Cyllid i gynnal mwy o sesiynau Ceidwaid Chwarae yn Llangollen a Chorwen
Mae Llangollen a Chorwen am elwa ar ehangu’r ddarpariaeth ar ôl ysgol drwy wasanaeth Ceidwaid Chwarae’r Cyngor.

Un o weithgareddau gaeaf y tîm
Ariennir y sesiynau drwy Gronfa Ysgolion Bro Llywodraeth Cymru a byddant yn creu lle diogel i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae yn y ddwy o’r trefi hyn yn ne Sir Ddinbych. Cafwyd cyllid i gynnal sesiynau tan fis Hydref 2026 am y tro.
Anogir rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid i lenwi’r ffurflen gais i gofrestru eu plant ar gyfer y sesiynau. Gall rhieni roi eu henwau i lawr yn ystod y sesiynau hefyd os oes angen.
Cynhelir y sesiynau Ceidwaid Chwarae bob dydd Mercher rhwng 3.15pm a 4.45pm ar gae chwarae Cae Poncen yng Nghorwen a phob dydd Llun rhwng 3.15pm a 4.45pm ym Mharc Pengwern yn Llangollen.
Sesiynau i blant rhwng 6 ac 13 oed yw’r rhain ac mae croeso hefyd i blant iau yng nghwmni oedolyn.
Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:
“Rydym wedi cael cyllid tan fis Hydref y flwyddyn nesaf ac yn llawn cyffro i gynnig y sesiynau yng Nghorwen a Llangollen.
Hoffwn annog unrhyw rieni a gwarcheidwaid â diddordeb yn y sesiynau i lenwi’r ffurflen i gofrestru.”
Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:
“Mae chwarae’n rhan annatod o fod yn blentyn ac mae’n helpu i hybu dychymyg plant, eu datblygiad a’u sgiliau cymdeithasu o’r adeg y maen nhw’n fach iawn.
Ein gwasanaeth Ceidwaid Chwarae ardderchog ni sy’n cynnal y sesiynau hyn sy’n rhan o’r ddarpariaeth hwyliog a chyffrous i bobl ifanc yn Sir Ddinbych.
Mae’r tîm wedi gwrando ar y gymuned a chydnabod fod angen cynnal y sesiynau yma.”
I blant fedru cymryd rhan, dylai rhieni/gofalwyr lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer pob plentyn: https://www.denbighshire.gov.uk/cy/hamdden-a-thwristiaeth/ffurflenni/ceidwad-chwarae/ffurflen-gofrestru-gwasanaeth-ceidwaid-chwarae.aspx.