NEWYDDION

Clodfori gwirfoddolwyr am feithrin natur mewn planhigfa goed

Mae criw o wirfoddolwyr yn Sir Ddinbych wedi eu cydnabod am eu brwdfrydedd a’u hangerdd dros gefnogi prosiect i roi bywyd yn ôl i fyd natur.

Mae criw o wirfoddolwyr yn Sir Ddinbych wedi eu cydnabod am eu brwdfrydedd a’u hangerdd dros gefnogi prosiect i roi bywyd yn ôl i fyd natur.

Mae heddiw’n nodi Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr, diwrnod i ddathlu a diolch i bobl o amgylch y byd sy’n rhoi eu hamser prin a’u hymdrechion i wasanaeth gwirfoddol.

Draw ym mhlanhigfa goed leol y Cyngor yn Llanelwy, mae gwirfoddolwyr wedi creu cymuned sydd wedi camu ymlaen i gefnogi gyda’u dwylo eu hunain sawl prosiect tyfu coed a blodau gwyllt.

Caiff Planhigfa Goed y Cyngor ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Drwy eu diddordeb a’u hangerdd dros helpu natur a gan ddysgu sgiliau gan y tîm yn y blanhigfa goed, mae’r gwirfoddolwyr wedi helpu i ddod â bywyd newydd i’r Gerddinen.  Yn draddodiadol roedd ffrwythau o’r goeden hon hefyd yn cael eu gwneud yn ddiod feddwol tebyg i gwrw wedi’i eplesu, a chredir bod y ddiod wedi dylanwadu ar enwi llawer o dafarndai yn ‘Chequers’ ledled y DU.

Eleni maent hefyd wedi helpu tîm y blanhigfa goed i gynhyrchu dros 1,000 o goed ysgaw o ysgawen yn tyfu ar y safle drwy doriadau ac fe aethant ati i feithrin dros 1,800 o goed llwyfen lydanddail sydd nawr wedi eu tyfu o hadau a gasglwyd ym Mharc Gwledig Loggerheads y llynedd i helpu atgyfodiad y goeden yn Sir Ddinbych.

Dywedodd Sam Brown, Cynorthwyydd y Blanhigfa Goed:  “Rwyf wir yn edrych ymlaen at pan ddaw’r gwirfoddolwyr draw i’r safle. Mae’n wych i weithio gyda nhw, eu helpu i ddysgu sgiliau newydd gan fod eu hangerdd dros helpu natur yn anhygoel.

“Maent wedi creu cymuned fach hyfryd yma yn y blanhigfa goed ac maent wir wedi ein helpu ni i greu gwahaniaeth cadarnhaol ar gyfer ein natur leol drwy eu brwdfrydedd tra maent ar y safle gyda ni.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwyf wastad yn falch o weld yr angerdd a’r ymroddiad sydd gan ein gwirfoddolwyr yn y blanhigfa goed a’r modd maent yn rhoi eu hamser gan wenu sydd wedi creu cymuned hyfryd ar y safle. 

“Mae ein holl swyddogion sy’n gweithio ar y prosiect hwn wir yn gwerthfawrogi’r ymroddiad maent yn ei roi a’r gefnogaeth maent yn ei darparu ac maent yn mwynhau cwmni’r gwirfoddolwyr. Rwy’n gobeithio eu bod wedi mwynhau dysgu sgiliau newydd gyda’n tîm a’u bod yn parhau i fwynhau bod yn rhan o’r prosiect pwysig hwn ar gyfer natur leol yn Sir Ddinbych.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu os oes arnoch eisiau rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad hwn biodiversity@denbighshire.gov.uk

 

Gwasanaethau hyblyg wedi’u pweru gan drydan yn cludo trigolion lleol dros filoedd o filltiroedd

Mae trigolion Sir Ddinbych wedi gwneud sawl taith o amgylch y byd gan ddefnyddio dull cludiant mwy gwyrdd.

Mae trigolion Sir Ddinbych wedi gwneud sawl taith o amgylch y byd gan ddefnyddio dull cludiant mwy gwyrdd. 

Mae cerbydau cludiant wedi’u pweru gan drydan sy’n gweithredu o amgylch Rhuthun a Dinbych wedi cyrraedd carreg filltir bwysig y mis hwn. 

Lansiwyd gwasanaeth Fflecsi Rhuthun gan Drafnidiaeth Cymru a’r Cyngor yn 2022 gan ddechrau gyda bws mini 16-sedd di-allyriadau cyntaf y wlad a oedd yn rhedeg yn gyfan gwbl ar fatri, gyda chefnogaeth gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwasanaeth cludiant sy’n seiliedig ar alw’n galluogi teithwyr i archebu eu cludiant hyd at awr o flaen llaw trwy un ai lawrlwytho a defnyddio ap Fflecsi, ar wefan fflecsi.cymru neu trwy ffonio canolfan alwadau ddynodedig. Yna gall yr ap hysbysu’r cwsmer ynghylch unrhyw newidiadau yn yr amseroedd casglu.

Yn 2023, cafodd gwasanaeth fflecsi Dinbych ei ymestyn drwy waith gan Drafnidiaeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.  Roedd y cerbyd a ddyrannwyd ar gyfer hyn yn gerbyd trydan cwbl hygyrch â phedair sedd.

Ers dechrau gweithredu, mae bws mini trydan Rhuthun wedi gwneud bron i 74,000 o filltiroedd mwy gwyrdd i gefnogi trigolion lleol â’u bywydau bob dydd.  Mae hynny’n oddeutu 88 taith o Ben Tir Cernyw i Benrhyn Cothnais.

Mae cerbyd trydan Dinbych hefyd wedi darparu oddeutu 52,000 milltir o gludiant mwy gwyrdd, sy’n gyfystyr ag oddeutu 610 o deithiau o Gaergybi dros y ffin i Gaer. 

Ynghyd â’r ddau gerbyd trydan hyn sy’n gweithredu mewn ardaloedd gwledig, mae cyfanswm milltiroedd mwy gwyrdd yn y trefi cyfagos yn gyfystyr â phum taith o amgylch y byd. 

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae ein fflyd wedi gweithio’n galed i leihau’r ddibyniaeth ar gerbydau tanwydd ffosil i helpu i leihau ein hallyriadau carbon ar draws y sir. 

“Nid yn unig mae’r cerbydau cludiant effeithiol hyn yn darparu llai o allyriadau ar y ffyrdd, maent wirioneddol wedi darparu cefnogaeth hyblyg i drigolion Rhuthun a Dinbych barhau â’u bywydau bob dydd o amgylch pob un o’r trefi a’r ardal gyfagos. 

“Mae’n wych gweld pobl yn defnyddio’r gwasanaethau hyn ac yn manteisio ar gludiant trydan, a byddwn yn annog unrhyw un sydd o bosibl yn ei chael hi’n anodd teithio o amgylch yr ardal i roi cynnig ar y gwasanaeth Fflecsi.”

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am wasanaeth Rhuthun yma:

https://trc.cymru/fflecsi/lleoliadau/rhuthun

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am wasanaeth Dinbych yma:

https://trc.cymru/fflecsi/lleoliadau/dinbych

 

 

 

 

Dyfarnu Gwobr Ysgol Teithio Llesol Aur i Ysgol Emmanuel

Yn ddiweddar, dyfarnwyd Gwobr Ysgol Teithio Llesol Aur i Ysgol Emmanuel yn y Rhyl, un o’r ychydig ysgolion yn y wlad gyfan i gyflawni hyn.

Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn ddiweddar yn yr ysgol i ddathlu’r cyflawniad.

Mae’r ysgol wedi haeddu’r Wobr Aur am eu gwaith i hyrwyddo teithio llesol yng nghymuned yr ysgol, yn ogystal â’i gwaith gyda Rhaglen Teithiau Llesol y Walk Wheel Cycle Trust i annog arferion teithio iachach, gwyrddach.

Dyfernir Gwobrau Ysgol Teithio Llesol Aur i ysgolion sy’n dangos ymrwymiad parhaus i hyrwyddo teithio llesol a chynaliadwy dros lawer o flynyddoedd, sydd wedi arwain at newidiadau sefydliadol, diwylliannol ac ymddygiadol sylweddol a pharhaus.

Rhoddwyd plac i’r ysgol i gydnabod eu cyflawniad, yn ogystal â beiciau fel rhan o’r wobr.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae Ysgol Emmanuel wedi gweithio’n galed yn y gymuned i hyrwyddo teithio llesol, ac rwy’n falch iawn o weld bod y wobr hon wedi cael ei dyfarnu iddynt.

Mae llwyddo i fod yn un o’r ychydig ysgolion yn y wlad gyfan i gyflawni’r wobr Aur yn gyflawniad anferthol a dylent fod yn falch iawn o’u gwaith.”

Meddai Pennaeth Ysgol Emmanuel, Rona Archer:

“Rydym wedi gwirioni ein bod wedi cael y wobr hon, sy’n adlewyrchu’r holl waith caled a gweithgareddau gwahanol mae ein disgyblion, dan arweiniad ein hathrawes Cyngor Ysgol arweiniol, Mrs Edwards, wedi’i gwblhau.

Mae’r gwaith hwn hefyd wedi cyfrannu at ein gwaith Cwricwlwm, yn enwedig annog y plant i ddod yn unigolion iach a hyderus. Rydym yn ddiolchgar iawn i Deithiau Llesol am eu cefnogaeth ac am roi’r beiciau i ni, fydd yn caniatáu i’n disgyblion hynaf gymryd rhan mewn dosbarthiadau hyfedredd beicio yn y dyfodol os nad oes ganddynt feic eu hunain.”

Sir Ddinbych yn Gweithio yn hyrwyddo cynhwysiant

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn falch o gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl drwy hyrwyddo cynhwysiant a hygyrchedd.

Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth wedi’i deilwra ar gyfer trigolion ag anableddau, gan eu helpu i feithrin hyder, ennill sgiliau, a chael mynediad at gyfleoedd sy’n addas i’w hanghenion. Trwy fentora, gwirfoddoli a hyfforddiant ymarferol, mae’r gwasanaeth yn grymuso pobl i gyflawni eu nodau gyrfa.

Un enghraifft yw Dru, cyfranogwr a rannodd ei phrofiadau o fyw ag awtistiaeth ac anabledd gweledol. Trwy Sir Ddinbych yn Gweithio, llwyddodd i sicrhau ei rôl freuddwydiol ym maes weldio gyda Kwikweld. Rhoddodd y cyfle hwn hwb i'w hyder a'u galluogi i weithio mewn ffordd sy'n addas i'w hanghenion.

“Roeddwn i wedi cael fy niystyru fel risg yn y gweithle,” meddai Dru. “Pan gysylltais i â Sir Ddinbych yn Gweithio, fe wnaethon nhw fy helpu i fynd o gwmpas hynny. Mae [fy swydd] yn rhan o’m trefn nawr … mae’n golygu popeth.”

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i wneud cynhwysiant yn ganolog i bopeth y mae’n ei gynnig. Trwy Gynllun Cyfweliad Gwarantedig Hyderus o ran Anabledd y Cyngor, mae ymgeiswyr ag anableddau, a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol, yn cael cyfweliad yn awtomatig. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cydweithio â Hybwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru i gryfhau eu strategaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol ar gyfer Twf Economaidd a Thaclo Tlodi:

“Mae cynhwysiant wrth wraidd ein dull ni. Trwy bartneru â Hybwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru ac ymgorffori’r Cynllun Cyfweliad Gwarantedig Hyderus o ran Anabledd, rydym yn sicrhau bod recriwtio nid yn unig yn cydymffurfio ond yn wirioneddol gynhwysol. Ein nod yw creu cyfleoedd lle gall pawb gyfrannu eu sgiliau a’u doniau.”

Dywedodd Gareth Foulkes, Hyrwyddwr Anabledd Llywodraeth Cymru:

“Mae cyflogwyr yn aml yn wynebu heriau wrth ganfod staff medrus, ac mae gan bobl anabl gyfoeth o dalent i’w gynnig. Mae llawer yn dyheu am weithio a chyfrannu i’r gymdeithas fel unrhyw un arall, ac mae cynhwysiant yn gyfrifoldeb a rennir gennym ni i gyd. Rwy’n falch iawn o gydweithio â Sir Ddinbych yn Gweithio ar y mater pwysig hwn ac o helpu i greu mwy o gyfleoedd i bobl anabl. Gadewch i ni fynd ati!”

Mae’r diwrnod rhyngwladol yn atgyfnerthu mai ymrwymiad parhaus yw cynhwysiant. Nod y gwasanaeth yw adeiladu cymuned lle mae pawb yn gallu cael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnynt a chyfrannu at y gweithlu ar gyflymder sy’n addas iddyn nhw. Mae'r gwaith hwn hefyd yn rhan o'r fenter ‘Trailblazer’, sy'n canolbwyntio ar ddulliau arloesol i gael gwared ar rwystrau i gyflogaeth a hyrwyddo cynhwysiant i bawb.

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau cynhwysol neu gyfleoedd cyflogaeth, gall trigolion ffonio 01745 331438 / 07342 070635 neu ymweld â gwefan Sir Ddinbych yn Gweithio: www.sirddinbych.gov.uk/sir-ddinbych-yn-gweithio.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol trwy Raglen Cymunedau am Waith Plus Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd fwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur i oresgyn yr rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.

Rhywogaethau coed prin y DU yn cael bywyd newydd yn Sir Ddinbych

Mae coeden brin yn y DU wedi cael bywyd newydd yn Sir Ddinbych

Mae coeden sy’n brin yn y DU wedi cael bywyd newydd yn Sir Ddinbych o ganlyniad i’n prosiect pedair blynedd o hyd i helpu i ddiogelu’r rhywogaethau.

Mae Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor wedi cadarnhau drwy brofion geneteg eu bod wedi llwyddo i dyfu coed yr Aethnen Ddu o hadau.

Fe wnaed gwaith ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor ger Llanelwy sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Fe ddefnyddir ymagwedd tarddiad lleol i ddarparu hadau i’w tyfu yn Llanelwy hyd nes bod y coed yn barod i gael eu plannu ar dir lleol. Roedd y gwaith a wnaed yn cynnwys cymysgedd o gadw a hybu rhywogaethau coed craidd fel y dderwen tra hefyd rhoi cefnogaeth i gadw coed mwy prin fel y gerddinen a nawr, gyda chanlyniadau cyffrous - yr Aethnen Ddu.

Mae’r Aethnen Ddu, er yn brin iawn yn Sir Ddinbych, yn frodorol i ecoleg glannau afonydd a gorlifdiroedd y sir.  Gellir eu gweld wedi eu gwasgaru ar hyd Dyffryn Clwyd, a gellir eu hadnabod o’u rhisgl tywyll llawn holltau, boncyffion sy’n gwyro a changhennau sy’n troi tuag i lawr.

Mae coed aeddfed yn tyfu i 30 medr a gallant fyw am 200 mlynedd. Maent yn ddeuoecaidd sy’n golygu fod yna goed gwrywaidd a benywaidd ar wahân.

Credir fod yr Aethnen Ddu wedi lleihau o ran nifer o ganlyniad i golli cynefin yn sgil draenio a sianelu glannau afonydd, tynnu coed benywaidd a’u hadau gwlanog “diolwg” a gostyngiad yn y galw am eu coed gan fod aethnenni hybrid sy’n tyfu’n gynt wedi eu cyflwyno.  Ganrifoedd yn ôl roedd pren yr Aethnen Ddu yn cael ei ddefnyddio mewn adeiladau a chynnyrch amrywiol (mae pren yr aethnen yn gallu gwrthsefyll gwres ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer blociau brêc wagenni) hyd nes y trodd y diwydiant adeiladu at goed anfrodorol a lleihaodd y diddordeb yn yr aethnen ddu.

Fe weithiodd y Tîm Bioamrywiaeth i beillio o’r coed gwrywaidd oedd wedi goroesi mewn un lleoliad yn Sir Ddinbych gyda choeden fenywaidd mewn rhan arall o’r sir a choeden wrywaidd arall hefyd ar draws y ffin yng Nghonwy.

Eglurodd Liam Blazey, Uwch Swyddog Bioamrywiaeth: “Mae’r prosiect wedi bod ar y gweill ers pedair blynedd, o ymchwilio i leoliad coed Aethnen Ddu addas i’r broses mae’r tîm wedi ei rhoi mewn grym yn y blanhigfa goed i dyfu mwy o’r coed prin.”

“Rydym yn hynod gyffrous ein bod wedi tyfu’r aethnen ddu sy’n gwbl frodorol o had ac yn bwysicach fyth mae’r fethodoleg a ddefnyddiwyd gennym i wneud hyn wedi gweithio fel yr oeddem yn ei obeithio.

“Roedd y fethodoleg yn gweithio drwy gynnal peillio a reolwyd rhwng coed gwrywaidd a choed benywaidd dethol. Mae hyn wedi cynhyrchu Aethnen Ddu frodorol hyfyw ac mae hynny’n newyddion da iawn i ni ac i’r rhywogaethau.”

Eglurodd Liam fod y canlyniadau wedi eu hanfon at Labordy Geneteg Coedwigoedd Forest Research a gynhaliodd brawf olion bysedd DNA i benderfynu a oedd y gwaith yn llwyddiannus. Daeth y canlyniadau yn ôl yn gadarnhaol i’r holl goed a oedd wedi eu dewis ar hap, gyda’r canlyniadau’n dangos y cyfraniad geneteg priodol gan y fam a’r tad a ddisgwyliwyd. 

Dywedodd: “Mae mwyafrif lledaeniad yr aethnen ddu mewn hanes diweddar wedi bod trwy gymryd toriadau o lystyfiant, gan olygu yr un unigolyn ac felly caiff yr eneteg ei chopïo sawl tro.

“Mae’r ffaith ein bod wedi tyfu’r Aethnen Ddu o had yn hyfryd gan ei fod yn cyflwyno cyfuniadau geneteg newydd ac felly mwy o wytnwch i genhedlaeth nesaf yr Aethnen Ddu.”

Cam nesaf Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor yn y gwaith parhaus i amddiffyn yr Aethnen Ddu fydd i gydweithio gyda grwpiau eraill sydd â diddordeb yn y goeden brin ac eiconig hon.

Ychwanegodd Liam: “Allwn ni ddim parhau i fynd yn ôl at yr un goeden fenywaidd gan y gallai arwain at broblemau geneteg yn y pen draw, gan y byddai’r holl eginblanhigion yn frodyr neu’n chwiorydd gyda’r un fam. Yn y dyfodol rydym yn gobeithio cychwyn sgyrsiau gyda grwpiau lleol eraill sy’n gwybod am goed Aethnen Ddu benywaidd eraill, rhannu ein methodoleg a symud ymlaen o hynny a lledaenu’r genynnau sydd gennym ni yma yn y coed brodorol rydym wedi eu tyfu.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydym yn falch iawn o’n tîm Bioamrywiaeth am roi bywyd newydd i’r prosiect hwn i hybu rhywogaethau’r Aethnen Ddu yn y sir. Mae’n brin ar hyd a lled y DU a bydd ymdrechion gwych y tîm yn rhoi cyfle i’r goeden ffynnu unwaith eto yn Sir Ddinbych.”

 

 

 

Cydnabyddiaeth genedlaethol i dîm Goleuadau Stryd am eu gwaith rheng flaen

Mae tîm Goleuadau Stryd Cyngor Sir Ddinbych wedi cael eu hamlygu am ddarparu gwaith rheng flaen mewn digwyddiad gwobrau cenedlaethol blynyddol. 

Mae’r Gwasanaeth wedi eu cynnwys ar restr fer dau gategori, sef y Perfformiwr Gorau a’r un sydd wedi Gwella Fwyaf yng Ngwobrau Rhwydweithiau Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus 2025.

Ledled y sir, mae’r gwasanaeth yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a bolardiau wedi’u goleuo i ddiogelu preswylwyr a chefnogi eu lles. 

Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) yw un o asiantaethau meincnodi mwyaf blaenllaw’r DU ac maen nhw’n gweithio gyda mwy na 200 o Gynghorau ar draws y DU.

Mae gwasanaeth Goleuadau Stryd Sir Ddinbych yn cyflwyno data bob blwyddyn, a gaiff ei fesur yn erbyn data arall o bob cwr o’r DU, sy’n cynnwys hyfforddiant staff, datblygiad a phresenoldeb, perfformiad gwasanaeth, sefyllfa ariannol, gwerth am arian a darpariaeth a rheolaeth gyffredinol y gwasanaeth.

Mae’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus wedi ymrwymo i dynnu sylw at ragoriaeth darpariaeth gwasanaethau rheng flaen i gymunedau lleol ac wedi rhoi’r gwasanaeth Goleuadau Stryd ar restr fer eu Gwobrau Rhwydweithiau Perfformio ar gyfer y Perfformiwr Gorau mewn Goleuadau Stryd a’r Perfformiwr sydd wedi Gwella Fwyaf mewn Goleuadau Stryd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant:  “Rydym yn falch bod ein staff Goleuadau Stryd gwych wedi cael eu cydnabod am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i gadw ein goleuadau stryd ymlaen i amddiffyn a helpu preswylwyr ar hyd a lled Sir Ddinbych.

“Gwn eu bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod y goleuadau’n aros ymlaen bob dydd a dylai pob un ohonynt fod yn falch ohonynt eu hunain am y gydnabyddiaeth hon.”

Cynhelir Seminar a Seremoni Wobrwyo’r Rhwydweithiau Perfformio eleni ddydd Iau 4 Rhagfyr a dydd Gwener 5 Rhagfyr 2025 yn y Village Hotel, Blackpool.

Canmol Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor mewn adroddiad gan AGC

Mewn Adroddiad ar yr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad yn ddiweddar a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), canmolwyd Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion Cyngor Sir Ddinbych am ei “diwylliant cadarnhaol yn y gwasanaeth.” Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod “ffocws rhagorol ar lesiant y staff”, ac yn cydnabod bod "ymarferwyr yn fedrus, yn arloesol, ac yn ymrwymedig i'r bobl y maent yn eu cefnogi."

Cynhaliodd AGC yr arolygiad rhwng 8-12 Medi 2025 i adolygu perfformiad yr awdurdod lleol o ran ymarfer ei ddyletswyddau a swyddogaethau yn ymwneud â’r gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth.

Roedd y crynodeb o ganfyddiadau’r arolygiad yn canmol ymagwedd arweinyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion, gan ddatgan fod “arweinwyr yn brofiadol, yn rhoi arweinyddiaeth sefydlog ac yn gyfarwydd iawn â'u gwasanaeth” a bod “ymarferwyr yn eu disgrifio fel unigolion gweladwy, hawdd mynd atynt a chefnogol.”

Canolbwyntiodd yr arolygiad ar bedwar prif bwynt, Pobl - llais a rheolaeth, Atal, Llesiant a Phartneriaethau.

Canfu’r crynodeb o ganfyddiadau’r arolygiad hefyd fod yna "ddiwylliant dysgu cryf ynghyd â chyfleoedd i gwblhau hyfforddiant a chael budd o ymarfer myfyriol."

Dywedwyd fod ffocws y gwasanaethau ar les staff yn “rhagorol” gyda’r adroddiad yn datgan "caiff yr ymarferwyr a'r arweinwyr eu cefnogi drwy sesiynau goruchwylio ffurfiol ac anffurfiol rheolaidd" a “gwneir addasiadau angenrheidiol i hyrwyddo anghenion personol a phroffesiynol.”

Cafodd arferion ataliol a diogelu hefyd eu hamlygu yn yr adroddiad a ddywedodd fod yr “awdurdod lleol yn cynnig amrywiaeth gref o wasanaethau ataliol” a bod “arferion diogelu yn gadarn ac yn dilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru.”

Disgrifiwyd y tîm diogelu fel tîm “hawdd mynd atynt” ac yn "cael eu cefnogi’n dda” ac roedd hyn yn cynnwys yr “arbenigedd dynodedig yn y Pwynt Mynediad Unigol er mwyn helpu i wneud penderfyniadau wrth y drws ffrynt.”

Dywedwyd fod gan dîm diogelu’r gwasanaethau "weithdrefnau clir a chadarn ar waith i ystyried pryderon diogelu ac ymateb iddynt, ac mae'n cydweithio â thimau gwahanol yn y gwasanaeth yn ogystal ag asiantaethau partner a darparwyr."

Hefyd amlygwyd o fewn yr adroddiad fod y gwasanaethau yn cydweithio gyda gwasanaethau allweddol eraill a nodwyd fod yna "cydweithrediad gweithredol a strategol cryf ar draws asiantaethau partner, iechyd a gofal cymdeithasol, wedi'i ategu gan dimau wedi'u cyd-leoli fel Timau Adnoddau Cymunedol a'r tîm anableddau cymhleth."

Roedd hefyd yn dweud bod y "trefniadau cydweithio cadarnhaol â'r heddlu a gwasanaethau digartrefedd yn cyfrannu at ganlyniadau gwell" a bod yr "awdurdod lleol yn chwarae rôl ragweithiol mewn prosesau cynllunio strategol a diogelu rhanbarthol."

 Yn ogystal â hyn dywedodd yr adroddiad fod yna "gweithio mewn partneriaeth da ar waith ar draws timau i hyrwyddo anghenion gofal cymdeithasol a thai y bobl."

Canmolwyd yr awdurdod lleol am archwilio “dulliau arloesol a chosteffeithiol sy'n gwella canlyniadau i'r bobl” ac amlygwyd y ffaith fod y gwasanaethau wedi gweithredu’r model ‘Troi Dim Ond Unwaith’ fel enghraifft o hyn.

Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae wir yn gadarnhaol i weld AGC yn cydnabod yr hyn mae cynifer ohonom yn ei wybod yn barod: mae ein timau Digartrefedd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn arwain gyda thosturi, ymroddiad ac ymagwedd sydd wir yn rhoi pobl yn gyntaf. Dros y blynyddoedd diwethaf mae ein timau wedi wynebu pwysau enfawr, ac eto maent yn parhau i ddangos ymroddiad eithriadol i’r bobl maent yn eu cefnogi.

Rydym yn gwybod y bydd yna feysydd bob amser lle byddwn eisiau dysgu, gwella neu addasu a dyna pam mae’n golygu cymaint i weld y gwaith caled i drawsnewid y gwasanaethau hyn a nodwyd yn yr adroddiad. Hoffwn ddiolch i’n staff a’n partneriaid am bopeth maent yn ei wneud bob dydd i gefnogi pobl ar hyd a lled Sir Ddinbych.”

Cadwraeth y Gylfinir yn Gweld Arwyddion o Gynnydd yn Sir Ddinbych

Mae prosiect cadwraeth cydweithredol sydd â'r nod o amddiffyn un o rywogaethau adar mwyaf dan fygythiad Cymru wedi dangos arwyddion bach ond arwyddocaol o gynnydd y tymor hwn.

Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Tirweddau Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi bod yn rhan o brosiect “Cysylltu Gylfinir Cymru,” prosiect partneriaeth Adfer Gylfinir Cymru sy’n gweithio ochr yn ochr â Bannau Brycheiniog a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helgig a Bywyd Gwyllt. Mae'r fenter hon yn rhan o raglen ehangach Gylfinir Cymru, partneriaeth Cymru gyfan sy'n ymroddedig i gefnogi poblogaethau Gylfinir sy'n bridio ledled y wlad, gan gynnwys yn Sir Ddinbych.

Ar hyn o bryd mae gylfinirod ar 'Restr Goch' Adar o Bryder Cadwraethol Cymru a'r DU, sy'n adlewyrchu eu dirywiad difrifol. Ers y 1990au, amcangyfrifir bod Cymru wedi gweld gostyngiad o 80% yn ei phoblogaeth o Ylfinirod sy'n bridio, yn bennaf oherwydd colli cynefinoedd, aflonyddwch yn ystod nythu, ac ysglyfaethu.

Mewn ymateb, mae ymdrechion cadwraeth wedi'u targedu wedi bod ar y gweill ar draws Ardal Bwysig 5 y Gylfinir (ICA5), sy'n cwmpasu rhannau helaeth o Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam. Cefnogir y gwaith hwn gan gyllid Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Y tymor hwn, gwelodd tîm y prosiect lwyddiant cymedrol ond ystyrlon: llwyddodd chwe chyw Gylfinir i hedfan yn ardal Sir Ddinbych, gwelliant sylweddol ar y flwyddyn flaenorol.

Cydnabu'r Swyddog Pobl a Gylfinir Lleol, Sam Kenyon, sydd wedi arwain y prosiect am y ddau dymor diwethaf, y gefnogaeth ymarferol a wnaeth llwyddiant y tymor yn bosibl.

“Fe wnaethon ni gofnodi tua 38 o barau bridio eleni ac roedden ni’n gallu gosod ffensys trydan o amgylch mwy na 10 nyth i leihau’r risg o ysglyfaethu, gyda mesurau amddiffyn pellach ar waith o amgylch cyfanswm o 21 pâr. Diolch i ymdrechion cyfunol ffermwyr, gwirfoddolwyr, a thîm amddiffynnol proffesiynol, llwyddodd chwe chyw i adael y nyth, sy’n wirioneddol gadarnhaol i boblogaeth y Gylfinirod lleol.”

Tynnodd Sam sylw at rôl hanfodol perchnogion tir:“Mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig gweld ffermwyr yn cefnogi’r Gylfinirod sy’n nythu ar eu tir. Aeth rhai y tu hwnt i’r disgwyl i'n helpu i ddod o hyd i nythod a'u hamddiffyn. Bu i’w gwybodaeth a'u parodrwydd i addasu eu gwaith dros dro o amgylch yr adar wneud gwahaniaeth enfawr.”

Er nad oedd y tymor heb rwystrau, gan gynnwys rhai wyau a fethodd â deor,  mae'r prosiect yn parhau i ganolbwyntio ar ddysgu a gwella. Roedd criw bach o wirfoddolwyr ymroddedig yn allweddol wrth fonitro ymddygiad adar, a gwerthfawrogwyd eu cyfraniadau'n fawr.

Er mwyn cefnogi ffermwyr a oedd yn gallu ymuno â'r ymdrechion i adfer y gylfinirod, darparodd y prosiect gronfa fechan ar gyfer unrhyw oedi o ran cael mynediad at faetholion a chynaeafu oherwydd mesurau amddiffyn nythod, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Ychwanegodd Sam: “Mae canlyniad y tymor hwn yn dangos beth sy’n bosibl pan rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd. Nid yw'n drobwynt dramatig, ond mae'n gam i'r cyfeiriad cywir, ac yn arwydd, gyda chefnogaeth barhaus, y gallwn roi cyfle i'r rhywogaeth eiconig hon."

Ategodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth Sir Ddinbych:

“Arferai’r Gylfinir gael ei weld yn rheolaidd ar un adeg ar hyd Gogledd Cymru a’r DU. Mae gweld chwe chyw yn gadael y nyth eleni yn dyst i ymrwymiad a gwaith caled pawb a oedd yn rhan o’r broses. Rydym yn falch o gefnogi'r prosiect hanfodol hwn ac yn obeithiol am yr hyn y gall tymhorau'r dyfodol ei gynnig.”

 

Mae Gwaith yn Gweithio: Cefnogi preswylwyr Sir Ddinbych i gael cyflogaeth â chymorth

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio – gwasanaeth sy’n cael ei redeg gan Gyngor Sir Ddinbych – wedi lansio ymgyrch newydd o’r enw Mae Gwaith yn Gweithio, i helpu preswylwyr lleol i gymryd eu camau cyntaf at waith neu ddychwelyd ar ôl cyfnod i ffwrdd, gyda chefnogaeth am ddim wedi ei theilwra.

Bwriad Sir Ddinbych yn Gweithio yw dangos sut y gall gwaith drawsnewid bywydau pobl, yn arbennig y rheiny sy’n economaidd anweithgar o ganlyniad i gyflyrau iechyd hirdymor, anableddau neu gyfrifoldebau gofalu, drwy gynnig buddion personol, cymdeithasol ac emosiynol.

Wrth wraidd y neges mae’r ddealltwriaeth bod cyflogaeth yn ffordd o roi hwb i’ch iechyd, hyder a lles, a, diolch i gyflogwyr lleol yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych, mae mwy o weithleoedd cefnogol a chynhwysol yn cael eu creu i helpu preswylwyr lleol i ffynnu. Mae’r ymgyrch yn rhan o ymdrech ehangach i wneud cyflogaeth yn fwy cynhwysol a hygyrch ledled Sir Ddinbych.

Pa un a fo’n swydd gyntaf, rôl dros dro, neu’n swydd wirfoddol, mae pob cyfle’n cyfrannu at fwy o sefydlogrwydd, lles a thwf personol. Mae cyflogaeth hefyd yn gosod esiampl gadarnhaol o fewn teuluoedd a chymunedau, gan atgyfnerthu manteision ehangach bod mewn gwaith.

Tîm Sir Ddinbych yn Gweithio yn arwyddo'r gair 'cysylltu' [Iaith Arwyddion Prydain]

Dywed Dru, cyfranogwr llwyddiannus o Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Fe wnaeth fy ymgynghorydd fy helpu i fagu hyder, ac mae’n fwy buddiol rŵan gan fy mod yn gallu mentro mwy … Yn y dechrau roeddwn yn nerfus iawn ac mi ddois o’m cragen ymhen amser. Gyda Sir Ddinbych yn Gweithio wrth fy ochr, rydw i’n barod i fynd … Mae gwaith yn rhan o fy nhrefn arferol rŵan ac allaf i ddim aros i fynd yno bob dydd.”

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cefnogaeth un i un i oresgyn yr heriau y gall pobl eu hwynebu wrth gael cyflogaeth, ac mae’n darparu cefnogaeth drwy gydol y siwrnai – o chwilio am swydd ac ysgrifennu CV, i baratoi ar gyfer cyfweliadau ac arweiniad mewn cyflogaeth. Canolbwyntir ar ddatblygu dyfodol sy’n gweithio i bawb.

Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf? Rydym yma i’ch helpu i wneud iddo ddigwydd.

Ffoniwch ni ar 01745 331438 / 07342 070635 neu ewch i www.denbighshire.gov.uk/cy/swyddi-a-gweithwyr/sir-ddinbych-yn-gweithio/sir-ddinbych-yn-gweithio.aspx i gychwyn y siwrnai.

Nodyn:

Mae Sir Ddinbych yn defnyddio dulliau creadigol a hygyrch i gyrraedd y rheiny nad ydynt ar-lein, rhai sydd wedi ymddieithrio, neu bobl sy’n wynebu rhwystrau rhag gweithio. Fe’i hategir gan gynllun peilot Trailblazer Llywodraeth y DU, ac mae’n dod â thimau’r Cyngor a phartneriaid ynghyd i gynnig cymorth wedi ei bersonoleiddio – o feithrin hyder a sgiliau i ganfod y swydd iawn ac aros ynddi.

Gwybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio:

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

Cynllun parcio 'am ddim ar ôl tri' y Cyngor yn dychwelyd dros Nadolig

Bydd y menter yn dychwelyd eto eleni. 

Bydd menter ‘Am ddim ar ôl tri’ Cyngor Sir Ddinbych yn dychwelyd eto eleni. 

Rhwng 24 Tachwedd a 31 Rhagfyr, fe fydd meysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y dref ar draws Sir Ddinbych am ddim ar ôl 3pm, i annog mwy o bobl i ddefnyddio eu stryd fawr leol i siopa yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Bydd y fenter ‘Am Ddim Ar Ôl Tri’ ar gael yn y meysydd parcio canlynol:

Corwen: Lôn Las

Dinbych: Lôn Ffynnon Barcer, Lôn Crown, Ward y Ffatri, Lôn y Post, a Stryd y Dyffryn. 

Llangollen: Stryd y Dwyrain, Stryd y Neuadd, Heol y Farchnad, Heol y Felin

Prestatyn: Rhodfa Rhedyn, Rhodfa’r Brenin, Stryd Fawr Isaf, Ffordd Llys Nant, yr Orsaf Reilffordd.

Rhuddlan: Stryd y Senedd.

Y Rhyl: Llyfrgell (mannau anabl yn unig), Ffordd Morley, Heol y Frenhines, yr Orsaf Reilffordd, Neuadd y Dref, Tŵr Awyr, Gorllewin Stryd Cinmel.

Rhuthun: Crispin Yard, Lôn Dogfael; Stryd y Farchnad, Heol y Parc, Stryd y Rhos, Sgwâr Sant Pedr, Troed y Rhiw

Llanelwy: Lawnt Fowlio.

Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd wedi clustnodi pump diwrnod o barcio am ddim y flwyddyn i Gynghorau Dinas a Thref.  Mae manylion y dyddiadau sy’n weddill ar gyfer pob Cyngor Dinas a Thref i’w gweld isod:

Corwen: 03/11, 12/12, 13/12, 20/12.

Dinbych:30/11.

Llangollen: 29/11, 20/12, 21/12.

Prestatyn:21/11, 22/11, 24/12.

Rhuddlan: 08/11, 09/11, 07/12, 13/12.

Y Rhyl:20/12, 21/12, 22/12, 23/12, 24/12.

Llanelwy:09/11, 28/11, 25/12, 26/12, 31/12.

Rhuthun: Dyddiadau i’w cadarnhau.

Bydd y meysydd parcio sydd wedi’u rhestru o dan fenter ‘Am ddim ar ôl tri’ hefyd yn cael eu cynnwys yn y diwrnodau parcio am ddim. 

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  

“Mae menter ‘Am ddim ar ôl tri’ wedi bod yn boblogaidd yn y blynyddoedd diwethaf gan ei fod yn gynllun gwych sydd yn galluogi preswylwyr i gefnogi eu cymunedau lleol.

“Gobeithiwn y bydd pawb yn cefnogi eu stryd fawr a’u busnesau lleol, yn arbennig yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, ac yn cymryd mantais o’r cynllun gan ddefnyddio meysydd parcio canol trefi’r sir yn rhad ac am ddim.”

Gwasanaethau Arlwyo’n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol

Mae Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ddarparu gwasanaethau rheng flaen

Mae Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ddarparu gwasanaethau rheng flaen.

Mae tîm y Gwasanaethau Arlwyo wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Rhwydweithiau Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) 2025. 

Mae’r Gwasanaeth Arlwyo’n cynnal 54 o geginau ysgol ar draws Sir Ddinbych yn ddyddiol i gynhyrchu 13,500 o brydau ffres i ddisgyblion. Mae hynny’n 67,500 pryd sy’n cael ei weini yn ystod yr wythnos i helpu plant i ddysgu, tyfu a ffynnu.

Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) yw un o asiantaethau meincnodi mwyaf blaenllaw’r DU ac maen nhw’n gweithio gyda mwy na 200 o Gynghorau ar draws y DU. Mae gwasanaeth arlwyo Sir Ddinbych yn cyflwyno data meincnodi bob blwyddyn i APSE, a gaiff ei fesur yn erbyn data arall o bob cwr o’r DU, sy’n cynnwys nifer y plant sy’n talu am brydau ysgol a’r nifer sy’n eu cael am ddim, hyfforddiant staff, perfformiad gwasanaeth, sefyllfa ariannol, gwerth am arian a darpariaeth a rheolaeth gyffredinol y gwasanaeth.

Maent yn ymrwymo i hyrwyddo rhagoriaeth yn darparu gwasanaethau rheng flaen i gymunedau lleol ar draws y DU.  Mae Gwasanaethau Arlwyo’r Cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Gwasanaeth Arlwyo Addysg sydd wedi Perfformio Orau ac sydd wedi Gwella Fwyaf yng Ngwobrau Rhwydweithiau Perfformiad yr ASPE.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae’n bleser gweld bod ein Gwasanaeth Arlwyo gwych wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith i ddarparu prydau iach a chytbwys sy’n rhoi’r dechrau gorau i ddiwrnod ysgol ein plant. 

“Mae staff arlwyo’n parhau i wneud ymdrech arbennig bob dydd i ddarparu miloedd o brydau  bwyd cytbwys eu maeth, a hynny gan ddefnyddio gofal a chynnyrch lleol, a dylent fod yn falch o’r hyn y maent wedi’i gyflawni.”

 

 

Cyfleuster gofal plant newydd yn agor yn Ysgol Twm o’r Nant

Cafodd adeilad cyfleuster gofal plant newydd Ysgol Twm o’r Nant ei agor yn swyddogol gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Arwel Roberts ddydd Iau, 13 Tachwedd. 

Y Cynghorydd Arwel Roberts (Cadeirydd y Cyngor) gyda Y Cynghorydd Diane King (Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd), Dafydd Davies (Pennaeth Ysgol Twm o’r Nant) a Nicola Stubbins (Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg)

Torri'r rhuban

Cafodd y prosiect, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2024 a’i gwblhau yn ystod haf 2025, ei ariannu gan ymrwymiad Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru i gyflwyno Canolfannau Dysgu Cymunedol sy’n cynnig gwasanaethau estynedig gyda gofal plant, cymorth magu plant, dysgu fel teulu a mynediad cymunedol i gyfleusterau a ffurfiwyd o amgylch y diwrnod ysgol.

Mae'r cyfleuster newydd, sydd drws nesaf i adeilad yr ysgol, yn darparu cyfleusterau gwell ar gyfer darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg i deuluoedd lleol yn ardal Dinbych, gan ychwanegu at gynnig cyffredinol y Cyngor yn Sir Ddinbych.

Prif fynedfa yr adeilad newydd

Mae’r adeilad newydd wedi cael ei ddylunio i gyd-fynd â lliwiau a phensaernïaeth adeilad y brif ysgol, mae tua 230 metr sgwâr mewn maint ac mae’n cynnwys dwy ystafell ddosbarth ac ardal dysgu yn yr awyr agored. Mae’r prosiect hwn wedi cael ei ddylunio gan dîm pensaernïaeth mewnol y Cyngor.

Yr adeilad newydd gyda'r ysgol i'r dde

Meddai Pennaeth Ysgol Twm o’r Nant, Dafydd Davies:

“Mae adeilad y feithrinfa newydd yn fwy na gofod - dyma ble fydd dysgwyr ifanc yn tyfu, yn chwarae ac yn ffynnu drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae’r datblygiad yn adlewyrchu’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg a’r angen am ddarpariaethau Cymraeg o safon yn ein hardal, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i ddysgu a ffynnu yn y Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’r cyfleuster newydd yma’n golygu bod gan deuluoedd yn ardal Dinbych fynediad at ddarpariaeth gofal plant gwych o safon uchel.

Mae’r cyfleuster yn cadarnhau ein hymrwymiad fel Cyngor i ymestyn ein darpariaeth gofal plant o safon uchel yn ein Sir, ac mae’r cyfleuster yma’n ychwanegiad gwych yn ardal Dinbych. 

Mae’n wych gweld bod yr adeilad yma bellach wedi cael ei agor yn swyddogol, ac fe fydd o fudd i’r gymuned am genedlaethau i ddod.”

Y Cabinet yn cytuno ar gynigion ar gyfer darpariaeth toiledau cyhoeddus yn y dyfodol

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno ar gynigion a fydd yn cadw’r rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus y sir yn agored

Mae Cabinet Cyngor Sir Ddinbych wedi cytuno ar gynigion a fydd yn cadw’r rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus y sir yn agored, gyda chefnogaeth Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.

Yng nghyfarfod y Cabinet heddiw, cydnabu Aelodau Arweiniol gostau gweithredol pob cyfleuster cyhoeddus yn y sir, ac ystyriwyd y cynnig ar gyfer pob cyfleuster yn unol â safbwynt pob Cyngor Dinas, Tref a Chymuned.

Ers mis Mai eleni mae’r Cyngor wedi bod yn cydweithio ymhellach gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i geisio cadw cymaint o doiledau cyhoeddus â phosibl yn agored ar ôl 31 Mawrth 2026.

Er bod y Cyngor yn cydnabod eu pwysigrwydd, mae toiledau cyhoeddus yn wasanaeth anstatudol, ac nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i’w darparu.

Nid yw’r arian a dderbynnir gan y Cyngor wedi bod yn cyd-fynd â’r pwysau ariannol a chost gynyddol darparu gwasanaethau, yn arbennig gwasanaethau statudol fel gofal cymdeithasol ac addysg.  Felly mae yna lai o arian i’w wario ar wasanaethau “Creu Lleoedd”, megis toiledau cyhoeddus.

Mae’r Cyngor wedi gweithio gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned i ganfod model cynaliadwy i ariannu a diogelu cymaint o gyfleusterau â phosibl, a heddiw cydnabu Aelodau’r Cabinet gynigion ar gyfer cadw’r rhan fwyaf o doiledau cyhoeddus yn agored, diolch i’r dull cydweithredol hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rydym yn gwybod ac yn cydnabod bod toiledau cyhoeddus yn gyfleusterau gwerthfawr i’n preswylwyr yn Sir Ddinbych. Ers mis Mai rydym wedi bod yn siarad eto â’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned perthnasol mewn ffordd agored a thryloyw i ganfod ffordd gydweithredol o gadw’r cyfleusterau hyn yn agored.

“Rydw i eisiau diolch i’r Cynghorau Tref a Chymuned am eu hagwedd gadarnhaol a’u cydweithrediad, sydd wedi ein helpu i gyrraedd y sefyllfa lle gallwn bellach gadw’r rhan fwyaf o’n toiledau cyhoeddus yn agored.”

Mae manylion llawn y cynigion a roddwyd ger bron y Cabinet ar gael yma

 

Dyddiadau Casglu Gwastraff dros y Nadolig

Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i gasgliadau gwastraff y cartref.

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cynghori trigolion i fod yn ymwybodol o newidiadau dros dro i ddyddiau casglu gwastraff ac ailgylchu dros wyliau’r Nadolig.

Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i gasgliadau gwastraff y cartref. Mae rhai dyddiau casglu wedi newid, sef:

  • Dydd Llun 22 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Sadwrn 20 Rhagfyr 2025.
  • Dydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Llun 22 Rhagfyr 2025.
  • Dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025.
  • Dydd Iau 25 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Mercher 24 Rhagfyr 2025.
  • Dydd Gwener 26 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
  • Dydd Llun 29 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
  • Dydd Mawrth 30 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
  • Dydd Mercher 31 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
  • Dydd Iau, 1 Ionawr 2026 - i’w casglu ddydd Sadwrn 3 Ionawr 2026.
  • Dydd Gwener 2 Ionawr 2026 - dim newid (diwrnod casglu arferol).

Casgliadau gwastraff ac ailgylchu masnachol

Bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i gasgliadau gwastraff dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd:

  • Dydd Llun 22 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Sadwrn 20 Rhagfyr 2025.
  • Dydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Llun 22 Rhagfyr 2025.
  • Dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025.
  • Dydd Iau 25 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Mercher 24 Rhagfyr 2025.
  • Dydd Gwener 26 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
  • Dydd Llun 29 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
  • Dydd Mawrth 30 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
  • Dydd Mercher 31 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
  • Dydd Iau, 1 Ionawr 2026 - i’w casglu ddydd Sadwrn 3 Ionawr 2026.
  • Dydd Gwener 2 Ionawr 2026 - dim newid (diwrnod casglu arferol).

 

Casgliadau Gwastraff o’r Ardd

Dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud i gasgliadau gwastraff o’r ardd:

  • Dydd Llun 22 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Sadwrn 20 Rhagfyr 2025.
  • Dydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Llun 22 Rhagfyr 2025.
  • Dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025.
  • Dydd Iau 25 Rhagfyr 2025 - i’w casglu ddydd Mercher 24 Rhagfyr 2025.
  • Dydd Gwener 26 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
  • Dydd Llun 29 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
  • Dydd Mawrth 30 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
  • Dydd Mercher 31 Rhagfyr 2025 - dim newid (diwrnod casglu arferol).
  • Dydd Iau, 1 Ionawr 2026 - i’w casglu ddydd Sadwrn 3 Ionawr 2026.
  • Dydd Gwener 2 Ionawr 2026 - dim newid (diwrnod casglu arferol).

Yn ystod y cyfnod hwn, gall trigolion drefnu i ymweld â’n parciau gwastraff ac ailgylchu. Mae manylion am yr hyn a dderbynnir yn ein parciau gwastraff ac ailgylchu ar gael ar y wefan

Byddwn ni’n dychwelyd i’r drefn arferol o ran casgliadau ddydd Llun, 5 Ionawr 2026.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Gall cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd olygu llawer o wastraff ac ailgylchu gan ei fod yn gyfnod o ddathlu i bawb.  O bapur lapio i boteli, mae llawer o eitemau ychwanegol y mae ein timau gwastraff ardderchog yn eu casglu dros gyfnod y Nadolig. Rydym ni eisiau diolch i’n trigolion am eu dealltwriaeth ynghylch y newidiadau hyn ac am eu cydweithrediad yn ystod cyfnod y Nadolig.”

Mae’r wybodaeth i gyd am gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ar wefan y Cyngor.

Gall trigolion wirio sut i ailgylchu eitemau ar ganllaw ailgylchu A i Y y Cyngor ar-lein.

 

Sesiynau galw heibio cysylltedd digidol am ddim

Mae trigolion a busnesau Sir Ddinbych yn cael eu gwahodd i fynychu sesiynau galw heibio cysylltedd digidol am ddim ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr yn Llyfrgelloedd Llangollen a Chorwen.

Bydd y sesiynau, a gynhelir gan Swyddog Digidol Cyngor Sir Dinbych, Philip Burrows, yn cynnig cyngor a chymorth wedi'i deilwra i unrhyw un sy'n cael trafferth gyda'u cysylltiad rhyngrwyd. Gall Philip helpu i ymchwilio i broblemau, cysylltu ag Openreach ar eich rhan, a darparu adroddiad manwl ar eich cysylltiad a datrysiad i unrhyw broblem.

Fel rhan o'r sesiynau, gall trigolion a busnesau hefyd ddysgu mwy am y rhwydwaith LoRaWan newydd sy'n cael ei osod ledled Sir Dinbych gyda chyllid gan Uchelgais Gogledd Cymru. Bydd y rhwydwaith ystod hir hwn yn darparu mynediad agored i fusnesau a thrigolion, gan ganiatáu iddynt gysylltu synwyryddion clyfar â'r rhyngrwyd.

Gall synwyryddion LoRaWan arbed amser ac arian trwy fonitro sefyllfaoedd o bell - er enghraifft, gall ffermwyr olrhain iechyd da byw, monitro mynediad giâtiau, neu wirio lefelau tanciau dŵr a thanwydd, i gyd o bell.

Manylion y sesiynau:

Llyfrgell Llangollen

  • Dydd Iau 20 Tachwedd (9am – 12pm)
  • Dydd Gwener, 5 Rhagfyr (9am – 12pm)

Llyfrgell Corwen

  • Dydd Llun, 24 Tachwedd (9am – 12pm)
  • Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr (9am – 12pm)

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros yr Iaith Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion a busnesau gael cymorth arbenigol i wella eu cysylltiadau digidol.

“Mae mynediad rhyngrwyd dibynadwy yn hanfodol i’n cymunedau, a bydd y rhwydwaith LoRaWan newydd yn agor posibiliadau cyffrous ar gyfer arloesi - o ffermio a thwristiaeth i weithrediadau busnesau bach.

“Byddwn yn annog unrhyw un sydd wedi profi problemau cysylltedd neu sydd eisiau dysgu am fanteision technoleg synhwyrydd i ddod i’r sesiynau rhad ac am ddim hyn.”

Mae’r gwasanaeth wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae ar gael yn rhad ac am ddim i bob busnes a thrigolion yn Sir Ddinbych.

I gael rhagor o wybodaeth neu i gael mynediad at gymorth, cysylltwch â Philip Burrows yn philip.burrows@sirddinbych.gov.uk

Gellir dod o hyd i wybodaeth am lyfrgelloedd Llangollen a Chorwen ar ein gwefan.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw