Diweddariad mis Tachwedd – Gwaith cynnal a chadw ffyrdd

Mae ein tîm Priffyrdd wrthi’n cwblhau gwaith cynnal a chadw ar draws y sir.

Rydym yn gyfrifol am gynnal a chadw 1,400 cilomedr o ffyrdd yn Sir Ddinbych. Mae ein timoedd yn cwblhau rhaglen waith rheolaidd i gynnal a gwella ein ffyrdd, sy’n amrywio o drwsio tyllau yn y ffyrdd i brosiectau ail wynebu ffyrdd.

Mae’n bosibl y bydd angen cau ffyrdd er mwyn cwblhau gwaith trwsio, draenio a gwaith cefnogol arall.

Isod mae rhestr o waith Priffyrdd ar gyfer mis Tachwedd:

Lleoliad

Math o waith

Rheolaeth traffig dros dro neu gau’r ffordd

Dyddiad i fod i ddechrau

Dyddiad i fod i orffen

Dinbych - A543 Stryd y Dyffryn (cyffordd goleuadau traffig)

Gwaith ail arwynebu

Gwaith Hebrwng

02.11.2025

18.11.2025

Rhuddlan – Ffordd Bodelwyddan: Fferm Meadow Brook i arwydd 20mya

Gwaith clytio

Stop / Mynd

03.11.2025

05.11.2025

Bontuchel – Capel Wern to i gyffordd Ysceibion bach

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

03.11.2025

14.11.2025

Prion – Llewesog Lodge i groesffordd Pen Y Cae

Gwaith draeniad

Ffordd ar gau

10.11.2025

12.11.2025

Cyffylliog - Cyffylliog i Hiraethog

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

10.11.2025

21.11.2025

Bontuchel – cyffordd Penyrhengoed i Bontuchel

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

16.11.2025

Dydd Sul yn unig

23.11.2025

Dydd Sul yn unig

Llanbedr – Lon Cae Glas

Gwaith draeniad a gwrychoedd

Ffordd ar gau

17.11.2025

21.11.2025

Bontuchel – Bontuchel i gyffordd Ysgeibion

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

17.11.2025

28.11.2025

Bodfari - B5429 Tremeirchion i Dolben Arms

Gwaith ail arwynebu

Ffordd ar gau

21.11.2025

05.12.2025

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, "Mae ein timau Priffyrdd yn gweithio'n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn i gynnal a chadw'r ffyrdd ledled y sir. Hoffwn ddiolch i drigolion am eu hamynedd a'u cefnogaeth y mis hwn wrth i ni gwblhau'r gwaith pwysig hwn."

Gall dyddiadau gwaith newid oherwydd y tywydd neu ffactorau allanol eraill.

Am yr holl wybodaeth am waith ar draws ffyrdd Sir Ddinbych, gan gynnwys gwasanaethau eraill y Cyngor a chwmnïau cyfleustodau, ewch i'r ddolen hon am ragor o wybodaeth.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw