Cadwraeth y Gylfinir yn Gweld Arwyddion o Gynnydd yn Sir Ddinbych

Mae prosiect cadwraeth cydweithredol sydd â'r nod o amddiffyn un o rywogaethau adar mwyaf dan fygythiad Cymru wedi dangos arwyddion bach ond arwyddocaol o gynnydd y tymor hwn.

Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn rhan o brosiect “Cysylltu Gylfinir Cymru,” prosiect partneriaeth Adfer Gylfinir Cymru sy’n gweithio ochr yn ochr â Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helgig a Bywyd Gwyllt. Mae'r fenter hon yn rhan o raglen ehangach Gylfinir Cymru, partneriaeth Cymru gyfan sy'n ymroddedig i gefnogi poblogaethau Gylfinir sy'n bridio ledled y wlad, gan gynnwys yn Sir Ddinbych.

Ar hyn o bryd mae gylfinirod ar 'Restr Goch' Adar o Bryder Cadwraethol Cymru a'r DU, sy'n adlewyrchu eu dirywiad difrifol. Ers y 1990au, amcangyfrifir bod Cymru wedi gweld gostyngiad o 80% yn ei phoblogaeth o Ylfinirod sy'n bridio, yn bennaf oherwydd colli cynefinoedd, aflonyddwch yn ystod nythu, ac ysglyfaethu.

Mewn ymateb, mae ymdrechion cadwraeth wedi'u targedu wedi bod ar y gweill ar draws Ardal Bwysig 5 y Gylfinir (ICA5), sy'n cwmpasu rhannau helaeth o Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam. Cefnogir y gwaith hwn gan gyllid Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Y tymor hwn, gwelodd tîm y prosiect lwyddiant cymedrol ond ystyrlon: llwyddodd chwe chyw Gylfinir i hedfan yn ardal Sir Ddinbych, gwelliant sylweddol ar y flwyddyn flaenorol.

Cydnabu'r Swyddog Pobl a Gylfinir Lleol, Sam Kenyon, sydd wedi arwain y prosiect am y ddau dymor diwethaf, y gefnogaeth ymarferol a wnaeth llwyddiant y tymor yn bosibl.

“Fe wnaethon ni gofnodi tua 38 o barau bridio eleni ac roedden ni’n gallu gosod ffensys trydan o amgylch mwy na 10 nyth i leihau’r risg o ysglyfaethu, gyda mesurau amddiffyn pellach ar waith o amgylch cyfanswm o 21 pâr. Diolch i ymdrechion cyfunol ffermwyr, gwirfoddolwyr, a thîm amddiffynnol proffesiynol, llwyddodd chwe chyw i adael y nyth, sy’n wirioneddol gadarnhaol i boblogaeth y Gylfinirod lleol.”

Tynnodd Sam sylw at rôl hanfodol perchnogion tir:“Mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig gweld ffermwyr yn cefnogi’r Gylfinirod sy’n nythu ar eu tir. Aeth rhai y tu hwnt i’r disgwyl i'n helpu i ddod o hyd i nythod a'u hamddiffyn. Bu i’w gwybodaeth a'u parodrwydd i addasu eu gwaith dros dro o amgylch yr adar wneud gwahaniaeth enfawr.”

Er nad oedd y tymor heb rwystrau, gan gynnwys rhai wyau a fethodd â deor,  mae'r prosiect yn parhau i ganolbwyntio ar ddysgu a gwella. Roedd criw bach o wirfoddolwyr ymroddedig yn allweddol wrth fonitro ymddygiad adar, a gwerthfawrogwyd eu cyfraniadau'n fawr.

Er mwyn cefnogi ffermwyr a oedd yn gallu ymuno â'r ymdrechion i adfer y gylfinirod, darparodd y prosiect gronfa fechan ar gyfer unrhyw oedi o ran cael mynediad at faetholion a chynaeafu oherwydd mesurau amddiffyn nythod, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Sam: “Mae canlyniad y tymor hwn yn dangos beth sy’n bosibl pan rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd. Nid yw'n drobwynt dramatig, ond mae'n gam i'r cyfeiriad cywir, ac yn arwydd, gyda chefnogaeth barhaus, y gallwn roi cyfle i'r rhywogaeth eiconig hon."

Ategodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth Sir Ddinbych:

“Arferai’r Gylfinir gael ei weld yn rheolaidd ar un adeg ar hyd Gogledd Cymru a’r DU. Mae gweld chwe chyw yn gadael y nyth eleni yn dyst i ymrwymiad a gwaith caled pawb a oedd yn rhan o’r broses. Rydym yn falch o gefnogi'r prosiect hanfodol hwn ac yn obeithiol am yr hyn y gall tymhorau'r dyfodol ei gynnig.”

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw