Gwobrwyo Tîm o Gyngor Sir Ddinbych

Mae tîm rheng flaen allweddol o Gyngor Sir Ddinbych wedi’i gydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol y mis hwn.

Mae tîm rheng flaen allweddol o Gyngor Sir Ddinbych wedi’i gydnabod mewn seremoni wobrwyo genedlaethol y mis hwn.

Yng Ngwobrau Perfformiad Rhwydwaith y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn ddiweddar, enwebwyd Tîm Goleuadau Stryd y Cyngor yn y categori ar gyfer y Perfformiwr Gorau mewn Goleuadau Stryd a’r categori ar gyfer y Perfformiwr wedi Gwella Fwyaf mewn Goleuadau Stryd. Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) yw un o asiantaethau meincnodi mwyaf blaenllaw’r DU ac maen nhw’n gweithio gyda mwy na 200 o Gynghorau ar draws y DU. Mae’r corff wedi ymrwymo i amlygu rhagoriaeth yn darparu gwasanaethau rheng flaen i gymunedau lleol.

Mae tîm Goleuadau Stryd y Cyngor yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a bolardiau wedi’u goleuo i ddiogelu a chefnogi lles preswylwyr Sir Ddinbych.

Cyflwynir data’r gwasanaeth bob blwyddyn i’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus, a gaiff ei fesur yn erbyn data arall o bob cwr o’r DU, sy’n cynnwys hyfforddiant staff, datblygiad a phresenoldeb, perfformiad gwasanaeth, sefyllfa ariannol, gwerth am arian a darpariaeth a rheolaeth gyffredinol y gwasanaeth.

Yn y seremoni wobrwyo flynyddol a gynhaliwyd yn Blackpool fe enillodd y tîm Goleuadau Stryd y wobr ar gyfer y Perfformiwr Gorau mewn Goleuadau Stryd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Llongyfarchiadau mawr i’r tîm, mae hwn yn gyflawniad enfawr. Ers 2008, maent wedi cael eu cynnwys ar restr fer y gwobrau hyn bob blwyddyn ac mae seremoni 2025 yn nodi’r degfed tro iddynt fod yn llwyddiannus. “Mae’r llwyddiant hwn yn brawf o waith caled ac ymrwymiad y tîm cyfan i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i breswylwyr Sir Ddinbych.”

Cafodd Gwasanaeth Arlwyo’r Cyngor hefyd ei gynnwys ar restr fer ar gyfer y Gwasanaeth Arlwyo Addysg sydd wedi Perfformio Orau ac sydd wedi Gwella Fwyaf yn dilyn eu gwaith i gynnal 54 o geginau ysgol yn ddyddiol i gynhyrchu 13,500 o brydau ffres i ddisgyblion Sir Ddinbych.

Ychwanegodd y Cynghorydd Mellor: “Hoffwn hefyd gydnabod gwaith caled ein staff Arlwyo, mae’r hyn maent yn ei wneud bob dydd yn cefnogi ein disgyblion ac yn eu helpu i ffynnu drwy eu haddysg, a dylent fod yn falch iawn o’r enwebiad.” 

“Gwn eu bod yn mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod y goleuadau’n aros ymlaen bob dydd, drwy eu hymroddiad, a dylai pob un ohonynt fod yn falch ohonynt eu hunain am y gydnabyddiaeth hon.”

Mae’r Gwasanaeth Arlwyo’n cynnal 54 o geginau ysgol ar draws Sir Ddinbych yn ddyddiol i gynhyrchu 13,500 o brydau ffres i ddisgyblion. Mae hynny’n 67,500 pryd sy’n cael ei weini yn ystod yr wythnos i helpu plant i ddysgu, tyfu a ffynnu.

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw