Ffyrdd Clyfar a Chynaliadwy o gael gwared ar eich Coeden Nadolig
A oeddech chi’n gwybod bod ffyrdd cynaliadwy o gael gwared ar eich Coeden Nadolig ar ôl i’r holl ddathlu ddod i ben?

A oeddech chi’n gwybod bod ffyrdd cynaliadwy o gael gwared ar eich Coeden Nadolig ar ôl i’r holl ddathlu ddod i ben?
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog preswylwyr i gael gwared ar eu coeden Nadolig yn briodol, boed a yw’n goeden go iawn neu’n artiffisial.
Os oes gennych goeden artiffisial, argymhellir eich bod yn ei defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn er mwyn helpu i leihau gwastraff. Pan fyddwch yn penderfynu cael gwared ar eich coeden artiffisial, gallwch fynd â hi i’ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol.
Gallwch ailgylchu coed go iawn drwy ddefnyddio’r bin gwyrdd ar olwynion (os oes gennych danysgrifiad gwastraff gardd). Sicrhewch eich bod yn torri’r goeden yn gyntaf i wneud yn siŵr ei bod yn ffitio yn eich bin. Os nad ydych yn gallu rhoi eich coeden yn eich bin, gallwch fynd â choed go iawn i’ch Parc Ailgylchu a Gwastraff lleol er mwyn eu gwaredu.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae dathlu tymor y Nadolig gyda Choed Nadolig a’u haddurno yn aml yn uchafbwynt i lawer o deuluoedd dros gyfnod yr Ŵyl. Pan fydd yn amser i chi gael gwared ar eich coeden, cofiwch ddefnyddio’r sianeli cywir a fydd o gymorth i leihau gwastraff dros gyfnod y Nadolig”.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i.