Cynllun datblygu staff a ariennir gan y Cyngor ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol uchelgeisiol yn dod â gwerth i'r gweithlu

Mae Chris, sy'n 35 oed, ar hyn o bryd yn gweithio yn Nhîm Atal Digartrefedd y cyngor ac yn cael ei ariannu gan y cyngor ar gwrs rhan-amser drwy'r Brifysgol Agored i ddod yn weithiwr cymdeithasol cwbl gymwys.

Chris

Mae Chris yn rhan o gynllun ‘Datblygu Eich Hun’ y cyngor ac yn astudio ochr yn ochr â’i rôl llawn amser, a bellach yn mynd i’w flwyddyn olaf.

Mae'r cynllun 'Datblygu Eich Hun' yn rhoi cyfle i staff presennol y cyngor hyfforddi ochr yn ochr â'u rôl bresennol i ddod yn weithwyr cymdeithasol cwbl gymwys.

Wrth siarad am y cyfle, dywedodd Chris:

“Rydw i wedi bod yn gweithio yn y Tîm Atal Digartrefedd ers y 5 mlynedd diwethaf, ac wedi bod yn gweithio o dan weithiwr cymdeithasol. Rydw i wir wedi gweld y byd yn wahanol wrth weithio yn y tîm hwn, mae wedi rhoi'r sgiliau i mi weithio gyda phobl a deall o ble maen nhw'n dod.

Gan weithio o dan weithiwr cymdeithasol, a gweld y gwaith maen nhw'n ei wneud, fe wnaeth i mi fod eisiau symud ymlaen a gwneud mwy i bobl, a'u helpu i rymuso eu hunain.”

Yn ôl yn 2022, trafododd Chris y cyfle gyda'i reolwr, ac ar ôl bod yn llwyddiannus mewn rownd o gyfweliadau, dechreuodd ei daith tuag at ddod yn Weithiwr Cymdeithasol. Roedd ei flwyddyn gyntaf yn cynnwys dau fodiwl ac yn para am ddwy flynedd.

Meddai Chris:

“Roeddwn i bob amser yn meddwl bod prifysgol allan o’m cyrraedd, ac rydw i wedi cael trafferth gyda hunanhyder yn y gorffennol. Ond pan ddaeth y cyfle, dangosodd fy rheolwr ffydd ynof, a’m hannog i wneud y cwrs. Mae’r tîm wedi bod yn wych.

Fe helpodd cymryd fy mlwyddyn gyntaf dros ddwy flynedd i mi ymgyfarwyddo, ac roedd yn golygu nad oedd gen i byth ddau aseiniad i’w gwneud ar yr un pryd.

Rhoddodd amser i mi anadlu a dod i arfer ag arddull ysgrifennu academaidd.

Gyda'r gofynion teuluol sydd gen i ar hyn o bryd, mae'r hyblygrwydd wedi helpu'n fawr.”

Ochr yn ochr â Chris, mae pedwar gweithiwr awdurdod lleol arall sy'n gweithio mewn gwahanol sectorau. Rhaid i bob ymgeisydd basio'r broses gyfweld cyn gallu dechrau ar eu blwyddyn gyntaf.

Dywedodd Chris:

“Roedd fy lleoliad cyntaf o fewn y tîm rwy'n gweithio ynddo ar hyn o bryd, a oedd yn ddefnyddiol iawn.

Roedd fy ail leoliad yn wych, roeddwn i yno am tua 90 diwrnod, a gallaf i ddim canmol digon amdano. Roedd y tîm y cefais fy rhoi gyda nhw yn rhagorol. Roeddwn i’n reit nerfus i fynd o fy lleoliad cyntaf, lle'r oeddwn i’n adnabod y tîm, i dîm arall.

Ond roedd Tîm Ardal De Sir Ddinbych, sef lle'r oedd fy ail leoliad, yn wych ac mor gefnogol. Roedd fy addysgwr ymarfer yn wych ac mor ymarferol. Doeddwn i byth yn poeni am fy mhortffolio, roedd y tîm yn rhoi cymaint o gymorth i mi.

Rhoddodd y cyngor un diwrnod astudio i mi yr wythnos yn ystod fy lleoliad, ac a bod yn deg â nhw, nid oedd yn rhaid iddyn nhw ei roi i mi, ac roedd hynny'n gymorth enfawr.

Roedd mor gyfleus, gan fod cymaint o waith i'w wneud. Roeddwn i mor ddiolchgar am y diwrnod astudio hwnnw, gan fy mod i wir yn meddwl y byddai wedi bod mor anodd mynd drwy'r flwyddyn ddiwethaf hebddo.”

Drwy wneud ei gwrs wrth barhau i weithio'n llawn amser, mae wedi caniatáu i Chris barhau i weithio drwy ei rôl arferol ac astudio ar yr un pryd, heb orfod poeni am ei gyllid.

Meddai Chris:

“Yn fy oedran i, a chyda’r teulu sydd gen i rŵan, does dim ffordd y byddwn i wedi gallu aberthu fy swydd i fynd i astudio yn y brifysgol. Mae Sir Ddinbych wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud yn siŵr nad oes rhaid i mi.”

Bydd Chris yn dechrau blwyddyn olaf ei gwrs yn fuan, a bydd yn graddio fis Hydref y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd:

“Mae ein cynllun Datblygu Eich Hun yn helpu’r rhai yn ein gweithlu sydd â diddordeb mewn dod yn weithiwr cymdeithasol gyda llwybr realistig, cefnogol a llwyddiannus i wneud hynny.

Gan weithio ar draws y gwasanaeth gofal cymdeithasol Oedolion a Phlant, mae'r llwybr hwn wedi bod yn llwyddiannus ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae'n helpu ein staff uchelgeisiol a gweithgar, fel Chris, i gynyddu eu sgiliau mewn ffordd fwy hyblyg nag a gynigir yn draddodiadol.

Hoffwn ddymuno’r gorau i Chris yn ei drydedd flwyddyn, a diolch iddo fo a’i gydweithwyr am y gwaith maen nhw wedi’i wneud hyd yn hyn.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw