Cofiwch ailgylchu eleni ar 5 Tachwedd- Noson Guto Ffowc

Anogir preswylwyr i danio ymdrechion ailgylchu wrth ymgynnull i ddathlu Noson Tân Gwyllt eleni

Anogir preswylwyr i danio ymdrechion ailgylchu wrth ymgynnull i ddathlu Noson Tân Gwyllt eleni. 

Wrth i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau ddathlu ar 5 Tachwedd, mae Cyngor Sir Dinbych yn galw arnynt i wneud pob ymdrech i ailgylchu ar ôl y dathliadau. 

Os oes unrhyw un wedi penderfynu cynnal Parti Noson Tân Gwyllt preifat neu gymunedol, gellir lleihau gwastraff trwy ddefnyddio platiau, cwpanau a chyllyll a ffyrc go iawn neu rai y gellir eu hailddefnyddio, yn hytrach na rhai tafladwy. 

Gwnewch yn siŵr bod caniau diod, poteli cwrw, poteli gwin a photeli diod plastig yn cael eu casglu ar ddiwedd y parti a'u rhoi yn y cynwysyddion ailgylchu priodol neu eich bod yn mynd â nhw i’r ganolfan ailgylchu agosaf. 

Un syniad arall i leihau gwastraff yw cyfnewid gwellt yfed plastig ar gyfer diodydd plant i rai papur ar gyfer y digwyddiad. 

Yn bwysicaf oll, gellir ailgylchu gwastraff bwyd trwy ei roi yn y cadis ailgylchu bwyd, neu gellir defnyddio eitemau perthnasol ar gyfer compostio mewn gerddi. 

Gellir hefyd rhannu bwyd dros ben gyda gwesteion cyn iddynt adael, fel nad yw’n cael ei wastraffu neu eu pecynnu, er mwyn eu hailddefnyddio’r diwrnod canlynol, yn hytrach na’u bod yn cael eu taflu i’r bin. 

Cofiwch, er mwyn gwaredu tân gwyllt yn ddiogel, dylech socian unrhyw dân gwyllt a ffyn gwreichion sydd wedi’u defnyddio mewn dŵr am 48 awr, er mwyn sicrhau nad ydynt yn fflamadwy cyn eu gwaredu. 

Er eu bod yn aml wedi’u gwneud o gardbord a phlastig, nid oes modd ailgylchu’r rhain oherwydd y cemegau gweddilliol a all halogi gweddill yr eitemau i’w hailgylchu. Yn hytrach, dylid eu rhoi’n ofalus yn y bin ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni’n gwybod bod llawer o ddathliadau traddodiadol yn digwydd bob blwyddyn mewn cysylltiad â Noson Tân Gwyllt.  Cofiwch geisio ailgylchu’n gywir a lleihau gwastraff yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn helpu eich amgylchedd lleol. Rydym yn cynnig sawl math gwahanol o gefnogaeth gydag ailgylchu, er mwyn tanio ymdrechion pawb i ailgylchu yn ystod y dathliadau.”

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw