Tîm Safonau Masnach i gynnal sesiynau profi blancedi trydan

Bydd y Tîm Safonau Masnach yn profi unrhyw flanced drydan dwbl neu sengl

Bydd tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych yn cynnal sesiynau am ddim i brofi Blancedi Trydan yn Llyfrgell Prestatyn ar 25 Tachwedd.

Bydd y Tîm Safonau Masnach yn profi unrhyw flanced drydan dwbl neu sengl cyn belled â bod yr holl geblau, rheolyddion a phlygiau sy'n gysylltiedig â'r blancedi trydan yn cael eu dwyn gyda nhw i'w profi.

Nid oes angen apwyntiad, a chynhelir y sesiwn alw heibio o 10.00am i 4.00pm. Os bydd blanced drydan yn methu’r prawf diogelwch, darperir un newydd am ddim (yn dibynnu ar argaeledd). Bydd unrhyw flancedi sy’n hŷn na 10 oed yn methu’n awtomatig.

Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Mae blancedi trydan wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd wrth i’r tywydd oeri. Er eu bod yn bethau gwych i’n cadw’n gynnes, mae’n bwysig eu bod yn cael eu cynnal yn gywir i sicrhau eu bod yn ddiogel.

“Byddwn yn annog preswylwyr Sir Ddinbych i bicio i un o’r sesiynau galw heibio i ddysgu mwy am y blancedi.”

I gael rhagor o wybodaeth am Dîm Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych, ewch i’n gwefan

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, cysylltwch â 01824 706057.

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw