwaith toi yn golygu defnyddio sgaffaldiau ac ysgolion, doeddwn i ddim yn gallu cario ‘mlaen i weithio oherwydd fy mhigwrn.

“Ar ôl hynny mi ges i fwy o lawdriniaethau; cefais y llawdriniaeth olaf, cymalglymu’r pigwrn, bron i ddeng mlynedd yn ôl rŵan.”

Ar ôl hynny, gwelodd Matt swydd ran-amser yn cael ei hysbysebu gan gartref preswyl Cysgod y Gaer Cyngor Sir Ddinbych a phenderfynodd fynd amdani.

“Swydd tasgmon/garddwr oedd hi, un rhan-amser, a oedd yn gyfle perffaith i mi fynd yn ôl i weithio’n ara’ deg gan nad oeddwn i’n gwybod sut fyddai fy mhigwrn. Ar ôl ychydig o flynyddoedd mi ges i ail swydd fel glanhawr yn Neuadd y Sir.”

Aeth Matt yn ei flaen i swydd arall gyda thîm cyfleusterau Neuadd y Sir, cyn gweld swydd Swyddog Ynni ac ennill HNC gyda chefnogaeth y Cyngor yng Ngholeg Cambria, Wrecsam.

Mae Tîm Ynni Sir Ddinbych wedi rheoli prosiectau ar draws adeiladau'r Cyngor i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau a lleihau costau defnyddio dros y tymor hwy.

Mae’r gwaith parhaus hwn yn rhan o ymgyrch y Cyngor i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur a gafodd ei ddatgan yn 2019 a lleihau ei ôl-troed carbon ei hun.

Ychwanegodd Matt: “Yna gwelais gyfle arall, i fod yn Swyddog Prosiect Lleihau Carbon a chwblhau prentisiaeth gradd ynni carbon isel. A dyna lle dw i rŵan. Felly mae sawl cam wedi bod i’m gyrfa. Rydw i wedi cael llawer o gefnogaeth yma yn Sir Ddinbych i ddringo'r ysgol yrfa, fe ariannon nhw’r HNC i’m helpu i ddatblygu ac fe gafodd y brentisiaeth ym Mhrifysgol Wrecsam ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.”

Mae ei rôl yn un ‘llwybr graddfa uwch’ sy’n galluogi pobl i neidio ar ysgol yrfa a fyddai fel arall ar gyfer pobl sydd wedi’u cymhwyso’n barod. O ran gyrfa mae rôl Matt wedi’i dylunio i oresgyn rhwystrau a hwyluso datblygiad gyrfaol. Yn y Tîm Ynni mae rôl y Swyddog Ynni hefyd wedi dod yn un llwybr graddfa uwch.

“Mae’r radd dw i’n ei gwneud rŵan, a dw i newydd ddechrau’r ail flwyddyn, yn radd mewn Effeithlonrwydd Ynni Carbon Isel a Chynaliadwyedd, ac felly mae’n cyd-fynd yn berffaith efo’r hyn dw i’n ei wneud yn y rôl yma a’r prosiectau dw i’n gweithio arnyn nhw.”

Gan weithio ar brosiectau fel gosod paneli solar i wella effeithlonrwydd ynni yn Ysgol Uwchradd y Rhyl, Cartref Gofal Dolwen a hyd yn oed gweithio yng Nghysgod y Gaer ble dechreuodd bopeth, roedd cynaliadwyedd wastad yng nghefn meddwl Matt.

“Dw i wastad wedi mwynhau bod tu allan ac wrth fy modd efo natur, ac ar ôl bod yn beicio a beicio mynydd o gwmpas Rhuthun a Dyffryn Clwyd. Felly dw i wastad wedi bod ag ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd.

“Pan ‘dach chi’n dechrau gweld y data yn cyrraedd ac yn ei fonitro… mae’n dda. Dw i’n meddwl mai dyna pam dw i’n angerddol dros hynny rŵan, dw i’n ei fwynhau. Dw i’n mwynhau’r swydd hon a dw i’n awyddus i wella yn y maes. Pob swydd dw i wedi’i chael, yn enwedig efo’r Cyngor, dw i wedi’i mwynhau. Ac mae pob cam dw i wedi’i gymryd yn un i ddringo’r ysgol yrfa.”

Ond beth ydi cyngor Matt i unrhyw un sy’n wynebu cyfnod o orfod newid gyrfa?

“Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to, daliwch ati a gweithiwch yn galed, dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth dw i wastad wedi’i wneud. Roeddwn i’n gwybod na allwn i redeg o gwmpas safleoedd, a gwneud gwaith labro a’i fwynhau go iawn. Roedd yn rhaid i mi weithio allan i le’r oeddwn i eisiau mynd yn academaidd, a dw i wedi dod o hyd i’r lle hwnnw.”

Rhwydwaith gwefru cerbydau trydan y sir yn sbarduno miliynau o filltiroedd gwyrddach

Mae Rhwydwaith Gwefru Cerbydau Trydan Cyngor Sir Dinbych wedi cefnogi miliynau o filltiroedd gwyrddach

Mae Rhwydwaith Gwefru Cerbydau Trydan Cyngor Sir Dinbych wedi cefnogi miliynau o filltiroedd gwyrddach ers i'r gwefrwyr cyntaf ddod ar-lein.

Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru eleni, rydym yn edrych yn ôl ar yr effaith y mae twf rhwydwaith gwefru'r cyngor wedi'i chael ar ddarparu cludiant cyhoeddus mwy gwyrdd i drigolion ac ymwelwyr.

Dechreuodd rhwydwaith y sir ym mis Mehefin 2021 gyda gwefrwyr cyflym ym Mhrestatyn ac, ers hynny, mae wedi tyfu gyda mwy o gyfleusterau gwefru yn cael eu darparu yn y Rhyl, Llanelwy, Dinbych, Rhuthun, Corwen a Llangollen.

Mae dod â'r rhwydwaith ar-lein yn rhan o waith parhaus y cyngor i leihau ôl troed carbon y sir a chefnogi'r gyrwyr hynny sydd am newid i gerbydau trydan ond efallai nad oes ganddynt y cyfleusterau i wefru gartref.

Mae mentrau cerbydau fflyd trydan eraill hefyd yn rhan o nod y cyngor i leihau allyriadau carbon, megis gwasanaethau bysiau trydan Fflecsi Rhuthun a Dinbych.

Ers dod ar-lein yn 2021, mae'r gwefrwyr wedi cefnogi gyrwyr cerbydau trydan drwy ddarparu 46,200 o sesiynau gwefru unigol i gefnogi dulliau teithio cyhoeddus allyriadau is.

Mae hynny'n cyfateb i ddefnyddio 1,100,000 cilowat yr awr, a fyddai'n galluogi 367 o geir Tesla Model 3 i wneud cyfartaledd o 12,000 milltir y flwyddyn wedi'u gwefru am y 12 mis llawn. Byddai nifer yr oriau cilowat hefyd yn rhoi pŵer i'ch archfarchnad leol am flwyddyn gyfan.

Gan drosi'r pŵer gwefru yn filltiroedd, mae'r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan ledled Sir Ddinbych wedi cyflawni dros dair miliwn o filltiroedd o yrru ar drydan. Mae hynny dros 130 o deithiau o amgylch y ddaear a 950 o weithiau ar awyren o Lundain i Efrog Newydd. Ac i un perchennog cerbyd trydan, byddai'r nifer hwnnw o filltiroedd a gynhyrchir gan y rhwydwaith yn eich cadw chi'n gyrru am ymhell dros 250 o flynyddoedd.

Cyflwynwyd mandad defnydd 99 y cant Llywodraeth y DU ar gyfer porthladdoedd gwefru cerbydau trydan cyhoeddus y llynedd hefyd i wneud yn siŵr bod gwefrwyr cerbydau trydan yn gweithio'n dda ac yn gyson i yrwyr sy'n eu defnyddio. Ar hyn o bryd mae rhwydwaith y cyngor yn uwch na’r targed hwn ar 99.95 y cant.

Mae gwaith ar y rhwydwaith gwefru ychwanegol ar gyfer ychydig o safleoedd wedi’i gefnogi gan gyllid grant drwy Swyddfa Cerbydau Allyriadau Sero (OZEV) Llywodraeth y DU. Ariannwyd gwefrwyr yn Lôn Werdd Corwen gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd creu’r rhwydwaith gwefru hwn yn gam pwysig yn ein hymrwymiad i helpu ein trigolion sydd eisiau symud i gerbydau trydan ond nad oes ganddynt y cyfleuster na’r lle parcio oddi ar y ffordd i wneud hynny. Bydd darparu'r rhwydwaith hwn yn helpu mwy o bobl i wneud hynny.

“Rydym hefyd yn gwybod ei fod yn helpu busnesau lleol sydd â cherbydau trydan yn eu fflyd yn ogystal â’r rhai sydd ag adeiladau yn y dref. Y rheswm am hyn yw bod mwy o ddefnyddwyr cerbydau trydan yn darganfod y lleoliadau hyn ac yn ymweld â sefydliadau ac atyniadau lleol tra’n gwefru eu cerbydau ar hyd lleoliadau ein rhwydwaith.

“Gyda chynnydd parhaus yn y defnydd o gerbydau trydan, mae wedi bod yn bwysig rhoi’r isadeiledd hwn ar waith, nid yn unig i’r defnyddwyr ond hefyd i gefnogi’r gwaith o fynd i’r afael ag effaith newid hinsawdd ar ein sir drwy helpu i leihau allyriadau carbon ar ffyrdd y rhanbarth.”

Planhigfa yn creu dyfodol cadarn i fyd natur lleol

Mae coeden sy’n gysylltiedig â llymaid mewn hen dafarn a phlanhigyn hynod o brin yng Nghymru yn elfennau o fyd natur Sir Ddinbych sydd wedi cael bywyd newydd diolch i safle arbennig yn y sir.

Ers 2021, mae planhigfa goed y Cyngor ar fferm Green Gates, Llanelwy wedi mynd o nerth i nerth.

Mae gwirfoddolwyr ac aelodau ymroddedig o dîm Bioamrywiaeth y Cyngor wedi bod yn brysur iawn yn datblygu’r blanhigfa, sy’n tyfu miloedd o goed a blodau gwyllt o hadau er mwyn eu plannu ar hyd a lled y sir i ddiogelu a rhoi hwb i fyd natur.

Dyma flas i chi o rai o’r prosiectau llwyddiannus sydd wedi dwyn ffrwyth ar y safle.

Yn 2022, daethpwyd o hyd i blanhigyn tafod y ci – rhywogaeth sy’n prinhau, yn nôl arfordirol Prestatyn Beach Road West. Yn y 116 o flynyddoedd diwethaf, nid oes ond 18 cofnod o’r planhigyn hwn yn Sir Ddinbych.

Cymerwyd hadau o’r ddôl i’w plannu yn y blanhigfa, a diolch i ymdrechion y tîm eginodd blanhigion newydd i’w plannu mewn dolydd arfordirol eraill yn y sir.

Yn ystod 2023 gwnaethpwyd gwaith i ddiogelu a chefnogi dyfodol coeden hynafol yn Sir Ddinbych.

Casglodd y tîm a’r gwirfoddolwyr dros 15,000 o fes a’u plannu yn y blanhigfa.

Mae coed derw yn cael effaith bwysig ar fioamrywiaeth drwy gynnal mwy o ffurfiau ar fywyd nag unrhyw goeden gynhenid arall. Gall y goeden gynnal cannoedd o bryfed, ac mae hynny’n darparu ffynhonnell gyfoethog o fwyd i adar. Drwy gydol yr hydref bydd gwiwerod, moch daear a cheirw hefyd yn bwyta mes.

Yn 2024 rhoddodd y blanhigfa sylw i lwyn prin yn Sir Ddinbych.

Mae meryw’n brin yn Sir Ddinbych a dim ond mewn un man ar ael bryn ym Mhrestatyn y deuir o hyd iddynt. Mae’r llwyn yn rhywogaeth â blaenoriaeth i’w amddiffyn yn y Deyrnas Unedig, wedi dirywiad brawychus oherwydd pori gormodol a diflaniad porfeydd addas.

Gwnaed ymdrech i amddiffyn un llwyn meryw yn Sir Ddinbych yn 2008 pan fu’r Cyngor yn gweithio â Sw Caer wrth blannu llwyni ifanc ar ael y bryn ym Mhrestatyn er mwyn annog twf y meryw oedd yno eisoes.

Ymwelodd aelodau o’r tîm Bioamrywiaeth â’r safle i gasglu hadau i’w plannu yn ôl yn y blanhigfa goed gan fod meryw yn darparu cynefin gwerthfawr a bwyd i amrywiaeth o rywogaethau, yn cynnwys pryfed, adar a mamaliaid.

Eleni mae’r blanhigfa goed hefyd wedi cynnig llwncdestun i goeden hanesyddol a phrin yn y sir.

Mae tîm y blanhigfa wedi rhoi hwb i’r gerddinen. Mae dros 300 o’r 500 o hadau a gasglodd y tîm y llynedd wedi egino yn y blanhigfa.

Mae’r gerddinen yn goeden brin yn y sir ac yn hanesyddol fe'i gelwir hefyd yn goeden ‘chequers’ yn Saesneg oherwydd y ffrwythau y dywedir eu bod yn blasu'n debyg i ddatys ac a roddwyd i blant yn y gorffennol fel fferins.

Yn draddodiadol, roedd ffrwythau o’r goeden hefyd yn cael eu gwneud yn ddiod feddwol tebyg i gwrw wedi’i eplesu, a chredir bod y ddiod hon wedi dylanwadu ar enwi llawer o dafarndai yn ‘Chequers’ ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r prosiectau eleni wedi cynnwys tyfu dros 1,000 o goed ysgaw drwy gymryd toriadau o ysgaw a oedd eisoes yn tyfu ar y safle. Yn hanesyddol defnyddiwyd yr ysgawen, sy’n ffynhonnell llifynnau, i wneud y patrwm ar frethyn Harris.

Ac mae cenhedlaeth newydd o goed sydd dan fygythiad yn paratoi i helpu i gefnogi glöyn byw prin.

Mae’r blanhigfa wedi bod yn tyfu cnwd o lwyfenni llydanddail i helpu’r rhywogaeth sydd dan fygythiad oherwydd clefyd llwyfen yr Isalmaen. Mae llawer o goed aeddfed wedi’u torri oherwydd y clefyd hwn, gan leihau twf a lledaeniad coed ifanc.

Mae dros 1,800 o lwyfenni llydanddail wedi’u tyfu o hadau a gasglwyd o Barc Gwledig Loggerheads y llynedd i helpu’r goeden i atgyfodi yn Sir Ddinbych. Yn y pen draw, bydd y rhain yn cael eu plannu yn natblygiad Gwarchodfa Natur Green Gates ger y blanhigfa goed.

Mae’r llwyfenni llydanddail yn blanhigion bwyd larfaol pwysig i’r Brithribin Gwyn, a gofnodwyd yn Loggerheads ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond mae bellach yn brin iawn yn y sir.

Mae coeden a oedd yn bwysig i’r Celtiaid ac sydd i’w gweld yn enw Ynys Afallon yn chwedl y Brenin Arthur hefyd ar gynnydd yn Sir Ddinbych.

Mae dros 2,500 o goed afalau surion yn adrodd stori newydd yn 2025 diolch i gefnogaeth y blanhigfa goed.

Mae cysylltiad hanesyddol cryf wedi bod rhwng coed afalau surion a chariad a phriodi. Byddai pobl ers talwm yn taflu hadau’r afalau i’r tân wrth ddweud enw eu cariad, ac os oeddent yn ffrwydro, byddai’r cariad yn para hyd byth. Roedd y Celtiaid yn llosgi’r prennau yn ystod gwyliau a defodau ffrwythlondeb.

Fe soniodd William Shakespeare am y goeden afalau surion yng nghyd-destun cariad yn ‘A Midsummers Night’s Dream’ a ‘Love Labours Lost’ hefyd.

Gall coed afalau surion dyfu’n 10 metr o uchder a byw am gan mlynedd, ac mae’r dail yn ffynhonnell o fwyd i wyfynod, yn cynnwys y gwyfyn tuswog llwyd, y smwtyn gwyrdd a’r gwalchwyfyn llygadog.

Mae’n ffynhonnell fwyd wych i fyd natur; mae adar wrth eu boddau â’r ffrwythau a llygod y maes, llygod cwta a moch daear hefyd yn mwynhau porthi ar yr afalau.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn helpu trigolion i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu cefnogaeth wedi'i theilwra i drigolion ledled y sir sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth, gan gynnwys hyder isel, pryder, a phrofiad gwaith cyfyngedig. Trwy fentora, cyfleoedd gwirfoddoli, a datblygu sgiliau, mae'r gwasanaeth yn helpu unigolion i feithrin hyder a symud yn agosach at eu nodau.

Un enghraifft o'r gefnogaeth hon yw Derek, a gafodd ei gyfeirio at Sir Ddinbych yn Gweithio drwy'r Ganolfan Waith ychydig flynyddoedd yn ôl. Ar y pryd, roedd Derek yn profi hyder isel, pryder, ac nid oedd ganddo'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i ymuno â'r gweithlu.

Gyda chanllawiau gan dîm Sir Ddinbych yn Gweithio a thrwy leoliad gwirfoddoli yn Warws Sant Cyndeyrn, mae Derek wedi gwneud cynnydd sylweddol. Mae bellach yn gweithio'n weithredol tuag at yrfa mewn cefnogaeth TG neu weinyddiaeth.

Dywedodd Derek, cyfranogwr Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Ar un adeg roeddwn i’n hynod o swil, gyda phryder difrifol a dim hyder.

“Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n cyrraedd lle rydw i nawr, ond gyda chefnogaeth gan Sir Ddinbych yn Gweithio a thrwy wirfoddoli, rydw i wedi goresgyn cymaint o rwystrau.

“Rwy’n gwybod y byddai’r fi iau yn falch o ba mor bell rydw i wedi dod.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae taith Derek yn enghraifft wych o’r effaith gadarnhaol y gall Sir Ddinbych yn Gweithio ei chael ar fywydau pobl.

“Mae’n ymwneud â mwy na dim ond dod o hyd i swydd, mae’n ymwneud â helpu pobl i ddatgloi eu potensial, goresgyn rhwystrau personol, a theimlo’n hyderus yn eu dyfodol.

“Rydym yn falch o gefnogi trigolion fel Derek ar eu taith tuag at gyflogaeth.”

Mae Derek yn parhau i feithrin ei sgiliau a’i brofiad trwy wirfoddoli ac mae’n benderfynol o sicrhau rôl amser llawn yn y dyfodol agos.

Mae ei daith yn rhan o ymgyrch ehangach “Mae Gwaith yn Gweithio” Tîm Anableddau Cymhleth ac Iechyd Meddwl Sir Ddinbych yn Gweithio, sy’n tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall gweithio, neu gymryd camau tuag at waith, ei chael ar fywydau pobl. Boed yn gwella lles, ennill hyder, cwrdd â phobl newydd, neu ddysgu sgiliau newydd, mae’r ymgyrch yn rhannu straeon go iawn o bob cwr o Sir Ddinbych i ysbrydoli eraill.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn wasanaeth am ddim sy’n helpu trigolion i gael mynediad at hyfforddiant, dod o hyd i waith, ac adeiladu hyder yn eu chwiliad am swydd. Gall unrhyw un sy’n chwilio am gymorth gysylltu drwy ymweld â’n gwefan.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

Ydych chi erioed wedi ystyried ble mae eich treth cyngor yn mynd?

Mae llawer yn meddwl bod treth cyngor yn talu am bopeth y mae awdurdod lleol yn ei gynnig, fodd bynnag, dim ond 26% o gyfanswm gwariant y Cyngor yw'r arian a gesglir gan drigolion yn flynyddol.

Ariannu\'r cyngorMae mwyafrif y cyllid (62%) yn dod ar ffurf 'Grant Cymorth Refeniw' gan Lywodraeth Cymru, tra bod y 12% sy'n weddill yn dod o drethi busnes, sef treth eiddo y mae busnesau'n ei dalu i helpu tuag at ariannu gwasanaethau lleol. Gallwch ddysgu mwy am sut mae'r Cyngor yn cael ei ariannu ar ein gwefan.

Felly ble mae’r treth cyngor yn mynd? Rydym wedi cynhyrchu infograffig yn seiliedig ar dreth cyngor eiddo Band D i geisio rhoi esboniad clir o sut mae taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i ariannu ystod o wasanaethau i drigolion yn y sir. Er bod yr infograffig hwn yn rhoi darlun o sut mae'r arian yn cael ei rannu rhwng gwahanol wasanaethau, mae deall beth mae trigolion yn ei gael am yr arian hwnnw’n bwysig. (Gellir gweld yr infograffig ar ddiwedd yr erthygl.)

Fel y gwelwch, mae mwyafrif gwariant treth cyngor yn mynd tuag at amddiffyn y rhai mwyaf bregus ac agored i niwed yn ein cymdeithas, gyda 66% yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg a gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.

Ysgolion ac addysgGydag Addysg yn cyfrif am 36.7% o’r gwariant, golyga hyn y gall Sir Ddinbych addysgu tua 16,500 o ddisgyblion mewn 44 ysgol gynradd, 2 ysgol pob oed, 2 ysgol arbennig, 6 ysgol uwchradd ac 1 uned cyfeirio disgyblion ar draws y sir, gyda thua 780 o athrawon yn darparu'r addysg.

Yn y maes addysg o hyd, mae cludiant ysgol yn cyfrif am 2.9% ac mae'r Cyngor yn cludo tua 2,871 o ddysgwyr yn ddiogel i ysgolion ledled y sir. Caiff 650 o deithiau bws ysgol a thacsi eu gwneud bob diwrnod ysgol.

Gofal cymdeithasol i oedolion a phlant infographicYn y cyfamser, mae gofal cymdeithasol oedolion a phlant yn cyfrif am 29.8% o wariant treth y Cyngor. Yn 2024-2025 cafodd oddeutu 668 aelod o staff dros 25,000 o gysylltiadau gyda'r plant a'r oedolion mwyaf agored i niwed gan ddarparu pecyn o ofal a chymorth lle bo’n briodol sy’n rhoi cyfle i'r trigolion hyn gael dewis, mynegi barn, a chael rheolaeth dros eu bywydau.

Mewn meysydd gwasanaeth eraill, mae 1.9% yn mynd tuag at ddiogelu'r cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd ac mae timau'r Cyngor yn archwilio tua 720 o fwytai, caffis a lleoedd tecawê bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn ddiogel ar gyfer trigolion Sir Ddinbych.

Mae gwagio biniau ac ailgylchu yn cyfrif am 1.8% o'ch bil treth cyngor, sy'n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D). Mae hynny'n cynnwys casglu tua 73,000 o gynwysyddion o dros 47,000 o gartrefi bob wythnos ledled y sir.

Am 1.8% o'r dreth cyngor rydym yn cynnal 1,419km o ffyrdd (ac eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a chelfertau, 302 o waliau a 26,000 o gwlïau. Ac am 0.8%, rydym yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a bolardiau wedi'u goleuo ledled y sir.

Cefn gwlad a mannau agoredHwyrach bod rhai gwasanaethau nad yw trigolion yn ymwybodol eu bod dan reolaeth cyngor, er enghraifft Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth. Gydag 1.1% o dreth cyngor yn mynd i'r gwasanaeth cefn gwlad, mae'r timau'n rheoli dros 80 o safleoedd a mwy na 1,200 hectar o ardaloedd gwyrdd cyhoeddus ar gyfer hamdden a chadwraeth. Mae'r rhain yn amrywio o Barciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau, meithrinfa goed y sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Ffordd Dyserth Prestatyn, Llain Llantysilio yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o fannau cymunedol a mwynder llai ar draws y sir.

Mae’r gwasanaeth treftadaeth yn cyfrif am 0.9% o wariant treth y cyngor, ac am hyn, mae'r gwasanaeth yn cynnal a hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (sydd yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr. Mae'r gwaith hwn yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

Cynllunio a datblygu economaiddMae cynllunio a datblygu economaidd yn cyfrif am 0.7% o wariant y treth cyngor ac am hynny mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn prosesu tua 1,000 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn ochr yn ochr â 10-20 o apeliadau a 50-100 o ymholiadau cyn-ymgeisio. Rydym hefyd yn ymateb i dros 500 o achosion cydymffurfio cynllunio.

Llyfrgelloedd infographicMae’r llyfrgelloedd yn cyfrif am 0.5% o’r gwariant ac yn 24-25, cynhaliodd  y llyfrgelloedd 514 o sesiynau Dechrau Da i bron i 6,500 o blant. Hefyd cafodd 2,869 o lyfrau sain eu benthyg i 1,028 o aelodau drwy Borrowbox (rhan o'r Cynnig Digidol) ac argraffwyd dros 56,000 o dudalennau ar argraffyddion mynediad cyhoeddus.

Nid yw'r holl dreth cyngor a gesglir yn talu am wasanaethau'r cyngor yn unig, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân i gyfrannu at ariannu amddiffyniad ac atal tân ledled y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol dros Gyllid yng Nghyngor Sir Dinbych, “Rwy’n falch o weld yr infograffig yma’n cael ei chynhyrchu a’i rhyddhau. Gobeithio y bydd yn rhoi’r cyd-destun sydd ei angen ar drigolion i ddeall sut mae eu taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i gefnogi’r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

 “Mewn hinsawdd ariannol sy’n parhau i fod yn heriol barhaus, mae’n bwysig bod yn agored a thryloyw ynglŷn â’r costau a’r pwysau. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod llawer o agweddau’r gwariant, yn hollol briodol, wedi’u hanelu at y gofyniad cyfreithiol i ddarparu Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant, ac Addysg ac ati. Dyma’r meysydd sy’n cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.”

Gwario\'r treth cyngor

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw