Profi’r fflyd graeanu

Bydd criwiau cynnal a chadw’r gaeaf Cyngor Sir Ddinbych yn profi ein fflyd graeanu ddydd Mercher 12 Tachwedd i baratoi ar gyfer tymor y gaeaf. Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r tîm wedi bod yn ail-lenwi stoc halen ffyrdd a chalibro’r taenwyr ar ein fflyd graeanu. Mae’r prawf yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein cerbydau’n gweithio’n iawn cyn i’r cyfnod cyntaf o dywydd islaw’r rhewbwynt gyrraedd ar draws y sir.