Cyfleuster gofal plant newydd yn agor yn Ysgol Twm o’r Nant

Cafodd adeilad cyfleuster gofal plant newydd Ysgol Twm o’r Nant ei agor yn swyddogol gan Gadeirydd y Cyngor, y Cynghorydd Arwel Roberts ddydd Iau, 13 Tachwedd. 

Y Cynghorydd Arwel Roberts (Cadeirydd y Cyngor) gyda Y Cynghorydd Diane King (Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd), Dafydd Davies (Pennaeth Ysgol Twm o’r Nant) a Nicola Stubbins (Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg)

Torri'r rhuban

Cafodd y prosiect, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2024 a’i gwblhau yn ystod haf 2025, ei ariannu gan ymrwymiad Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru i gyflwyno Canolfannau Dysgu Cymunedol sy’n cynnig gwasanaethau estynedig gyda gofal plant, cymorth magu plant, dysgu fel teulu a mynediad cymunedol i gyfleusterau a ffurfiwyd o amgylch y diwrnod ysgol.

Mae'r cyfleuster newydd, sydd drws nesaf i adeilad yr ysgol, yn darparu cyfleusterau gwell ar gyfer darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg i deuluoedd lleol yn ardal Dinbych, gan ychwanegu at gynnig cyffredinol y Cyngor yn Sir Ddinbych.

Prif fynedfa yr adeilad newydd

Mae’r adeilad newydd wedi cael ei ddylunio i gyd-fynd â lliwiau a phensaernïaeth adeilad y brif ysgol, mae tua 230 metr sgwâr mewn maint ac mae’n cynnwys dwy ystafell ddosbarth ac ardal dysgu yn yr awyr agored. Mae’r prosiect hwn wedi cael ei ddylunio gan dîm pensaernïaeth mewnol y Cyngor.

Yr adeilad newydd gyda'r ysgol i'r dde

Meddai Pennaeth Ysgol Twm o’r Nant, Dafydd Davies:

“Mae adeilad y feithrinfa newydd yn fwy na gofod - dyma ble fydd dysgwyr ifanc yn tyfu, yn chwarae ac yn ffynnu drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae’r datblygiad yn adlewyrchu’r galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg a’r angen am ddarpariaethau Cymraeg o safon yn ein hardal, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i ddysgu a ffynnu yn y Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd:

“Mae’r cyfleuster newydd yma’n golygu bod gan deuluoedd yn ardal Dinbych fynediad at ddarpariaeth gofal plant gwych o safon uchel.

Mae’r cyfleuster yn cadarnhau ein hymrwymiad fel Cyngor i ymestyn ein darpariaeth gofal plant o safon uchel yn ein Sir, ac mae’r cyfleuster yma’n ychwanegiad gwych yn ardal Dinbych. 

Mae’n wych gweld bod yr adeilad yma bellach wedi cael ei agor yn swyddogol, ac fe fydd o fudd i’r gymuned am genedlaethau i ddod.”

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw