Parc gwledig Bodelwyddan yn dathlu ailagor i’r cyhoedd
Dechreuodd gwaith ar y safle yn 2022.

Cynhaliwyd seremoni’n ddiweddar i nodi agoriad swyddogol y safle ers i’r gwaith ddechrau yn 2022.
Wedi’i leoli wrth droed castell hanesyddol Bodelwyddan, dathlodd y safle ei agoriad swyddogol yn dilyn cwblhau cam cyntaf y gwaith.
Agorodd Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, Arwel Roberts y parc gwledig yn swyddogol yn y seremoni.

Cafodd y prosiect £900,000 gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin gyda’r bwriad o ymdrin â chyflwr y parcdir, gan ddechrau yn 2022.
Fel rhan o’r gwaith i ailagor y parcdir, y coedwigoedd a’r perllannau i’r cyhoedd, mae bron i filltir a hanner o lwybrau calchfaen newydd sy’n addas i bobl anabl yn nadreddu o waelod y parcdir i fyny at y coetir ym mhen uchaf y safle.
Er mwyn gwneud lle i’r ymwelwyr sy’n dychwelyd, crëwyd maes parcio newydd â lle i 73 o geir ger y fynedfa isaf oddi ar yr A55 a phenodwyd ceidwad cefn gwlad llawn amser â chyllideb benodol ar gyfer rheoli a chynnal a chadw’r parc.
Plannwyd gwrychoedd ar hyd y ffens derfyn i gefnogi natur yn y parcdir ac mae mynediad i geirw mewn rhai rhannau ohoni. Cafodd ffensys amddiffynnol arbennig eu hadeiladu yn y coetir i amddiffyn ardaloedd o goed a phlanhigion yn cynnwys yr hen Berllan Fictoraidd rhag ceirw er mwyn i rywogaethau penodol ffynnu’n gryfach yn y dyfodol.
Cafodd gwaith ei wneud i gadw’r ffosydd hanesyddol o’r Rhyfel Byd Cyntaf ym mhen uchaf y parcdir gyda ffensys newydd i amddiffyn y safle.
Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys creu 19,000m² o fannau gwyrdd, 2km o lwybrau, plannu 7,150 o goed a gosod sawl bwrdd dehongli ar hyd y llwybrau i egluro’r tir o amgylch.
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae agor y parc hwn yn garreg filltir wych i’r prosiect. Hoffwn gydnabod gwaith caled ein tîm cefn gwlad sydd wedi gweithio’n ddiflino i ymdrin â chyflwr y parc fel ein bod mewn sefyllfa i’w agor i’r cyhoedd.
“Fe fydd adnewyddu’r parcdir yn rhoi cefnogaeth hollbwysig y mae ein bywyd gwyllt lleol ei angen i oroesi wrth symud ymlaen a bydd hefyd yn rhoi lle gwych i breswylwyr ac ymwelwyr â Sir Ddinbych i ymweld i brofi’r natur sydd gan ein Sir i’w gynnig.”
