Canolbwynt Cymunedol i agor mewn pryd ar gyfer y Nadolig

Mae gwaith wedi’i gwblhau i drosi hen ysgol segur yn ganolbwynt cymunedol mawr ei angen.

Mae gwaith wedi’i gwblhau i drosi hen ysgol segur yn ganolbwynt cymunedol mawr ei angen.

Ar ôl cau Ysgol Bryneglwys yn 2014, daeth grŵp o wirfoddolwyr o’r pentref at ei gilydd i sicrhau y gallai ased cymunedol a fu’n werthfawr un tro fod yn rhan annatod o’r gymuned eto.

Ffurfiodd y grŵp o breswylwyr Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) gan ennill statws elusen ym mis Ebrill 2020. Y nod oedd trosi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol mawr ei angen. 

Ar 19 Ionawr 2023, cafodd Cyngor Sir Ddinbych gadarnhad bod £10.95 miliwn wedi’i ddyfarnu iddo gan Lywodraeth y DU ar gyfer etholaeth Gorllewin Clwyd gynt i gefnogi datblygu 10 prosiect sydd â’r nod o warchod treftadaeth unigryw Rhuthun, lles ei phobl a’i chymunedau gwledig.

Roedd y prosiect yn un o’r 10 a gafodd eu cynnwys yng nghais y Cyngor i Lywodraeth y DU ac o ganlyniad, cafodd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) £327,000 o’r cyllid gan Lywodraeth y DU i adnewyddu hen ysgol y pentref a chafwyd £65,000 arall gan Gronfa Ffermydd Gwynt Clocaenog tuag at y prosiect.

Ar ôl cael cyllid ar gyfer y prosiect, penododd CCIA Adever Constructioni wneud y gwaith gwella.

Roedd y gwaith yn cynnwys tynnu asbestos o’r adeilad, cynnal profion aer glân a rendro’r tu allan i’r adeilad, â’r bwriad o drosi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol gyda chaffi, a lle i gynnal digwyddiadau cymunedol ar gyfer preswylwyr Bryneglwys.

Dywedodd Pat Downes, Cadeirydd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA):

“Cafodd Cymdeithas Canolfan Iâl Association (CCIA) ei ffurfio fel elusen ag un nod, sef trosi’r hen ysgol yn ganolbwynt cymunedol mawr ei angen. Mae wedi bod yn llawer o waith caled ac mae gymaint o bobl wedi ein helpu ni dros y blynyddoedd. Bu llawer o waith tîm wrth i ni gyflawni’r prosiect hwn.

“Mae’n gyfnod cyffrous, nid yn unig i CCIA ond i’r pentref cyfan sydd wedi bod yn edrych ymlaen at gael y cyfleuster hwn. Bydd agor y canolbwynt cymunedol yma ym Mryneglwys yn cynnig cyfle i breswylwyr ddod at ei gilydd yn rheolaidd yn y caffi newydd, a byddwn ni’n gallu darparu lle i gynnal digwyddiadau fel cyngherddau. Bydd modd llogi’r canolbwynt cymunedol ar gyfer digwyddiadau preifat hefyd.”

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’n gyffrous bod Cyngor Sir Ddinbych wedi gallu cefnogi’r gymuned hon i gyflawni eu dyheadau. Mae canolbwyntiau fel rhain yn chwarae rôl hanfodol wrth ddod â’r preswylwyr at ei gilydd ac rydym wrth ein boddau bod gwaith wedi’i gwblhau mewn pryd ar gyfer y Nadolig!

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw