Cydnabyddiaeth genedlaethol i dîm Goleuadau Stryd am eu gwaith rheng flaen

Mae tîm Goleuadau Stryd Cyngor Sir Ddinbych wedi cael eu hamlygu am ddarparu gwaith rheng flaen mewn digwyddiad gwobrau cenedlaethol blynyddol. 

Mae’r Gwasanaeth wedi eu cynnwys ar restr fer dau gategori, sef y Perfformiwr Gorau a’r un sydd wedi Gwella Fwyaf yng Ngwobrau Rhwydweithiau Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus 2025.

Ledled y sir, mae’r gwasanaeth yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a bolardiau wedi’u goleuo i ddiogelu preswylwyr a chefnogi eu lles. 

Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) yw un o asiantaethau meincnodi mwyaf blaenllaw’r DU ac maen nhw’n gweithio gyda mwy na 200 o Gynghorau ar draws y DU.

Mae gwasanaeth Goleuadau Stryd Sir Ddinbych yn cyflwyno data bob blwyddyn, a gaiff ei fesur yn erbyn data arall o bob cwr o’r DU, sy’n cynnwys hyfforddiant staff, datblygiad a phresenoldeb, perfformiad gwasanaeth, sefyllfa ariannol, gwerth am arian a darpariaeth a rheolaeth gyffredinol y gwasanaeth.

Mae’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus wedi ymrwymo i dynnu sylw at ragoriaeth darpariaeth gwasanaethau rheng flaen i gymunedau lleol ac wedi rhoi’r gwasanaeth Goleuadau Stryd ar restr fer eu Gwobrau Rhwydweithiau Perfformio ar gyfer y Perfformiwr Gorau mewn Goleuadau Stryd a’r Perfformiwr sydd wedi Gwella Fwyaf mewn Goleuadau Stryd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydym yn falch bod ein staff Goleuadau Stryd gwych wedi cael eu cydnabod am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i gadw ein goleuadau stryd ymlaen i amddiffyn a helpu preswylwyr ar hyd a lled Sir Ddinbych.

“Gwn eu bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod y goleuadau’n aros ymlaen bob dydd a dylai pob un ohonynt fod yn falch ohonynt eu hunain am y gydnabyddiaeth hon.”

Cynhelir Seminar a Seremoni Wobrwyo’r Rhwydweithiau Perfformio eleni ddydd Iau 4 Rhagfyr a dydd Gwener 5 Rhagfyr 2025 yn y Village Hotel, Blackpool.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw