Criwiau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu yn lledaenu caredigrwydd yr ŵyl gyda Banc Bwyd Nadolig

Mae criwiau casglu gwastraff ac ailgylchu yn Sir Ddinbych yn lledaenu hwyl yr ŵyl drwy sefydlu banc bwyd Nadolig er mwyn helpu i gefnogi teuluoedd lleol.

Mae criwiau casglu gwastraff ac ailgylchu yn Sir Ddinbych yn lledaenu hwyl yr ŵyl drwy sefydlu banc bwyd Nadolig er mwyn helpu i gefnogi teuluoedd lleol.

Yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig, mae criwiau sydd wedi’u lleoli yng Ngorsaf Gwastraff ac Ailgylchu Dinbych wedi bod yn casglu rhoddion megis bwyd hanfodol, pethau ymolchi a nwyddau cartref bob dydd, er mwyn darparu ychydig mwy o gefnogaeth i deuluoedd.

Mae pwynt casglu banc bwyd wedi cael ei sefydlu yn ffreutur y safle, gan ganiatáu i bob aelod o staff sy’n gweithio o’r safle ddangos eu cefnogaeth. Bydd yr eitemau a roddir yn cael eu rhannu gyda Banc Bwyd y Rhyl.

Meddai Graeme White, Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu: “Gyda’r Nadolig ar y ffordd, roeddem yn meddwl y byddai’n syniad da i’r gwasanaeth Gwastraff gasglu eitemau bwyd, a fyddai wedyn yn cael eu rhoi i fanc bwyd lleol. Mae cymunedau ar draws Sir Ddinbych yn gefnogol iawn o’n criwiau pan maent allan yn gweithio, ac roeddem eisiau gwneud rhywbeth ein hunain, i gynnig cefnogaeth yn ôl y tymor hwn, i’r sawl sydd ei hangen fwyaf.

"Mae'r casgliad wedi mynd yn dda iawn hyd yma ac rydym wedi cael cefnogaeth gan bobl ar draws y Cyngor gan gynnwys staff gwasanaethau eraill, ein Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Corfforaethol ac aelodau o'r Cabinet sydd eisoes wedi galw mewn i'r safle i gyfrannu."

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwy’n gwybod bod ein criwiau gwastraff wir yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth maent yn ei chael gan ein preswylwyr pan maent allan yn gweithio ledled y sir, ac rwy’n falch iawn ohonynt am ddod ymlaen i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned maent yn ei gwasanaethu’r Nadolig hwn.”

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw