Cynllun gwerth £66m yn amddiffyn cannoedd o eiddo yn y Rhyl rhag llifogydd
Dydd Iau 9 Hydref, agorwyd y prosiect mwyaf o fewn Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru yn swyddogol.

Bydd Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Canol y Rhyl, sydd werth £66m, yn amddiffyn bron i 600 o eiddo yn y Rhyl rhag llifogydd ac erydiad arfordirol am ddegawdau i ddod.
Arianwyd 85% o'r costau adeiladu gan Lywodraeth Cymru, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog yn cyfeirio at y prosiect fel 'carreg filltir arwyddocaol' mewn ymdrechion i amddiffyn cymunedau Cymru rhag bygythiadau cynyddol newid hinsawdd. Cyfrannodd Cyngor Sir Ddinbych y 15% sy'n weddill.
Mae'r prosiect hefyd wedi cefnogi'r economi leol trwy gyflogi 34 o bobl leol, creu chwe swydd newydd a chefnogi 132 wythnos o brentisiaethau, yn ogystal â meithrin sgiliau a gyrfaoedd mewn diwydiannau hanfodol. Bu cannoedd o fyfyrwyr hefyd yn cymryd rhan drwy gydol y prosiect diolch i weithgareddau cwricwlaidd a phrofiad gwaith.
Bydd y cynllun yn amddiffyn 548 o eiddo preswyl a 44 o eiddo dibreswyl yn y Rhyl, gan ddiogelu cartrefi, busnesau a'r economi dwristiaeth hanfodol sy'n cefnogi'r gymuned leol.

Y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog a'r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych
Wrth agor y prosiect yn swyddogol, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
“Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaol i gadw teuluoedd a busnesau’n ddiogel rhag llifogydd arfordirol drwy gefnogi’r economi leol y mae cymaint yn dibynnu arni.
“Mae cwblhau’r prosiect hwn yn tanlinellu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod buddsoddi mewn amddiffyn arfordirol yn ymwneud â seilwaith yn ogystal ag amddiffyn bywoliaeth, cadw cymunedau, a sicrhau bod Cymru’n wydn yn wyneb ein hinsawdd sy’n newid.
“Gall pobl y Rhyl nawr wynebu’r dyfodol gyda mwy o hyder, gan wybod bod eu cymuned wedi’i hamddiffyn yn well rhag grymoedd natur.”
Mae Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Canol y Rhyl yn rhan o Raglen Rheoli Risg Arfordirol £291m Llywodraeth Cymru, sy’n ymateb yn uniongyrchol i’r heriau newid hinsawdd.
Dros bum mlynedd, bydd y rhaglen yn ariannu 15 o gynlluniau ledled Cymru, gyda bron i 14,000 o eiddo yn elwa, a darparu amddiffyniad gwell rhag llifogydd arfordirol i filoedd o deuluoedd a busnesau.
Bydd Rhaglen Rheoli Risg Llifogydd ac Erydiad Arfordirol flynyddol Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £300m dros gyfnod y tymor llywodraethol hwn, gan gynnwys cynlluniau ychwanegol a fydd o fudd i gymunedau arfordirol ledled Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Sir Dinbych: “Ar ôl gweld effeithiau dinistriol y llifogydd arfordirol a darodd y Rhyl ar Ragfyr 5, 2013, mae'r gwaith hwn yn arbennig o agos at fy nghalon.
“Agorodd y Cyngor Ganolfan Hamdden y Rhyl ar y pryd i’r gymuned oherwydd y llifogydd difrifol, ac mae’r atgof o weld fy mhreswylwyr yn dod i mewn yn wlyb at eu crwyn ac yn glynu wrth eu hanifeiliaid anwes yn aros gyda mi hyd heddiw.
“Mae trigolion yn dal i ddweud hyd heddiw pa mor ddiolchgar ydyn nhw gan y gallant bellach gysgu’r y nos heb boeni am lifogydd yn eu cartrefi, felly rwyf mor falch o weld y cwblhad y prosiect a fydd nawr yn rhoi tawelwch meddwl i drigolion a pherchnogion busnesau yn y Rhyl.
“Mae cwblhau'r cynlluniau amddiffyn arfordirol ym Mhrestatyn, Dwyrain y Rhyl a nawr Canol y Rhyl yn dyst i'r bartneriaeth gwaith rhagorol a ddatblygwyd yn ystod y tri phrosiect ac ar ran y Cyngor rhaid i mi estyn fy niolch i Balfour Beatty sydd wedi gwneud gwaith gwych o gyflawni'r tri chynllun hyn o flaen yr amserlen ac o dan y gyllideb.”
Dywedodd Kay Slade, Cyfarwyddwr Ardal yn Balfour Beatty: "Rydym yn falch o fod wedi cyflawni'r cynllun hanfodol hwn a fydd yn amddiffyn cannoedd o gartrefi a busnesau yn y Rhyl ac yn sefyll fel atgof o'r effaith gadarnhaol y gall seilwaith cynaliadwy, wedi'i gynllunio'n dda ei chael ar gymunedau lleol.
“Y tu hwnt i wella gwydnwch arfordirol, mae'r prosiect hwn wedi cefnogi swyddi lleol, wedi creu cyfleoedd newydd, ac wedi helpu i feithrin sgiliau hanfodol a fydd yn gwasanaethu'r rhanbarth ymhell i'r dyfodol."
Daw agoriad y cynllun wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnal ei wythnos flynyddol ‘Byddwch yn Barod am Lifogydd’, gan annog pobl i wirio eu risg llifogydd ar-lein, cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim a gwybod beth i’w wneud os rhagwelir llifogydd yn eu hardal y gaeaf hwn. Dysgwch fwy yma.
