Gwasanaethau Arlwyo’n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol
Mae Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ddarparu gwasanaethau rheng flaen

Mae Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am ddarparu gwasanaethau rheng flaen.
Mae tîm y Gwasanaethau Arlwyo wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Rhwydweithiau Perfformiad Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) 2025.
Mae’r Gwasanaeth Arlwyo’n cynnal 54 o geginau ysgol ar draws Sir Ddinbych yn ddyddiol i gynhyrchu 13,500 o brydau ffres i ddisgyblion. Mae hynny’n 67,500 pryd sy’n cael ei weini yn ystod yr wythnos i helpu plant i ddysgu, tyfu a ffynnu.
Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus (APSE) yw un o asiantaethau meincnodi mwyaf blaenllaw’r DU ac maen nhw’n gweithio gyda mwy na 200 o Gynghorau ar draws y DU. Mae gwasanaeth arlwyo Sir Ddinbych yn cyflwyno data meincnodi bob blwyddyn i APSE, a gaiff ei fesur yn erbyn data arall o bob cwr o’r DU, sy’n cynnwys nifer y plant sy’n talu am brydau ysgol a’r nifer sy’n eu cael am ddim, hyfforddiant staff, perfformiad gwasanaeth, sefyllfa ariannol, gwerth am arian a darpariaeth a rheolaeth gyffredinol y gwasanaeth.
Maent yn ymrwymo i hyrwyddo rhagoriaeth yn darparu gwasanaethau rheng flaen i gymunedau lleol ar draws y DU. Mae Gwasanaethau Arlwyo’r Cyngor wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Gwasanaeth Arlwyo Addysg sydd wedi Perfformio Orau ac sydd wedi Gwella Fwyaf yng Ngwobrau Rhwydweithiau Perfformiad yr ASPE.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n bleser gweld bod ein Gwasanaeth Arlwyo gwych wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith i ddarparu prydau iach a chytbwys sy’n rhoi’r dechrau gorau i ddiwrnod ysgol ein plant.
“Mae staff arlwyo’n parhau i wneud ymdrech arbennig bob dydd i ddarparu miloedd o brydau bwyd cytbwys eu maeth, a hynny gan ddefnyddio gofal a chynnyrch lleol, a dylent fod yn falch o’r hyn y maent wedi’i gyflawni.”