Canmol Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor mewn adroddiad gan AGC

Mewn Adroddiad ar yr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad yn ddiweddar a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), canmolwyd Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Sir Ddinbych am ei “diwylliant cadarnhaol yn y gwasanaeth.” Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod “ffocws rhagorol ar lesiant y staff”, ac yn cydnabod bod "ymarferwyr yn fedrus, yn arloesol, ac yn ymrwymedig i'r bobl y maent yn eu cefnogi."

Cynhaliodd AGC yr arolygiad rhwng 8-12 Medi 2025 i adolygu perfformiad yr awdurdod lleol o ran ymarfer ei ddyletswyddau a swyddogaethau yn ymwneud â’r gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth.

Roedd y crynodeb o ganfyddiadau’r arolygiad yn canmol ymagwedd arweinyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion, gan ddatgan fod “arweinwyr yn brofiadol, yn rhoi arweinyddiaeth sefydlog ac yn gyfarwydd iawn â'u gwasanaeth” a bod “ymarferwyr yn eu disgrifio fel unigolion gweladwy, hawdd mynd atynt a chefnogol.”

Canolbwyntiodd yr arolygiad ar bedwar prif bwynt, Pobl - llais a rheolaeth, Atal, Llesiant a Phartneriaethau.

Canfu’r crynodeb o ganfyddiadau’r arolygiad hefyd fod yna "ddiwylliant dysgu cryf ynghyd â chyfleoedd i gwblhau hyfforddiant a chael budd o ymarfer myfyriol."

Dywedwyd fod ffocws y gwasanaethau ar les staff yn “rhagorol” gyda’r adroddiad yn datgan "caiff yr ymarferwyr a'r arweinwyr eu cefnogi drwy sesiynau goruchwylio ffurfiol ac anffurfiol rheolaidd" a “gwneir addasiadau angenrheidiol i hyrwyddo anghenion personol a phroffesiynol.”

Cafodd arferion ataliol a diogelu hefyd eu hamlygu yn yr adroddiad a ddywedodd fod yr “awdurdod lleol yn cynnig amrywiaeth gref o wasanaethau ataliol” a bod “arferion diogelu yn gadarn ac yn dilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru.”

Disgrifiwyd y tîm diogelu fel tîm “hawdd mynd atynt” ac yn "cael eu cefnogi’n dda” ac roedd hyn yn cynnwys yr “arbenigedd dynodedig yn y Pwynt Mynediad Unigol er mwyn helpu i wneud penderfyniadau wrth y drws ffrynt.”

Dywedwyd fod gan dîm diogelu’r gwasanaethau "weithdrefnau clir a chadarn ar waith i ystyried pryderon diogelu ac ymateb iddynt, ac mae'n cydweithio â thimau gwahanol yn y gwasanaeth yn ogystal ag asiantaethau partner a darparwyr."

Hefyd amlygwyd o fewn yr adroddiad fod y gwasanaethau yn cydweithio gyda gwasanaethau allweddol eraill a nodwyd fod yna "cydweithrediad gweithredol a strategol cryf ar draws asiantaethau partner, iechyd a gofal cymdeithasol, wedi'i ategu gan dimau wedi'u cyd-leoli fel Timau Adnoddau Cymunedol a'r tîm anableddau cymhleth."

Roedd hefyd yn dweud bod y "trefniadau cydweithio cadarnhaol â'r heddlu a gwasanaethau digartrefedd yn cyfrannu at ganlyniadau gwell" a bod yr "awdurdod lleol yn chwarae rôl ragweithiol mewn prosesau cynllunio strategol a diogelu rhanbarthol."

 Yn ogystal â hyn dywedodd yr adroddiad fod yna "gweithio mewn partneriaeth da ar waith ar draws timau i hyrwyddo anghenion gofal cymdeithasol a thai y bobl."

Canmolwyd yr awdurdod lleol am archwilio “dulliau arloesol a chosteffeithiol sy'n gwella canlyniadau i'r bobl” ac amlygwyd y ffaith fod y gwasanaethau wedi gweithredu’r model ‘Troi Dim Ond Unwaith’ fel enghraifft o hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae wir yn gadarnhaol i weld AGC yn cydnabod yr hyn mae cynifer ohonom yn ei wybod yn barod: mae ein timau Digartrefedd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn arwain gyda thosturi, ymroddiad ac ymagwedd sydd wir yn rhoi pobl yn gyntaf. Dros y blynyddoedd diwethaf mae ein timau wedi wynebu pwysau enfawr, ac eto maent yn parhau i ddangos ymroddiad eithriadol i’r bobl maent yn eu cefnogi.

Rydym yn gwybod y bydd yna feysydd bob amser lle byddwn eisiau dysgu, gwella neu addasu a dyna pam mae’n golygu cymaint i weld y gwaith caled i drawsnewid y gwasanaethau hyn a nodwyd yn yr adroddiad. Hoffwn ddiolch i’n staff a’n partneriaid am bopeth maent yn ei wneud bob dydd i gefnogi pobl ar hyd a lled Sir Ddinbych.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw