ERTHYGLAU

Profiadau byd natur gwerthfawr i gefnogi bioamrywiaeth

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar draws tiroedd a dyfroedd Sir Ddinbych i helpu i adfer natur

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar draws tiroedd a dyfroedd Sir Ddinbych i helpu i adfer natur, sy’n wynebu pwysau cynyddol yn sgil effeithiau dynol a newid hinsawdd.

Mae Llais y Sir wedi cael sgwrs ag Evie Challinor, Swyddog Bioamrywiaeth i ddarganfod sut mae hi wedi cyrraedd y swydd hon, sy’n cefnogi natur ar draws ein sir.

Treuliodd Evie’r rhan gyntaf o’i bywyd yn archwilio beth oedd gan awyr agored canolbarth Cymru i’w gynnig i unigolyn ifanc anturus. 

Dywedodd:  “Mae llawer o amaethyddiaeth yng nghanolbarth Cymru; mae’n wahanol iawn i fan hyn.  Mae safleoedd cadwraeth yno, ond nid oedd llawer ohonynt yn lleol i mi.  Fodd bynnag, treuliais oriau o’m bywyd cynnar yn ymgymryd ag anturiaethau amrywiol, sblasio mewn pyllau, dringo coed, dilyn afonydd; lle bynnag y gallwn i grwydro.”

Wrth ystyried ei hastudiaethau Lefel A, magodd Evie ddiddordeb mewn gyrfa yn yr awyr agored ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei hanturiaethau yn ei blynyddoedd cynnar. 

“Mae’r byd naturiol wedi bod yn ddiddordeb bwysig i mi erioed, yn arbennig ecosystemau a chysylltedd y byd naturiol. Roedd gennyf feddwl academaidd, a’r cam nesaf naturiol i mi oedd dilyn gyrfa mewn Bioleg.  

“Yn dilyn rhywfaint o waith ymchwil, dois o hyd i gwrs Sŵoleg, a phenderfynais mai hwn oedd y cam nesaf i mi.  Mynychais Brifysgol Bangor lle treuliais 3 blynedd yn astudio Sŵoleg.  Roedd yn wych cael Eryri ac Ynys Môn ar garreg drws ar gyfer dysgu a hamdden… roedd yn Brifysgol wych.”

Mae pobl sy’n caru anifeiliaid yn aml yn tueddu i astudio Sŵoleg i gynnal eu hangerdd am gadwraeth.

Eglurodd Evie: “Credaf fod nifer o bobl yn sylweddoli ar ôl cyrraedd na ellir astudio anifeiliaid yn unig.  Mae’n rhaid dysgu am blanhigion hefyd, ac mae hynny’n wir am fy swydd bresennol.  Mae planhigion yn sylfaen i bopeth.”

“Wrth astudio fy nghwrs israddedig, ymddiddorais mewn sŵoleg gymharol, sef astudio addasiadau unigryw anifeiliaid a’u hymddygiad.  Mae hyn wedi fy arwain i lawr y llwybr anthropoleg ac esblygu, gan gynnwys ystyried sut mae anifeiliaid a phlanhigion wedi addasu i’w hamgylchiadau.   Datblygodd hyn i fod yn ddiddordeb mewn cadwraeth, a’m hysgogodd i aros a chwblhau cwrs Meistr mewn Cadwraeth a Rheoli Tir.”

Llwyddodd Evie i ennill profiad yn ystod ei chyfnod ym Mangor, gan dreulio cyfnod yn gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Chymdeithas Eryri.

“Roedd Cymdeithas Eryri’n weithredol iawn yn yr ardal ac yn sefydliad gwych i fyfyrwyr ennill profiad â hwy.  Roeddent yn darparu cludiant, a oedd o gymorth mawr i mi fel myfyriwr heb gar.  Cefais gyfle i wneud llawer o waith rheoli cynefinoedd ymarferol o ganlyniad.

“Roedd gennyf hefyd ffrindiau a oedd yn gwneud llawer o waith â’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid yn yr ardal hon, felly fe wnes i rywfaint o waith rheoli cynefinoedd iddynt yn Ynys Môn hefyd.   Treuliais amser gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hefyd, ac roeddwn yn ddiogn ffodus i gwblhau hyfforddiant arolygu llygoden bengron y dŵr gyda nhw.  Dechreuais ymgymryd â rhywfaint o waith gwirfoddol tuag at ddiwedd fy nghwrs meistr.” 

Cyn graddio gyda’i chwrs meistr, llwyddodd Evie i gael swydd gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio ar draws Cymru.

“Roedd yn seiliedig ar lefel strategol; roeddent yn ceisio dod â’u cynlluniau rheoli ar gyfer eu portffolios gwahanol at ei gilydd a dechrau gwireddu eu sgyrsiau ymarferol drwy baru prosiectau â chyllid.”

“Ymunais â’r tîm i helpu â chydlynu. Roedd yn swydd wych, yn enwedig i rywun a oedd newydd adael y Brifysgol - cefais brofiadau gwerthfawr iawn.”

Yn anffodus i Evie, fel miloedd o bobl eraill, daeth y swydd hon i ben yn sgil y pandemig Covid gan iddi dderbyn diswyddiad gwirfoddol o ganlyniad i’r effaith enfawr a gafodd y cyfnod hwn ar nifer o sefydliadau gwahanol yn y DU.

Fodd bynnag, llwyddodd Evie i ddod o hyd i swydd arall yn fuan iawn o fewn adran aelodaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Gaer, yn ogystal â gweithio fel ceidwad coedwig gyda chwmni arall.

Cymerodd Evie ei chamau cyntaf yn Sir Ddinbych yn fuan ar ôl iddi symud i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy fel ceidwad yn Nyffryn Dyfrdwy. 

Yn dilyn haf yn gweithio gyda thîm Dyffryn Dyfrdwy, treuliodd y naw mis nesaf yn Loggerheads, cyn symud ymlaen i weithio i Glandŵr Cymru.

Fe esboniodd: “Roeddwn wrth fy modd â’r swydd hon am sawl rheswm, ond yn teimlo nad oedd yn rhoi digon o amser i mi ymroi i ddatblygu rhai o’r sgiliau yr oeddwn yn teimlo oedd ar goll gennyf.  Fe wnaeth fy swydd newydd fel ymgynghorydd ecolegol ar gyfer Glandŵr Cymru fy ngalluogi i ennill rhywfaint o’r profiad hwn a helpu i adfer Camlas Trefaldwyn.”

Cyfaddefodd Evie, yn dilyn blwyddyn â Glandŵr Cymru, gwelodd hysbyseb am ei swydd ddelfrydol, sef ei swydd bresennol.

Dywedodd:  “Roedd gennyf brofiad ymarferol o reoli cynefinoedd a digon o brofiad ymgynghorol, ond un peth yr oeddwn yn awyddus iawn i’w ddatblygu oedd yr arolygon rhywogaethau a chynefinoedd, sy’n rhan wobrwyol iawn o’r sector.  

“Teimlaf fod fy mod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn fy arbenigedd arolygu drwy dreulio amser allan yn crwydro.  Mae’n gwneud i mi deimlo’n dda; rwy’n cyrraedd adref ar ddiwedd y dydd yn teimlo’n hapus.  Teimlaf fod ein prosiectau’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.  Mae hynny’n ffordd dda iawn o fesur bodlonrwydd rhywun mewn swydd yn fy marn i.”

Mae uchafbwyntiau Evie yn ei swydd fel Swyddog Bioamrywiaeth hyd yma’n cynnwys dod ar draws madfall ddŵr gribog am y tro cyntaf ar un o’i safleoedd gwaith, a dod ar draws pathew am y tro cyntaf hefyd.  

“Rwyf hefyd wrth fy modd yn cynnal arolygon madfall ddŵr gribog.  Rydym wedi bod yn gwirio blychau a sicrhau bod y safleoedd yn cyrraedd y safon ofynnol… rydym yn codi’r caead ac yn cael cipolwg i weld a oes unrhyw beth yno!  Mae’n hyfryd,  yn enwedig pan geir arwyddion o feddiannaeth drwy weld trwyn bach yn pipian allan”. 

Cyngor Evie i’r holl gefnogwyr natur o gwmpas sy’n awyddus i ddilyn ei olion traed yw: “ewch allan i wirfoddoli”. 

Fe esboniodd: “Mae cael eich troed yn y drws yn arwydd o angerdd.  Bydd datblygu’r cysylltiadau hynny gyda’r bobl gywir yn dysgu llawer i chi.”

A’i huchelgeisiau yn y swydd? 

“Rwy’n gweithio’n galed ar hyn o bryd i gael fy nhrwydded gyntaf, sef trwydded madfall ddŵr gribog.  Bydd ennill fy nhrwydded gyntaf yn garreg filltir enfawr i mi, a gobeithiaf y bydd mwy o’r rhain i ddod yn y dyfodol. 

“Rwyf hefyd yn awyddus i gwblhau prosiect pyllau; mae gennyf nifer o ddyheadau mewn perthynas â hyn.  Hoffwn greu pyllau newydd a rhwydwaith o bobl i rannu gwybodaeth â hwy ar draws Sir Ddinbych, a chreu adain ledaenu.

Ychwanegodd:  “Felly rwy’n cynnal llawer o arolygon ar hyn o bryd ac yn chwilio ar draws safleoedd am blanhigion ar gyfer y blanhigfa goed er mwyn eu lledaenu a sicrhau ffynhonnell hadau lleol ar ein cyfer.  Mae’n llawer o hwyl!”

 

 

Planhigfa yn creu dyfodol cadarn i fyd natur lleol

Mae coeden sy’n gysylltiedig â llymaid mewn hen dafarn a phlanhigyn hynod o brin yng Nghymru yn elfennau o fyd natur Sir Ddinbych sydd wedi cael bywyd newydd diolch i safle arbennig yn y sir.

Ers 2021, mae planhigfa goed y Cyngor ar fferm Green Gates, Llanelwy wedi mynd o nerth i nerth.

Mae gwirfoddolwyr ac aelodau ymroddedig o dîm Bioamrywiaeth y Cyngor wedi bod yn brysur iawn yn datblygu’r blanhigfa, sy’n tyfu miloedd o goed a blodau gwyllt o hadau er mwyn eu plannu ar hyd a lled y sir i ddiogelu a rhoi hwb i fyd natur.

Dyma flas i chi o rai o’r prosiectau llwyddiannus sydd wedi dwyn ffrwyth ar y safle.

Yn 2022, daethpwyd o hyd i blanhigyn tafod y ci – rhywogaeth sy’n prinhau, yn nôl arfordirol Prestatyn Beach Road West. Yn y 116 o flynyddoedd diwethaf, nid oes ond 18 cofnod o’r planhigyn hwn yn Sir Ddinbych.

Cymerwyd hadau o’r ddôl i’w plannu yn y blanhigfa, a diolch i ymdrechion y tîm eginodd blanhigion newydd i’w plannu mewn dolydd arfordirol eraill yn y sir.

Yn ystod 2023 gwnaethpwyd gwaith i ddiogelu a chefnogi dyfodol coeden hynafol yn Sir Ddinbych.

Casglodd y tîm a’r gwirfoddolwyr dros 15,000 o fes a’u plannu yn y blanhigfa.

Mae coed derw yn cael effaith bwysig ar fioamrywiaeth drwy gynnal mwy o ffurfiau ar fywyd nag unrhyw goeden gynhenid arall. Gall y goeden gynnal cannoedd o bryfed, ac mae hynny’n darparu ffynhonnell gyfoethog o fwyd i adar. Drwy gydol yr hydref bydd gwiwerod, moch daear a cheirw hefyd yn bwyta mes.

Yn 2024 rhoddodd y blanhigfa sylw i lwyn prin yn Sir Ddinbych.

Mae meryw’n brin yn Sir Ddinbych a dim ond mewn un man ar ael bryn ym Mhrestatyn y deuir o hyd iddynt. Mae’r llwyn yn rhywogaeth â blaenoriaeth i’w amddiffyn yn y Deyrnas Unedig, wedi dirywiad brawychus oherwydd pori gormodol a diflaniad porfeydd addas.

Gwnaed ymdrech i amddiffyn un llwyn meryw yn Sir Ddinbych yn 2008 pan fu’r Cyngor yn gweithio â Sw Caer wrth blannu llwyni ifanc ar ael y bryn ym Mhrestatyn er mwyn annog twf y meryw oedd yno eisoes.

Ymwelodd aelodau o’r tîm Bioamrywiaeth â’r safle i gasglu hadau i’w plannu yn ôl yn y blanhigfa goed gan fod meryw yn darparu cynefin gwerthfawr a bwyd i amrywiaeth o rywogaethau, yn cynnwys pryfed, adar a mamaliaid.

Eleni mae’r blanhigfa goed hefyd wedi cynnig llwncdestun i goeden hanesyddol a phrin yn y sir.

Mae tîm y blanhigfa wedi rhoi hwb i’r gerddinen. Mae dros 300 o’r 500 o hadau a gasglodd y tîm y llynedd wedi egino yn y blanhigfa.

Mae’r gerddinen yn goeden brin yn y sir ac yn hanesyddol fe'i gelwir hefyd yn goeden ‘chequers’ yn Saesneg oherwydd y ffrwythau y dywedir eu bod yn blasu'n debyg i ddatys ac a roddwyd i blant yn y gorffennol fel fferins.

Yn draddodiadol, roedd ffrwythau o’r goeden hefyd yn cael eu gwneud yn ddiod feddwol tebyg i gwrw wedi’i eplesu, a chredir bod y ddiod hon wedi dylanwadu ar enwi llawer o dafarndai yn ‘Chequers’ ledled y Deyrnas Unedig.

Mae’r prosiectau eleni wedi cynnwys tyfu dros 1,000 o goed ysgaw drwy gymryd toriadau o ysgaw a oedd eisoes yn tyfu ar y safle. Yn hanesyddol defnyddiwyd yr ysgawen, sy’n ffynhonnell llifynnau, i wneud y patrwm ar frethyn Harris.

Ac mae cenhedlaeth newydd o goed sydd dan fygythiad yn paratoi i helpu i gefnogi glöyn byw prin.

Mae’r blanhigfa wedi bod yn tyfu cnwd o lwyfenni llydanddail i helpu’r rhywogaeth sydd dan fygythiad oherwydd clefyd llwyfen yr Isalmaen. Mae llawer o goed aeddfed wedi’u torri oherwydd y clefyd hwn, gan leihau twf a lledaeniad coed ifanc.

Mae dros 1,800 o lwyfenni llydanddail wedi’u tyfu o hadau a gasglwyd o Barc Gwledig Loggerheads y llynedd i helpu’r goeden i atgyfodi yn Sir Ddinbych. Yn y pen draw, bydd y rhain yn cael eu plannu yn natblygiad Gwarchodfa Natur Green Gates ger y blanhigfa goed.

Mae’r llwyfenni llydanddail yn blanhigion bwyd larfaol pwysig i’r Brithribin Gwyn, a gofnodwyd yn Loggerheads ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond mae bellach yn brin iawn yn y sir.

Mae coeden a oedd yn bwysig i’r Celtiaid ac sydd i’w gweld yn enw Ynys Afallon yn chwedl y Brenin Arthur hefyd ar gynnydd yn Sir Ddinbych.

Mae dros 2,500 o goed afalau surion yn adrodd stori newydd yn 2025 diolch i gefnogaeth y blanhigfa goed.

Mae cysylltiad hanesyddol cryf wedi bod rhwng coed afalau surion a chariad a phriodi. Byddai pobl ers talwm yn taflu hadau’r afalau i’r tân wrth ddweud enw eu cariad, ac os oeddent yn ffrwydro, byddai’r cariad yn para hyd byth. Roedd y Celtiaid yn llosgi’r prennau yn ystod gwyliau a defodau ffrwythlondeb.

Fe soniodd William Shakespeare am y goeden afalau surion yng nghyd-destun cariad yn ‘A Midsummers Night’s Dream’ a ‘Love Labours Lost’ hefyd.

Gall coed afalau surion dyfu’n 10 metr o uchder a byw am gan mlynedd, ac mae’r dail yn ffynhonnell o fwyd i wyfynod, yn cynnwys y gwyfyn tuswog llwyd, y smwtyn gwyrdd a’r gwalchwyfyn llygadog.

Mae’n ffynhonnell fwyd wych i fyd natur; mae adar wrth eu boddau â’r ffrwythau a llygod y maes, llygod cwta a moch daear hefyd yn mwynhau porthi ar yr afalau.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn helpu trigolion i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn darparu cefnogaeth wedi'i theilwra i drigolion ledled y sir sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth, gan gynnwys hyder isel, pryder, a phrofiad gwaith cyfyngedig. Trwy fentora, cyfleoedd gwirfoddoli, a datblygu sgiliau, mae'r gwasanaeth yn helpu unigolion i feithrin hyder a symud yn agosach at eu nodau.

Un enghraifft o'r gefnogaeth hon yw Derek, a gafodd ei gyfeirio at Sir Ddinbych yn Gweithio drwy'r Ganolfan Waith ychydig flynyddoedd yn ôl. Ar y pryd, roedd Derek yn profi hyder isel, pryder, ac nid oedd ganddo'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i ymuno â'r gweithlu.

Gyda chanllawiau gan dîm Sir Ddinbych yn Gweithio a thrwy leoliad gwirfoddoli yn Warws Sant Cyndeyrn, mae Derek wedi gwneud cynnydd sylweddol. Mae bellach yn gweithio'n weithredol tuag at yrfa mewn cefnogaeth TG neu weinyddiaeth.

Dywedodd Derek, cyfranogwr Sir Ddinbych yn Gweithio:

“Ar un adeg roeddwn i’n hynod o swil, gyda phryder difrifol a dim hyder.

“Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n cyrraedd lle rydw i nawr, ond gyda chefnogaeth gan Sir Ddinbych yn Gweithio a thrwy wirfoddoli, rydw i wedi goresgyn cymaint o rwystrau.

“Rwy’n gwybod y byddai’r fi iau yn falch o ba mor bell rydw i wedi dod.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae taith Derek yn enghraifft wych o’r effaith gadarnhaol y gall Sir Ddinbych yn Gweithio ei chael ar fywydau pobl.

“Mae’n ymwneud â mwy na dim ond dod o hyd i swydd, mae’n ymwneud â helpu pobl i ddatgloi eu potensial, goresgyn rhwystrau personol, a theimlo’n hyderus yn eu dyfodol.

“Rydym yn falch o gefnogi trigolion fel Derek ar eu taith tuag at gyflogaeth.”

Mae Derek yn parhau i feithrin ei sgiliau a’i brofiad trwy wirfoddoli ac mae’n benderfynol o sicrhau rôl amser llawn yn y dyfodol agos.

Mae ei daith yn rhan o ymgyrch ehangach “Mae Gwaith yn Gweithio” Tîm Anableddau Cymhleth ac Iechyd Meddwl Sir Ddinbych yn Gweithio, sy’n tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y gall gweithio, neu gymryd camau tuag at waith, ei chael ar fywydau pobl. Boed yn gwella lles, ennill hyder, cwrdd â phobl newydd, neu ddysgu sgiliau newydd, mae’r ymgyrch yn rhannu straeon go iawn o bob cwr o Sir Ddinbych i ysbrydoli eraill.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn wasanaeth am ddim sy’n helpu trigolion i gael mynediad at hyfforddiant, dod o hyd i waith, ac adeiladu hyder yn eu chwiliad am swydd. Gall unrhyw un sy’n chwilio am gymorth gysylltu drwy ymweld â’n gwefan.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

Arbed amser, arbed arian a phweru Cymru i Rif 1 yn y byd am ailgylchu yr hydref hwn!

Mae'r hydref yma, mae'r gwyliau wedi bod, ac mae bywyd yn ôl i’w drefn arferol unwaith eto. P'un a wyt ti’n cydbwyso gwaith, astudiaethau, neu fywyd teuluol, mae’r hydref yn gyfnod delfrydol i ailgydio mewn arferion – yn enwedig yn y gegin. Dyna pam mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio mewn partneriaeth â Cymru yn Ailgylchu i ddangos sut gall coginio'n ddoeth dy helpu i arbed amser ac arian, lleihau gwastraff, a'i gwneud hi'n haws nag erioed i fwynhau dy 5 y dydd … a hynny oll wrth helpu Cymru ar ei siwrne i fod yn genedl ailgylchu orau’r byd.

 Rydym eisoes yn falch o fod yn ail yn y gynghrair ailgylchu fyd-eang – dim ond ychydig y tu ôl i Awstria – ond, gyda gwastraff bwyd y gallwn ni gael yr effaith fwyaf. Bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog yng Nghymru o hyd, a gellid bod wedi bwyta mwy nag 80% ohono. Mae’r gwastraff bwyd hwnnw’n costio tuag £84 y mis i’r cartref 4 person cyfartalog. Dyna arian (a phrydau bwyd) yn mynd yn syth i’r bin!

Drwy fod yn ddoethach gyda dy brydau bwyd ac ailgylchu'r hyn na alli ei fwyta, byddi’n lleihau gwastraff, yn arbed arian, ac yn bwyta mwy o dy 5 y dydd yn hawdd – a hynny i gyd wrth helpu Cymru gyrraedd y brig. Ac rydyn ni am ddangos iti pa mor syml y gall hyn fod.

Coginio unwaith, gweini sawl gwaith: Paratoi. Addasu. Ailgylchu!

Gyda'r nosweithiau'n tywyllu ac amser yn aml yn brin, yr hydref yw'r tymor ar gyfer bwyd cysur hawdd a diffwdan. Mae'r syniad yn syml: Paratoi. Addasu. Ailgylchu.

Coginia bryd sylfaenol syml gyda chynhwysion bob dydd, yna ychwanegu ychydig o bethau ychwanegol i gadw’r dewisiadau’n ffres ac yn flasus. Gellir ei weini mewn gwahanol ffyrdd drwy gydol yr wythnos fel na fyddi’n treulio gymaint o amser yn y gegin, sy’n rhoi mwy o amser iti fwynhau dy brydau bwyd.

Cofia – dylai'r darnau na ellir eu bwyta, fel croen, coesynnau, esgyrn neu blisg wyau, fynd yn syth i'r cadi bwyd. Mae gwastraff bwyd yng Nghymru yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy. Gall dim ond un llond cadi bweru cartref cyffredin am awr! Dyma 3 rysáit hawdd a syml iti gael dechrau arni.

Stiw swynol – swmpus, syml a hyblyg

Mae'r stiw ‘chydig o bob dim’ hwn yn ddelfrydol ar gyfer nosweithiau'r hydref pan fyddi di eisiau rhywbeth cynnes heb ormod o ymdrech. Dechreua gyda sylfaen syml o winwnsyn, garlleg, tomatos tun, stoc a dy ddewis o brotein – cig dros ben, ffa neu gorbys. Yna ychwanega unrhyw lysiau sydd wrth law a gadael iddo ffrwtian nes bydd yn troi’n bryd cyfoethog a swmpus.

Y peth gwych am y pryd hwn yw sut y gall newid wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen: ei fwynhau’n gyntaf gyda bara crensiog, yna ei lwyo dros datws stwnsh y noson ganlynol, ac yn ddiweddarach yn yr wythnos, rhoi crwst neu datws stwnsh ar ei ben i wneud pastai. A chofia, rho unrhyw groen winwns, topiau moron, coesynnau pupurau neu esgyrn yn y cadi bwyd iddo gael ei droi'n ynni gwyrdd.

Cyri Cymysg – blas mawr, ymdrech fach

Dechreua trwy ffrio winwnsyn, garlleg a sinsir, yna ychwanegu sbeisys neu bast cyri drwyddynt. Ychwanega dy ddewis o brotein, boed hynny'n gyw iâr, corbys neu tofu, cyn arllwys tomatos tun neu laeth cnau coco i mewn. Ychwanega beth bynnag sydd yn ei dymor – mae pwmpen, pupurau, madarch, sbigoglys neu ffa i gyd yn gweithio'n wych.

Ar ôl ei goginio, galli ei fwynhau gyda reis, dyna glasur o swper; ei lapio mewn bara fflat i wneud cinio cyflym, neu ei lwyo dros daten bob pan fydd angen rhywbeth cyflym. Ailgylcha’r hyn na ellir ei fwyta i greu pŵer a rhoi hwb i Gymru i Rif 1.

Crymbl Ffrwythau Iach – syml, cynnes ac amlbwrpas

O ran cysur yr hydref, does dim curo ar grymbl ffrwythau. Mae'n syml i'w wneud ac yn anhygoel o amlbwrpas hefyd. Cymysga geirch, blawd ac ychydig o fêl neu surop gyda menyn i greu topin briwsion euraidd, yna ei bobi ar ben ffrwythau tymhorol meddal fel afalau, gellyg, eirin neu fwyar duon, gydag ysgeintiad o sinamon neu nytmeg am gynhesrwydd ychwanegol.

Ar ôl ei bobi, galli ei fwynhau'n boeth o'r popty gyda chwstard neu hufen iâ, ei weini'n oer gydag iogwrt am frecwast iachus, neu hyd yn oed ei ddefnyddio fel topin crensiog ar dost wedi'i daenu gyda menyn cnau. O ran y creiddiau afalau, coesynnau'r gellyg a cherrig yr eirin – i’r cadi bwyd â nhw bob un, yn barod i gael eu hailgylchu'n ynni glân, gwyrdd.

Rho gynnig ar yr Her Bwyd Doeth ac ennill gwobr Gymreig flasus

Dos draw i Cymru yn Ailgylchu i gymryd rhan yn yr Her Bwyd Doeth, darganfod mwy o ryseitiau clyfar a fydd yn arbed amser ac arian iti, a chael cyfle i ennill gwobr Gymreig flasus.

Cynllun gwerth £66m yn amddiffyn cannoedd o eiddo yn y Rhyl rhag llifogydd

Dydd Iau 9 Hydref, agorwyd y prosiect mwyaf o fewn Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol Llywodraeth Cymru yn swyddogol.

Arfordir y Rhyl o\'r awyr

Bydd Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Canol y Rhyl, sydd werth £66m, yn amddiffyn bron i 600 o eiddo yn y Rhyl rhag llifogydd ac erydiad arfordirol am ddegawdau i ddod.

Arianwyd 85% o'r costau adeiladu gan Lywodraeth Cymru, gyda'r Dirprwy Brif Weinidog yn cyfeirio at y prosiect fel 'carreg filltir arwyddocaol' mewn ymdrechion i amddiffyn cymunedau Cymru rhag bygythiadau cynyddol newid hinsawdd. Cyfrannodd Cyngor Sir Ddinbych y 15% sy'n weddill.

Mae'r prosiect hefyd wedi cefnogi'r economi leol trwy gyflogi 34 o bobl leol, creu chwe swydd newydd a chefnogi 132 wythnos o brentisiaethau, yn ogystal â meithrin sgiliau a gyrfaoedd mewn diwydiannau hanfodol. Bu cannoedd o fyfyrwyr hefyd yn cymryd rhan drwy gydol y prosiect diolch i weithgareddau cwricwlaidd a phrofiad gwaith.

Bydd y cynllun yn amddiffyn 548 o eiddo preswyl a 44 o eiddo dibreswyl yn y Rhyl, gan ddiogelu cartrefi, busnesau a'r economi dwristiaeth hanfodol sy'n cefnogi'r gymuned leol.

Cadeirydd y Cyngor, Dirprwy Brif Weinidog, Arweinydd y Cyngor

Y Cynghorydd Arwel Roberts, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog a'r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych

Wrth agor y prosiect yn swyddogol, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies:

“Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaol i gadw teuluoedd a busnesau’n ddiogel rhag llifogydd arfordirol drwy gefnogi’r economi leol y mae cymaint yn dibynnu arni.

“Mae cwblhau’r prosiect hwn yn tanlinellu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod buddsoddi mewn amddiffyn arfordirol yn ymwneud â seilwaith yn ogystal ag amddiffyn bywoliaeth, cadw cymunedau, a sicrhau bod Cymru’n wydn yn wyneb ein hinsawdd sy’n newid.

“Gall pobl y Rhyl nawr wynebu’r dyfodol gyda mwy o hyder, gan wybod bod eu cymuned wedi’i hamddiffyn yn well rhag grymoedd natur.”

Mae Cynllun Amddiffynfeydd Arfordirol Canol y Rhyl yn rhan o Raglen Rheoli Risg Arfordirol £291m Llywodraeth Cymru, sy’n ymateb yn uniongyrchol i’r heriau newid hinsawdd.

Dros bum mlynedd, bydd y rhaglen yn ariannu 15 o gynlluniau ledled Cymru, gyda bron i 14,000 o eiddo yn elwa, a darparu amddiffyniad gwell rhag llifogydd arfordirol i filoedd o deuluoedd a busnesau.

Bydd Rhaglen Rheoli Risg Llifogydd ac Erydiad Arfordirol flynyddol Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £300m dros gyfnod y tymor llywodraethol hwn, gan gynnwys cynlluniau ychwanegol a fydd o fudd i gymunedau arfordirol ledled Cymru.

Agoriad swyddogol - grwpDywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth yng Nghyngor Sir Dinbych: “Ar ôl gweld effeithiau dinistriol y llifogydd arfordirol a darodd y Rhyl ar Ragfyr 5, 2013, mae'r gwaith hwn yn arbennig o agos at fy nghalon.

“Agorodd y Cyngor Ganolfan Hamdden y Rhyl ar y pryd i’r gymuned oherwydd y llifogydd difrifol, ac mae’r atgof o weld fy mhreswylwyr yn dod i mewn yn wlyb at eu crwyn ac yn glynu wrth eu hanifeiliaid anwes yn aros gyda mi hyd heddiw.

“Mae trigolion yn dal i ddweud hyd heddiw pa mor ddiolchgar ydyn nhw gan y gallant bellach gysgu’r y nos heb boeni am lifogydd yn eu cartrefi, felly rwyf mor falch o weld y cwblhad y prosiect a fydd nawr yn rhoi tawelwch meddwl i drigolion a pherchnogion busnesau yn y Rhyl.

“Mae cwblhau'r cynlluniau amddiffyn arfordirol ym Mhrestatyn, Dwyrain y Rhyl a nawr Canol y Rhyl yn dyst i'r bartneriaeth gwaith rhagorol a ddatblygwyd yn ystod y tri phrosiect ac ar ran y Cyngor rhaid i mi estyn fy niolch i Balfour Beatty sydd wedi gwneud gwaith gwych o gyflawni'r tri chynllun hyn o flaen yr amserlen ac o dan y gyllideb.”

Dywedodd Kay Slade, Cyfarwyddwr Ardal yn Balfour Beatty: "Rydym yn falch o fod wedi cyflawni'r cynllun hanfodol hwn a fydd yn amddiffyn cannoedd o gartrefi a busnesau yn y Rhyl ac yn sefyll fel atgof o'r effaith gadarnhaol y gall seilwaith cynaliadwy, wedi'i gynllunio'n dda ei chael ar gymunedau lleol.

“Y tu hwnt i wella gwydnwch arfordirol, mae'r prosiect hwn wedi cefnogi swyddi lleol, wedi creu cyfleoedd newydd, ac wedi helpu i feithrin sgiliau hanfodol a fydd yn gwasanaethu'r rhanbarth ymhell i'r dyfodol."

Daw agoriad y cynllun wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru gynnal ei wythnos flynyddol ‘Byddwch yn Barod am Lifogydd’, gan annog pobl i wirio eu risg llifogydd ar-lein, cofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd am ddim a gwybod beth i’w wneud os rhagwelir llifogydd yn eu hardal y gaeaf hwn. Dysgwch fwy yma.

Plaque - agoriad swyddogol

Ydych chi erioed wedi ystyried ble mae eich treth cyngor yn mynd?

Mae llawer yn meddwl bod treth cyngor yn talu am bopeth y mae awdurdod lleol yn ei gynnig, fodd bynnag, dim ond 26% o gyfanswm gwariant y Cyngor yw'r arian a gesglir gan drigolion yn flynyddol.

Ariannu\'r cyngorMae mwyafrif y cyllid (62%) yn dod ar ffurf 'Grant Cymorth Refeniw' gan Lywodraeth Cymru, tra bod y 12% sy'n weddill yn dod o drethi busnes, sef treth eiddo y mae busnesau'n ei dalu i helpu tuag at ariannu gwasanaethau lleol. Gallwch ddysgu mwy am sut mae'r Cyngor yn cael ei ariannu ar ein gwefan.

Felly ble mae’r treth cyngor yn mynd? Rydym wedi cynhyrchu infograffig yn seiliedig ar dreth cyngor eiddo Band D i geisio rhoi esboniad clir o sut mae taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i ariannu ystod o wasanaethau i drigolion yn y sir. Er bod yr infograffig hwn yn rhoi darlun o sut mae'r arian yn cael ei rannu rhwng gwahanol wasanaethau, mae deall beth mae trigolion yn ei gael am yr arian hwnnw’n bwysig. (Gellir gweld yr infograffig ar ddiwedd yr erthygl.)

Fel y gwelwch, mae mwyafrif gwariant treth cyngor yn mynd tuag at amddiffyn y rhai mwyaf bregus ac agored i niwed yn ein cymdeithas, gyda 66% yn cael ei wario ar ysgolion ac addysg a gofal cymdeithasol i oedolion a phlant.

Ysgolion ac addysgGydag Addysg yn cyfrif am 36.7% o’r gwariant, golyga hyn y gall Sir Ddinbych addysgu tua 16,500 o ddisgyblion mewn 44 ysgol gynradd, 2 ysgol pob oed, 2 ysgol arbennig, 6 ysgol uwchradd ac 1 uned cyfeirio disgyblion ar draws y sir, gyda thua 780 o athrawon yn darparu'r addysg.

Yn y maes addysg o hyd, mae cludiant ysgol yn cyfrif am 2.9% ac mae'r Cyngor yn cludo tua 2,871 o ddysgwyr yn ddiogel i ysgolion ledled y sir. Caiff 650 o deithiau bws ysgol a thacsi eu gwneud bob diwrnod ysgol.

Gofal cymdeithasol i oedolion a phlant infographicYn y cyfamser, mae gofal cymdeithasol oedolion a phlant yn cyfrif am 29.8% o wariant treth y Cyngor. Yn 2024-2025 cafodd oddeutu 668 aelod o staff dros 25,000 o gysylltiadau gyda'r plant a'r oedolion mwyaf agored i niwed gan ddarparu pecyn o ofal a chymorth lle bo’n briodol sy’n rhoi cyfle i'r trigolion hyn gael dewis, mynegi barn, a chael rheolaeth dros eu bywydau.

Mewn meysydd gwasanaeth eraill, mae 1.9% yn mynd tuag at ddiogelu'r cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd ac mae timau'r Cyngor yn archwilio tua 720 o fwytai, caffis a lleoedd tecawê bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn ddiogel ar gyfer trigolion Sir Ddinbych.

Mae gwagio biniau ac ailgylchu yn cyfrif am 1.8% o'ch bil treth cyngor, sy'n cyfateb i £32.89 y flwyddyn (yn seiliedig ar eiddo Band D). Mae hynny'n cynnwys casglu tua 73,000 o gynwysyddion o dros 47,000 o gartrefi bob wythnos ledled y sir.

Am 1.8% o'r dreth cyngor rydym yn cynnal 1,419km o ffyrdd (ac eithrio cefnffyrdd), 601 o bontydd priffyrdd a chelfertau, 302 o waliau a 26,000 o gwlïau. Ac am 0.8%, rydym yn cynnal 11,763 o oleuadau stryd a 1,547 o arwyddion a bolardiau wedi'u goleuo ledled y sir.

Cefn gwlad a mannau agoredHwyrach bod rhai gwasanaethau nad yw trigolion yn ymwybodol eu bod dan reolaeth cyngor, er enghraifft Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth. Gydag 1.1% o dreth cyngor yn mynd i'r gwasanaeth cefn gwlad, mae'r timau'n rheoli dros 80 o safleoedd a mwy na 1,200 hectar o ardaloedd gwyrdd cyhoeddus ar gyfer hamdden a chadwraeth. Mae'r rhain yn amrywio o Barciau Gwledig Loggerheads a Moel Famau, meithrinfa goed y sir yn Llanelwy, Pwll Brickfield yn y Rhyl, Ffordd Dyserth Prestatyn, Llain Llantysilio yn Nyffryn Dyfrdwy a nifer o fannau cymunedol a mwynder llai ar draws y sir.

Mae’r gwasanaeth treftadaeth yn cyfrif am 0.9% o wariant treth y cyngor, ac am hyn, mae'r gwasanaeth yn cynnal a hyrwyddo hanes unigryw'r sir, gan ofalu am safleoedd hanesyddol pwysig gan gynnwys Carchar Rhuthun, Plas Newydd, Nantclwyd Y Dre, Amgueddfa'r Rhyl (sydd yn y llyfrgell) a storfa gasgliadau fawr. Mae'r gwaith hwn yn sicrhau bod hanes cyfoethog Sir Ddinbych yn parhau i fod yn hygyrch ar gyfer addysg, lles a mwynhad.

Cynllunio a datblygu economaiddMae cynllunio a datblygu economaidd yn cyfrif am 0.7% o wariant y treth cyngor ac am hynny mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn prosesu tua 1,000 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn ochr yn ochr â 10-20 o apeliadau a 50-100 o ymholiadau cyn-ymgeisio. Rydym hefyd yn ymateb i dros 500 o achosion cydymffurfio cynllunio.

Llyfrgelloedd infographicMae’r llyfrgelloedd yn cyfrif am 0.5% o’r gwariant ac yn 24-25, cynhaliodd  y llyfrgelloedd 514 o sesiynau Dechrau Da i bron i 6,500 o blant. Hefyd cafodd 2,869 o lyfrau sain eu benthyg i 1,028 o aelodau drwy Borrowbox (rhan o'r Cynnig Digidol) ac argraffwyd dros 56,000 o dudalennau ar argraffyddion mynediad cyhoeddus.

Nid yw'r holl dreth cyngor a gesglir yn talu am wasanaethau'r cyngor yn unig, mae 2.5% yn mynd tuag at y Gwasanaeth Tân i gyfrannu at ariannu amddiffyniad ac atal tân ledled y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Delyth Jones, Aelod Arweiniol dros Gyllid yng Nghyngor Sir Dinbych, “Rwy’n falch o weld yr infograffig yma’n cael ei chynhyrchu a’i rhyddhau. Gobeithio y bydd yn rhoi’r cyd-destun sydd ei angen ar drigolion i ddeall sut mae eu taliadau treth cyngor yn cael eu defnyddio i gefnogi’r amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

 “Mewn hinsawdd ariannol sy’n parhau i fod yn heriol barhaus, mae’n bwysig bod yn agored a thryloyw ynglŷn â’r costau a’r pwysau. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod llawer o agweddau’r gwariant, yn hollol briodol, wedi’u hanelu at y gofyniad cyfreithiol i ddarparu Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau Plant, ac Addysg ac ati. Dyma’r meysydd sy’n cefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.”

Gwario\'r treth cyngor

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw