Cysylltiadau cryfach i fynd i’r afael â newid hinsawdd

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gefnogi cymunedau i weithredu ar leihau carbon a gwaith adfer natur.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gefnogi cymunedau i weithredu ar leihau carbon a gwaith adfer natur.

Yn ystod Wythnos Newid Hinsawdd 2025 mae Cyngor Sir Ddinbych yn meithrin cysylltiadau cryfach gyda chymunedau ar draws y sir er mwyn cefnogi gwaith i weithredu ar hinsawdd ar lefel leol.

Mae Tîm Newid Hinsawdd y Cyngor mewn cydweithrediad â’r Gwasanaeth Addysg wedi lansio pecyn adnoddau newydd i ysgolion er mwyn helpu ysgolion ar draws y sir i gynllunio a chyflawni eu gwaith wythnos newid hinsawdd eu hunain.

Mae’r pecyn gwybodaeth yn dod ag adnoddau sydd ar gael ar-lein ynghyd mewn un lle, fel y gall ysgolion ddewis y cynlluniau gwersi perthnasol, gwasanaethau, trafodaethau cyngor ysgol a syniadau am weithgareddau eraill. Mae hyn yn galluogi ysgolion i ddangos sut all newid hinsawdd a/neu adferiad natur gysylltu â thestunau eraill maent yn eu dysgu. Gobaith y gwaith hwn yw helpu plant i ddeall newid hinsawdd a cholled natur yn well, a sut all effeithio ar sawl agwedd o’u bywydau, a sut allent gyfrannu tuag at fentrau i fynd i’r afael ac addasu iddo.

Dywedodd y Cynghorydd Diane King, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd: “Bydd plant yn wynebu effeithiau gwaethaf newid hinsawdd yn ystod eu hoes ac felly maent angen y gofod i drafod y materion a sut ellir delio â’r rhain er mwyn eu helpu i ddeall. Bydd cael y gefnogaeth yn helpu i ysgogi trafodaethau gonest ar y testun, gan alluogi plant i leisio eu pryderon eu hunain a chael eu haddysgu’n well ar sut allent chwarae rhan i leihau effeithiau newid hinsawdd mewn amgylchedd diogel a chefnogol yr ysgol.

Mae’r tîm Newid Hinsawdd hefyd yn gweithio’n fwy eang ac yn “defnyddio dylanwad” ar draws y sir i fynd i’r afael ag allyriadau ar draws yr ardal. Mae cymorth ar gael i helpu cynghorau cymuned, tref a dinas i ddeall sut i leihau carbon a gwneud gwaith addasu ar draws eu hardaloedd lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chefnogwr Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych:  “Gwyddwn fod newid hinsawdd yn achos effeithiau ar ein bywydau drwy’r amser, dim ond i chi edrych ar y cynnydd mewn digwyddiadau tywydd eithafol a cholled cynefinoedd natur. Yn Sir Ddinbych rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i reoli’r effeithiau hyn yn lleol, trwy waith yn cynnwys lleihau ein hôl-troed carbon, adfer cynefinoedd sydd wedi’u colli er mwyn cefnog natur, newid ein fflyd i gerbydau heb danwydd ffosil lle bo’n bosibl, a chynyddu ein gorchudd coed unwaith eto.

“Fodd bynnag, gwyddwn fod angen i ni fynd ymhellach trwy rannu ein gwybodaeth a phrofiad. Gall gymunedau sy’n gweithredu ar leihau carbon ac adfer natur ar lefel leol, olygu buddion ariannol, iechyd a chymdeithasol cadarnhaol. Gobeithiwn bydd y gwaith hwn yn ysbrydoli a chefnogi ein cymunedau i wneud newidiadau cadarnhaol sy’n gwella eu cymunedau wrth fynd i’r afael ag effeithiau hinsawdd, gan greu gwell dyfodol i’r cenedlaethau i ddod.”

 

Taylorfitch. Dod â chylchlythyrau’n fyw