Annog rhieni i gofrestru ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd
Ar draws Sir Ddinbych, mae 54 cegin y Gwasanaeth Arlwyo yn gweithio’n galed bob dydd i greu 13,500 o brydau ffres i ddisgyblion

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog rhieni i sicrhau nad ydi eu plant yn methu allan ar brydau iach a maethlon drwy gofrestru ar gyfer Cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.
Ar draws Sir Ddinbych, mae 54 cegin y Gwasanaeth Arlwyo yn gweithio’n galed bob dydd i greu 13,500 o brydau ffres i ddisgyblion - mae hynny’n 67,500 pryd sy’n cael ei weini yn ystod yr wythnos i helpu plant i ddysgu, tyfu a ffynnu.
Nid yn unig y mae Prydau Ysgol am Ddim yn sicrhau bod gan ddisgyblion egni i ffynnu yn y dosbarth, ond gallant hefyd helpu teuluoedd i ymdopi â’r costau byw ar hyn o bryd. Mae nifer o deuluoedd yn gymwys ac efallai nad ydynt yn sylweddoli hynny, felly mae’r Cyngor yn annog rhieni a gwarcheidwaid i sicrhau bod eu plant yn derbyn prydau ysgol am ddim.
Gofynnir i blant yn ddyddiol gan eu hysgol a hoffent gael prydau ysgol am ddim. Nid oes proses ymgeisio i wirio os yw disgybl yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd.
Gallwch gysylltu ag ysgol eich plentyn i gael gwybod mwy am sut i gael Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein timau arlwyo ar draws Sir Ddinbych yn angerddol am ddarparu prydau iach, cytbwys sydd yn rhoi’r cychwyn gorau i blant yn yr ysgol. Nid ydym eisiau i unrhyw blentyn fethu allan ar hynny. Fe allai cael prydau ysgol am ddim wneud gwahaniaeth mawr i deuluoedd a disgyblion cynradd.”
“Mae ceginau ysgolion Sir Ddinbych yn falch o fod yn rhan o wasanaeth sydd yn darparu miloedd o brydau gyda chynnyrch lleol, cytbwys o ran maeth, sydd wedi’u paratoi â gofal bob diwrnod.”
I gael mwy o wybodaeth am Brydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd, ewch i: https://www.sirddinbych.gov.uk/cy/addysg-ac-ysgolion/grantiau-ac-ariannu/cinio-ysgol-am-ddim.aspx
Mae rhagor o wybodaeth am fwydlenni prydau ysgolion cynradd ar gael yn: https://www.denbighshireschoolmeals.co.uk/bwydlenni-cynradd/