Cystadleuaeth dymhorol yn arddangos gwledd o grefftau cefn gwlad traddodiadol

Mae sgiliau rheoli cefn gwlad traddodiadol wedi cael eu harddangos unwaith eto mewn cystadleuaeth flynyddol.

Mae sgiliau rheoli cefn gwlad traddodiadol wedi cael eu harddangos unwaith eto mewn cystadleuaeth flynyddol.

Dychwelodd cystadleuaeth plygu gwrych Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych eleni a gynhaliwyd ar fryniau Clwyd uwch ben Cilcain. 

Cymerodd deugain o gyfranogwyr, gan gynnwys gwirfoddolwyr, yr her o osod gwrychoedd ar dir gyda chaniatâd y perchennog, ychydig islaw llinell y bryn.

Yn ogystal â gwirfoddolwyr, roedd categori staff hefyd a oedd yn cynnwys cystadleuwyr o Cadwch Gymru'n Daclus, Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Gwirfoddolwyr Cadwraeth Cilgwri, Smithy Farm a Bodfari Environmental, yn ogystal â thimau o wahanol ardaloedd gwledig yn Sir Ddinbych, a gyda’i gilydd fe wnaethant blygu 140 metr o wrych.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn plygu gwrychoedd yn rheolaidd gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr i’w helpu i ddysgu’r sgiliau ar draws y sir er mwyn cefnogi natur leol.

Maent yn cyflawni'r sgil draddodiadol hon i adfer y gwrychoedd trwy dorri rhywfaint o’r coesynnau a’u gosod ar ongl i annog aildyfiant a llenwi bylchau yn y gwrych.

Roedd y sgil rheoli cefn gwlad hon yn dechneg gyffredin a ddefnyddiwyd gan ffermwyr a thirfeddianwyr fel rhan o'u hymdrechion i reoli ffiniau'r gaeaf. Daeth dulliau mecanyddol o gynnal a chadw gwrychoedd yn fwy cyffredin, ond mae astudiaethau wedi dangos bellach bod y dull hŷn hwn yn llawer mwy effeithiol ar gyfer aildyfiant gwrychoedd sydd fawr ei angen.

Wrth i’r gwrychoedd ddod yn fwy ffres ac iau yn eu hymddangosiad, mae’r dechneg hefyd yn galluogi i waelod y gwrych i dewychu gan roi cynefin mwy dwys er mwyn i fioamrywiaeth ffynnu.

Mae'r canlyniadau wedi'u cynnwys isod a chyflwynodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a'r Cefnogwr Bioamrywiaeth y gwobrau.

Canlyniadau:

Categori Gwirfoddolwyr

1af Peter Martin ac Ann Shaw

2il Mal Edwarda  a Matt Jones

3ydd Ed Howath a Huw

4ydd Fiona a Mary, yn gydradd â Terry Parry a Roger Jones 

 

Categori Staff

1af Rich Masson

2il Phil Lewis

3ydd Sasha Taylor  a Vitor Evora 

4ydd Imogen Hammond a Saul Burton, yn gydradd â Geraint Hughes a Richard 

Meddai’r Uwch Geidwad, Jim Kilpatrick: “Roedd hwn yn lleoliad gwych a hoffwn ddiolch i bawb a helpodd i wneud y diwrnod yn un llwyddiannus. Mae’r digwyddiad yn dangos cryfder y gwasanaeth pan ddown ynghyd o bob ardal gyda phawb yn cyfrannu ac yn ei wneud yn brofiad mor gadarnhaol i'r gwirfoddolwyr hefyd.

“Mae’r canlyniad terfynol, diolch i ymdrechion pawb, yn edrych yn anhygoel a bydd o gymorth mawr i fioamrywiaeth yn y rhan hon o Fryniau Clwyd.”

Ychwanegodd y Cyng. Barry Mellor: “Mae’r sgiliau sy’n cael eu harddangos yn y digwyddiad blynyddol hwn yn wych ac wir yn helpu i gadw’r dull traddodiadol hwn o reoli tir yn fyw nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Mae gwrychoedd yn gynefinoedd hanfodol i’n bywyd gwyllt lleol, a da iawn bawb a weithiodd mor galed yn y gystadleuaeth i arddangos yr enghraifft arbennig hon o hen dechneg o’r gorffennol sy’n dod â buddion anferthol i’r tir a bioamrywiaeth.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw